Beth ydych chi’n ei wneud â’m gwybodaeth?

Diweddarwyd y dudalen: 31 Mai 2019

Rydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol i wneud y BBC yn well i chi ac i bawb. Mae hynny’n cynnwys pethau fel:

  • Argymell pethau y byddwch chi, yn ein tyb ni, yn eu mwynhau, fel rhaglenni teledu a radio
  • Rhoi gwybod i chi am bethau rydych chi wedi dweud wrthym eich bod chi'n eu hoffi, fel cyfres newydd o’ch hoff sioe deledu
  • Personoli rhannau o'r BBC at eich chwaeth, gan gynnwys negeseuon e-bost, radio, newyddion, iPlayer a cherddoriaeth

Rydyn ni hefyd yn ei defnyddio at ddibenion busnes, rheoleiddio a chyfreithiol, fel:

  • Delio ag unrhyw gais a wnewch neu gynnwys y byddwch yn ei gyflwyno
  • Cysylltu os bydd angen dweud wrthych am rywbeth, fel newid yn ein polisïau neu faterion i'w trafod ynghylch gwasanaeth. Neu i ddweud wrthoch chi os nad yw eich cyfrif BBC wedi cael ei ddefnyddio ers hir ac i ofyn os ydych chi dal eisiau ei ddefnyddio
  • Rhoi'r fersiwn gywir o’r BBC i chi ar gyfer eich lleoliad.

Rydyn ni'n rhannu peth o'ch manylion personol â sefydliad Trwyddedu Teledu, er mwyn gweld os ydych chi'n defnyddio BBC iPlayer ac er mwyn diweddaru ei fas-data. Mae mwy o wybodaeth yma ynglŷn â phryd ydych chi angen trwydded teledu.

Tu allan i’r Deyrnas Unedig?

Os nad ydych chi yn y Deyrnas Unedig, byddwch yn gweld fersiwn ryngwladol gwefan y BBC, bbc.com, sy’n cynnwys hysbysebion. Bydd rhywfaint o’r hysbysebu hyn wedi’i deilwra i chi, yn seiliedig ar sut rydych yn defnyddio bbc.com a safleoedd eraill.

Rhagor o wybodaeth am hysbysebu wedi ei bersonoleiddio.

Rebuild Page

The page will automatically reload. You may need to reload again if the build takes longer than expected.

Useful links

Demo mode

Hides preview environment warning banner on preview pages.

Theme toggler

Select a theme and theme mode and click "Load theme" to load in your theme combination.

Theme:
Theme Mode: