Eifionydd
Math | ardal, cwmwd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Dunoding |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.926°N 4.258°W |
Gorwedd Eifionydd yn sir Gwynedd, gogledd-orllewin Cymru. Mae'r ardal yn cynnwys de-ddwyrain Penrhyn Llŷn er nad yw'n rhan o'r Llŷn draddodiadol. Mae'n ymestyn o gyffiniau Porthmadog yn y dwyrain, lle mae'r Traeth Mawr yn ffin iddi, hyd Afon Erch, ychydig i'r dwyrain o dref Pwllheli. Yn wreiddiol roedd yn un o ddau gwmwd cantref Dunoding, ond yn wahanol i lawer o gymydau Cymru, mae'r enw yn parhau i gael ei ddefnyddio am yr ardal.
Eifionydd oedd y rhan ogleddol o gantref Dunoding. Yn ôl y traddodiad cafodd ei enw o Eifion fab Dunod. Roedd Dunod, a roddodd ei enw i'r cantref, yn un o feibion Cunedda Wledig. Canolfan y cantref yn y cyfnod diweddar oedd Cricieth, ond efallai y bu canolfan gynharach yn Nolbenmaen.
Ar hyn o bryd nid yw Eifionydd yn uned o lywodraeth leol, ond defnyddir yr enw yn gyffredin, er enghraifft "Ysgol Eifionydd" ym Mhorthmadog. Mae Eifionydd yn cynnwys pentrefi Abererch, Chwilog, Llanaelhaearn, Pencaenewydd, Llanarmon, Llangybi, Llanystumdwy, Rhoslan, Pentrefelin, Penmorfa, Garndolbenmaen, Golan Bryncir a Pantglas.
Enwogion
[golygu | golygu cod]- Syr Hywel y Fwyall (1300?-1381?)
- Ieuan ap Robert (1437-1468)
- Cadwaladr Cesail (1560?-1625?)
- John Owen, Plas Du (1564?-1622?)
- Syr John Owen, Clenennau (1600-1666)
- Owen Gruffydd, Llanystumdwy (1643-1730)
- Edward Samuel (1673-1748)
- Dafydd y Garreg Wen (1711-1741)
- John Thomas (hynafiaethydd) (1736-1769)
- Robert Jones, Rhoslan (1745-1829)
- Robert ap Gwilym Ddu (1767-1850)
- Pedr Fardd (1775-1845)
- Dewi Wyn o Eifion (1784-1841)
- Ellis Owen, Cefny-y-meysydd (1789-1868)
- Eben Fardd (1802-1863)
- Morris Williams (Nicander) (1809-1874)
- Eifion Wyn (1867-1926)
- David Lloyd George - Prif Weinidog Y Ddeyrnas Unedig rhwng 1916 - 1922
- Wil Sam - dramodydd
- Meic Povey - dramodydd
- Guto Roberts - actor
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- John Edward Lloyd, A history of Wales from the earliest times to the Edwardian conquest (Longmans, Green & Co, 1937)
- William Rowland, Gwŷr Eifionydd (Gwasg Gee, 1953)