Cilogram
Math o gyfrwng | unedau sylfaenol SI, unit of mass, uned SI gydlynol |
---|---|
Rhan o | system o unedau MKS, System Ryngwladol o Unedau |
Rhagflaenydd | grave |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Uned sylfaenol y System Ryngwladol o Unedau yw'r cilogram (symbol: kg), a ddefnyddir i fesur màs
Ers 20 Mai 2019 mae wedi ei ddiffinio yn nhermau cysonion ffisegol sylfaenol. Cyn 20 Mai 2019, roedd wedi ei ddiffinio gan silindr o aloi platinwm, y Cilogram Prototeip Rhyngwladol (yn anffurfiol Le Grand K neu IPK) a wnaethpwyd yn 1889, a gadwyd yn ofalus yn Saint-Cloud, maestref o Baris.
Yn Gymraeg, defnyddiwn y symbol rhyngwladol kg, gan y byddai gwrthdaro gydag uned arall (y centigram) pe bawn yn defnyddio cg.
Mae'r uned hon (sef y cilogram) yn 2.20462262 pwys (yr hen bwysau 'Imperial'). Uned arferol dwysedd yw cilogram pob metr ciwb (cg/m³).
Lle
- ρ yw dwysedd y gwrthrych (wedi'i fesur mewn cilogram pob metr ciwb)
- m yw màs cyfan y gwrthrych (wedi'i fesur mewn cilogramau)
- C yw cyfaint cyfan y gwrthrych (wedi'i fesur mewn metrau ciwb)
Hanes
[golygu | golygu cod]Ar 26 Mawrth 1791 danfonodd Ffrancwr o'r enw Charles Maurice de Talleyrand-Périgord lythyr at Lywodraeth Ffrainc yn galw am safoni'r grefft o fesur. Pedwar diwrnod ar ôl derbyn y llythyr hwn, sefydlodd y llywodraeth Academi a rhannwyd y gwaith gan greu unedau metrig sy'n parhau i gael eu defnyddio heddiw.
Ar 7 Ebrill 1795 cyhoeddwyd yn Ffrainc fod y gram yn hafal i "bwysau absoliwt cyfaint y dŵr sydd mewn ciwb 1cm wrth 1cm (un centimetr ciwb), a hynny ar dymheredd rhew.[1] Ond roedd diwydiant yn gweiddi am fesurau mwy na'r centimetr a'r gram. Sylweddolwyd hefyd fod pwysau rhew yn amrywiol ac yn ddibynnol ar nifer o ffactorau ac felly aethpwyd ati i greu prototeip mwy ymarferol na dŵr, a fyddai 1000 gwaith yn fwy na'r gram, sef y "kilogram". Yn yr un flwyddyn, aethpwyd ymlaen â'r gwaith o ddiffinio "litr".