Niacin
Enw arall ar niacin ydy vitamin vitamin B3, sef fitamin sy'n hydoddi mewn dŵr ac sy'n wych am atal yr clefyd pellagra. Cyfansoddyn organig ydyw gyda'r formiwla moleciwlar C6H5NO2. Gellir ei greu allan o pyridin.
Disgrifiwyd niacin am y tro cyntaf gan Hugo Weidel yn 1873 pan oedd yn astudio nicotin. Roedd y paratoadau cyntaf ohono wedi ei greu drwy ocsideiddio asid nitrig.
Diffyg yn y diet
Mae diffyg eithriadol o'r fitamin yma yn achosi pellegra, ac ychydig o'i ddiffyg yn effeithio'r [[metaboledd], gan atal gallu'r corff rhag gwrthsefyll oerfel. Mewn llefydd lle mae pobol yn ddibynol ar gorn melys, maent yn aml yn ddiffygiol mewn niacin, gan nad oes llawer o niacin mewn corn melys.
Y lleiafswm dyddiol a awgrymir ohone yw 20 mg y dydd.
Ffynhonnell niacin
Mewn cig mae niacin gryfaf, a hefyd mewn ŷd, burum a chynnyrch llaeth (caws, menyn a.y.b.)
Cynnyrch anifeiliaid | Ffrwythau a llysiau: | Hadau: | Ffwngi: |
---|---|---|---|