Sinamon
Math o gyfrwng | cynhwysyn bwyd, crude drug, herbal medicinal product |
---|---|
Math | sbeis |
Deunydd | rhisgl |
Rhan o | Turkish cuisine, Catalan cuisine |
Dechrau/Sefydlu | 2000 (yn y Calendr Iwliaidd) CC |
Cynnyrch | Cinnamon |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae sinamon yn sbeis a geir o risgl mewnol sawl rhywogaeth o goed o'r genws Cinnamomum. Mae'r sinamon mwyaf cyffredin yn dod o'r goeden Asiaidd, Cinnamomum verum, ac iddi risgl persawrus, sbeis a geir o’r rhisgl hwn yw sinamon (ceir hefyd sinamwn). Defnyddir yr enw canel hefyd yn y Gymraeg sy'n debyg i'r enw mewn nifer o ieithoedd Romáwns.[1][2] Defnyddir y gair sinamon yn ffigurol i ddisgrifio'r lliw melynfrown.[3]
Mae ei flas yn felys ac mae ganddo arogl dwys iawn. Mae'n dod yn wreiddiol o Sri Lanka, er ei fod bellach yn cael ei drin hefyd yn Ne America ac India'r Gorllewin.[4]
Hanes
[golygu | golygu cod]Roedd sinamon eisoes yn bresennol yn niwylliant Tsieina cyn 2700 CC. Cyrhaeddodd Ewrop yn ystod y cyfnod clasurol trwy lwybrau masnach Gwlad Groeg ac Ymerodraeth Rhufain gydag India, Arabia ac Ethiopia.[2] Yn ystod y cyfnod hwn ymgorfforodd yr Eifftiaid canel yn eu defodau crefyddol a'u dulliau o greu mymïaid, ac yn ddiweddarach, roedd hefyd yn bresennol yn defodau crefyddol yr Oesoedd Canol yn Ewrop.[4]
Cyrhaeddodd y fasnach sinamon ei hanterth yn ystod yr oes fodern. Bryd hynny roedd yn cael ei ystyried yn gynnyrch moethus ac achosodd hyn gystadleuaeth fasnachol rhwng sawl ymerodraeth. Bu'r Portiwgaliaid, yr Iseldirwyr a'r Saeson yn ymgiprys i gael monopoli arno ar wahanol gyfnodau, a chredir mai dyna arweiniodd y morwr a'r fforiwr o Bortiwgal, Vasco da Gama, i "ddarganfod" y llwybr i Penrhyn Gobaith Da yn ystod yr 16g er mwyn 'cyrraedd Sri Lanka ac India yn haws o Ewrop.'[4][5]
Sinamon a'r Gymraeg
[golygu | golygu cod]Mae'r gair "sinamon" yn fenthyciad drwy'r Saesneg sydd, ei hun yn dod o Hen Roegeg κιννάμωμον ("kinnámōmon", yn hwyrach, "κίνναμον": kínnamon), drwy'r iaith Ladin a Ffrangeg Canol. Benthycodd y Groegiaid y gair o iaith y Ffeniciaid, sy'n debyg i'r iaith cytras Hebraeg קנמון, (qinnāmōn).[6]
Ceir y cyfeiriad cofnodedig cynharaf o'r gair sinamon (yn ei ffurf "sinamwn") yn y Gymraeg yn un o gerddi Guto'r Glyn o'r 15g.[3] Daw o'i gerdd, 'Moliant i Sieffrai Cyffin ap Morus o Groesoswallt a’i wraig, Siân ferch Lawrence Stanstry':[7]
Sinsir a welir ar fwyd
a graens da rhag yr annwyd.
Sinamwn, clows a chwmin,
siwgr, mas, i wresogi’r min.
Ceir hefyd y gair "canel" sy'n fenchyciad o'r Saesneg Canol canel, canelle ‘canel, cinnamon’ neu o’r Lladin Diweddar, canella sy'n fychanig o 'canna' sy'n golygu "tiwb" ac yn cyfeirio at y ffordd bydd y rhusgl yn cwrlio a chreu tiwb wrth sychu.[8] Mae'r cofnod cynharaf o'r gair yma yn y Gymraeg yn mynd nôl i'r 14g.[1]
Cyflwyno a chadw
[golygu | golygu cod]Mae sinamon fel arfer yn cael ei gyflwyno mewn math o focs i gadw'r rhisgl yn sych neu ar ffurf powdr.[2]
Fe'i cesglir yn ystod y tymor gwlyb, gan dorri egin y planhigyn ar waelod y ddaear. Yna mae'r rhisgl wedi'i wahanu, gan ei grafu â gwahanol fathau o gyllell a'i blicio. Mae'r dalennau yn cael eu gadael i sychu am bedwar neu bum diwrnod, ac yna eu sgriwio gyda'i gilydd i ffurfio rholyn. Yna cânt eu gadael i sychu eto yng ngolau'r haul. Yn olaf, maent wedi'u afliwio â sylffwr deuocsid.[4]
Mae dau fath o sinamon:[9]
- Cinnamomum aromaticum neu cassia: sef y math o sinamon sydd fwyaf cyffredin ar hyn o bryd. Mae ganddo risgl cymharol drwchus. Mae'n gryf chwerw a gyda mwy o gynnwys coumarin. Ceir 4 math:
- C. burmanni (Sinamon Indonesia neu Padang cassia)
- C. cassia (Sinamon Tsienia neu Cassia Tsieina)
- C. loureiroi (Sinamon Saigon neu Cassia Fietnam)
- C. citriodorum (Sinamon Malabar) sy'n llai cyffredin.[10][11][12]
- Cinnamomum zeylanicum neu Cinnamomum verum (Sinamon Ceylon/Sri Lanca): daw ar ffurf sawl haen denau o risgl wedi'u rholio. Mae ganddo flas melysach a mwynach. Ystyrir hwn yn "wir sinamon".[10]
Rhaid ei gadw mewn cynhwysydd aerglos i ffwrdd o olau. Mae arogl sinamon mewn casgen yn para tua blwyddyn, tra bod arogl llawer yn para ychydig fisoedd yn unig.[13]
Cyfansoddiad
[golygu | golygu cod]Am bob 100 gram o sinamon ceir:[14]
- Calorïau: 373 kcal
- Brasterau: 3.2 g
- Colesterol: 0 mg
- Calsiwm: 1,228 mg
- Fitamin C: 28.5 mg
- Carbohydradau: 80.5 g
- Proteinau: 3.9 g
Mae sinamon hefyd yn cynnwys aldehyde sinamig.[5]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 "Canel". Gwasg Prifysgol Cymru. Cyrchwyd 4 Gorffennaf 2024.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 "canyella | enciclopèdia.cat". Cyrchwyd 2021-03-31.
- ↑ 3.0 3.1 "Sinamon, Sinamwn". Geiriadur Prifysgol Cymru. Cyrchwyd 4 Gorffennaf 2024.
- ↑ 4.0 4.1 4.2 4.3 "cinnamon | Plant, Spice, History, & Uses". Cyrchwyd 2021-03-31.
- ↑ 5.0 5.1 "La canyella". Cyrchwyd 2021-03-31.
- ↑ "cinnamon". Oxford English Dictionary (2nd ed.). Oxford University Press. 1989.
- ↑ "97 – Moliant i Sieffrai Cyffin ap Morus o Groesoswallt a'i wraig, Siân ferch Lawrence Stanstry". Guto'rGlyn.net golygydd Eurig Salisbury. Cyrchwyd 4 Gorffennaf 2024.
- ↑ Nodyn:Cite OED2
- ↑ "Quina classe de canyella és la més terapèutica?". Cyrchwyd 2021-03-31.
- ↑ 10.0 10.1 "Encyclopaedia Britannica article on Cinnamon, plant and spice". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 August 2023. Cyrchwyd 10 July 2022.
- ↑ Iqbal, Mohammed (1993). "International trade in non-wood forest products: An overview". FO: Misc/93/11 – Working Paper. Food and Agriculture Organization of the United Nations. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 March 2019. Cyrchwyd 12 November 2012.
- ↑ Bell, Maguelonne Toussaint-Samat (2009). A history of food. Cyfieithwyd gan Anthea (arg. New expanded). Chichester, West Sussex: Wiley-Blackwell. ISBN 978-1405181198.
Cassia, also known as cinnamon or Chinese cinnamon is a tree that has bark similar to that of cinnamon but with a rather pungent odour
- ↑ "6 health benefits of cinnamon". Cyrchwyd 2021-03-31.
- ↑ "Canela: propiedades, beneficios y valor nutricional" (yn Sbaeneg). 2018-08-05. Cyrchwyd 2021-03-31.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Cinnamon: A Multifaceted Medicinal Plant ar wefan National Library of Medicine
- Top 12 health benefits of cinnamon erthygl ar wefan Good Food
- How 90% Of The World’s Pure Cinnamon Is Produced In Sri Lanka | Big Business | Business Insider fideo ar Youtube