T. E. Lawrence
T. E. Lawrence | |
---|---|
Lawrence ym 1918 | |
Enw o enedigaeth | Thomas Edward Lawrence |
Llysenw | Lawrence o Arabia, El Aurens |
Ganwyd | 16 Awst 1888 Tremadog, Sir Gaernarfon, Cymru |
Bu farw | 19 Mai 1935 Bovington Camp, Dorset, Lloegr | (46 oed)
Cynghreiriaid | United Kingdom Teyrnas Hijaz |
Gwasanaeth / cangen | Y Fyddin Brydeinig Yr Awyrlu Brenhinol |
Bl'ddyn gwasanaeth | 1914–18 1923–35 |
Ranc | Cyrnol ac Awyrluyddwr |
Brwydrau/rhyfeloedd | Y Rhyfel Byd Cyntaf |
Gwobrau | Cydymaith Urdd y Baddon[1] Urdd Gwasanaeth o Fri[2] Chevalier de la Légion d'Honneur[3] Croix de guerre (Ffrainc)[4] |
Mae'r erthygl hon yn rhan o gyfres ar T. E. Lawrence | |
---|---|
Bywyd cynnar • Teulu • Bywyd personol • Y Gwrthryfel Arabaidd • Wedi'r rhyfel • Y llenor • Seven Pillars of Wisdom • Clouds Hill • Lawrence of Arabia • Llyfryddiaeth |
Milwr, archaeolegydd, ac awdur oedd y Cyrnol Thomas Edward Lawrence, CB, DSO (16 Awst 1888 – 19 Mai 1935) a wasanaethodd yn y Fyddin Brydeinig. Mae'n adnabyddus fel Lawrence o Arabia oherwydd ei ran yng ngwrthryfel yr Arabiaid yn erbyn Ymerodraeth yr Otomaniaid yn y Rhyfel Byd Cyntaf.
Bywyd cynnar
[golygu | golygu cod]Hanai hynafiaid Lawrence o Loegr ac Iwerddon, ond fe'i ganed mewn tŷ mawr o gerrig llwyd o'r enw Gorphwysfa (a newidiwyd yn ddiweddarach yn Snowdon Lodge) yn Nhremadog, Gwynedd. Syr Thomas Robert Tighe Chapman, barwnig Eingl-Wyddelig, oedd ei dad a Sarah Lawrence, Albanes ac athrawes Syr Thomas oedd ei fam. Astudiodd archaeoleg yn Ngholeg yr Iesu, Rhydychen, lle cafodd radd dosbarth cyntaf. Ar ôl gorffen ei astudiaethau aeth i Arabia i weithio fel archaeolegydd ac astudio Arabeg.
Yn Arabia
[golygu | golygu cod]Unwaith i'r Rhyfel Byd Cyntaf ddechrau yn Awst 1914, ymunodd Lawrence ag adran ddaearyddol y Swyddfa Rhyfel yn Llundain, ac anfonwyd i'r Dwyrain Canol fel rhan o adran gudd-wybodaeth y Fyddin Brydeinig yng Nghairo, yr Aifft. Lansiwyd y Gwrthryfel Arabaidd gan Hussein bin Ali, Sharif Mecca, a'i meibion Ali, Abdullah, Faisal a Zeid, ym Mehefin 1916. Aeth Lawrence i Arabia ym mis Hydref i sylwi ar y Gwrthryfel, a daeth yn gynghorwr i Feisal. Bwriadodd Lawrence a Feisal i symud lluoedd Feisal i ogledd y Hejaz. Nod bersonol Lawrence oedd i ennill annibyniaeth i'r Arabiaid wedi diwedd y rhyfel, a daeth Lawrence yn arweinydd a strategydd herwfilwrol iddynt. Targedwyd Rheilffordd Hejaz gan yr Arabiaid, gan dorri cyflenwadau'r Tyrciaid.
Brwydr Aqaba
[golygu | golygu cod]Cipiodd lluoedd Feisal borth Aqaba yng Ngorffennaf 1917, gyda chymorth arweinyddiaeth Lawrence, a llwyddodd Lawrence i berswadio'r Cadfridog Syr Edmund Allenby o bwysigrwydd y Gwrthryfel Arabaidd i ymgyrch Prydain yn y Dwyrain Canol yn erbyn yr Otomaniaid/Tyrciaid.
Deraa
[golygu | golygu cod]O ganlyniad i lwyddiant yr Arabiaid wrth dynnu sylw ac adnoddau'r Tyrciaid trwy ddifrodi Rheilffordd Hejaz, roedd Lawrence yn benderfynol o dargedu rheilffyrdd y tu ôl i gefn y gelyn, tua'r gogledd. Gadawodd Lawrence Aqaba ar 24 Hydref 1917, gyda chriw o Arabiaid, â'r bwriad o deinameitio'r bont yn Yarmuk gan dorri'r rheilffordd rhwng Deraa ac Haifa. Methodd y cyrch hwn pan ollyngodd un Arab ei wn, gan atseinio o amgylch y ceunant a thynnu sylw'r gwarchodwyr Tyrcaidd. Wedi iddynt ddianc, ffrwydrodd Lawrence drên ar ran ogleddol Rheilffordd Hejaz. Cafodd Lawrence ei anafu gan filwyr Tyrcaidd, ond unwaith eto llwyddodd i ddianc gan fynd i Azrak â'i griw o gerilas.
Yna, ym mis Tachwedd 1917, bu un o'r digwyddiadau mwyaf ddrwg-enwog ym mywyd Lawrence. Yn ôl Lawrence yn Seven Pillars of Wisdom, aeth ar ymweliad cudd o Azrak i Deraa mewn gwisg Arabaidd. Cafodd ei gamadnabod gan y Tyrciaid yn Deraa am enciliwr o'r Fyddin Otomanaidd, ond honnodd Lawrence yr oedd yn Gircasiad mewn ymgais i egluro lliw ei groen a'i lygaid. Cafodd ei gymryd i'r Bey lleol, oedd yn dymuno cael rhyw â Lawrence. Gwrthododd, a chafodd ei guro gan y gwarchodwyr a'i dreisio.
Yn ôl aelodau staff Syr Ronald Storrs, roedd Lawrence wedi "newid" ar ôl iddo ddychwelyd o Deraa.[5] Yn ôl bywgraffiad gan y seiciatrydd John E. Mack, cafodd brofiad Lawrence yn Deraa effaith sylweddol ar ei gyflwr seicolegol.[6] Ond yn ôl bywgraffwyr eraill, nid oedd Lawrence yn dweud yr holl wir, ac mae'n bosib ni aeth Lawrence o Azrak i Deraa o gwbl. Yn ôl Adrian Greaves, dywedodd Lawrence i'w gyfaill George Bernard Shaw nad oedd y stori am Deraa yn wir.[7] Mae ysgolheigion eraill wedi nodi anghysondebau rhwng dyddiadur Lawrence â'i hanes yn Seven Pillars. Hyd heddiw, dadleuol yw gwirionedd y digwyddiad.
Cwymp Damascus
[golygu | golygu cod]Wedi buddugoliaeth y Cynghreiriaid ym Mrwydr Megiddo, symudodd Ymgyrch Sinai a Phalesteina yn agosach at Damascus. Ar 30 Medi daeth reolaeth y Tyrciaid dros y ddinas i ben, a threchodd Prydain y fyddin Dyrcaidd olaf ar y ffordd i Damascus. Codwyd y faner Arabaidd dros neuadd y dref a phenododd y llywodraethwr Tyrcaidd, Djemal Pasha, uchelwr Arabaidd lleol o'r enw Mohammed Said i'w olynu.
Y 3edd Frigâd Geffylod Ysgafn Awstraliaidd oedd lluoedd cyntaf y Cynghreiriaid i mewn i'r ddinas ar doriad gwawr 1 Hydref 1918. Awr yn hwyrach dilynodd rhagor o farchfilwyr Awstraliaidd ac ildiodd y garsiwn Dyrcaidd. Lawrence a'r Arabiaid oedd y drydedd fintai yn Damascus y bore hwnnw. Gorchmynnodd hwy i gyngor Said wneud lle am lywodraethwr ffyddlon i'r Arabiaid, ond collodd y weinyddiaeth newydd hon reolaeth ar y ddinas o fewn ychydig o ddiwrnodau o ganlyniad i ddiffyg cefnogaeth leol.
Blynyddoedd wedi'r rhyfel
[golygu | golygu cod]Mynychodd Cynhadledd Heddwch Paris 1919 mewn gwisg Arabaidd, gan siarad yn erbyn creu mandad Ffrengig o Syria a Libanus. Ym mis Mawrth 1921 dychwelodd i'r Dwyrain Canol i gynghori gweinidog y trefedigaethau, Winston Churchill, ar faterion Arabaidd. Unwaith i drafodaethau dod i ben yng Nghairo gwrthododd Lawrence i ddal unrhyw swydd arall yn y llywodraeth.
Ymunodd Lawrence â'r Awyrlu Brenhinol dan yr enw John Hume Ross ar 28 Awst 1922. Ar 27 Rhagfyr y flwyddyn honno datgelodd y Daily Express taw Lawrence o Arabia oedd John Hume Ross, gan godi cywilydd braidd ar yr Awyrlu, a chafodd Lawrence ei ryddhau y mis nesaf. Ymunodd â'r Gatrawd Danc Frenhinol ar 12 Mawrth 1923 fel Preifat T. E. Shaw (mabwysiadodd yr enw hwnnw yn gyfreithiol ym 1927). Cafodd ei ddanfon i Wersyll Bovington yn Dorset ac yno prynodd y bwthyn Clouds Hill, a ddaeth yn gartref iddo am weddill ei oes. Yno bu'n trefnu ei waith llenyddol i'w gyhoeddi. Yn hwyrach, gadawodd Lawrence y Gatrawd Danc Frenhinol ac ail-ymunodd â'r Awyrlu Brenhinol. Ni chafodd ganiatâd i hedfan, ond gweithiodd mewn canolfannau ar draws y wlad, ger Môr Udd a Môr y Gogledd, yn dylunio badau tra-chyflym i dendio awyrennau, a'u profi a chreu llawlyfr technegol ar eu cyfer.
Marwolaeth
[golygu | golygu cod]Anafwyd Lawrence mewn damwain ffordd ar ei feic modur Brough Superior SS100 ger ei fwthyn Clouds Hill yn Dorset, de Lloegr, ar 13 Mai 1935. Oherwydd pant yn y ffordd, ni welodd dau fachgen ar eu beiciau, a phan gwyrodd i'w osgoi nhw fe daflwyd Lawrence o'i feic. Bu farw chwe niwrnod yn ddiweddarach ar 19 Mai 1935. Claddwyd ym Mynwent Moreton ar 21 Mai. Danfonwyd trenau ychwanegol o Lundain i orsaf reilffordd Moreton ar gyfer yr holl bobl oedd yn dymuno mynychu'r angladd. Yn eu plith roedd Syr Winston Churchill, yr Arglwyddes Astor, y Cadfridog Archibald Wavell (a fu'n hedfan o Aldershot mewn awtogyro) a'r awdur Henry Williamson.
Y niwrofeddyg Hugh Cairns oedd un o'r meddygon a wnaeth drin Lawrence. O ganlyniad i'w farwolaeth, ymchwiliodd Cairns i ddamweiniau beiciau modur, gan arwain at ddeddfwriaeth i wneud helmedau yn orfodol ar feicwyr modur yn y Deyrnas Unedig.[8]
Etifeddiaeth
[golygu | golygu cod]Plannwyd coeden yn yr union fan lle digwyddodd y ddamwain ffordd, i gofio Lawrence, a saif cofeb garreg gerllaw. Crewyd cerflun o Lawrence mewn gwisg Arabaidd gan ei ffrind Eric Kennington sydd i'w weld yn Eglwys Sant Martin yn Wareham, Dorset.[9]
Ar 29 Ionawr 1936 dadorchuddiwyd penddelw, o Lawrence a wnaed gan Kennington ym 1926, yn Eglwys Gadeiriol Sant Pawl mewn seremoni gan yr Arglwydd Halifax.
Bellach mae cartref Lawrence yn Dorset, Clouds Hill, yn amgueddfa a gedwir gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Ffilm
[golygu | golygu cod]Gwnaed ffilm ar ei fywyd, ffilm a enillodd saith gwobr Oscar. Ffilmiwyd sawl golygfa 'anialwch' ym Merthyr Mawr ger Pen-y-bont ar Ogwr,[10] lle mae'r twyni tywod mwyaf yn Ewrop. Anfarwolwyd Lawrence yn y ffilm gan yr actor Peter O'Toole.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ London Gazette: (Supplement) no. 30222. p. 8103. 7 Awst 1917. Retrieved 23 Mehefin 2010.
- ↑ London Gazette: (Supplement) no. 30681. p. 5694. 10 Mai 1918. Retrieved 23 Mehefin 2010.
- ↑ London Gazette: no. 29600. p. 5321. 30 Mai 1916.
- ↑ London Gazette: (Supplement) no. 30638. p. 4716. 16 April 1918. Retrieved 23 Mehefin 2010. - p4715 has "Decorations and Medals presented by THE PRESIDENT OF THE FRENCH REPUBLIC."
- ↑ Storrs, t. 23.
- ↑ Mack, t. 229–34.
- ↑ Greaves, t. 149.
- ↑ Maartens, Nicholas F. F.R.C.S.(SN); Wills, Andrew D. M.R.C.S.; Adams, Christopher B.T. M.A., M.Ch., F.R.C.S. (Ionawr 2002). "Lawrence of Arabia, Sir Hugh Cairns, and the Origin of Motorcycle Helmets". Neurosurgery 50 (1): 176–80. http://www.neurosurgery-online.com/pt/re/neurosurg/abstract.00006123-200201000-00026.htm;jsessionid=LjXXhLWV91Gj2H4GlTrvw2pbgDqDFHTmB0h0WsgfvpzLQpXr3QxY!-341159882!181195629!8091!-1. Adalwyd 10 Medi 2012 ).
- ↑ Jonathan Black (19 January 2012). "Portraits like Bombs:Eric Kennington and the Second World War". National Army Museum. Cyrchwyd 21 July 2015..
- ↑ Lorna Doran (7 Ebrill 2016). "When Merthyr Mawr stood in for the Arabian desert and the beaches of South Wales were out-of-this-world". WalesOnline (yn Saesneg). Cyrchwyd 1 Mehefin 2024.
Ffynonellau
[golygu | golygu cod]- Greaves, Adrian. Lawrence of Arabia: Mirage of a Desert War (Weidenfeld & Nicolson, 2007).
- Mack, John Edward. A Prince of Our Disorder: The Life of T. E. Lawrence (Boston, Little, Brown, 1976).
- Storrs, Ronald. Orientations (Llundain, Nicholson & Watson, 1937).
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]Llyfrau gan Lawrence
[golygu | golygu cod]- Prif: T. E. Lawrence y llenor
- The Seven Pillars of Wisdom. (ISBN 0-8488-0562-3)
- Revolt in the Desert, talfyriad o Seven Pillars of Wisdom. (ISBN 1-56619-275-7)
- The Mint, hanes ei wasanaeth yn yr Awyrlu Brenhinol. (ISBN 0-393-00196-2)
- Crusader Castles, archaeoleg. (ISBN 0-19-822964-X)
- The Odyssey of Homer, cyfieithiad o'r Roeg. (ISBN 0-19-506818-1)
- The Letters of T.E. Lawrence, gol. Malcolm Brown. (ISBN 0-460-04733-7)
- The Letters of T.E. Lawrence, gol. David Garnett. (ISBN 0-88355-856-4)
Llyfrau am Lawrence
[golygu | golygu cod]- The Forest Giant gan Adrien Le Corbeau, cyfieithiad o'r nofel Ffrangeg, 1924.
- Lawrence of Arabia and His World, gan Richard Perceval Graves.
- T. E. Lawrence by His Friends, Doubleday Doran (1937)