Coleg yr Iesu, Rhydychen
Coleg yr Iesu, Prifysgol Rhydychen | |
Enw Llawn | Coleg yr Iesu ym Mhrifysgol Rhydychen o Sefydliad Elizabeth |
Sefydlwyd | 1571 |
Enwyd ar ôl | Iesu Grist |
Lleoliad | Turl Street, Rhydychen |
Chwaer-Goleg | Coleg yr Iesu, Caergrawnt |
Prifathro | Syr Nigel Shadbolt |
Is‑raddedigion | 335[1] |
Graddedigion | 189[1] |
Gwefan | www.jesus.ox.ac.uk |
- Gweler hefyd Coleg yr Iesu (gwahaniaethu).
Un o golegau cyfansoddol Prifysgol Rhydychen yw Coleg yr Iesu (Saesneg: Jesus College). Mae ganddo waddolion ac arian wrth gefn o £79,700,391 (2003). Mae’n un o’r colegau mwyaf canolog yn ninas Rhydychen gyda mynediad yn Turl Street.
Hanes
[golygu | golygu cod]Hugh Price
[golygu | golygu cod]Sefydlwyd Coleg yr Iesu ym 1571, ar safle a fu gynt yn lleoliad i'r Neuadd Wen ers y drydedd ganrif ar ddeg. Fe'i sefydlwyd gan wyth o gomisiynwyr, Hugh Price (neu 'Hugh Aprice'), prebendwr (neu drysorydd) Tyddewi y pennaf ohonynt, a rhoddwyd siarter i’r coleg gan y Frenhines Elisabeth I. Yn yr un flwyddyn, perswadiodd Elisabeth I o Loegr i roi siarter brenhinol i'r sefydliad a daeth hwnnw i rym ar 27 Mehefin 1571. Noda'r siarter hon mai'r frenhines yw sefydlydd y coleg, a chyfeirir at Hugh Price fel 'y noddwr cyntaf'. Penodwyd David Lewis (cyfreithiwr) yn brifathro cynta'r coleg ar yr un diwrnod, a gadawodd yn 1572.
Cyfrannodd yn ariannol at godi'r coleg hwnnw; ar ei farwolaeth gadawodd hefyd 100 Marc a £60 y flwyddyn (a'i lyfrgell), ar yr amod y cydnabyddir ef (yn hytrach na'r frenhines) yn 'Sefydlydd y Coleg'. Amod arall oedd ei hawl i benodi Prifathrawon, Cymrodorion a myfyrwyr i'r coleg. Pan y bu farw, rhan o'r coleg oedd wedi'i godi; cychwynwyd ar y gwaith o adeiladu'r 'cwod' yn 1571. Ariannodd gychwyn adeiladu’r coleg, ond ar ei farwolaeth dim ond rhyw £600 o gyfraniad unwaith-ac-am-byth a adawyd ganddo.
Yr 17eg ganrif
[golygu | golygu cod]Daeth rhoddion mwy sylweddol i’r coleg yn yr ail ganrif ar bymtheg, y pennaf oedd rhodd o £5,000 gan Brifathro'r coleg: Eubule Thelwall o Ruthun, prifathro 1621-1630, er mwyn codi capel, neuadd a llyfrgell. Gadawodd Herbert Westfaling, Esgob Henffordd, ddigon o arian i sefydlu dau gymrawd ac ysgoloriaeth (er iddo roi'r amod "my kindred shallbe always preferred before anie others").[2] Bu'n rhaid dymchwel y llyfrgell dan brifathrawiaeth Francis Mansell (1630-49), a adeiladodd hefyd ddwy risfa ychwanegol er mwyn denu meibion bonedd Cymru i’r coleg.
Leoline (Llywelyn) Jenkins, prifathro 1661-73, a sicrhaodd ffyniant tymor hir y coleg, wrth iddo adael ar ei farwolaeth ym 1685 ystadau sylweddol a alluogodd sefydlu, a llenwi, nifer helaeth o gymrodoriaethau ac ysgoloriaethau .[3]
Y cyfnod modern
[golygu | golygu cod]Ym 1974, bu’r coleg ymysg y grŵp cyntaf o golegau dynion ym Mhrifysgol Rhydychen i ganiatáu mynediad i fenywod (ynghyd â Trwyn Pres, Wadham, Hertford a Choleg y Santes Catrin).
Cysylltiadau Cymreig
[golygu | golygu cod]Mae gan y coleg gysylltiadau cryf â Chymru. Fel y nodwyd, sefydlwyd y coleg ar gais Cymro, Hugh Price, ac fe'i gwelwyd ers y cychwyn fel 'y Coleg Cymreig' ym Mhrifysgol Rhydychen. Dywedir mai'r hanesydd David Powel oedd y myfyriwr cyntaf i raddio o'r coleg. Cyn sefydlu Prifysgol Cymru, Coleg yr Iesu oedd un o'r prif sefydliadau lle roedd nifer (prin) o Gymry yn cael addysg uwch, ond gwaniodd y cysylltiad dros amser. Ym 1637, allan o 86 o fyfyrwyr ar y llyfrau, cofnodir cartref 60 ohonynt: 31 o dde Cymru, 13 o ogledd Cymru, 11 o Fynwy a'r Gororau, un o Ynysoedd y Sianel, a dim ond un o Loegr. Erbyn 1895 roedd y Cymry yn dal i fod yn y mwyafrif gyda 18 allan o 27 o newydd-ddyfodiaid â chymhwyster o Gymru.
Hyd at 1859 roedd statudau'r Coleg yn neilltuo bron y cyfan o'r cymrodoriaethau i Gymry, ond bu diwygiad yn y flwyddyn honno yn lleihau'r nifer oedd ar gael i Gymry yn unig i hanner y cymrodoriaethau.
Roedd y rhan helaeth o'r prif gymeriadau yn ei hanes, a bron pob un Prifathro, yn Gymry. Yn sgîl y cysylltiadau hyn, roedd rhan helaeth o waddolion y coleg hefyd yng Nghymru; dywedwyd ar un adeg mai Coleg yr Iesu oedd y tirfeddiannwr mwyaf yng Nghymru oll heblaw'r Goron.
Yn academaidd hefyd, mae cysylltiadau ffurfiol â bywyd Cymreig. Sefydlwyd Athro Celteg y Brifysgol yng Ngholeg yr Iesu ers 1877. Delir swydd Cymrodor Uwchrifol yn y coleg fel arfer gan un o uwch academyddion prifysgolion yng Nghymru (Prifysgol Cymru gynt). Sefydlodd Edmwnd Meyricke (1636-1713) ysgoloriaethau yn y coleg, yn bennaf ar gyfer myfyrwyr o ogledd Cymru, ac wedi eu cyllido gan incwm ystadau yn y gogledd. Erbyn heddiw, mae'r ysgoloriaethau yn parhau, ond yn agored i fyfyrwyr o Gymru gyfan neu fyfyrwyr sydd wedi cael addysg yng Nghymru.[4]
Er bod y dylanwadau Cymreig wedi lleihau dros y blynyddoedd, mae'r cysylltiadau ffurfiol sy'n parhau yn ogystal â thraddodiad yn cadw'r dylanwad yn fyw. Dethlir Dydd Gŵyl Dewi yn y coleg, er enghraifft.
Ers 1701 bu'r coleg yn berchen ar Lyfr Coch Hergest, un o ffynonellau gwreiddiol y Mabinogi. Erbyn heddiw mae'r llyfr yn Llyfrgell Bodley, Prifysgol Rhydychen.
Cynfyfyrwyr
[golygu | golygu cod]- John Blackwell (Alun) — bardd
- William Boyd — awdur
- Paul Brand — newyddiadurwr
- James Burke — darlledwr
- Thomas Charles o'r Bala — clerigwr
- Edward Davey — aelod seneddol
- David Ffrangcon Davies — canwr opera
- Geraint Davies — aelod seneddol
- Hugh Davies — botanegydd
- John Davies Mallwyd — geiriadurwr
- Alfred George Edwards — Archesgob cyntaf yr Eglwys yng Nghymru
- Daniel Evans (Daniel Ddu o Geredigion) — bardd
- Richard J. Evans — hanesydd
- Edward Garnier — aelod seneddol
- Gwyneth Glyn — bardd a chantores
- John Richard Green — hanesydd
- W. J. Gruffydd — llenor ac ysgolhaig
- Ffion Hague — gwraig y gwleidydd William Hague
- Edward Hughes (Y Dryw), bardd a gweriniaethwr
- T. Rowland Hughes — nofelydd
- Bedwyr Lewis Jones — ysgolhaig
- Huw Jones — canwr a Phrif Weithredwr S4C
- Paul Jones — canwr poblogaidd gyda Manfred Mann
- Thomas Jones — arlunydd
- T. E. Lawrence — archaeolegydd, milwr ac awdur
- Hywel David Lewis — ddiwinydd ac athronydd
- Siân Lloyd — darlledwraig
- William Lloyd — esgob
- Edward Llwyd — naturiaethwr
- Magnus Magnusson — cyflwynydd teledu, darlledwr
- Syr John Morris-Jones — ysgolhaig
- Norman Washington Manley — gwleidydd yn Jamaica
- Dom Moraes — awdur
- Beau Nash — cymdeithaswr
- Goronwy Owen — bardd
- Morgan Owen — Esgob Llandaf
- T. H. Parry-Williams — awdur
- Pixley ka Isaka Seme — aelod sylfaneol o Gyngres Genedlaethol Affrica
- David Powel — hanesydd
- Kevin Rudd — cyn Brif Weinidog Awstralia
- Glyn Simon — Archesgob Cymru
- Francine Stock — darlledwraig
- Walter H. Stockmayer — cemegydd
- Gwyn Thomas — bardd
- Henry Vaughan — bardd a meddyg
- William Vaughan — awdur
- Theresa Villiers — aelod seneddol
- Harold Wilson — cyn Brif Weinidog y Deyrnas Unedig
- Watkin Williams-Wynn — gwleidydd a thirfeddiannwr
- D. J. Williams — llenor a chenedlaetholwr
- Gwilym Owen Williams — Archesgob Cymru
- Morris Williams (Nicander) — bardd
- Ellis Wynne — awdur
- Gwern Gwynfil -- Dyn busnes a gwleidydd
- Elinor Wyn Reynolds -- Awdur
- Angharad Price -- Awdur
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 Niferoedd myfyrwyr, Rhagfyr 2016: Prifysgol Rhydychen; adalwyd 25 Mai 2017.
- ↑ (Saesneg) Speight, Martin E. "Westfaling, Herbert (1531/2–1602)". Oxford Dictionary of National Biography (arg. online). Gwasg Prifysgol Rhydychen. doi:10.1093/ref:odnb/29111.CS1 maint: ref=harv (link) (mae angen tanysgrifiad neu aelodaeth o lyfrgell gyhoeddus i ddarllen yr erthygl)
- ↑ http://www.jesus.ox.ac.uk/history/benefactors.php Archifwyd 2006-09-26 yn y Peiriant Wayback Benefactors of Jesus College. Date of access 29 June 2006.
- ↑ J.N.L. Baker (1971) Jesus College, Oxford 1571-1971 Oxonian Press