Diweddarwyd y dudalen: 10 Ebrill 2024
Mae’n ddrwg gennym am eich colled. Pan fyddwch chi wedi colli rhywun, y peth olaf y byddwch chi am ei wneud yw siarad â darparwyr ynghylch cau cyfrifon. Rydyn ni yma i helpu ar yr adeg anodd hon.
Cysylltu â ni
Pan fyddwch chi’n barod, gallwch anfon e-bost atom yn [email protected] neu gallwch ysgrifennu atom yn:
BBC Data Protection Officer, C/o DPO Team, Floor 6 C, London Broadcasting House, Llundain, W1A 1AA
Os na allwch wneud eich cais yn ysgrifenedig oherwydd anabledd, rhowch neges i ni ar 020 8008 2882 a bydd aelod o’r tîm yn cysylltu â chi.
Beth i’w ddisgwyl
Pan fyddwch chi’n cysylltu â ni, byddwn yn gofyn i chi am fanylion am y person sydd wedi marw, fel eu henw a’u cyfeiriad e-bost er mwyn i ni allu dod o hyd i’w cyfrif BBC a’i gau. Byddwn hefyd yn gofyn am eich perthynas â nhw. Ni fydd arnom angen y dystysgrif marwolaeth.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, efallai y byddwch am wneud rhestr a byddwn yn gwneud ein gorau glas i’w hateb i gyd.