Uwch Gynghrair Bosnia a Hertsegofina
Gwlad | Bosnia and Herzegovina |
---|---|
Cydffederasiwn | UEFA |
Sefydlwyd | 2000 |
Tymor cyntaf | Ionawr 2000 |
Nifer o dimau | 12 |
Lefel ar byramid | 1 |
Disgyn i | Cynghrair Gyntaf Ffederasiwn Bosnia a Hertsegofina Cyngrhair Gynraf Republika Srpska |
Cwpanau | Cwpan Bêl-droed Bosnia a Hercegovina |
Cwpanau rhyngwladol | UEFA Champions League UEFA Europa League UEFA Europa Conference League |
Pencampwyr Presennol | Sarajevo (5ed teitl) (2019–20) |
Mwyaf o bencampwriaethau | Željezničar, Zrinjski (6 teitl) |
Partner teledu | Arena Sport |
Gwefan | http://www.nfsbih.ba |
2020–21 Premier League |
Uwch Gynghrair Bosnia a Hertsegofina (Bosnieg: Premijer liga Bosne i Hercegovine; Cyrilig: м:тел Премијер лига Босне и Херцеговине) yw prif adran pêl-droed yng ngweriniaeth Bosnia a Hertsegofina ac fe'i trefnir gan y Cymdeithas Bêl-droed Bosnia a Hertsegofina.
Gelwir yn swyddogol ac am resymau nawdd cyfredol (2020) yn M:tel Premijer liga Bosne i Hercegovine neu yn syml Premijer liga neu Liga 12. Mae pencampwr y gynghrair yn cael lle yn ail rownd Cynghrair y Pencampwyr UEFA.
Mae'r gynghrair yn cynnwys bellach yn cynnwys 12 clwb (roedd yn 16 clwb nes 2016-17) ac ar ddiwedd pob tymor mae'r ddau waelod yn cael eu hisraddio i Gynghrair Gyntaf y Republika Srpska a Chynghrair Gyntaf Bosnia a Herzegovina, sy'n ffurfio ail adran Bosnia. Mae hyrwyddwyr pob grŵp yn cael eu dyrchafu i'r Premijer Liga. Ym 1998 a 2000 penderfynwyd ar y pencampwr ar ôl chwarae ail gyfle rhwng clybiau Croateg Bosnia a Bosnia. Yn 2001, sefydlwyd cynghrair genedlaethol am y tro cyntaf yn dilyn gwrthod clybiau Serbia i gymryd rhan.
Hanes
[golygu | golygu cod]Cyn annibyniaeth Bosnia a Herzegovina, roedd timau Bosnia yn chwarae yng Uwch Gynghrair Iwgoslafia, ac er bod y bencampwriaeth yn draddodiadol yn cael ei dominyddu gan dimau o Serbia a Chroatia, llwyddodd dau dîm o Bosnia i'w hennill: FK Sarajevo (1966-67 a 1984-85) a'r FK Željezničar Sarajevo (1971-72). Gydag annibyniaeth Bosnia a dechrau'r rhyfel, stopiodd pêl-droed proffesiynol yn y wlad.
Cyfnod Rhyfeloedd Iwgoslafia
[golygu | golygu cod]Ar ôl chwalu Iwgoslafia, cyhoeddodd Bosnia a Herzegovina annibyniaeth ddiwedd gaeaf 1992, ac eisoes ym mis Ebrill yr un flwyddyn gwnaeth N / FSBiH gais am aelodaeth gyda FIFA ac UEFA.[1] Yn y cyfamser, oherwydd dechrau Rhyfel Bosnia ym mis Ebrill 1992 ni chwaraewyd unrhyw gemau yn nhymor 1992-93. Ddiwedd 1993 ail-lansiodd rhai rhannau o'r wlad gystadlaethau pêl-droed gyda llai o gwmpas. Ond yn union fel roedd y wlad wedi'i rhannu ar hyd llinellau ethnig, felly hefyd pêl-droed.
Yn 1993 lansiodd Croatiaid Bosnia (oedd ar y pryd am creu gwladwriaeth ar wahân ac uno gyda Croatia), Ffederasiwn Pêl-droed Herzeg Bosnia a'i Prif Gynghrair o Herzeg-Bosnia, lle mai dim ond clybiau Croateg oedd yn cystadlu ar raddfa blwyfol o fewn terfynau Gorllewin Herzegovina ac ychydig o beuoedd eraill. Yn yr un flwyddyn, trefnodd Serbiaid Bosnia (oedd hefyd am greu gwladwrieth ar wahân ac yn ymuno â Serbia), eu Prif Gynghrair eu hunain o'r Republika Srpska, ar diriogaeth a oedd gan gyfundrefn Republika Srpska ar y pryd. Dim ond pêl-droed ar diriogaeth a oedd o dan reolaeth sefydliadau Gweriniaeth Bosnia a Herzegovina ar y pryd ac ar nawdd N/FSBiH (Nogometni/Fudbalski Savez Bosne i Hercegovine Cymdeithas Bêl-droed Bosnia a Hercogovina), ar y pryd o ganlyniad gyda mwyafrif Bosniak (Mwslemiaid Bosnia, fwy nag heb), ar wahân i gystadleuaeth fer ar gyfer y tymor 1994–95 (a enillwyd gan Čelik Zenica) i stop. Ni ailddechreuodd y gystadleuaeth o dan adain N/FSBiH tan dymor 1995-96 pan lansiwyd Cynghrair Gyntaf Bosnia a Herzegovina.[1]
Ar ôl Rhyfel Bosnia, chwaraewyd tair pencampwriaeth ar wahân, yn y Gynghrair ac yn y Cwpan, ac yn cyfateb i fwyafrif grwpiau ethnig y wlad: y Bosnia, y Croateg a'r Serbeg. Yn 1998 sefydlwyd ail gyfle rhwng hyrwyddwyr y cynghreiriau Croateg a Mwslimaidd, a enillwyd gan FK Željezničar Sarajevo.
Sefydlu'r Premijer Liga unedig
[golygu | golygu cod]Sefydlwyd y Liga Premijer ar ddechrau tymor 2000-01 ar ôl uno Cynghrair Gyntaf Bosnia a Herzegovina - mae'r Bosniacs (Mwslemiaid) yn dadlau yn ei gylch - a Chynghrair Gyntaf Herzeg-Bosnia (y mae Croats yn anghytuno â nhw). Bu clybiau Gweriniaeth Serbia yn boicotio'r Gynghrair newydd ac yn parhau â'u pencampwriaeth eu hunain, o'r enw Prva liga Republike Srpske. Fodd bynnag, dim ond y Premijer Liga a gydnabu UEFA fel yr unig bencampwriaeth swyddogol ar gyfer Bosnia a Herzegovina.
Llwyddwyd i oresgyn y sefyllfa yn nhymor 2002-03, pan benderfynodd prif dimau Cynghrair Gyntaf y Republika Srpska ymuno â'r brif gystadleuaeth, a thrwy hynny ffurfio cystadleuaeth gynghrair genedlaethol gyntaf Bosnia a Herzegovina.
System gystadlu
[golygu | golygu cod]Mae gan yr Uwch Gynghrair 16 tîm proffesiynol. Mae'r clybiau'n chwarae yn erbyn ei gilydd o dan y system o bawb yn erbyn pawb ar ddwy olwyn, mewn gemau taith gron. Mae tîm pencampwr y gynghrair yn gymwys ar gyfer ail rownd ragbrofol Cynghrair Pencampwyr UEFA. Mae'r ail a'r trydydd yn gymwys ar gyfer rownd ragbrofol gyntaf Cynghrair Europa UEFA, ynghyd â hyrwyddwr y gwpan.
Ar y llaw arall, mae dau dîm gwaethaf y tymor yn cael eu hisraddio i'r categorïau is, sydd ym Mosnia a Herzegovina wedi'u rhannu'n ddwy gynghrair yn ôl eu tiriogaeth: Cynghrair Gyntaf y Republika Srpska a Chynghrair Gyntaf Ffederasiwn Bosnia a Herzegovina. Mae eu lleoedd yn yr Uwch Gynghrair y tymor canlynol yn cael eu disodli gan bencampwr pob cynghrair.
Clybiau'r Liga Premijer, 2020–21
[golygu | golygu cod]Clwb | Lleoliad | Stadiwm | Capasiti[2] |
---|---|---|---|
FK Borac Banja Luka | Banja Luka | Stadiwm Dinas Banja Luka | 10,030 |
FK Krupa | Krupa na Vrbasu | Gradski Stadion (Stadiwm y Ddinas) | 3,500 |
FK Mladost Doboj Kakanj | Doboj (Kakanj) | Arena MGM | 3,000 |
FK Olimpik | Sarajevo | Stadiwm Otoka | 3,000 |
FK Radnik Bijeljina | Bijeljina | Gradski stadion Bijeljina | 6,000 |
FK Sarajevo | Sarajevo | Stadiwm Asim Ferhatović Hase | 34,500 |
FK Sloboda Tuzla | Tuzla | Stadiwm Dinas Tušanj | 7,200 |
NK Široki Brijeg | Široki Brijeg | Stadiwn Pecara | 7,000 |
FK Tuzla City | Simin Han, Tuzla | Stadiwm Dinas Tušanj | 7,200 |
FK Velež Mostar | Mostar | Stadiwn Rođeni | 7,000 |
HŠK Zrinjski Mostar | Mostar | Stadion pod Bijelim Brijegom | 9,000 |
FK Željezničar Sarajevo | Sarajevo | Stadion Grbavica | 13,449 |
Rancio Safon y Gynghrair
[golygu | golygu cod]Rancio cyfeirnod UEFA ar ddiwedd tymor 2018–19.
Rancio Cyfredol | Rancio Tymor flaenorol | Symudiad | Cynghrair | Cyfeirnod |
---|---|---|---|---|
37 | 39 | Gweriniaeth Iwerddon | 7.450 | |
38 | 38 | Y Ffindir | 7.275 | |
39 | 35 | Gwlad yr Iâ | 7.250 | |
40 | 40 | Bosnia a Hertsegofina | 7.125 | |
41 | 43 | Lithwania | 6.750 | |
42 | 41 | Latfia | 5.625 | |
43 | 48 | Lwcsembwrg | 5.500 |
Dolenni
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 "N/FSBiH History". www.nfsbih.ba (yn Saesneg). N/FSBiH. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 Tachwedd 2016. Cyrchwyd 27 Rhagfyr 2016.
- ↑ "Capacity of stadiums of the Premier League of Bosnia and Herzegovina". Soccerway. Cyrchwyd 26 May 2019.
|