Sgwrs Defnyddiwr:Stefanik
Croeso. Deb 19:22, 15 Gorffennaf 2006 (UTC)
Care, please!
[golygu cod]Please take care what you put on wicipedia. In what way is this edit justified? If the book contains this quote, then please give page number. Llywelyn2000 (sgwrs) 12:50, 18 Chwefror 2014 (UTC)
- Sylweddolaf bellach mai dyfyniad ydoedd o'r llyfr. Fy ymddiheuriadau, gyfaill! Llywelyn2000 (sgwrs) 21:37, 26 Chwefror 2014 (UTC)
erthyglau Parêd Gŵyl Dewi Aberystwyth 2014 a 2013
[golygu cod]Er gywbodaeth, dw i wedi cynnig dileu'r erthyglau hyn (mae croeso i ti gyfrannu at y drafodaeth yma: Wicipedia:Tudalennau amheus).
Nid lle i hysbysebu pethau yw Wicipedia, gan mai gwydodniadur yw e. Mae llawer o lefydd i hysbysebu yn Gymraeg ar lein, maes-e.com (sy'n ddal i fynd!), lleol.net, ffrwti.com (newydd sbon), @poblaberystwyth, neu bath am i'r Parêd greu gwefan eu huanain?--Rhyswynne (sgwrs) 10:06, 21 Chwefror 2014 (UTC)
Eh? Nid hysbyseb yw e - mae'n gofnod hanesyddol o rhywbeth ddigwyddodd. Byddaf yn creu gwefan maes o law. Mae digwyddiad 2014 i'w ddiweddaru. Mae'n gofnod yn yr un modd ag y mae cofnodion am gemau cup final FA neu gemau ryngwladol Cymru neu cyngerdd grwp pop.
- Sori, dylwn i fod wedi cyfyngyu fy sylwadau i dudalen sgwrs 'Tudalen amheus' (enw amherffiath). My symudaf ein sylwadau yno.--Rhyswynne (sgwrs) 11:08, 21 Chwefror 2014 (UTC)
- Mae dy gyfraniad ar Barêd Gŵyl Dewi Aberystwyth 2014 yn wych ac yn ychwanegiad gwerthfawr. "Gwyddoniadur ar-lein" ydy Wicipedia, fel y gwyddost, a'i ffiniau'n wahanol iawn i wyddoniadur papur, confensiynol. Ond nid cofnod archifol o ffeithiau ydyw, felly mi af ati cyn hir i addasu'r ddwy dudalen arall a greaist, yn unol a'n harddull arferol: o bosib eu hymgorffori o fewn y brif erthygl. Mi drafodwn hynny, fel y dywed Rhys, ar y dudalen yma, er cofia, nid oes dim byd "Amheus" yn eu cylch! Byddai Nodyn (neu templad) o enw megis "Addas ar gyfer Wicipedia?" efallai'n well nag "Amheus"! Cymer olwg ar ein canllaw yma: Anaddas ar gyfer Wicipedia a gadawa neges ar fy nhudalen Sgwrs os wyt am drafod unrhyw beth. Diolch a chofion cynnes, Llywelyn2000 (sgwrs) 19:21, 21 Chwefror 2014 (UTC)
- Gyfaill, dw i wedi ailbobi ychydig o'r erthygl Parêd Gŵyl Dewi Aberystwyth yn unol â'n harddull arferol ar wici - braf iawn ei chael! Ond dw i wedi dileu'r ddwy erthygl arall 2013 a 2014, gan nad yw'r Parêd, hyd yma, ddim wedi ennill digon o sylw iddi hi ei hun. Awgrymais hefyd, ar y log dileon, y gallem ailedrych ar y sefyllfa ymhen dwy flynedd. Mae gan yr Eisteddfod Genedlaethol erthygl ar bob blwyddyn ers canrif neu ddwy, ond dydy hynny ddim yn wir am eisteddfod yr Urdd. Rhaid i'r orymdaith ennill ei phlwyf! Tybed a wnei di uwchlwytho lluniau pan gei gyfle? Diolch... Llywelyn2000 (sgwrs) 21:37, 26 Chwefror 2014 (UTC)
Newid Teitl Erthygl
[golygu cod]Gyfeillion, rwy wedi sgwennu darn am radio bob Wyddeleig, Raidio Ri-Ra. Hoffwn newid yr enw yn y teitl i'r fersiwn gywir h.y. acenion ar y llefariaid + llythrennau bras i Ri-Ra. Sut mae gwneud hyn?
Hefyd, os gwnaf i hyn a fydd rhywun sy'n teipio enw'r orsaf yn y blwch chwilio ond heb yr acenion yn dod ar draws yr erthygl? —Cafodd y sylw hwn heb lofnod ei ychwanegu gan Stefanik (sgwrs • cyfraniadau) 13:04, 31 Gorffennaf 2014
- Gwnant! Mi roi ail-gyfeiriad bach syml. Gret. Llywelyn2000 (sgwrs) 19:35, 31 Gorffennaf 2014 (UTC)
- Diolch! Dwi hefyd eisiau ychwanegu dolen i'r erthygl Gymraeg ar dudalen yr erthygl o ran 'Ieithoedd' fel fod darllenwyd y cwpwl o ieithoedd eraill sydd â darn am yr orsaf yn gweld fod un yn y Gymraeg hefyd.Sut mae gwneud hynny? - Stefanik
- Pan drof i'r ieithoedd eraill, mi welaf ddolen i'r erthygl Gymraeg. Llywelyn2000 (sgwrs) 21:37, 12 Ionawr 2016 (UTC)
Baner Ynysoedd Ffaroe
[golygu cod]Gyfeillion, newydd sylweddoli 'mod i wedi sgwennu darn reit fawr ar faner ynysoedd y Ffaroe (y merkið) ond bod eisioes darn bychan ar faner y Faroe (sillafiad Ffaroeg). Oes modd cyfuno'r ddau? Beth yw Faroe yn Gymraeg?! - Stefanik
- O! Does na ddim byd gwaeth! Dw i wedi gwneud yr un peth sawl tro. Yr enw cynhenid 'da ni'n ei ddefnyddio ar Yysoedd Ffaro, sef Føroyar. Dw i wedi ailgyfeirio'r hen dudalen i'th erthygl di, gan ei bod yn fwy cynhwysfawr. Llywelyn2000 (sgwrs) 08:55, 2 Awst 2014 (UTC)
Diolch Llew! Dwi'n meddwl fod angen consensws ar ba enw i'w ddefnyddio am yr ynysoedd. Mae'n anodd defnyddio'r enw gynhenid gan fod am fod yndrafferthus ffeindio'r lythyren 'o' arbennig. Ai dyna'r enw 'Cymraeg' swyddogol?Beth bynnag, gan 'mod i'n fanergarwr (vexollogist amatur!) dwi am fwrw ymlaen dros y misoedd nesa i ganolbwyntio ar y rhan yma o'r Wicipedia. Bydd yn fy nghadw oddi ar y strydoedd ac roedd gen i rhyw feddwl erioed i sgwennu cyfeirlyfr Cymraeg ar faneri'r byd!
+ sut mae modd ychwanegu yr Ikurruna (Baner GyB) i restr baneri Ewrop sydd i'w weldar waelod tudalen baner ynysoedd y Ffaroe?
+ ... wedi meddwl, byddai'n well rhoi'r erthygl ar yr ikurrina a'r Merkid o dan benawd 'Baner Gwlad y Basg' a 'Baner Ynysoedd y Ffaroe' yn hytrach na'i henwau cynhenid. BYd yn haws i bobl ei ffeindio ac yn fwy systematic yn y rhestr o faneri Ewrop. (mae angen hefyd newid 'merkid' i fod o dan 'Ff' nid 'F').
- Newidiwyd yr enw, ledled Wici, a dw i di newid manion ar yr erthygl. Wnei di ei wiro, os gweli di'n dda? Llywelyn2000 (sgwrs) 22:03, 12 Ionawr 2016 (UTC)
Taalmonument cofeb iaith Afrikaans
[golygu cod]Sori, fi eto, rwy wedi sgwennu darn ar y Taalmonument ond wedi sylwi 'mod i wedi camsillafu'r dref Paarl (dwy a) yn y teitl. Sut mae mynd at y teitl i'w newid. Mae angen ei gysylltu i erthyglau mewn ieithoedd eraill hefyd ond dwi'n cael trafferth gyda'r busnes dolenni i'r erthyglau mewn ieithoedd eraill sydd yn y golofn chwith (yr yn problem gyda'r erthygl ar Raidio Ri-Ra). Dydy'r peth ddim yn gadael i mi lwytho'r ddolen.
- Rwan dwi'n gweld hwn. Dwi'n meddwl gall pawb, a nid dim ond y gweinyddwyr, yn gallu 'Symud' tudalen, sef beth sydd eisiau ei wneud pan fydd camsillafiad. I'r chwith o'r blwch chwilio mae saeth bach du ('Rhagor') a ddylai roi dewis i 'Symud' y dudalen.
- Mae cyfle wedyn i roi enw/sillafiad cywir a bydd yn ailgyfeirio ato. Ond fel mae'n digwydd, mae gweinyddwr (Deb) wedi ail-enwi'r erthygl ta beth i dim ond Cofeb yr Iaith Afrikaans, ac mae dy deitl gwrieddiol di (gyda'm cywiriad i) bellach yn dudalen ailgyferio.
- O ran dolenni at erthyglau eraill, roedd hyn arfer bod yn hawdd, ond mae'r broses wedi newid yn ddiweddar. Mae bellach yn gweithio trwy Wikidata. I gysylltu'r erthygl dan sylw uchod, cer i'r erthygl mwn iaith arall, e.e. yr un Saesneg, ac yn y golofn chwith mae rhestr ieithoedd eraill, ac ar y gwaelod mae 'Edit links'.
- O glicio ar hwn, aiff a ti i dudalen Wikidata am y pwnc ac at restr o ddolenni ieithoedd. Ar waelod y rhestr mae modd gwasgu 'add' a dewis 'cy' a rhoi enw Cymraeg yr erthygl - dos amdani! (Ceir esboniad gwell yma)--Rhyswynne (sgwrs) 20:58, 5 Awst 2014 (UTC)
Methu Llwytho Dolen i Raidio Ri-Ra
[golygu cod]Rwy wedi llwytho dolen i'r erthygl Gymraeg ar y Taalmonumnet i'r ieithoedd eraill, ond am ryw reswm methu gwneud i Raidio Ri-Ra (efallai fod y diacritics yn achosi problem?). Unrhyw awgrym?
Cofeb yr Iaith Afrikaans
[golygu cod]Credaf fod dy erthygl ar Cofeb yr Iaith Afrikaans yn ysgytwol. A godir cofeb tebyg i'r Gymraeg rywdro? '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 14:01, 6 Awst 2014 (UTC)
Rhyd Helyg
[golygu cod]Mae na ddau bentref o'r enw: Walford, Letton and Newton a Walford, a chyfeiriad at Gerallt Gymro'n enwi Walford yn y ddwy. A fedrem fod yn sicr at ba un y cyfeiriai? Llywelyn2000 (sgwrs) 15:50, 5 Mawrth 2015 (UTC)
- Unrhyw syniad at ba un y cyfeiria Hywel? Llywelyn2000 (sgwrs) 22:53, 12 Ionawr 2016 (UTC)
Llwytho Logo Cymdeithas Hoelion Wyth - sut?
[golygu cod]Dwi wedi llwytho logo Cymdietrhas Hoelion Wyth i wikicommons (dw'n meddwl). dwi wedi sgwennu cofnod gan wneud cut and paste o logo Limsin fel 'mod i'n gweld sut aeth y cod yn edrych. Sut mae llwytho'r logo?
- Dylai 'Delwedd:EnwrFfeilArYComin.jpeg' weithio, neu fel arall 'Image:'EnwrFfeilArYComin.jpeg'. Os dio ddim yn gweithio, postia ddolen at URL yn Comin yn fan hyn. Wedi newid enw'r erthygl gyda llaw er cysondeb. Mae'r hen deitl yn ailgyfeirio yno.--Rhyswynne (sgwrs) 19:42, 14 Gorffennaf 2015 (UTC)
- O ba wefan gest ti'r ddelwedd? Mi fedrwn ei rhoi ar drwydded Defnydd Teg, wedyn. Erthygl fach dda! Llywelyn2000 (sgwrs) 09:29, 15 Gorffennaf 2015 (UTC)
- Wedi cael y logo o wefan y Gymdeithas, felly, defnydd teg faswn i'n meddwl gan mai bwriad logo yw cael ei ddefnyddio, yn enwedig os yw ar wefan. —Cafodd y sylw hwn heb lofnod ei ychwanegu gan Stefanik (sgwrs • cyfraniadau) 09:44, 16 Gorffennaf 2015
- Diolch @Stefanik:. Mi ga i olwg ar y ddelwedd mewn chwinc, ond ia ti'n iawn 'Defnydd Teg'. Llywelyn2000 (sgwrs) 21:29, 12 Ionawr 2016 (UTC)
- Newydd newid y drwydded i Ddefnydd Teg.
- Llywelyn2000 (sgwrs) 22:54, 12 Ionawr 2016 (UTC)
N'Ko
[golygu cod]Rwy wedi llwytho erthygl ar y wyddor N'Ko. Dau gwestiwn: 1. Pam nad ydw i'n gallu rhoi dolen byw iddo o fy erthygl ar Solomana Kante, crewr y wyddor? 2. Pam nad yw'r bocs (sydd i gael ar y fersiwn Saesneg ar yr ochr dde) yn cael ei hatgynhyrchu ar fy nhudalen Gymraeg i? Rwy wedi gwneud torri a gludo ond nid yw'n gweithio. Gwnes fersiwn Gymraeg (h.y. cyfieithu'r prin eiriau i'r Gymraeg) a hefyd cadw'r fersiwn Saesneg wreiddiol. 3. Pam nad yw fersiwn Gymraeg yn dangos y bocsus llefariaid a chytseiniaid mor glir a chywir â'r un Saesneg. Unwaithe to, torri a glundo wnes i.
- Yn sydyn (ar frys!): dw i wedi copio'r Nodyn (template) o en, ond mae angern ei gyfieithu / addasu. Dyma fo i ti. Llywelyn2000 (sgwrs) 10:58, 16 Gorffennaf 2015 (UTC)
- Hwn hefyd Nodyn:ISO 15924 alias.
- OK, dwi'm yn deall beth sydd wedi digwydd, mae'r bocs wedi ymddangos o rhywl ond dwi methu ei weld wrth olygu. Pan dwi'n cyfieithu termau mae'r bocs yn diflannu. Dwi am adael y peth i fod, Dwi'm yn deall sut mae yno na pham fod pethe eraill ddim yn ymddangos. Ond mae'n edrych yn well, felly, deall.
- Os wyt am iddo aros, bydd angen cyfieithu 3 Nodyn. Pob hwyl! Mi gymrai gip yn nes ymlaen heno, rhag ofn y byddi angen help. Llywelyn2000 (sgwrs) 11:21, 16 Gorffennaf 2015 (UTC)
Beth i'w gynnwys ar Wicipedia
[golygu cod]Henffych! Mae'n rhaid i bob erthygl gael o leiaf dwy ffynhonellau eilradd, 'safonol' a dibynadwy. Fel arfer mae hyn yn golygu sylw mewn papur cenedlaethol neu fod y testun ar wrthrych nodedig e.e. adeilad a gofrestwryd gan Cadw, llyfr a gyhoeddwyd, person sydd wedi gwneud rhywbeth nodedig. Cymer olwg ar:
Mi fasa'n bosib sgwennu am floryn ar ben-ol Taid yn y 1960au, ond ni dyma'r lle i'w gyhoeddi! Llywelyn2000 (sgwrs) 15:51, 12 Rhagfyr 2015 (UTC)
- So, beth fi 'di neud o'i le. Does neb erioed wedi son am dafodiaith Bryntaf. Oes rhaid aros nes bod rhywun yn sgwennu PhD ac yna ei gyhoeddi cyn sgwennu dim? Roeddwn i yno. Gallwn sgwennu (yn y trydydd person) 'mod i'n cofio hyn yn cael ei ddweud. —Cafodd y sylw hwn heb lofnod ei ychwanegu gan Stefanik (sgwrs • cyfraniadau) 18:50, 12 Rhagfyr 2015
- Dyma'r drafferth sy'n ein hwynebu am nifer o bynciau 'ymylol' (os caf ddefnyddio gair felly) - diffyg ffynhonellau. Ond gyda rhywbeth fel tafodiaeth Bryntaf e.e., a yw'n wirioenddol unigryw, ac os felly, sut mae wedi llithro dan radar ieithyddion? Peryglon ymchwil gwreiddiol, yn enwedig lle does dim arall wedi'i sgwennu amdano, gan foi gyda PhD neu rhywun mewn papur bro, yw nad oes modd bod yn sicr bod y sawl a sgwennod yr erthygl yn gwbod ei stwff, yn dweud y gwir neu yn ddi-duedd. Fel arfer mae gwaith sy'n cael ei gyhoeddi yn cael ei herio/wirio gan eraill. Yr unig ffordd o gwmpas hyn yw rhoi rhyw fath o disclaimer ar y gwaelod, lle dylai llyfryddiaeth a chyfeiriadau fod yn nodi mai arsylwadau un person yw'r rhain, ond dyw hynny ddim yn ddelfrydol chwaith.--Rhyswynne (sgwrs) 20:14, 12 Ionawr 2016 (UTC)
Timau Pel-droed Cenedlaethol Llydaw, Gwlad y Basg a Catalwnia
[golygu cod]Helo, dwi wedi sgwennu cofnodion rhai blynyddoedd yn ol bellach ar dimau pel-droed y tair gwald uchod. Os cofiaf yn iawn addasiadau oeddynt o'r erthyglau cyfatebol yn Saesneg. Roeddwn am darrodolen iddynt heddiw gan bod tim pel-droed Cymru'n lleoli ei sgwad yn Llydaw ar gyfer Euro2016 ond dwi methu eu ffeindio. Oes rhywun yn gwybod beth sydd wedi digwydd iddynt? —Cafodd y sylw hwn heb lofnod ei ychwanegu gan Stefanik (sgwrs • cyfraniadau) Diwygiad 18:50, 11 Ionawr 2016
- Mae Catalwnia a GyB yma, ond dim un Llydaw. Methu ei ffeindio wrth chwilio chwaith sori.--Rhyswynne (sgwrs) 20:00, 12 Ionawr 2016 (UTC)
- Mae dy holl olygiadau (ar yr enw Defnyddiwr yma!) i'w gweld yn fama: Arbennig:Contributions/Stefanik. Methais innau a ffindio dim am Lydaw gen ti. Awn rhagom! Llywelyn2000 (sgwrs) 22:59, 12 Ionawr 2016 (UTC)
Llwytho Delwedd i Wicipedia??
[golygu cod]Dwi'n ceisio llwytho delwedd o Gofeb Owain Lawgoch sydd ar y dudalen Ffrangeg i'r un Gymraeg (meddwl byddai'n ddiddorol ar gyfer ffans sy'n mynd i Ffrainc). Sut mae gwneud hyn?? Dwi wedi gwneud cut and past o'r ddelwedd o'r fersiwn Ffrangeg; dwi wedi safio'r llun ar fy nghyfrifiadur i i'w lwytho.
Wedi rhoi'r gorau iddi ar ol hanner awr.
- Haia! Hawdd fel baw! Does dim angen hyd yn oed ei lawr lwytho i'th ddisg galed, gan ei fod ar Comin, felly cwbwl tisio wneud ydy copio'i enw 'File:Monument à Yvain de Galles.JPG' a dyna ni! Yn fanwl:
- Clic dde a dewis 'Agor mewn tab arall'.
- Be sy'n agor ydy dalen y ddelwedd, tudalen ar Comin
- Copia'r teitl a rho fo lle tisio i'r llun ymddangos (Owain lawgoch)
- Rho chydig o cod wici o'i gwmpas ee [[Delwedd:Monument à Yvain de Galles.JPG|bawd|A sgwena be ti moin yn fama]]
- Cer i wneud panad, a meddwl mor hawdd ydy codio cymhleth! does dim rhaid newid 'File' i 'Delwedd' ond da ni i gyd yn gwneud, am ryw reswm!
Pob hwyl - a gad neges ar fy nhudalen defnyddiwr os ti isio. Llywelyn2000 (sgwrs) 17:14, 10 Mai 2016 (UTC)
Newid teitl
[golygu cod]Sut mae newid teitl? Dwi wedi sgwennu darn am y grwp roc Dolur Rhydd ac am newid yr 'r' i 'R' yn Rhydd. https://cy.wikipedia.org/wiki/Dolur_rhydd_(gr%C5%B5p_roc)
- Helo! Wrth y blwch chwilio mae na fotwm bychan 'Rhagor'; clicio hwn a dewis 'Symud'. Dw i newydd ei wneud i ti - rhag ofn na gei di hwn am sbel! Erthygl fach dda! '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 14:09, 11 Hydref 2016 (UTC)
- Diolch John. Cofiaf hynny at y dyfodol.
Comin fyrbwyll
[golygu cod]Mae na 4 o'th luniau wedi eu dileu ar Comin a dw i newydd ofyn cwestiwn i'r ddau dwat a heriodd y pedwar yn fama. Efallai fod ganddyn nhw dir i sefyll parthed y ddau cyntaf. Gallem roi cloriau llyfrau ar Wici Cymraeg dan drwydded 'Defnydd Teg', ond nid ar Comin. Fel yr awgryma'r enw, dim ond delweddau sy'n gyffredin rhwng pob iaith all gael eu huwchlwytho ar Comin. Ond fel dw i'n deud, mi elli eu huwchlwytho ar y WP Cymraeg yn fama. Parthed y ddwy ffeil arall a dynnwyd o Comin - yr unig sylw ganddyn nhw ydy ei fod yn anhebygol mai ti dynnodd y lluniau! Felly, fel y gweli, dw i wedi herio hynny. Croeso i ti gymryd rhan yn y drafodaeth. Paid a phoeni am hyn; mae nhw'n sticlars am fanylion ar Comin! Rhan o'r hwyl! Llywelyn2000 (sgwrs) 22:27, 19 Rhagfyr 2016 (UTC)
Llwytho Ffoto Richard Lewis (Cynhyrchydd a Chyfarwyddwr Teledu)
[golygu cod]Ddim yn deallpam fod y peth yn edrych yn fler! Wedi llwytho ar wikimedia neu common, ddim cofio pa un. Llwytho ar y dudalen ac mae maint y ffoto yn ymddangos. Ddim yn deall.
- Haia! Mae pethe'n haws ar cywici! Does dim angen unrhyw godio yn y wybodlen - dim ond enw'r llun / ddelwedd! Llywelyn2000 (sgwrs) 15:00, 16 Ionawr 2017 (UTC)
- ond be ti'n feddwl wrth 'enw'r llun'? Ydw i'n teipio fewn enw'r llun, Richard Lewis (Cynhyrchydd ... ddim cofio be di'r enw) neu ydw i'n cut and paste yr enw o'r barn URL?
You are invited!
[golygu cod]You are invited... | |
---|---|
The Celtic Knot: Wikipedia Language Conference - Programme now live.
|
Stinglehammer (sgwrs) 22:55, 22 Mai 2017 (UTC)
Dolen i erthyglau mewn ieithoedd eraill
[golygu cod]Dwi wedi cyfietihu erthygl Saesneg ar Refferndwm Annibynaieth Ynysoedd Ffaro i'r Gymraeg. Sut mae dolenni i'r ieithoedd eraill? https://en.wikipedia.org/wiki/Faroese_independence_referendum,_1946
Mae angen i ni hefyd gysoni sillafiad yr Ynysoedd mewn gwahanol erthyglau eraill. Mae weithiau'n Ffaro / Ffaroe a'r sillafiad cynhenid (sy'n anodd a thrwsgwl achos diacritig yr o, a hefyd dydym ni ddim yn galw Llydaw yn Breizh neu Gwlad yr Iâ yn 'Island'.
Pam methu llwytho delwedd o logo Ffederasiwn Rygbi'r Swistir i'r bocs yn GYmraeg?
[golygu cod]Dwi wedi bod yn ceisio llwytho logo rygbi swistir i'r bocs gymraeg gan gwneud cut and paste o'r Saesneg. Dwi'n newid dim. Pam nad uyw'r ymddangos? Fe wnaeth ymddangos unwaith, fe es i ati i gyfieithu'r isbenawdau e.e. Pencadlys etc ac fe ddiflannodd y logo!
Dau tim pel-droed cenedlaethol Liechtenstein!!
[golygu cod]Ar ol treilio lot o amser yn cyfieithu ac addasu darn am dim pel-droed genedlaethol Iechtenstein, dwi'n gweld fod un wedi ei wneud eisoes. Sdim modd i mi felly gysylltu gyda'r ddoleni yn yr ieithoedd eraill. Oes defnyddio fy erhtygl helaethach i yn lle yr un byrrach a ysgrifenwyd eisoes?
Dwi hefyd yn cael trfferth gyda logo i tim cenedlaethol efo hwn hefyd.
- O, na! 'Does na ddim byd gwaeth! Hyn wedi digwydd i minnau ambell waith! Bydd angen cyfuno'r ddwy! Gad i mi wybod os wyt angen cymorth! Llywelyn2000 (sgwrs) 19:33, 22 Mehefin 2017 (UTC)
- Diolch Llywelyn2000 - sut mae cyfuno'r ddau? Neu, beth sydd orau, symud fy erthtygl i draw i'r un byr neu'r un byr draw ataf i. Ond mae angen dileu un cofnod, wel yr un byraf. Hoffwn i gael hwn wedi ei wneud erbyn yfory (d. Llun) fel bod modd rhoi gywbod i'r sylwebwyr pêld-droed a Bala etc ar Twitter i gael sylw a darllenwyr).
Sefydlu grwp swyddogol i Gymru: Wicimedia Cymru
[golygu cod]Rhag ofn na welais ti'r sgwrs - mae cais di neud i ffurfio grwp swyddogol fel y Basgiaid. Beth am ychwanegu dy sylwadau? Wicipedia:Y Caffi#Sefydlu Grŵp Defnyddwyr Wicimedia '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 09:18, 12 Gorffennaf 2017 (UTC)
Kig-ar-farz
[golygu cod]Wedi sgwennu cofnod ar ki-ar-farz (y bwyd Llydewig). Mae pawb arall yn ei sgwennu heb y cysylltod ond y Llydawyr yn sgwennu gyda'r cysylltnod (ond gydag s yn lle z) beth yw'r canllaw am hyn? Ac pam nad oes modd i mi ei ddolenni i ieithoedd eraill + pam nad oes modd jyst torri a gludo ffotos draw?
Kwesi Kwaa Prah
[golygu cod]Sgwennais bostiad am yr ieithydd Kwesi Kwaa Parh sawl blwyddyn yn ôl. Mae dolen ar y dudalen Gymraeg i'r un gyfatebol Saesneg. (er mai 'mond fel Kwesi Prah mae'r Saeson yn ei adnabod). Am ryw reswm pan dwi'n cieio rhoi dolen yn y fersiwn Saesneg i'r un Gymraeg dwi'n cael y neges yn dweud, "https://cy.wikipedia.org/wiki/Kwesi_Kwaa_Prah could not be found on cywiki. The external client site, cywiki, did not provide page information for page https://cy.wikipedia.org/wiki/Kwesi_Kwaa_Prah" Beth sy'n bod?
Prishtina
[golygu cod]OK, dwi'n rhoi'r ffidil yn to! Dwi jyst ddim yn deall sut mae creu colofnau. Dwi'n ceisio torri a gludo ac yna cyfieithu colofn mewn iaith arall (Gaeleg yn achos Prishtina achos bod gan hwnnw dipyn o wybodaeth ond ddim gormod a'i bod yn edrych yn wahanol i'r Saesneg) ond dwi wedi methu. Dwi hefyd wedi ceisio copio a gludo colofn Saesneg ar Hanes Prishtina sy'n edrych yn dda. Ond wedi methu efo hwnnw hefyd.
Sut mae'n gweithio? Oes rhaid cyfieithu pob disgrifiad i'r Gymraeg?
Share your experience and feedback as a Wikimedian in this global survey
[golygu cod]Hello! The Wikimedia Foundation is asking for your feedback in a survey. We want to know how well we are supporting your work on and off wiki, and how we can change or improve things in the future. The opinions you share will directly affect the current and future work of the Wikimedia Foundation. You have been randomly selected to take this survey as we would like to hear from your Wikimedia community. The survey is available in various languages and will take between 20 and 40 minutes.
You can find more information about this survey on the project page and see how your feedback helps the Wikimedia Foundation support editors like you. This survey is hosted by a third-party service and governed by this privacy statement (in English). Please visit our frequently asked questions page to find more information about this survey. If you need additional help, or if you wish to opt-out of future communications about this survey, send an email through the EmailUser feature to WMF Surveys to remove you from the list.
Thank you!
Gwrth/cyd olygu!
[golygu cod]Re: Reykjavík Fawr. Wps, gan i ti beidio a golygu ers 6.00, mi gychwynais drwsio chydig aryr wybodlen a c yn y blaen, ond daethost nol; edit conflict! Gobeithio na chollaist swp o stwff? Mi ges i'r baneri i waethio, ond mae'r Wybolden hon yn hen iawn ac yn dda i ddim! Mi gedwais y llun, fodd bynnag! Cofion - a gwaith arbennig! '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 21:24, 3 Ebrill 2018 (UTC)
... Popeth yn iawn! Falch iawn bod rhywun yn twtio - dal lot o bethau dwi ddim yn ei ddeall! Gan dy fod di'n giamstar, efallai gelli di wneud mwy o dwtio i mi! Newydd sgwennu darn am y Thingvellir a rhoi'r teitl yno arno, ond gweld fod pawb arall yn ei sillafu y ffordd gywir Thingvellir. Oes modd i ti newid y teitl i Thingvellir ond bod pobl yn gallu ei ffeindio wrth deipio Thingvellir yn y bocs chwilio ar y wicipedia??
Lluniau - problemau efo Wikicommons
[golygu cod]Ydy Wikicommons ychydig yn rhy biwis? Oes wir problem efo defnyddio delwedd o boster hyrwyddo neu arfbais dref? A beth am ffotos o unigolion os ydy'r unigolion yno wedi rhoi y ffoto i chi a ddim yn cofio neu'n nabod y person a dynnodd y ffoto neu aelod o'r teulu neu ffrind a'i thynnodd a bod y ffoto yn amlwg ym meddiant y deilydd er mwyn ei ddefnyddio ar gyfer hyrwyddo?
Wn i ddim beth i wneud efo ffotos o Gerald Morgan (ffoto wnaeth e roi i mi ac sydd eisoes wedi bod ar wefan gwyldewiaber.cymru ers tair mlynedd. Neu beth am ffoto mae Gwilym Bowen Rhys wedi rhoi i mi wedi i mi ei holi amser cinio? Oes ffordd sydyn, call, teg i wneud hyn?
- Haia! Y person dynnodd y llun bia'r hawlfraint, fel arfer, oni bai fod cytundeb rhwng y ffotograffydd a pherson/corff arall yn dweud yn wahanol. Felly os oes rhywun wedi tynnu llun a'i roi i ti, does dim hawl ei roi ar Comin oni bai fod gen ti ebost ganddynt i'r perwyl - sy'n cael ei ddanfon i'r rhan honno o Comin sy'n deilio gyda hyn (OTRS). Wna nhw ddim derbyn cloriau llyfrau ar Comin, felly mae'n rhaid i'r rheiny gael eu huwchlwytho i wici fach ni. Hyn gan yw pob gwlad yn gweithredu rheol 'Cyfraith Teg'. Rho glawr llyfr ar fr-wici a mi ddaw lawr mewn chwinc. Mi faswn i'n awgrymu fod y lluniau rwyt wedi'u derbyn yn mynd ar wici ni (botwm ar y chwith, o dan y logo WP / glob. Rho nodyn arno iddyn nhw roi sel eu bendith iddo fynd ar drwydded CCBYSA, a gan ein bod yn gwybod dy enw / dy fod yn berson go iawn (!) yna mi arhosith yno! Mae hyn cystal, rhwyddach a chyflymach na mynd drwy OTRS, ond yn cyfyngu'r defnydd i wici bach ni. Os wy am ei roi i'r byd a'r betws, yna OTRS amdani!
- Ydy mae hyn i gyd yn bali niwsans, ar y cychwyn, ond edrych arno fel hyn: mae'r Llyfrgell Genedlaethol wedi uwchlwytho dros 13,000 o ffotograffau ar comin ar wahanol drwyddedau. Mae sawl sefydliad arall wedi gwneud pethau tebyg. Heb y gofal hwn o hawlfraint, heb y system o barchu gwahanol fathau o hawlfraint gwahanol fathau o gelf a gweithiau eraill, fydden nhw byth bythoedd wedi cymryd y cam yma! Be ydy Comin a wici, mewn gwirionedd ond gofalwyr / curaduwyr, archifwyr digidol eiddo pobl eraill. Mae ein hygrededd mewn gwirionedd yn dibynnu ar ansawdd y gwaith o reoli'r hyn sy'n dderbyniol o ran deunydd, ffotograffau, testun agored, a beth sydd ddim.
- Dwn im os yw hyn o help neu'n gwneud cawl gwaeth o'r broblem! Tra bod cymaint o wahanol ddeddfau cymhleth yn bodoli, ddaw hi ddim haws! Sian EJ (sgwrs) 20:41, 8 Ebrill 2018 (UTC)
Gwybodlenau a thablau Saesneg
[golygu cod]Diolch am dy ychwanegiad i'r dudalen Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad 2018 ond yn anffodus gan nad ydi'r wybodlen na'r lincs yn y tabl wedi eu cyfieithu rwyf wedi eu dileu am y tro - buasai'n wych eu cyfieithu ond hyd nes bod popeth yn y Gymraeg man y man i ni beidio eu pastio i erthyglau cy Blogdroed (sgwrs) 16:27, 8 Ebrill 2018 (UTC)
- Dw inna wedi tynnu ambell un hefyd. Fel mae Blogdroed yn ei awgrymu, amser ydy'r broblem: mae na tua mil a hanner o dempledi (neu 'Nodion') wedi'u cyfieithu a 7 mil heb (amcangyfri bras iawn). Sian EJ (sgwrs) 20:43, 8 Ebrill 2018 (UTC)
- Ie o'n i ar hanner cyfiethu y nodiadau i Gemau'r Gymanwlad ond mae 'na gymaint o is-nodiadau, modiwlau ac ati roedd hi'n cymryd gormod o amser i'w creu a cyfieithu. Fe a'i nol atyn nhw rywbryd. --Dafyddt (sgwrs) 21:20, 8 Ebrill 2018 (UTC)
- OK, deall hynny. Pam ddim cynnwys logo y gemau?
- Ie o'n i ar hanner cyfiethu y nodiadau i Gemau'r Gymanwlad ond mae 'na gymaint o is-nodiadau, modiwlau ac ati roedd hi'n cymryd gormod o amser i'w creu a cyfieithu. Fe a'i nol atyn nhw rywbryd. --Dafyddt (sgwrs) 21:20, 8 Ebrill 2018 (UTC)
Reminder: Share your feedback in this Wikimedia survey
[golygu cod]Every response for this survey can help the Wikimedia Foundation improve your experience on the Wikimedia projects. So far, we have heard from just 29% of Wikimedia contributors. The survey is available in various languages and will take between 20 and 40 minutes to be completed. Take the survey now.
If you have already taken the survey, we are sorry you've received this reminder. We have design the survey to make it impossible to identify which users have taken the survey, so we have to send reminders to everyone. If you wish to opt-out of the next reminder or any other survey, send an email through EmailUser feature to WMF Surveys. You can also send any questions you have to this user email. Learn more about this survey on the project page. This survey is hosted by a third-party service and governed by this Wikimedia Foundation privacy statement. Thanks!
Your feedback matters: Final reminder to take the global Wikimedia survey
[golygu cod]Hello! This is a final reminder that the Wikimedia Foundation survey will close on 23 April, 2018 (07:00 UTC). The survey is available in various languages and will take between 20 and 40 minutes. Take the survey now.
If you already took the survey - thank you! We will not bother you again. We have designed the survey to make it impossible to identify which users have taken the survey, so we have to send reminders to everyone. To opt-out of future surveys, send an email through EmailUser feature to WMF Surveys. You can also send any questions you have to this user email. Learn more about this survey on the project page. This survey is hosted by a third-party service and governed by this Wikimedia Foundation privacy statement.
Nodyn Trefi mwyaf Gwlad yr Ia, newydd
[golygu cod]Bore da! Dw i wedi gwneud rhestr ar ffurf Nodyn (templad) o'r 20 tref fwyaf yng Ngwlad yr Ia. Mi elli ei weld ar Reykjavík. Os nad wyt eisiau'r ddwy Nodyn - hwn a'r Nodyn:Cymunedau Gwlad yr Iâ gallwn gymhathu'r ddau. Newid e fel ti moin! Llywelyn2000 (sgwrs) 04:12, 20 Ebrill 2018 (UTC)
- Mi wnes i greu erthygl hefyd: Rhanbarthau Gwlad yr Iâ, gyda Nodyn. Dau anrheg Dolig cynta'r flwydyn i ti! Llywelyn2000 (sgwrs) 06:36, 20 Ebrill 2018 (UTC)
Amgueddfa Ceredigion
[golygu cod]Diolch am yr erthyglau rwyt wedi bod yn creu am Aberystwyth yn ddiweddar, Stefanik. Wyt ti'n ymwybodol bod Amgueddfa Ceredigion heb erthygl ar hyn o bryd? Ham II (sgwrs) 09:36, 17 Mai 2018 (UTC)
- Diolch Ham II am dy eiriau caredig. Newyd sgwennu darn am Amgueddfa ceredigion. Af i ati i dynnu llun o'r fynedfa newydd pan fydd y tywydd yn braf.
- Bendigedig! Ham II (sgwrs) 17:47, 20 Mai 2018 (UTC)
Logo FK Trakai
[golygu cod]Pam nad yw logo/arfbais clwb pel-droed Trakai yn dod i fynny ar fy nghofnod i? Wedi torri a gludo o'r Saesneg a methu ffeindio'r logo ar y wikicommons i'w roi fel delwedd yn yr erthygl chwaith.
Wici365
[golygu cod]Mae na ddalen prosiect, bellach ar hyn! Gweler Wicipedia:Wicibrosiect Wici365. Fe weli ddolen i dy erthyglau di yno; ond dim ond os wyt ti wedi cofrestru fel Defnyddiwr:Stefanik pan wnest ti gadw / cyhoeddi'r erthygl. Fel arall, bydd yn rhaid i ti eu hychwanegu gyda llaw. Mae hyn yn ffordd o weld os fyddwn ni wedi cyrraedd 365 erthygl mewn blwyddyn, hy un y dydd ar gyfartaledd! Unrhyw syniadau neu awgrymiadau eraill - tyrd a nhw! Syniad gwych iawn, dw i'n meddwl, ond mae gen i waith dal fyny! Llywelyn2000 (sgwrs) 15:23, 20 Medi 2018 (UTC)
- Grêt,diolch am roi gwybod, roeddwn i'n meddwl ddoe sut oedd gweld sawl erthygl oeddwn i wedi sgwennu hyd yma! Felly, dwi rhyw un trydydd o'r ffordd ond hanner ffordd drwy'r flwyddyn! Wedi bod yn slac dros y mis neu ddau ddiwethaf! Be' di'r rhifau ar ôl yr enw?
- Dwi'n cymryd fod y system yn diweddaru ei hun, fel rhyw fath o bot ac nad oes angen i fi gostrefru erthygl bob tro? —Cafodd y sylw hwn heb lofnod ei ychwanegu gan Stefanik (sgwrs • cyfraniadau)
- Nac ydy, ysywaeth! Mi holais ar Meta, ond does na ddim gair-hyd i wneud y job. Gelli weld dy gyfraniadau yn fama, a'u diweddaru wrth fynd ymlaen. Cofia lofnod ar ddalenau sgwrs efo 4 tilde (sgwigl). Llywelyn2000 (sgwrs) 22:12, 25 Medi 2018 (UTC)
Gwerthfawrogiad o'th waith Arbennig | ||||
Carwn gyflwyno'r seren hon i ti, rhen gyfaill, fel gwerthfawrogiad o'th waith arbennig, yn enwedig am sefydlu a chwbwlhau prosiect #wici365! Cyflwyniad personol ydy hwn, ond gwn hefyd fod dy waith yn cael ei werthfawrogi gan y gymuned a'r darllenwyr! Diolch! Llywelyn2000 (sgwrs) 13:01, 28 Mawrth 2019 (UTC) |
Good morning, dearest Stefanik, how are you? Just to thank you for the help in this page. I'll be pleased to help you in Italian and Portuguese, if you need. Diolch!
Sincerely
Rei Momo (sgwrs) 08:33, 6 Rhagfyr 2018 (UTC)
- Bore da, buongiorno Rei Momo! No problem at all. It was great to see an entry about her. A nice addition to the Welsh pages. Diolch.
Lluniau
[golygu cod]Newydd weld dy luniau ar Comin! Gwych iawn. Rhoddais gategori mwy manwl ar rai ee Commons:Category:Choirs from Wales. Llywelyn2000 (sgwrs) 10:13, 11 Rhagfyr 2018 (UTC)
- Diolch - heb sylwi fod yna gategori corau cymreig. Diolch.
Moronen
[golygu cod]Bach o ddryswch, wedi sgwennu erthygl go faith ar moron ac yna gweld fod un lot llai ar moronen. Dwi nawr wedi cyfuno'r ddau o dan 'moronen'. Ond mae'r ddolen yn Moronen yn mynd i'r Daucus carota mewn Saesneg ac ieithoedd eraill ac nid i'r mwy amlwg dolen i 'carrots' etc (dyna'r rheswm i mi beidio gweld fod erthygl eisoes). Oes modd cadw erthygl fer i'r ddolen gyda'r enw Lladin ac yna'r fersiwn hirach ar gyfer 'carrots'. Eich barn? Llywelyn2000 Dafyddt
- Haia'r traethwr toraethog! Newydd fod wrthi; gwira fod popeth yn ei le os g yn dda. Tri peth bach:
- Cofia arwyddo tudalennau fel hyn efo 4 sgwigl (tilde; Llywelyn2000 (sgwrs) 06:58, 30 Rhagfyr 2018 (UTC)) ac
- er mwyn i Dafydd a finna gael ebost pan rwyt yn gosod neges, gelli ddefnyddio'r system Ping. Rho enw/au'r person yn y dull yma: {{Ping|Dafyddt|Llywelyn2000|EnwArall}}
- Yn ola, rhag ofn ei fod o help: mae ==Cyfeiriadau== yn creu pennawd, ond yn union oddi tano, mae angen y templad / nodyn {{cyfeiriadau}} er mwyn tynnu holl gyfeiriadau'r erthygl i'r fan honno. :Dyma dair colofn o wenithfaen, a all wneud bywyd yn haws i ti yn 2019! Os ti awydd sesiwn ar wici unrhyw dro, rho wybod a dof draw i Aber! Cofion.... Llywelyn2000 (sgwrs) 06:58, 30 Rhagfyr 2018 (UTC)
- {{Ping|Dafyddt|Llywelyn2000}} Diolch Robin. Ie, bydde sesiwn yn handi. Rho wybod os ti'n Aber. Bydde'n dda cael awr fach i ddallt y dallting ... gan gynnwys holl gynnwys y neges uchod. Lot o bethau dal yn ddirgelwch i mi.
- {{Ping|Dafyddt|Llywelyn2000}} Sori, wnes i bach o coc-yp efo Cymdeithas Ddawns Weri (heb yr 'n') Cymru - dwi'n cymryd fod y dudalen yn wedi ei dileu?
- Ie, wnes i gymharu yr un cywir a gweld fod yr holl wybodaeth wedi ei ychwanegu yna ar ôl yr un heb 'n', felly wnes i ddileu y copi. Gyda llaw, dwi wedi creu y categori Categori:Cymdeithasau Cymreig am fod o leia dau gofnod all fynd yn y categori yma nawr (a bosib mwy). --Dafyddt (sgwrs) 21:13, 20 Ionawr 2019 (UTC)
- Hi. Sorry for EN. You done FK Trakai - great job. Information for CY_wiki: FK Trakai changed name to FK Riteriai alyga.lt. Riteriai - knights, as you know. --Makenzis 12:00, 23 Feb 2019 (CET)
Baner Gweriniaeth Ddemocrataidd Congo
[golygu cod]@Dafyddt, Llywelyn2000: Helo, be 'di'r sefyllfa pan fod enw gwlad wedi ei nodi mewn gwahanol ffyrdd ar wicipedia? Ee, newydd sgwennu am Faner Gweriniaeth Ddemocrataidd Congo - sef y ffurf sydd yn yr egin Baneri Affrica, ond enw'r wlad fel gwladwriaeth yw Gwer. Ddem Y Congo, ac felly, dydy'r ddolen i'r faner ddim yn fyw yn y golofn wybodaeth am y wlad sydd ar ochr dde'r dudalen. Mae hyn yn wir hefyd am wahanol sillafiadau o wledydd, yn enweidg pan fod gwledydd weithiau wedi eu sillafu ag orgraff Gymraeg a weithiau yn yr orgraff gynhenid neu Saesneg.
- Pa hwyl? Mi atebais gwestiwn tebyg yn fama: Sgwrs Nodyn:Baneri Affrica. Be ydy dy farn? Llywelyn2000 (sgwrs) 12:39, 28 Mawrth 2019 (UTC)
Gwlad Iorddonen a Phalesteina
[golygu cod]Pa hwyl Sion? Dw i'n gadael neges i ti, gan dy fod wedi sgwennu cymaint ar wahanol wledydd. Yn dilyn cynhadledd Donostia, dw i newydd gychwyn prosiect bach ar Wlad Iorddonen: Wicipedia:WiciBrosiect Arabeg. Plis wnei di ystyried sgwennu unrhyw beth ar y wlad? Bydd criw o brifysgol Hashemite (sydd ar ganol eu arholiadau ar hyn o bryd) yn troi atom cyn hir, a byddai cysylltu gyda nhw'n beth da. Byddai unrhyw gymorth yn wych! Gwnes gysylltiad gyda'r Grwp Defnyddwyr Palesteinaidd hefyd, pe baem eisiau ail brosiect mewn rhyw fis neu ddau. Ymlaen! Llywelyn2000 (sgwrs) 14:08, 11 Ebrill 2019 (UTC)
- (sgwrs) Ie, dim probs, syniad da! Sgwenna' i stwff am Wlad Iorddonen (ai dyna ydym yn ei ddefnyddio fel yr enw cywir? - credu bod yna wahanol fersiynau, a credu nad ydym wedi cadarnhau'r enw am Transjordan fel galwyd hi hyd 1967 neu rhyw gyfnod tebyb). Ond ie, dim probs - da cael ffocws. Oes amserlen / terfyn i hwn? Wicipedia:WiciBrosiect Arabeg (sgwrs) 12:14, 12 Ebrill 2019 (UTC)
- Gwych! Dw i wedi ateb hwn yn y Caffi yn fama: Wicipedia:Y Caffi#WiciBrosiect Arabeg /_اللغة_الويلزية_-_مشروع_عربي. Cofion cynnes... Llywelyn2000 (sgwrs) 07:13, 18 Ebrill 2019 (UTC)
Hi. Thank you so much for your efforts in Arabic-Wales collaboration. that is much appreciated. on behalf of the Wikipedia education program team at the hashemite university in jordan. Thanks!--Avicenno (sgwrs) 14:55, 5 Mehefin 2019 (UTC)
Logo ar erthyglau - fideo 3 munud
[golygu cod]Haia! Fideo syml (gobeithio) yn mynd drwy'r broses o safio / cadw logo o enwici ar dy ddisg caled, yna'i uwchlwytho i cywici. Gobeithio y bydd o help efo'r gwybodleni! Cofion cynnes iawn! Llywelyn2000 (sgwrs) 18:43, 20 Mai 2019 (UTC)
- Diolch - hwn 'di bod yn lot o help. Wedi dechrau llwytho delweddau arfbeisiau timau pêl-droed gan fwyaf, ond cefais broblem efo un Dinamo Zagreb. Dim problem copio'r ddelwedd ond am nad oedd llinell "image" ar wybodlen Saesneg doedd dim lle i'w lwytho wrth wneud fersiwn Gymraeg. Ond, beth bynnag, y fideo yn grêt. Diolch Llywelyn2000 (sgwrs) Stefanik (sgwrs) 10:22, 13 Mehefin 2019 (UTC)
Help! Aderyn Ffrigad neu Adar Ffrigad??
[golygu cod](sgwrs) Llywelyn2000Dafyddt (sgwrs) Wedi sgwennu darn ar Aderyn Ffrigad sylwi yn https://cy.wikipedia.org/wiki/Aderyn bod yr aderyn wedi ei nodi fel Adar Ffrigad. Ddim yn gwybod digon am adar na'n bwysicach efallai rhestri adar, a ddylwn newid 'Aderyn Ffrigad' i 'Adar Ffrigad' er cysondeb? Llywelyn2000 (sgwrs) Stefanik (sgwrs) 20:40 17 Gorffennad 2019 (UTC)
- Mae aderyn yn iawn ar gyfer yr erthygl yn sôn am y teulu o adar. Mae'r categoriau Wikidata yn defnyddio'r ffurf luosog ond mae'r erthyglau yn enw unigol fel arfer. Dyna gyd fasen i'n wneud yw newid i lythyren fach 'Aderyn ffrigad'. --Dafyddt (sgwrs) 20:06, 15 Gorffennaf 2019 (UTC)
- Nid yn amal mae Dafydd Tomos a finna'n anghytuno a'n gilydd (erioed, i mi gofio!), ond mae na dro cynta i bopeth! Rwyt ti wedi cyfieithu'r erthygl Saesneg ar y Frigatebird, ac yno mae'r anghysondeb, nid ar yr enw Cymraeg! Frigatebirds ddylai teitl yr erthygl fod yn Saesneg gan mai erthygl ar y teulu o adar yw hon ac nid ar unrhyw un rhywogaeth. Mae'r rhywogaethau wedi'u rhestru yn yr erthygl, gydag Aderyn ffrigad gwych yn enghraifft o rywogaeth, a hwnnw sy'n cael ei roi yn y wybodlen yn enghraifft o un o'r teulu. Yr ail faen tramgwydd efallai yw mai un genws sydd yn y teulu Adar ffrigad / Fregatidae, ac felly nid oes angen erthygl ar y genws, dim ond ailgyfeiriad i'r erthygl hon.
- Mae'r categori Categori:Teuluoedd o adar yn un cynhwysfawr, gyda dwy ran iddi. Yn y rhan ucha mae isgategoriau - mewn Lladin - ac yn y rhan isa mae erthyglau yn y categori "Teuluoedd o adar" - dyma lle mae hon yn perthyn. Fel y gweli, mae enwau'r teuluoedd hyn yn Gymraeg (nid Lladin) ac yn y lluosog. Y categori ddylai fod ar dy erthygl newydd di yw 'Categori:Teuluoedd o adar' ac nid Fregatidae (eto, mae'r Saesneg yn anghywir!), er y gellir dadlau fod angen Fregatidae gan fod yr erthygl (i raddau) hefyd yn son am y genws.
- Mi wneith @Cell Danwydd, Duncan Brown: fy nghywiro os dw i'n anghywir, dw i'n siwr. Ond yn bennaf - diolch am erthygl dda! Llywelyn2000 (sgwrs) 06:02, 16 Gorffennaf 2019 (UTC)
- Diolch bawb. Gan 'mod i ond wedi sgwennu'r erthygl oherwydd i mi weld bwlch wrth sgwennu erthygl ar baner Ciribati a hwnnw ond oherwydd i mi weld bod hi'n ddiwrnod annibyniaeth Ciribati ar Wicipedia rhyw ddiwrnod neu ddau yn ôl, ga' i ofyn i bobl llawer doethach na fi i symud/categoreiddio (a chywiro!) yr erthygl fel sydd orau. Dwi ddim am wneud smonach o'r system! Diolch. Sticiaf at faneri!! ;-) Llywelyn2000 (sgwrs) @Cell Danwydd, Duncan Brown: Dafyddt (sgwrs) Stefanik (sgwrs) 11:42, 16 Gorffennaf 2019 (UTC)
- Popeth yn edrych yn iawn rwan! - Duncan
- Mae'n iawn anghytuno - byddai rhywun yn dysgu dim fel arall!. O'n i'n meddwl mai enw unigol yw'r arfer o ran gwyddoniadur. Er enghraifft, mae yna sawl aderyn gyda'r enw titw ond Titw yw'r teitl er ei fod yn sôn am ditwod yn yr erthygl. Mae yna rywfaint o anghysondeb. Mae cywiki yn sôn am Mwncïod y Byd Newydd lle mae'r gair unigol sydd mewn ieithoedd eraill. Er hynny wnai gymryd cyngor arbennigwyr ar dermau natur/anifeiliaid. --Dafyddt (sgwrs) 11:36, 16 Gorffennaf 2019 (UTC)
- Grwp o deuluoedd o adar ac enw ar lafar yw titw neu titwod, nid enw gwyddonol. Mae'n cynnwys sawl teulu gwyddonol gan gynnwys Titwod cynffonhir a'r Paridae. Unwaith eto, mae'r saesneg yn anghyson (unigol 'tit' yw'r teitl, lluosog sydd yn yr erthygl!) Mae'r gwahaniaeth yma'n hanfodol, e.e.:
- Titwod cynffonhir - erthygl ar y teulu
- Titw cynffonhir - erthygl ar un o'r teulu sef rhywogaeth. Llywelyn2000 (sgwrs) 05:03, 17 Gorffennaf 2019 (UTC)
- Mae'n iawn anghytuno - byddai rhywun yn dysgu dim fel arall!. O'n i'n meddwl mai enw unigol yw'r arfer o ran gwyddoniadur. Er enghraifft, mae yna sawl aderyn gyda'r enw titw ond Titw yw'r teitl er ei fod yn sôn am ditwod yn yr erthygl. Mae yna rywfaint o anghysondeb. Mae cywiki yn sôn am Mwncïod y Byd Newydd lle mae'r gair unigol sydd mewn ieithoedd eraill. Er hynny wnai gymryd cyngor arbennigwyr ar dermau natur/anifeiliaid. --Dafyddt (sgwrs) 11:36, 16 Gorffennaf 2019 (UTC)
- Popeth yn edrych yn iawn rwan! - Duncan
Pwy 'di'r Dihiryn!? Rhywun yn mynnu newid 'right' i 'dde'
[golygu cod]Mae 'na rhywun yn mynd yn systematig drwy erthyglau dwi'n sgwennu (ac efallai pobl eraill) yn mynnu newid y gair Saesneg 'right' yn y cod efo lluniau i 'dde'. Mae hyn yn symud y ddelwedd i ochr chwith y dudalen sy'n edrych yn flêr ac yn amaturaidd.
Dwi'n hapus iawn i bobl gywiro a newid fy erthyglau, ond mae hyn yn beth hollol di-bwrpas, gwastraffu amser ac yn neud smonach o ddyluniad tudalen. Oes modd cael y person/nau yma i stopio. Newydd sylwi iddo wneud yr un peth i'r erhtygl ar Dad-ddofi wnes i ychwanegu llawer ato, gan gynnwys llwytho'r lluniau https://cy.wikipedia.org/wiki/Dad-ddofi Llywelyn2000 (sgwrs) @Cell Danwydd, Duncan Brown: Dafyddt (sgwrs) Stefanik (sgwrs) (sgwrs) (sgwrs) 22:33, 17 Gorffennaf 2019 (UTC)
Ddim yn euog Steffan - ac yn cyd-ymdeimlo (ond yn edrych ymlaen at ddarllen eich sylwadau ar ddad-ddofi). Duncan
- Mae'n debyg fod @Sian EJ: wedi rhedeg bot cywiriadau iaith oedd yn cynnwys hynny fel patrwm cyfnewid. Y peth gorau ar gyfer delweddau yw dweud 'bawd' neu 'bawd|dde' er mwyn cael llun ar y chwith gyda capsiwn oddi tano (neu 'bawd|chwith' mewn rhai achosion). Mae'n ymddangos fod 'bawd' ar goll o'r erthygl yna. --Dafyddt (sgwrs) 23:26, 17 Gorffennaf 2019 (UTC)
- Mae Sian i fod i wiro gyda llaw a llygad, wrth redeg y bot cyfieithu, a dw i'n siwr mai llithriad bychan oedd hwn. Ond fel mae Dafydd T yn dweud, roedd y gair 'bawd' ar goll, a dyna oedd y rheswm dros y blerwch esthetig. Llywelyn2000 (sgwrs) 04:53, 18 Gorffennaf 2019 (UTC)
- Iawn, OK, dwi just yn copio a gludo delweddau Saesneg (ac ieithoedd eraill i gael amrywiaeth) ac yn rhoi'r côd yn Saesneg gan 'mod i ddim yn siwr, neu, efallai wedi cael anlwg rhyw dro gyda côd Cymraeg. Dwi'n gewrthfawrogi'n fawr pobl neu bot yn gwella unrhyw beth dwi'n sgwennu - mae'n gysur gwybod bod rhywrai eraill yn gwneud - ond wn i ddim os mai newid testun côd nad oes prin 6-12 person am weld, yw'r peth bwysicaf i dreilio amser arno, oni bai bod rheswm technegol gan Wikipedia. Diolch am ymateb. Llywelyn2000 (sgwrs) @Cell Danwydd, Duncan Brown: Dafyddt (sgwrs) Stefanik (sgwrs) (sgwrs) (sgwrs) 18 Gorffennaf 2019 (UTC)
- Dyna ni i gyd wedi dysgu rhywbeth ynde? Duncan
- Gyda llaw, dwi'n meddwl taw "dde" yw'r broblem benodol yma. Mae'r lluniau'n gweithio'n iawn pan ddefnyddir "de" yn lle "right". (Yn fy arbrofion i, beth bynnag.) Y treigladau hynny! --Craigysgafn (sgwrs) 15:09, 18 Gorffennaf 2019 (UTC)
- Fy ymddiheuriadau, a diolch Craigysgafn! Mi newidiaf y cod i 'de'. Dim amser i wneud llawer y dyddiau hyn! Sian EJ (sgwrs) 14:30, 30 Gorffennaf 2019 (UTC)
A allech chi edrych ar yr erthygl hon a cheisio trwsio delwedd y map, os gwelwch yn dda? Deb (sgwrs) 09:41, 14 Awst 2019 (UTC)
- Helo Deb (sgwrs) - yn anffodus, dwi ddim yn gwybod sut mae twtio y ddelwedd o fap Norwy gyda lleoliadau'r timau. Wnes i fenthyg y ddelwedd o'r erthygl gyfatebol Almaeneg a dwi wedi ceisio ei roi mewn lle taclusach (a gyda ffâm) ond heb wybod sut. Sori. Os wyt ti'n deall y pethau cyfrin yma, yna plîs golygfa fe - byddai'n fendith iawn. Dwi'n cael trafferth gyda phob map o leoliadau timau pêl-droed, ddim yn deall pam. Llywelyn2000 (sgwrs)
Nodyn:World Rugby Rankings ayb
[golygu cod]Mae'r dudalen Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Ffiji yn edrych yn dda gen ti! mi wnes i ailgyfeirio dolennau coch i enwau cywir erthyglau sydd i'w creu, neithir. Dydy hyn ddim yn ymarfer da, a dweud y gwir, gan fod y rhestr ar Nodyn:World Rugby Rankings yn edrych fel pe tai na erthygl ar bob gwlad (dolen las)! Ond efallai fod y broblem wreiddiol wedi'i setlo.
Un peth aral: mi wnes i weithio rhyw ychydig ar y tabl oddi tano hefyd. Y broblem yw cadw hon yn gyfoes! Efallai, yn y dyfodol, mai'r peth gorau ydy peidio a'i chynnwys nes fod y tymor drosodd, a'r tabl yn gyflawn! Ond ti a wyr. Ond, gwych gweld erthyglau gwahanol yn cael eu creu, rhai sy'n ymwneud a'r byd mawr, yn ogystal a Chymru fwy! Llywelyn2000 (sgwrs) 12:32, 22 Awst 2019 (UTC)
- Diolch yn fawr i ti Robin Llywelyn2000 (sgwrs) - edrych lot gwell! Wedi gwneud cwpwl o dimau cenedlaethol eraill ers hynny, felly, pethau'n dechrau siapo ar gyfer CRB. Stefanik (sgwrs) 14:07, 22 Awst 2019 (UTC) -
Community Insights Survey
[golygu cod]Share your experience in this survey
Hi Stefanik,
The Wikimedia Foundation is asking for your feedback in a survey about your experience with Wicipedia and Wikimedia. The purpose of this survey is to learn how well the Foundation is supporting your work on wiki and how we can change or improve things in the future. The opinions you share will directly affect the current and future work of the Wikimedia Foundation.
Please take 15 to 25 minutes to give your feedback through this survey. It is available in various languages.
This survey is hosted by a third-party and governed by this privacy statement (in English).
Find more information about this project. Email us if you have any questions, or if you don't want to receive future messages about taking this survey.
Sincerely,
RMaung (WMF) 16:20, 9 Medi 2019 (UTC)
Reminder: Community Insights Survey
[golygu cod]Share your experience in this survey
Hi Stefanik,
A couple of weeks ago, we invited you to take the Community Insights Survey. It is the Wikimedia Foundation’s annual survey of our global communities. We want to learn how well we support your work on wiki. We are 10% towards our goal for participation. If you have not already taken the survey, you can help us reach our goal! Your voice matters to us.
Please take 15 to 25 minutes to give your feedback through this survey. It is available in various languages.
This survey is hosted by a third-party and governed by this privacy statement (in English).
Find more information about this project. Email us if you have any questions, or if you don't want to receive future messages about taking this survey.
Sincerely,
RMaung (WMF) 19:49, 20 Medi 2019 (UTC)
Ystyr geiriau Almaeneg
[golygu cod]Dwi wedi bod yn gwneud newidiadau bach i'r erthyglau am gytundebau Fienna. Dwi'n sylwi mai o'i Almaeneg ti'n eu cyfieithu sy'n bach o her wedyn wrth wirio rhai pethau! Un frawddeg a oedd yn peri dryswch oedd yr un olaf un:
- Yn Transylfania, hefyd, ar wahân i ddadleoliad yr Almaen, bu ymosodiadau revanchistig yn erbyn trigolion Hwngari.
Yn yr Almaeneg ceir:
- Auch in Siebenbürgen kam es neben der Deutschenvertreibung zu revanchistischen Übergriffen gegen ungarische Einwohner.
Mae Deutschenvertreibung yn cyfeirio at Rumäniendeutsche, sef en:Germans of Romania. Felly ydy Romaniaid o dras Almaenig neu Almaenwyr Rwmania yn dderbyniol? O ran revanchistig/revanchistischen, mae gwefan Merriam-Webster yn dweud mai ystyr revanche yw:
- Revanche first appeared in English in the mid-19th century, deriving, along with our noun "revenge," from the Middle French verb revenchier ("to revenge"). The word developed its specific political application in the years following the Franco-German War (1870-71), which resulted in France losing the territory known as Alsace-Lorraine to Germany. (The territory was returned to France following World War I and then twice switched hands again during World War II.) Although "revanche" appears occasionally in English today, you are more likely to encounter its relatives "revanchism," which refers to a government's policy of revanche, and "revanchist," referring to a follower of such a policy. These words did not appear in English until the 20th century.
Dwi'n deall mai nid 'dial' yw'r ysytyr bellach, ond alla i ond meddwl am 'dialgar' fel ansoddair yma. Er, efallai dylid cyflwyno a chytuno ar fathiad, yn enwedig os bydd rhywun yn rhoi cynnig ar gyfieithu en:Revanchism!--Rhyswynne (sgwrs) 21:03, 28 Ebrill 2020 (UTC)
- Diolch am fwrw golwg - dwi'n defnyddio Googletranslate ac yna yn ceisio gwirio wrth weld fersiwn Saesneg neu darllen y cyd-destun. Diolch am wirio. Gwerthfawrogi. [Defnyddiwr:Stefanik|Stefanik]] (sgwrs) 09.55, 29 Ebrill 2020 (UTC)
Cytundeb
[golygu cod]O'r 3 gwybodlen (Person, Lle a Phethau), Nodyn:Pethau yw'r gorau i'w roi ar dy erthygl Cytundeb Osimo. Felly copia:
{{Pethau| fetchwikidata=ALL | gwlad = {{banergwlad|Iwgoslafia}}<br /> {{banergwlad|Yr Eidal}} | suppressfields= *}}
ar frig y dudalen ac fe ddylai weithio. '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 12:40, 6 Mai 2020 (UTC)
- Wedi gwneud. '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 17:10, 6 Mai 2020 (UTC)
- wedi diwygio rhai o'r cytunebay - edrych lot yn well, diolch o galon! Gwybod be i wneud tro nesa, (sgwrs) (sgwrs) '''Defnyddiwr:Stefanik'''
Black Lives Matter
[golygu cod]Dwi wedi sgwennu erthygl ar BLM ond yn gweld bod y geiriad 'Black Lives Matter' yn mynd draw i dudalen ar Brotestiadau George Floyd. Oes modd dad-wneud y ddolen uniongyrchol hynny (a lincio Protestiadau George Floyd i'r dudalen Saesneg o'r un enw)? Gallaf wedyn roi fewn yr erthgl benodol ar BLM. Stefanik (sgwrs) 12:51 17 Mehefin 2020 (UTC) Llywelyn2000 Jason.nlw
Universal Code of Conduct
[golygu cod]Hi Stefanik
I was asked by Wikimedia Foundation to promote this call for participation on the planned Universal Code of Conduct.
Best regards --Holder (sgwrs) 04:35, 14 Awst 2020 (UTC)
At times, our contributor communities and projects have suffered from a lack of guidelines that can help us together create an environment where free knowledge can be shared safely without fear.
There has been talk about the need for a global set of conduct rules in different communities over time. Recently, Wikimedia Foundation Board of Trustees announced a Community Culture Statement, asking for new standards to address harassment and promote inclusivity across projects. [1]
The universal code of conduct will be a binding minimum set of standards across all Wikimedia projects, and will apply to all of us, staff and volunteers alike, all around the globe.. It is of great importance that we all participate in expressing our opinions and thoughts about UCoC and its values. We should think about what we want it to cover or include and what it shouldn’t include, and how it may create difficulties or help our groups.
This is the time to talk about it. Before starting drafting the code of conduct, we would like to hear from you and to solicit the opinions and feedback of your colleagues.
In order for your voice to be heard, we encourage and invite you to read more about the universal code of conduct (UCoC) [2] and then write down your opinions or feedback on the discussion page [3]. To reduce language barriers during the process, you are welcomed to translate the universal code of conduct english main page into your respective local language [4]. You and your community may choose to provide your opinions/feedback using your local languages.
C.P.D. Merched Tref Aberystwyth
[golygu cod]Helo, dwi 'di sgwennu ar https://cy.wikipedia.org/wiki/C.P.D._Merched_Tref_Aberystwyth - dau beth:
1. Mae'r ddolen Gymreg o'r erthygl Saesneg wreiddiol yn mynd i'r dudalen ar CPD Tref Aberystwyth (dynion) a dwi i ddim sut mae newid hynny, er 'mod i wedi newid ar y dudalen data (dwi'n meddwl).
2. Sut mae creu eginyn neu rhywbeth ar gyfer Pêl-droed Merched yng Nghymru? Stefanik (sgwrs) 13:48 27 Awst 2020 (UTC) Llywelyn2000 Jason.nlw
Helo Stefanik. Mae'n edrych fel bod ti wedi datrus y problem cyntaf ar Wikidata - dyna'r ffordd cywir i neud e. Efo cychwyn tudalen newydd am Pêl-droed Merched yng Nghymru, cliciwch ar y linc coch yma er mwyn dechrau'r tudalen. Rowch ping i fi eto os wyt ti eisiau rhagor o cymorth. Diolch! Jason.nlw (sgwrs) 13:41, 27 Awst 2020 (UTC)
- Helo Jason.nlw (sgwrs) so, wyt ti wedi creu eninyn neu rhywbeth arall. Dyma dwi ddim yn ei ddeall. Am wn i, dwi'n ceisio creu beth bynnag yw'r term arm ac yna mae erthlau ar y pwnc yna yn gallu mynd i'r categori yna. (sori, dwi ddim yn dda iawn ar y rhan yma o waith y Wicipedia!!). Dwi ddim yn siwr sut mae creu gwahanol gategori newydd neu beth yn union yw egynin! Haws siarad ar y ffôn neu zoom!! Stefanik 14:55, 27 Awst 2020 (UTC)
We sent you an e-mail
[golygu cod]Hello Stefanik,
Really sorry for the inconvenience. This is a gentle note to request that you check your email. We sent you a message titled "The Community Insights survey is coming!". If you have questions, email surveys@wikimedia.org.
You can see my explanation here.
MediaWiki message delivery (sgwrs) 18:48, 25 Medi 2020 (UTC)
Palesteina a gwledydd eraill
[golygu cod]Tybed a gawn ni dy help i ychwanegu gwybodaeth am Balesteina? Mae na brosiect bach da ar Meta. Llawer ohonom yn ddiolchgar iawn i ti am dy waith dros y blynyddoedd. Gelli ychwanegu unrhyw bwnc neu destun (o fewn y 4 themau diwylliannol). '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 09:14, 3 Awst 2021 (UTC)
- wrth gwrs, sgwennes i gofnod ar Brifygol Bir-zait rhyw flwyddyn yn ôl fel mae'n digwydd (sylwi, wrth basio, nad oes categori i Brifysgolion Asia neu'r Dwyrain Canol, er bod ar gyfer Ewrop). Beth bynnag, beth yw'r drefn? Pa erthyglau sydd angen eu cyfieithu? '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 09:56, 23 Awst 2021 (UTC)
- Prifygol Bir-zait - wel do hefyd! Angen creu erthygl ar bob prifysgol sydd ganddyn nhw. Yr argraff mae'r BiiiB yn ei roi yw nad oes nac ysgol na choleg yn y 'rhanbarth' gyfan!
- Diolch am greu erthyglau ar Balesteina - a mae'n ddrwg gen i os es i ar dy draws di bore ma! Yr ateb, dw i'n meddwl ydy clustnodi erthyglau cyn dechrau, fel bod pawb yn gwweld. Mi ddechreuai wneud hynny o hyn ymlaen!
- Yn ail, ydy 'Rhanbarth Tubas' ayb yn gywir / dderbyniol? Mae'n gas gen i'r gair mae Google Translate yn ei gynnig: 'Llywodraethiaeth'! Cwlwm tafod os clywais i un erioed! Dw i ddim yn gweld dim o'i le mewn creu pob un Rhanbarth, a'u hychwanegu i'r tabl (neu unrhyw beth o dy ddewis - ond dim byd gwleidyddol medd Llyw (neu mi fydd y Palesteiniaid yn cael eu targed gan iw-no hw). Cell Danwydd (sgwrs) 14:19, 23 Awst 2021 (UTC)
- Mi wnest yn gywir yn creu categori yn yr erthygl Hebron, ac roedd mewn coch gan nad oedd eto'n bodoli. Y cwbwl sydd angen ei wneud ydy clicio'r ddolen goch, er mwyn creu cat newydd. Yn union fel erthygl! Efo categoriau, dim ond y fam sydd ei hangen fel rheol. Ar yr erthygl Hebron, Cat:Prifysgolion Palesteina sydd ei hangen, nid Cat:Prifysgolion Asia. Mi geith y Cat ola ma fod yn fam i Cat:Prifysgolion Palesteina. Felly: Cat:Prifysgolion Hebron -->ac ar hwnnw... Cat:Prifysgolion Palesteina --> Cat:Prifysgolion Asia -- Cat:Prifysgolion yn ol Cyfandir --> Cat:Prifysgolion --> Cat:Addysg. Pob hwyl!
- Dyma fo: Categori:Prifysgolion Asia.
- Cell Danwydd (sgwrs) 15:16, 23 Awst 2021 (UTC)
- Stefanik ie, cytuno Cell Danwydd, 'Llywodraethiaeth' sydd cywirach gan mai 'Governate' ydy'r term mae nhw'n arddel ar rhyw reswm. Diolch i chi'ch dau. Dwi wedi ychwanegu erthyglau ar y ddau Intiffada ac ar Bryn y Deml (Temple Mount). (sgwrs)(sgwrs). Dwi wedi ychwanegu erthygl ar Ranbarth Tubas, ond dwi'n arddel y ffurf Llyowodraethiaeth yn yr erthyl. Rwy hefyd wedi ceisio creu Categori Llywodraethiaethau Palesteina|Tubas .... ond wn i ddim sut mae gwneud hyn ac wna i adael pobl mwy abl 'na fi i benderfynu ar y dynodiad i'r corff llywodraethol ac ar gyfer creu categori newydd. 16:44, 24 Awst 2021 (UTC)
- Stefanik helo, wedi creu cofnod Tîm pêl-droed cenedlaethol Palesteina ond am ryw reswm (a'r un peth yn wir gyda Tîm pêl-droed cenedlaethol Gwlad Iorddonen (ac eraill, am wn i) dydy'r tabl wybodaeth ar yr ochr dde ddim yn ymddangos yn iawn. Beth gellir gwneud? Cell Danwydd (sgwrs) '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 14:14, 1 Medi 2021 (UTC)
- Stefanik ie, cytuno Cell Danwydd, 'Llywodraethiaeth' sydd cywirach gan mai 'Governate' ydy'r term mae nhw'n arddel ar rhyw reswm. Diolch i chi'ch dau. Dwi wedi ychwanegu erthyglau ar y ddau Intiffada ac ar Bryn y Deml (Temple Mount). (sgwrs)(sgwrs). Dwi wedi ychwanegu erthygl ar Ranbarth Tubas, ond dwi'n arddel y ffurf Llyowodraethiaeth yn yr erthyl. Rwy hefyd wedi ceisio creu Categori Llywodraethiaethau Palesteina|Tubas .... ond wn i ddim sut mae gwneud hyn ac wna i adael pobl mwy abl 'na fi i benderfynu ar y dynodiad i'r corff llywodraethol ac ar gyfer creu categori newydd. 16:44, 24 Awst 2021 (UTC)
- wrth gwrs, sgwennes i gofnod ar Brifygol Bir-zait rhyw flwyddyn yn ôl fel mae'n digwydd (sylwi, wrth basio, nad oes categori i Brifysgolion Asia neu'r Dwyrain Canol, er bod ar gyfer Ewrop). Beth bynnag, beth yw'r drefn? Pa erthyglau sydd angen eu cyfieithu? '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 09:56, 23 Awst 2021 (UTC)
Gwobr Golygathon Palesteina-Cymru-Cernyw | |
Llongyfarchiadau am ennill gwobr gyntaf yn y Golygathon Palesteina-Cymru-Cernyw! Rhannwyd y wobr gyntaf rhwng dau ohonoch - diolch am dy gyfraniadau! Llywelyn2000 (sgwrs) 10:20, 6 Hydref 2021 (UTC) |
Llywelyn2000 (sgwrs) Stefanik Bendeigedig! Ydw i'n ennill trol fawr o gelc!! ;-) ond na, braf bod yn rhan o'r prosiect, wedi dysgu llawer - gwerth chweil! Oes modd i rhywun mwy deallus na fi gywiro'r bocs wybodaeth ar gofnod Tîm pêl-droed cenedlaethol Palesteina (a'r un peth yn wir gyda Tîm pêl-droed cenedlaethol Gwlad Iorddonen (ac eraill, am wn i) dydy'r tabl wybodaeth ar yr ochr dde ddim yn ymddangos yn iawn? Cell Danwydd (sgwrs) '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 12:33, 6 Hydref 2021 (UTC)
- Clod ac anrhydedd yn well na Chelc!
- Newydd gopio'r wybodlen Tîm pêl-droed cenedlaethol Gwlad Iorddonen ar enwiki, a'i ludo ar cywici. Tria un ac os fethi, mi wnaf! Llongyfs, eto! Llywelyn2000 (sgwrs) 12:40, 6 Hydref 2021 (UTC)
Posteri ayb
[golygu cod]@Craigysgafn, Sian EJ: Dw i newydd weld dy fod wedi cael dy flocio ar Comin. Er mwyn gweld be oedd y broblem efo'r lluniau a wnei di eu huwchlwytho nhw yma ar WP Cymraeg (bowm o dan y logo 'Uwchlwytho')? Mi adewais hwn hefyd. Mae na lawer ohona ni wedi ein targedu gan en-wici yn ddiweddar, ac efallai mai cyd-ddigwyddiad yw dy fod dithau'n cael dargedu: gad i ni weld y lluniau cyn ymateb iddyn nhw. Diolch! Llywelyn2000 (sgwrs) 06:17, 1 Tachwedd 2021 (UTC)
Llaeth Cyddwysedig wedi dolenni'n anghywir i Evaporated Milk yn lle Condensed Milk
[golygu cod]@Llywelyn2000: Helo, wedi postio erthygl ar Llaeth cyddwysedig ond wnes i logio, drwy gamgymeriad, at y data gydag erthyglau ar Laeth Evaporated milk (mewn sawl iaith mae'r ddwy erthygl yn un, dyna oedd y dryswch!). Hoffwn i newid yr erthygl Llaeth Cyddwysedig i fynd efo Evaoprated Milk, a wna i sgwennu erthygl annibynnol arall ar gyfer Llaeth Anwedd (Evaporated milk). Sut mae newid y dolen o'r erthygl wreddiol ar Laeth Cyddwysedig i ddolenni gyda Condensed Milk? —Cafodd y sylw hwn heb lofnod ei ychwanegu gan Stefanik (sgwrs • cyfraniadau) 10:16, 21 Tachwedd 2021
- Tria fo rwan. Dw i di newid y teitl i 'laeth cyddwys' - llawer mwy llithrig a naturiol, ac yn dilyn y patrwm 'gwres canol'. I newid y cysylltiadau i Wicidata: dilyn y feiro las yn y wybodlen i'r dudalen sydd wedi ei chysylltu. Yna, dos lawr i'r gwaelod (weithiau - ar y brig!) lle mae'r cysylltiadau i erthyglau Wicipedia'n cael eu rhoi. Yno, gelli dynnu'r un anghywir ac ychwanegu'r erthygl gywir. Dw i wedi gwneud hon i ti.
- Dw i'n meddwl bod bathu termau fel hyn yn anrhaethol bwysig, ac mae gwneud hynny ar wici'n gosod lle i drafodaethau pellach. Dw i hefyd yn hoffi fel yr wyt yn creu erthyglau ar bethau pob dydd! Unwaith eto - hanfodol i Gymry ifanc ddod i wybod yr enwau Cymraeg.
- Cofia arwyddo negeseuon ar dudalennau sgwrs efo 4 sgwigl (~). Sylwer hefyd mod i wedi trio edrych ar ol rhai o'r lluniau gwych ti wedi bod yn eu rhoi ar Comin, ond dw i ddim yn cael ateb gen ti! ee y Sgwrs uwch ben hon. Cadwa dy lygad hefyd ar dy dudalen sgwrs ar Comin - mae na lawer yn tynnu dy uwchlwythiadau i lawr, gan honni eu bod yn mynd yn groes i reolau Panorama (ee gwaith celf 2D).
- Dal ati - ti'n ychwanegu erthyglau pwysig ar Wici a dw i'n gwerthfawrogi dy waith yn fawr. Cofion cynnes... Robin.... Llywelyn2000 (sgwrs) 10:57, 21 Tachwedd 2021 (UTC)
- @Llywelyn2000: Diolch Robin - pethau'n edrych mewn lle nawr! A dwi newydd sgwennu erthygl ar laeth anwedd (cytuno efo defnyddio ffyrf mwy naturiol hefyd - diolch am hynny!). Ie, ceisio sgwennu erthygl am bethau pob dydd. Rhaid cyfaddef 'mod i ddim yn deall y sgwrs uwchben am bosteri (na chwaith lawer am sut mae'r wikipedia yn gweihtio ag ati). Be' 'di'r gwyn? Dyma lle fyddai cael sesiwn wyneb yn wyneb yn gymorth i fi, dwi'n sylwi 'mod i'n dda i ddim efo stwff ysgrifenedig ac bod cael rhywun yn esbonio mewn person llawer haws a chliriach. (dwi ddim hyd yn oed yn deall sut mae gadael ac ymateb i sgyrsiau ar y dudalen yma'n gweithio'n iawn. Stefanik (sgwrs) 13:19, 21 Tachwedd 2021 (UTC)
- Wsti be? Yr erthyglau sy'n bwysig ar ddiwedd y dydd, nid y sgryrsiau!
- Comin - tir pawb! Mae gan wahanol wledydd ddeddfau gwahanol, felly mae'n anodd cael un man, lle gellir rhoi pob llun dan haul. Tynna lun o adeilad ym Mrwsel a'i roi ar y we a mi gei di fygythiad o achos llys yn dy erbyn, a dirwy fawr dew, gan mai'r pensaer sydd biau'r hawliau, gan gynnwys hawliau ffotograffau o'r adeilad! Ar y llaw arall, mae gennym ni, a'r UDA hawliau a elwir yn 'Ddefnydd Teg' (fair use), sy'n caniatau i ni roi lluniau ar Wicipedia (nid ar Comin) ee clawr llyfr neu albwm Cymraeg. Chaiff y rhan fwyaf o wledydd / iaith ddim gwneud hyn. Felly, mae'n rhaid i luniau sydd ar Comin fodloni deddfau pob gwlad. Ond mae na eithriadau, ac un ohonyn nhw ydy deddf Panorama, sydd yn y rhan fwyaf o Ewrop (deddf gall iawn!) Ond gan mai dod o dan ein Meistres mae Cymru fach, does gennym ni ddim ffasiwn beth, felly mae lluniau o bosteri 2-D, hysbysfyrddau, llun ar wal ayb yn cael eu tynnu i lawr o Comin, os yw'r llun wedi'i gymryd yng Nghymru, yr Alban ayb. Ond croeso i ei roi ar cywici (botwm uwchlwytho ar y chwith, jyst o dan logo Wicipedia), sydd ddim yn cael ei blismona mor eithafol!
- 4 sgwigl - ie, dyna'r unig beth sydd ei eisiau - ddim angen nodyn llofnod. Jyst gorffen pob sgwrs efo 4 tilde (~~~~).
- Mi drefnai sesiwn Zoom wythnos nesa, os fyddi di'n rhydd. Llywelyn2000 (sgwrs) 19:39, 21 Tachwedd 2021 (UTC)
- @Llywelyn2000: Diolch Robin - pethau'n edrych mewn lle nawr! A dwi newydd sgwennu erthygl ar laeth anwedd (cytuno efo defnyddio ffyrf mwy naturiol hefyd - diolch am hynny!). Ie, ceisio sgwennu erthygl am bethau pob dydd. Rhaid cyfaddef 'mod i ddim yn deall y sgwrs uwchben am bosteri (na chwaith lawer am sut mae'r wikipedia yn gweihtio ag ati). Be' 'di'r gwyn? Dyma lle fyddai cael sesiwn wyneb yn wyneb yn gymorth i fi, dwi'n sylwi 'mod i'n dda i ddim efo stwff ysgrifenedig ac bod cael rhywun yn esbonio mewn person llawer haws a chliriach. (dwi ddim hyd yn oed yn deall sut mae gadael ac ymateb i sgyrsiau ar y dudalen yma'n gweithio'n iawn. Stefanik (sgwrs) 13:19, 21 Tachwedd 2021 (UTC)
Interslavic
[golygu cod]Hello Stefanik, thank you very much for this, it's wonderful seeing an article about Interslavic in the coolest language on Earth! But if I may: why didn't you translate the name of the language itself? The point of the name Interslavic is to be self-explaining, and that's why, unlike proper names like Esperanto, it differs from one language to another: Interslavic in English, intereslavo in Spanish, medzislovančina in Slovak, and so on. In Welsh, I'd rather expect something like Rhyngslafeg, Rhyng-Slafoneg or somesuch (you'll probably know better than I do!). Wouldn't that be better? Cheers, IJzeren Jan (sgwrs) 12:19, 19 Mawrth 2022 (UTC)
- Hi Jan - great to hear from you! And Interslavic is such a cool thing, it's a pity I speak no Slavic language to appreciate the beauty of it. And thanks for the suggestion, I have to say, I thought the official name was Interslavic, as 'inter' is a Latin word, which I guessed may be familiar in Slavic languages, but, you're right, the translation would be Rhyngslafeg or maybe Rhyng-Slafoneg. I'd adapted the article, I think from the Catalan one and added to it. I'll check with other editors about the correct name, Rhyngslafoneg or Rhyngslafeg etc. Stefanik (sgwrs) 20:25, 19 Mawrth 2022 (UTC)
- Hi Stefanik. Well, I don't know Welsh, obviously, but if the difference between Slafeg and Slavoneg is the same as in English, then I'd suggest Rhyngslafeg. Basically, Slavic and Slavonic are synonyms, but "Slavonic" rings a slightly more archaic bell. Most other languages, including the Slavic languages themselves, don't make the distinction at all. Cheers, IJzeren Jan (sgwrs) 13:28, 20 Mawrth 2022 (UTC)
-
- Stefanik / Sion - fedra i ddim ffindio cyfeiriad at unrhyw un o'r ddau air Cymraeg, felly dewis di! Mae'r ddau'n eiriau naturiol i'r Gymraeg, ac mae Slafeg yn symlach (hepgor yr 'on' dianghenrhaid, efallai. Ond ti bia'r dewis! I'w symud (fel y gwyddost, dw i'n siwr: dos i 'Rhagor' ger y blwch chwilio, ar frig y dudalen). Thanks @IJzeren Jan: for the heads up! Llywelyn2000 (sgwrs) 08:45, 22 Mawrth 2022 (UTC)
- Thank you! I've tried to change the name and fix the infobox as well. Hope I got the mutations right! Cheers, IJzeren Jan (sgwrs) 23:59, 26 Mawrth 2022 (UTC)
Sboncen
[golygu cod]Sut mae Siôn? Yn yr erthygl am Suddig rwyt yn son am gam gyfieithu Tesco o squash fel sponcen, ond yn yr adran paratoi rwyt wedi gwneud yr un camgymeriad😊 Mae yna draddodiad o gymysgu suddig gydag alcohol, Larger & Lime a Rum & Black ydy'r ddau mwyaf amlwg, sy'n dod i feddwl, siwr bod eraill, roedd rum a chordial mintus yn gyffredin pan oeddwn yn iau, ond heb ei weld mewn tafarnau ers achau. AlwynapHuw (sgwrs) 16:47, 2 Mehefin 2022 (UTC)
- haha, diawl! - dyna ti'n gael o gyfieithu erthygl Saesneg ac yna addasu ac ychwanegu!! Am gymysgu efo alcohol, ie, roeddwn i'n pendronni efo hyn - i mi cordial 'di hwnna, dwi byth di gweld neu meddwl am rhywun yn ychwanegu suddig (squash) at lager neu wirod. Oes angen gwahaniaethau a chael erthygl arall? .... newydd fod am sbec ... ochr Saesneg mae "cordial" yn dod i dudalen yma: https://en.wikipedia.org/wiki/Cordial ... sef, cyfeirio at "squash". Ddim yn gwbod be' i wneud, dwi'n dueddol o feddwl amdanynt fel ddau fath wahanol o ychwanegiad. Be' ti'n feddwl? Stefanik (sgwrs) 17:29, 2 Mehefin 2022 (UTC)
Teisen frau
[golygu cod]Shmae Siôn! Roeddwn i'n mynd ar sgawt drwy'r erthyglau ar gyfeiriadau i GPC, er mwyn defnyddio Nodyn {{Dyf GPC}}, sy'n rhoi canlyniad darllenadwy yn y cyfeiriadau. Mi ddes i o hyd dy erthygl Teisen frau, sy'n wych, ond allwn i ddim deall y darn "Ceir y cyfeiriad cynharaf cofnodedig i'r term ... o 1908", a newidiodd @Llywelyn2000 i "Ceir y cofnod Saesneg cynharaf o'r term "shortbread" yn 1908." Nawr te, mae'r gair Saesneg yn llawer hŷn na hynny, felly mae rhywbeth o'i le fan hyn. Ond roedd y gwreiddiol yn gymysglyd hefyd: dyw GPC yn cynnig cefnogaeth am y pethau yn y brawddegau hyn yn yr erthygl "teisen". Mae'n edrych i mi fel petaet ti'n dibynnu ar ryw ffynhonnell arall yma, ac mae pethau wedi drysu. Allet ti edrych arno pan fydd gen ti eiliad? Craigysgafn (sgwrs) 11:52, 15 Awst 2022 (UTC)
- Helo Craigysgafn, sori, nawr dwi'n darllen hwn yn iawn. Mae'n edrych i mi bod ti/pobl wedi gwneud newidiadau. Mae'n hynny'n iawn gen i! Diolch am fwrw golwg dros bethau ac am gynnig gwelliant. O ran yr awgrym am ddolen i'r Geiriadaur, i mi ddeall yn iawn, byddai rhywun, yng nghyd-destun yr erthygl yma yn rhoi'r ddolen: {{https://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?tesien_frau}} - ydw i wedi deall yn iawn? Caf gip eto ar gyfer y cofnod parthed 1908, ie, mae'n rhaid mod i wedi drysu rhywle. (sgwrs) (sgwrs) 14:55, 30 Awst 2022 (UTC)
- Daniel Lloyd Helo, tra 'mod i yma, a dal i ddysgu am Wicipedia!, dwi wedi sgwennu cofnod am y perfformiwr Daniel Lloyd (o'r grwp Daniel Lloyd a Mr Pinc). Wrth sgwennu cofnod sylwais bod un yn y Saesneg a bod dolen y Gymraeg yn mynd at y grwp ac nid yr unigolyn. Dwi eisiau rhoi'r ddolen DLl i Daniel yr unigolyn ac yna creu un arall newydd ar wahân i'w grwp. Sut mae gwneud hyn? (sgwrs) (sgwrs) 14:59, 30 Awst 2022 (UTC)
Golygathon Geltaidd
[golygu cod]Haia Sion! Diolch am ychwanegu'r llun logo ar Front Line Defenders a greais fel rhan o'r Golygathon Geltaidd ar Meta. (ON Croeso i ti ymuno efo ni!!!) Dw i wedi symud y ddelwedd i'r wybodlen otomatig (yr un sy'n tynnu llif byw o wybodaeth o Wicidata). Mi wnes i hefyd ychwanegu rhai ffeithiau ar WD sydd bellach yn cael ei weld yn y wybodlen. Gobeithio fod hyn yn iawn gen ti! Llywelyn2000 (sgwrs) 12:03, 7 Medi 2022 (UTC)
- helo Robin - ie, wna i'n sicr gyfrannu i'r Golygathon Geltaidd ar Meta ... dweud y gwir, doeddwn i ddim yn siwr lle oedd y manylion ar y Wicipedia/Caffe pan bues i'n edrych amdano cwpl o ddiwrnodau'n ôl, felly diolch am roi'r ddolen. Bwriad ati. Gobeithio bod bywyd yn dda i ti, a wela' i di lawr yng Nghaerdydd gobeithio - pethe'n dechrau siapo! Stefanik (sgwrs) (sgwrs) 6:47, 7 Medi 2022 (UTC)
- Gret! Caerdydd - yn sicr! Anghofiai fyth dy araith yn yr orymdaith gyntaf honno Mai 2019 (lluniau ohonot yn fama)! A mi fyddi yn ol wrth y llyw cyn hir! Cofion cynnes... Robin, aka Llywelyn2000 (sgwrs) 16:02, 7 Medi 2022 (UTC)
Diolch yn fawr i ti am dy olygiadau yn y Golygathon Celtaidd ar Meta. Deuthost yn un o brif olygyddion y gystadleuaeth, ac yn un o'r ser disgleiriaf! Llywelyn2000 (sgwrs) 11:32, 4 Hydref 2022 (UTC)
Parti ceiliog
[golygu cod]Shwmae. Dwi'n meddwl i ti anghofio prawfddarllen hwn achos mae sawl cyfeiriad at 'plaid' (party) a 'baglor' ynddoǃ Dwi wedi newid rhain, ond dwi ddim yn gwybod beth a olygir ganː "a'i orfodi i aflonyddu goliardig." Mae'n swnio'n amheus iawn, ond eto mae llawer o bethau amheus yn digwydd ar ddigwyddiad o'#r fath...--Rhyswynne (sgwrs) 14:56, 11 Hydref 2022 (UTC)
Ymddiheuriadau - dileu delweddau
[golygu cod]Helo bawb. Ymddiheuriadau 'mod i heb wneud dim ers tua dechrau Rhagfyr ... ac roeddwn i on course i gyrraedd 200 erthygl llynedd! Y gwir yw cefais neges bod tomen o ddelweddau roeddwn wedi eu tynnu a'u llwytho wedi eu dileu am dramgwyddo rhyw reolwr hawlfraint neu gilydd (dwi ddim yn deall sut mae poster cyhoeddus a dalwyd gan gorff arall er mwyn hyrwyddo digwyddiad o dan hawlfraint, ond dyna ni). Rhaid dweud i hyn dynnu'r gwynt o fy hwyliau. Felly, ymddiheuriadau am y diffyg creu cofnodion. Siôn.Stefanik (sgwrs) 11:38, 22 Chwefror 2023 (UTC)
- Mae hyn yn niwsans. Digwyddodd yr un peth i lun dynais o billboard gan y BBC gyda llun o Sopie Ingle yn hyrwyddo bod gemau rhagbroifol tîm merched Cymru ar yr i-Player. Dwi ddim yn dallt y dalltins hefo hawlfraint i hyn, ond dwi wedi newid fy ngosodiadau ar Commons fel mod i'n cael ebost yn syth pan mae'r peth yn cael ei godi yn lle dysgu bod rhywbeth wedi'i ddileu wythnosau a mwy yn rhy hwyr. Rhyswynne (sgwrs) 11:05, 23 Chwefror 2023 (UTC)
- Helo Siôn. Rwy'n cydymdeimlo. Dyw'r math yna o weithredu ddim yn gwneud unrhyw synnwyr, ac rwyf wedi cwyno amdano yn y Caffi yn y gorffennol. Yn anffodus mae yna bobl o gwmpas y byd sy'n cael gwefr o reoli'r delweddau a ddefnyddir ar wicis eraill heb ddeall y cyd-destun. (Allwn ni ddim dangos llun o Mistar Urdd, hyd yn oed!) Yn y cyfamser, mae enwiki yn cael defnyddio pob math o ddelweddau na allwn ni eu defnyddio oherwydd eu bod yn cysgodi o dan reolau "defnydd teg" yr Unol Daleithiau. Dafydd --Craigysgafn (sgwrs) 21:39, 23 Chwefror 2023 (UTC)
Newid penawd cofnod am 2il waith
[golygu cod]Fi, eto sori, wedi camdeipio enw cywir Česká centra ddwywaith - tro cyntaf gydag e ar ddiwedd Česká ac ail waith heb yr a acennog yn y gair gyntaf. Dydy ddim yn broblem engawr, ond mae'n anghywir ac anghyson o ran bod diacritig ar yr C gyntaf ond nid yr a, ac mae'n anghyson yn ôl gramadeg Tsiec ac orgraff Gymraeg. Dydy'r peiriant ddim yn gadael i mi symud y teitl am yr ail waith i Česká centra. Awgrymiadau? Stefanik (sgwrs) 18:25, 19 Mawrth 2023 (UTC)
- Roedd rhywbeth yn cambihafio ar y dudalen yna, ond dwi'n meddwl mod i wedi llwyddo i'w symud! --Craigysgafn (sgwrs) 21:39, 19 Mawrth 2023 (UTC)
- Gwych! Diolch Craigysgafn! --Stefanik (sgwrs) 08:59, 20 Mawrth 2023 (UTC)
Cais o Ghana - iaith/tafodiaith Fante
[golygu cod]Bore da, dwi 'di bod yn dilyn @eben_offen ar twitter sy'n siarad Fante (sy'n rhan o gontiniwm iaith Akan) yn Ghana a gwledydd eraill yng Ngorllewin Affrica. Mae'n awyddus i gydweithio mewn rhyw ffordd gyda'r ochr Gymraeg, er, dwi'm yn siwr sut. Awgrymais ein bod ni yn y gorffennol wedi cydweithio gyda ieithoedd eraill gan gyfieithu/creu rhyw 50 neu 100+ o brif erthyglau yn ein priod ieithoedd. Dwi'n credu bod sefyllfa ieithol Affrica yn gynhyrfus ac â sawl tebygrwydd â'r Gymraeg, er bod nhw wedi eu llesteirio wrth, yn aml, gan greu orgraff mewn tafodiaith yn lle creu neu hybu un iaith safonol byddai'n gryfach i wrth sefyll Saesneg neu Ffrangeg. Er enghraifft mae Akan yn #313 mond 470 cofnod, mae Twi, sy'n dafodiaith o'r un iaith efo 2,905 a #235, dwi methu gweld Fante ar y rhestr). Beth bynnag, unrhyw farn? Awyddus i gydweithio ond credu bod angen dechre o'r dechre arno. Werth i ni gynnig sgwrs zoom gydag e i weld lle mae arni? Robin wna i ddanfon ebost i ti maes o law gan gopio Eben fewn iddo. Stefanik (sgwrs) 09:01, 21 Ebrill 2023 (UTC)--Stefanik (sgwrs) 08:31, 21 Ebrill 2023 (UTC)
Os oes diddordeb gennych, ymunwch gyda WiciBrosiect Cymru os gwelwch yn dda! Diolch yn fawr Titus Gold (sgwrs) 15:10, 29 Ebrill 2023 (UTC)
Article creation
[golygu cod]Helo,
I see that you are interrested in Brittany. Could I ask you to write an article about the Musée de Bretagne ? (Amgueddfa Llydaw ?) Arbennig:Am_y_Pwnc/Q3329701.
Diolch, VIGNERON en résidence (sgwrs) 11:47, 3 Awst 2023 (UTC)
- Hello Vigneron - thanks for contacting, and, yes, as a Welsh man and Welsh speaker I am interested in Britanny and Breton for obvious reasons. They're doing heroic work in trying to sustain and build the language in the face of very stubborn and prejudiced opposition. I translated/adapted an article for Welsh language Wicipedia - thanks for the suggestion! I didn't know about the institution. My ex-wife studied at Rennes 2 as part of her year out when she studied French and Law at Cardiff and she has very fond memories of the city. May I ask, out of interest, how did you find out i'd written a few articles about Britanny? I now intend to write a few more about Breton language movements and groups. Pob hwyl, Siôn. Stefanik (sgwrs) 09:21, 4 Awst 2023 (UTC)
- Diolch! Thank you very much.
- I'm following WiciCymru on Twitter and was happy to saw several articles about Brittany.
- Komz a ran Brezhoneg/I do speak Breton. If you have question about breton, you can contact me (on my personnal account VIGNERON).
- Cheers, VIGNERON en résidence (sgwrs) 09:20, 7 Awst 2023 (UTC)
- Dispar! I did have trouble with the article about Gouel Broadel ar Brezhoneg - it's not clear to me what happeded after the year 200 to 2017 - was it held? And then, now, I understand it's every second year with the Redadeg (I founded Ras yr Iaith, which is inspired by the Redadeg and Korrika .... but not as impressive!) but is always now held at Langoned? You're welcome to come back to me with improvements! I notice too some good news that you can translate articles from Breton language wikipedia to other langauges? Am I right in saying this? I personally find the translate article function a little 'fiddly' and prefere to use googletranslate and then add links. Where in Britanny do you live? Stefanik (sgwrs) 08:21, 8 Awst 2023 (UTC)
- Back with my personnal account ;)
- I'll look more into Gouel Broadel ar Brezhoneg, I already did some minor improvment to the Wikidata item. Until it changes again, it probably will be held in Langoned for the foreseeable future.
- Yes, there is Special:ContentTranslation, it's activated in most Wikipedias and from most languages (and you should be able to use Google Translate in it). Feel free to try it.
- I live in Roazhon.
- Cheers, VIGNERON (sgwrs) 15:40, 8 Awst 2023 (UTC)
- Dispar! I did have trouble with the article about Gouel Broadel ar Brezhoneg - it's not clear to me what happeded after the year 200 to 2017 - was it held? And then, now, I understand it's every second year with the Redadeg (I founded Ras yr Iaith, which is inspired by the Redadeg and Korrika .... but not as impressive!) but is always now held at Langoned? You're welcome to come back to me with improvements! I notice too some good news that you can translate articles from Breton language wikipedia to other langauges? Am I right in saying this? I personally find the translate article function a little 'fiddly' and prefere to use googletranslate and then add links. Where in Britanny do you live? Stefanik (sgwrs) 08:21, 8 Awst 2023 (UTC)
Invitation to Rejoin the Healthcare Translation Task Force
[golygu cod]You have been a medical translators within Wikipedia. We have recently relaunched our efforts and invite you to join the new process. Let me know if you have questions. Best Doc James (talk · contribs · email) 12:34, 13 August 2023 (UTC)
Jeremiah O'Donovan Rossa
[golygu cod]Aethoch chi ar y daith rithwir honno o amgylch Dulyn yn ddiweddar? Deb (sgwrs) 09:05, 5 Mawrth 2024 (UTC)
- oh, naddo! Swnio'n ddiddorol. Oes dolen i'r daith? Wedi bod i Ddulyn sawl gwaith gan ymweld â Charchar Kilmainham yn 1989 ac yna'r Dail yn tua 2014 ond heb fod ar y daith rhithwir yma. Stefanik (sgwrs) 09:51, 5 Mawrth 2024 (UTC)