Neidio i'r cynnwys

Eisteddfod Genedlaethol Cymru y Barri a'r Fro 1968

Oddi ar Wicipedia
Eisteddfod Genedlaethol Frenhinol Cymru y Barri a'r Fro 1968
Archdderwydd Gwyndaf
Cadeirydd Yr Athro Stephen J. Williams
Llywydd Cynan
Enillydd y Goron Y Parch. L. Haydn Lewis
Enillydd y Gadair R. Bryn Williams
Y Fedal Ryddiaith Eigra Lewis Roberts
Gwefan www.eisteddfod.org

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru y Barri a'r Fro 1968 yn Y Barri, Bro Morgannwg.

Prif Gystadlaethau
Cystadleuaeth Teitl y Darn Ffugenw Enw
Y Gadair Awdl Foliant i'r Morwr R. Bryn Williams
Y Goron Meini Haydn Lewis
Y Fedal Ryddiaeth Y Drych Creulon Eigra Lewis Roberts

Ffrae'r urddo

[golygu | golygu cod]

Gwrthododd yr Eisteddfod gael Gwynfor Evans yn Llywydd y Dydd yn yr eisteddfod hon er ei fod wedi ei fagu yn y Barri ac yn perthyn i deulu enwog yn y dref, teulu ag oedd wedi gwneud cymaint dros Gymreictod y dref. Yn wir rhieni Gwynfor roddodd y Goron i'r Eisteddfod y flwyddyn honno. Ar ben hyn i roi halen ar y briw penderfynnodd awdurdodau'r Eisteddfod urddo George Thomas i'r orsedd. Roedd George wedi bod yn gïaidd i Gwynfor yn y senedd, ond cymaint oedd ofn yr awdurdodau y byddai yna helynt bu rhaid i'r Archdderwydd ofyn i Gwynfor a fyddai yn fodlon cyd-gerdded gyda George ar y maes rhwng rhes o blismyn. Cytunodd Gwynfor.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]
Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.