Tîm pêl-droed cenedlaethol Gwlad Iorddonen
Llysenw(au) |
النشامى (The Chivalrous)[1] | ||
---|---|---|---|
Is-gonffederasiwn |
Ffederasiwn Bel-droed Gorllewin Asia West Asian Football Federation | ||
Conffederasiwn |
Cydffederasiwn Bel-droed Asia (AFC Asia) | ||
Hyfforddwr | Adnan Hamad | ||
Capten | Amer Shafi | ||
Mwyaf o Gapiau | Amer Shafi (176)[2][3] | ||
Prif sgoriwr | Hassan Abdel-Fattah (30) | ||
Cod FIFA | JOR | ||
Safle FIFA | 93 | ||
Safle FIFA uchaf | 37 (Awst – Medi 2004) | ||
Safle FIFA isaf | 152 (Gorffennaf 1996) | ||
Safle Elo uchaf | 37 (23 Gorffennaf 2004) | ||
Safle Elo isaf | 143 (Medi 1984, Gorffennaf 1985) | ||
| |||
Gêm ryngwladol gynaf | |||
Syria v Gwlad Iorddonen (Alexandria, yr Aifft: 30 Gorffennaf 1953) | |||
Y fuddugoliaeth fwyaf | |||
Gwlad Iorddonen 9–0 Nepal (Amman: 23 Gorffennaf 2011) | |||
Colled fwyaf | |||
Tsieina 6–0 Gwlad Iorddonen (Guangzhou, Tsieina: 15 Medi 1984) Japan 6–0 Gwlad Iorddonen (Saitama, Japan: 8 Mehefin 2012) | |||
Cwpan Asia AFC | |||
Ymddangosiadau | 4 (Cyntaf yn Cwpan Asia 2004) | ||
Pencampwriaeth WAFF | |||
Ymddangosiadau | 9 (Cyntaf yn Pencampwriaeth 2000 WAFF) | ||
Gwefan | jfa.jo |
Mae Tîm pêl-droed cenedlaethol Gwlad Iorddonen neu Tîm pêl-droed cenedlaethol yr Iorddonen (Arabeg : الاتحاد الأردني لكرة القدم; Ittihad al-Kura Urduña li-al-Kadam) yn dîm o chwaraewyr pêl-droed sy'n cynrychioli Gwlad Iorddonen mewn cystadlaethau a chystadlaethau rhyngwladol, fel y gemau (cymwys) ar gyfer Cwpan y Byd, Cwpan Asiaidd a Phencampwriaeth Ffederasiwn Pêl-droed Gorllewin Asia. Gelwir ffans y tîm yn Nashama.
Hanes
[golygu | golygu cod]Sefydlwyd Cymdeithas Bêl-droed Gwlad Iorddonen]] in 1949. Ymunodd y Gymdeithas gyda FIFA yn 1958 a'r AFC, (Conffederatiwn Pêl-droed Asia), yn 1974. Cystadlodd yn gemau rhag-brofol ar gyfer Cwpan y Byd 1986, ond heb fynd trwyddo i'r ffeinals.
Ar 1 Awst 1953, chwaraeodd yr Iorddonen ei gêm ryngwladol gyntaf, gan colli 3-1 yn erbyn Syria yn yr Aifft. Ymunodd yr Iorddonen â Chwpan Asia yn 1972, ond colli mewn gêm-rhagbrofol yn erbyn Iran. Roedd hynny yn Riyadh yn erbyn Qatar. Enillwyd y gêm 1–0 gan gôl gan Issam Said Saleh. Collwyd y gemau eraill yn y grŵp hwn yn erbyn Irac a Qatar, i gyd.??
Record mewn Cystadlaethau
[golygu | golygu cod]Bu'n rhaid aros hyd nes yr 1970au ac 1980au i dîm pêl-droed yr Iorddonen ddechrau cystadlu o ddifri mewn cystadlaethau ryngwladol
Cwpam y Byd
[golygu | golygu cod]- 1930-1982 - heb gymryd rhan yn y gystadleuaeth
- 1986–2018 - cystadlu yn rowndiau rhagbrofol ond heb fynd trwyddo
Cwpan Asia
[golygu | golygu cod]Cynhelir cystadleuaeth Cwpan Asia wedi ei threfnu gan AFC - fersiwn Asia o UEFA.
- 1956-1968 - heb gymryd rhan yn y gystadleuaeth
- 1972 - cystadlu yn rowndiau rhagbrofol ond heb fynd trwyddo
- 1976-1980 - heb gymryd rhan yn y gystadleuaeth
- 1984-1988 - cystadlu yn rowndiau rhagbrofol ond heb fynd trwyddo
- 1992 - heb gymryd rhan yn y gystadleuaeth
- 1996 - cystadlu yn rowndiau rhagbrofol ond heb fynd trwydd
- 2000 - cystadlu yn rowndiau rhagbrofol ond heb fynd trwydd
- 2004 - cyrraedd rownd yr 8 olaf
- 2007 - cystadlu yn rowndiau rhagbrofol ond heb fynd trwyddo
- 2011 - cyrraedd rownd yr 8 olaf
- 2015 - Cyrraedd rownd 1
- 2019 - cyrraedd rownd yr 8 olaf
Cystadleuaeth Pencampwriaeth Gorllewin Asia
[golygu | golygu cod]- 2000 - 4ydd safle
- 2002 - 2il safle
- 2004 - 3ydd safle
- 2007 - Rownd cyn-derfynnol
- 2008 - 2il safle
- 2010 - Rownd gyntaf
- 2012 - Rownd gyntaf
- 2014 - 2il safle
Dolenni
[golygu | golygu cod]- Gwefan Swyddogol Cymdeithas Bêl-droed yr Iorddonen (Arabeg a Saesneg)
- Gwlad Iorddonen Archifwyd 2018-06-24 yn y Peiriant Wayback ar wefan FIFA
- Jordan Archifwyd 2019-05-08 yn y Peiriant Wayback ar wefan AFC
- NOOSOOR.com Newyddion ac Ystadegau ar GBI
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Smale, Simon. "Who the Socceroos are facing as the Asian Cup kicks off, and when to watch". ABC News. Australian Broadcasting Corporation. Cyrchwyd 6 Ionawr 2019.
- ↑ Amer Shafi Sabbah Mahmoud – Century of International Appearances
- ↑ "FIFA Century Club" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2016-10-18. Cyrchwyd 2021-10-06.