Neidio i'r cynnwys

Suddig

Oddi ar Wicipedia
Suddig
Mathsurop, diod ddialcohol Edit this on Wikidata

Mae suddig (a elwir weithiau yn cordial) awgrymmir hefyd suddŵr ac ar lafar yn sgwosh neu sgwash,[1][2] o'r Saesneg squash yn ddiod dewychedig di-alcohol o sudd ffrwythau, neu surop ffrwythau cywasgiedig a ddefnyddir wrth wneud diodydd, fel arfer trwy ychwanegu dŵr oer neu phoeth ato, eu weithiau gwirod. Bydd wedi'i wneud o sudd ffrwythau, dŵr, a siwgr neu amnewidyn siwgr. Gall sgwash modern hefyd gynnwys lliwiau bwyd a blas ychwanegol. Mae rhai sgwash traddodiadol yn cynnwys darnau llysieuol, yn fwyaf nodedig blodyn ysgawen a sinsir.

Terminoleg

[golygu | golygu cod]
Mae brant Ribena yn cynhyrchu amrywiaeth o ddiodydd ffrwyth a elwir yn 'squash' ym Mhrydain

Does dim gair cydnabyddedig Gymraeg am 'squash', er awgrymir sgwosh neu sgwash gan Eiriadur Prifysgol Cymru. Gellir dweud cordial, ond gall hynny fod yn gamarweiniol gan y feddylir am cordial fel surop mwy trwchus a llawnach ac, o bosib, drytach.[3] Awgrymwyd y geiriau suddig (bychanig o "sudd") ar Twitter.[4]

Fel rheol, cysylltir suddig â dŵr oer (neu'n llai cyffredin, poeth) ac nid wedi ei ychwanegu at alcohol. Ysytyrir hi yn ddiod blasus rhad, i ddod â blas i ddŵr croyw ac, efallai sy'n fwy atyniadol ac at ddefnydd plant nag oedolion sydd (yn dybiedig) â chwaeth diod drytach a mwy soffistigedig.[5]

Cam-gyfieithiad i Sboncen

[golygu | golygu cod]
Suddig blas ffrwyth cyn ac wedi cymysgu â dŵr

Cafwyd enghraifft o gamgyfieithiad o'r gair 'squash' mewn arwydd yn archfarchnad Tesco ym mis Mai 2022 pan cyfieithiwyd y gair ar fersiwn Gymraeg arwydd i sboncen sef y gêm dan-do raced a phêl.[6] Yn sgîl hyn awgrymwyd geiriau Cymraeg penodol ar gyfer y ddiod nad oedd yn addasiadau o'r gair Saesneg yn orgraff y Gymraeg. Cafwyd awgrymiadau: suddig[7] a suddŵr.[8]

Diodydd

[golygu | golygu cod]

Mae suddig yn cael ei gymysgu â rhywfaint o ddŵr neu ddŵr carbonedig cyn ei yfed. Mae faint o ddŵr a ychwanegir at flas, gyda'r sgwash yn dod yn llai cryf po fwyaf y caiff ei wanhau. Fel cymysgydd diod, gellir ei gyfuno â diod alcoholig i baratoi coctêl.

Defnyddir ffrwythau sitrws (yn enwedig oren, leim a lemwn) neu gyfuniad o ffrwythau ac aeron yn gyffredin fel sylfaen suddig.[9][10]

Mae sgwosh traddodiadol ym Mhrydain fel arfer yn cael ei flasu gyda blodyn ysgawen, oren, lemwn, neu cyrens duon. Mae mafon a mwyar duon yn boblogaidd yn Nwyrain Ewrop, ac mae cyrens yn gynhwysyn cyffredin yn y Gwledydd Benelux.

Cerflun i Vimto, Manceinion (2013)
Potel suddŵr Ribena (2011)

Ceir fersiynau ar fath o sudd cywasgiedig i'w hychwangu at ddŵr neu alcohol yn mynd nôl i'r Dadeni fel placebo i wella anhwylderau. Daethant i'w hadnabod fel "liqueurs" yn Ffrangeg ac oddi yno i'r Saesneg (a'r Gymraeg). Roedd y suddig yma dal yn rhan o repertoir ffug-feddygol yn Oes Fictoria. Mae'n ymddangos bod y defnydd modern o "cordial" wedi dod i'r amlwg tua diwedd y 19g, ar ôl i Lauchlin Rose ddod o hyd i ffordd i gadw sudd leim heb ddefnyddio diod.

Parhaodd y syniad o fethygaeth neu wellhâd gyda'r defnydd o'r suddig gyda dyfeisiad y diod Vimto yn 1903 fel diod ac arf di-alcohol i'r Gynghrair Ddirwestol. Yn 1942 yn yr Ail Ryfel Byd gyda blocâd llongau tanfor U-Boot yr Almae NatsÏaidd ar gludo ffrwythau megis orennau oedd yn cynnwys fitamin C i Brydain, defnyddiwyd a stwnshwyd bron yr holl o gnwd cyrens duon y wladwriaeth gan eu hychwanegu â siwgr i greu diodydd sgwash cwmni Ribena. Gwnaed hyn i gadw plant rhag dioddef o clafri poeth (llwg/sgyrfi).[11]

Cwmni arall adnabyddus iawn ym Mhrydain a gysylltir â sgwash yw Robnson's sy'n cyflenwi'r ddiod i chwaraewyr ym mhencampwriaeth tennis Wimbledon ers yr 1930au. Honir i ddiod Robinson's gychwyn yn 1923 fel powdr â gwerth meddygol. Yn yr 1930au, cyfunodd Mr Smedley Hodgson o'r cwmni grisialau haidd patent Robinson â sudd lemwn go iawn a siwgr, a'i ddod wrth lawr i chwaraewyr Wimbledon.[12]

Paratoi

[golygu | golygu cod]

Mae suddig yn cael ei baratoi trwy gyfuno un rhan o ddwysfwyd gyda phedair neu bum rhan o ddŵr (carbonedig neu lonydd).[13] Mae sboncen cryfder dwbl a chordials traddodiadol, sy'n fwy trwchus, yn cael eu cymysgu â naw rhan o ddŵr i ddwysfwyd un rhan. Mae rhai dwysfwydydd sgwosh yn eithaf gwan, ac weithiau mae'r rhain yn cael eu cymysgu ag un rhan o ddwysfwyd a dwy neu dair rhan o ddŵr.

Storio

[golygu | golygu cod]

Mae'r rhan fwyaf o gordialau a sgwash yn cynnwys cadwolion fel potasiwm sorbate neu (mewn cordialau traddodiadol) sylffitau, gan eu bod wedi'u cynllunio i'w storio ar silffoedd. Maent yn cadw'n dda oherwydd y cadwolion a'u cynnwys siwgr uchel. Serch hynny, mae rhai yn dewis storio eu sgwash mewn oergelloedd.

Dolenni

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Sgwosh". Geiriadur Prifysgol Cymru. Cyrchwyd 2022-06-02.
  2. "Loads of people commenting what about sgwosh. That probably doesn't register as much as that's how I'd write it in Welsh…". Cyfrif Twitter Esyllt Sears. 26 Medi 2022.
  3. "cordial - Definition of cordial in English by Oxford Dictionaries". Oxford Dictionaries. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-07-19. Cyrchwyd 2022-06-02.
  4. "am gynnig "suddig" fel gair Cymaeg am 'squash' (y diod cordial, nid y gêm!). Bychanig sudd; sy'n rhyw awgrymu beth yw e, ac heb fod yn rhyd drwsgwl i'w ddweud, gobeithio. Mae yn y gwyllt nawr. @geiriadur @canolfanbedwyr". Twitter @SionJobbins Siôn Jobbins. 30 Mai 2022.
  5. "Consider squash and cordial". The Guardian. 7 Medi 2010.
  6. "For the non-welsh speakers Tesco have used the Welsh word for the racquet sport". Twitter @g_r_owen Gareth Rhys Owen. 29 Mai 2022.
  7. "am gynnig "suddig" fel gair Cymaeg am 'squash' (y diod cordial, nid y gêm!). Bychanig sudd; sy'n rhyw awgrymu beth yw e, ac heb fod yn rhyd drwsgwl i'w ddweud, gobeithio. Mae yn y gwyllt nawr. @geiriadur @canolfanbedwyr". Twitter @SionJobbins Siôn Jobbins. 30 Mai 2022.
  8. "suddŵr". Twitter @Wefro Llinos Mair. 30 Mai 2022.
  9. Desai (16 August 2000). Handbook of Nutrition and Diet. ISBN 9780824703752. Cyrchwyd 2009-04-22.
  10. "Squash (Beverage)". Gwefan Ten Random Facts. Cyrchwyd 2022-06-02.
  11. Desai (16 Awst 2000). Handbook of Nutrition and Diet. ISBN 9780824703752. Cyrchwyd 22 Ebrill 2009.
  12. "Abour Us". Gwefan cwmni Robinson's Barley Squash. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-06-24. Cyrchwyd 2022-06-02.
  13. "Squash (Beverage)". Gwefan Ten Random Facts. Cyrchwyd 2022-06-02.