Neidio i'r cynnwys

Eisteddfod Genedlaethol Cymru Maldwyn a'r Gororau 2015

Oddi ar Wicipedia
Eisteddfod Genedlaethol Cymru Maldwyn a'r Gororau 2015
 ← Blaenorol Nesaf →
Eisteddfod Maldwyn 2015

-

Lleoliad Fferm Mathrafal, Meifod
Cynhaliwyd 1-8 Awst 2015
Archdderwydd Christine James
Daliwr y cleddyf Robin McBryde
Cadeirydd Beryl Vaughan
Llywydd R. Alun Evans
Nifer yr ymwelwyr 150,776[1]
Enillydd y Goron Manon Rhys
Enillydd y Gadair Hywel Griffiths
Gwobr Daniel Owen Mari Lisa
Gwobr Goffa David Ellis Ffion Hâf, Llandeilo
Gwobr Goffa Llwyd o’r Bryn Joy Parry
Gwobr Goffa Osborne Roberts Robert Lewis
Gwobr Richard Burton Morgan Elwy Williams
Y Fedal Ryddiaith Tony Bianchi
Medal T.H. Parry-Williams Jennifer Maloney
Y Fedal Ddrama Wyn Mason
Dysgwr y Flwyddyn Gari Bevan
Tlws y Cerddor Osian Huw Williams
Ysgoloriaeth W. Towyn Roberts Meinir Wyn Roberts
Medal Aur am Gelfyddyd Gain Glyn Baines
Medal Aur am Grefft a Dylunio Rhian Hâf
Gwobr Ifor Davies Aled Rhys Davies,
Christine Mills,
Seán Vicary
Gwobr Dewis y Bobl Menna Angharad
Ysgoloriaeth yr Artist Ifanc Gwenllian Spink
Medal Aur mewn Pensaernïaeth Penseiri Loyn & Co.
Ysgoloriaeth Pensaernïaeth Jonathan Evans
Medal Gwyddoniaeth a Thechnoleg Mel Williams
Gwefan Gwefan swyddogol

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Cymru Maldwyn a'r Gororau 2015 ar 1 - 8 Awst 2015 ger Meifod, Powys. Cyhoeddwyd yr Eisteddfod yng Ngŵyl y Cyhoeddi yn Y Drenewydd ar 5 Gorffennaf 2014[2].

Llywydd yr Ŵyl oedd R. Alun Evans o Gaerdydd, gweinidog a darlledwr a weithiodd gyda'r BBC am dros 30 mlynedd.

Yn y seremoni derbyn aelodau newydd i'r Orsedd fore Llun, fe alwodd yr Archdderwydd Christine James ar Gymru i "ddeffro" ac ysgwyddo'r cyfrifoldeb dros "warchod ein gwlad" wedi i Gymru golli cynifer o gewri yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Cyfeiriodd at farwolaethau pobl amlwg gan gynnwys John Davies, Meredydd Evans, R. Geraint Gruffydd, Harri Pritchard Jones, Osi Osmond a John Rowlands a dywedodd fod "bwlch anferth" ar eu holau, sydd angen ei lenwi.

Prif gystadlaethau

[golygu | golygu cod]

Gwobr Goffa Daniel Owen

[golygu | golygu cod]

Enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen oedd Mari Lisa gyda chyfrol o'r enw Veritas.

Y Fedal Ryddiaith

[golygu | golygu cod]

Dyfarnwyd y Fedal Ryddiaith i Tony Bianchi ('Mab Afradlon') am nofel ar y thema 'Dwy' neu 'Dau'. Teitl y gyfrol fuddugol oedd Dwy Farwolaeth Endaf Rowlands

Anrhydeddau'r Orsedd

[golygu | golygu cod]

Ymysg y rhai gafodd eu derbyn i Orsedd y Beirdd drwy anrhydedd oedd y cyflwynydd teledu, Alex Jones, llywydd Undeb Rygbi Cymru, Dennis Gethin, y gantores werin Siân James a'r cerddor a chynhyrchydd, Endaf Emlyn[3].

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1.  Ffigurau Ymwelwyr 2015. Eisteddfod Genedlaethol. Adalwyd ar 4 Awst 2016.
  2. "Gorymdaith i ddathlu cyhoeddi Eisteddfod 2015". BBC Cymru Fyw. Unknown parameter |published= ignored (help)
  3. "Cyhoeddi urddau'r Orsedd yn Eisteddfod 2015". Eisteddfod Genedlaethol. 2015-05-07. Unknown parameter |published= ignored (help)[dolen farw]

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]