Diweddarwyd y dudalen: 16 Awst 2017
Mae hynny’n dibynnu ar ble rydych chi a beth rydych chi’n ei wneud.
Yn y DU, Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw
Mae angen i chi fod dan delerau trwydded deledu i wylio neu recordio rhaglenni teledu byw ar unrhyw sianel, neu i lwytho i lawr neu wylio rhaglenni’r BBC ar iPlayer.
Gallai hyn fod ar unrhyw ddyfais, gan gynnwys teledu, cyfrifiadur desg, gliniadur, ffôn symudol, cyfrifiadur tabled, consol gemau, blwch digidol neu recordydd DVD/VHS.
Rydyn ni'n rhannu peth o'ch manylion personol â sefydliad Trwyddedu Teledu, er mwyn gweld os ydych chi'n defnyddio BBC iPlayer ac er mwyn diweddaru ei fas-data.
Rhagor o wybodaeth am ba bryd bydd angen trwydded deledu arnoch.
Y tu allan i’r lleoliadau hynny
Bydd angen i chi ganfod a oes gan eich gwlad ei chynllun trwydded deledu ei hun.