Neidio i'r cynnwys

Ŷd

Oddi ar Wicipedia

Unrhyw fath o blanhigion grawn a dyfir er mwyn eu hadau bwytadwy yw ŷd. Yng Ngwledydd Prydain mae hyn yn draddodiadol wedi cyfeirio at wenith, ac yn cyfateb i'r gair Saesneg corn, ond weithiau hefyd haidd a cheirch. Ond sylwch fod amwysedd weithiau ynghylch y gair Saesneg oherwydd bod corn yn yr Unol Daleithiau yn cyfeirio at indrawn yn hytrach na gwenith.