Cwestiynau Cyffredin
Deddfwriaeth ar y wefan hon
- Pa ddeddfwriaethau sy'n cael ei chynnwys ar legislation.gov.uk?
- A fyddaf yn dod o hyd i ddeddfwriaeth newydd ar legislation.gov.uk?
- Pam nad yw'r ddeddfwriaeth yr wyf yn chwilio amdani ar y safle hwn?
- Sut allaf gyrchu deddfwriaeth nad yw ar gael ar legislation.gov.uk?
- Pa ddeddfwriaeth sydd ar gael fel diwygiedig?
- Pa mor gyfredol yw'r cynnwys diwygiedig ar y wefan?
- A fydd y ddeddfwriaeth ddiwygiedig yn cael ei diweddaru o gwbl?
- Sut fyddaf i'n gwybod os yw'r ddeddfwriaeth yr wyf yn edrych arni yn gyfredol neu os oes newidiadau (e.e. effeithiau neu welliannau) nad ydynt wedi cael eu cynnwys eto?
- Pa mor gyfredol yw'r rhestrau o newidiadau heb eu gwneud yn y blwch coch Newidiadau i Ddeddfwriaeth ar frig yr eitemau deddfwriaeth?
- Pwy sy'n cynhyrchu'r fersiwn ddiwygiedig ddiweddaraf o'r ddeddfwriaeth?
Defnyddio legislation.gov.uk
- Sut allaf i agor Deddf gyfan ar legislation.gov.uk?
- Nid wyf yn deall yr awgrymiadau offer, ble allaf i ddod o hyd i ragor o help i ddefnyddio'r safle?
- Beth yw anodiadau?
- A allaf chwilio yn ôl pwnc?
- Sut allaf i roi adborth ar legislation.gov.uk
Help gyda deddfwriaeth
- Ble gallaf gael help i ddeall eitem benodol o ddeddfwriaeth neu faes o ddeddfwriaeth?
- A allwch chi fy helpu i ddod o hyd i’r ddeddf ar bwnc penodol?
- Sut gallaf gael cyngor i mi am broblem gyfreithiol?
- Ble gallaf ganfod rhagor am hanes eitem ddeddfwriaethol a’r broses ddeddfwriaethol?
- Sut ddylwn i gyfeirio at ddeddfwriaeth mewn gwaith academaidd neu gyhoeddiad?
Deddfwriaeth ar y wefan hon
C. Pa ddeddfwriaethau sy'n cael ei chynnwys ar legislation.gov.uk?
A. Mae legislation.gov.uk yn cynnwys y rhan fwyaf (ond nid y cyfan) o fathau o ddeddfwriaeth a'r dogfennau esboniadol sydd i gyd-fynd â nhw. Am restr lawn o'r mathau o ddeddfwriaeth sy'n cael eu cynnwys ar legislation.gov.uk gweler Pori trwy Ddeddfwriaeth. Am ragor o fanylion pa mor gyflawn yw ein set data ar gyfer pob math, cliciwch ar y math o ddeddfwriaeth o'r dudalen Pori trwy Ddeddfwriaeth a gweld y bar gyda chod lliw ar gyfer pob blwyddyn.
- Mae'r holl ddeddfwriaeth o 1988 hyd heddiw ar gael ar y safle hwn (gweler 'Pam nad yw'r ddeddfwriaeth yr wyf yn chwilio amdani ar y safle hwn' am fanylion unrhyw ddeddfwriaeth y gwyddom amdani nad ydym yn ei chynnwys). Mae’r rhan fwyaf o ddeddfwriaethau sylfaenol a sefydlwyd cyn 1988 sy’n dal i fod mewn grym ar gael yma, yn ogystal â’r rhan fwyaf o Ddeddfau lleol, preifat a phersonol. Mewn rhai achosion dim ond y fersiwn wreiddiol a gyhoeddwyd (fel y'i deddfwyd) sydd gennym a dim fersiwn ddiwygiedig. Mae hyn yn digwydd os cafodd y ddeddfwriaeth ei diddymu cyn 1991 ac felly nad oedd wedi ei chynnwys yn y set data ddiwygiedig pan dynnwyd hi o'r Statudau Mewn Grym. Mewn achosion eraill efallai mai dim ond y fersiwn ddiwygiedig sydd gennym os nad yw'r fersiwn wreiddiol (fel y'i deddfwyd) ar gael ar ffurf y gellir ei gyhoeddi ar y we.
- Yr holl ddeddfwriaeth eilaidd o 1987, gan gynnwys Offerynnau Statudol y Deyrnas Unedig, Offerynnau Statudol yr Alban a Rheolau Statudol Gogledd Iwerddon. Yn ychwanegol rydym yn dal detholiad o ddeddfwriaeth eilaidd o 1948-1986, a rhai Rheolau a Gorchmynion Statudol cyn 1948.
- Deddfwriaeth sy’n deillio o’r Undeb Ewropeaidd, fel y nodir yn Atodlen 5 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (c. 16) ar legislation.gov.uk. Rydym wedi cadw a chyhoeddi deddfwriaethau sy’n deillio o’r UE hyd at ymadawiad â’r UE ar 31 Hydref 2019.
C. A fyddaf yn dod o hyd i ddeddfwriaeth newydd ar legislation.gov.uk?
A. Byddwch. Legislation.gov.uk yw'r man cyhoeddi swyddogol ar gyfer deddfwriaeth sydd newydd ei deddfu. Y nod yw cyhoeddi deddfwriaeth ar legislation.gov.uk ar yr un pryd neu o leiaf cyn pen 24 awr, o'i chyhoeddi ar ffurf brintiedig. Gall unrhyw ddogfen sy'n arbennig o gymhleth o ran ei maint neu ei hargraffwaith gymryd mwy o amser i'w pharatoi ac felly bydd fersiwn PDF yn cael ei chyhoeddi yn gyntaf. Rhestrir deddfwriaeth y mae manylion amdani ar y dudalen Deddfwriaeth Newydd yn ôl dyddiad cyhoeddi ar y wefan hon.
C. Pam nad yw'r ddeddfwriaeth yr wyf yn chwilio amdani ar y safle hwn?
A. Mae tri rheswm pam nad yw'r eitem yr ydych yn chwilio amdani ar y safle hwn:
- Efallai nad ydym yn cynnwys yr eitem o ddeddfwriaeth yr ydych yn chwilio amdani oherwydd nad yw ar gael ar fformat y gellir ei gyhoeddi ar y we. Dyma'r rheswm mwyaf tebygol os ydych yn chwilio am hen ddeddfwriaeth a ddiddymwyd cyn ein dyddiad sail sef 1991 neu am ryw reswm arall nas cynhwyswyd yn yr argraffiadau copi caled cynharach o'r statudau adolygedig (gweler isod 'Pa ddeddfwriaeth sydd ar gael fel un ddiwygiedig?'). Efallai y byddwch yn medru cael copi printiedig o'r Llyfrgell Brydeinig sy'n rhedeg gwasanaeth llungopïo ar gyfer cyhoeddiadau swyddogol (gan gynnwys deddfwriaeth) sydd ganddynt, neu gallwch roi cynnig ar wefan yr Archifau Seneddol.
- Mae nifer lai o Ddeddfau, fel y'u
rhestrir isod, nad ydym yn cadw fersiynau diwygiedig
ohonynt ar y wefan am resymau technegol. Rydym yn gobeithio cynnwys y rhain yn
y dyfodol agos.
- 1992 c. 12 Taxation of Chargeable Gains Act 1992s
- 1990 c. 1 Capital Allowances Act 1990
- 1988 c. 1 Income and Corporation Taxes Act 1988
- 1970 c. 9 Taxes Management Act 1970
- Efallai eich bod yn chwilio am ddarn o ddeddfwriaeth yr UE nad yw wedi ei gyhoeddi ar legislation.gov.uk. Dim bob deddfwriaeth sy’n deillio o’r UE a gafodd ei dewis i’w chyhoeddi ar legislation.gov.uk. Mae dewis deddfwriaeth sy’n deillio o’r UE i’w chyhoeddi ar legislation.gov.uk yn gosod ein meini prawf dethol. Mae Archif Gwe Ymadawiad yr UE wedi cadw fersiynau deddfwriaethau’r UE, a detholiad ehangach o ddogfennau, hyd at ymadawiad yr UE ar 31 Hydref 2019. Mae EUR-Lex yn cadw deddfwriaeth yr UE fel mae’n berthnasol yn yr UE.
C. Sut allaf gyrchu deddfwriaeth nad yw ar gael ar legislation.gov.uk?
A. Lle nad yw deddfwriaeth ar gael ar legislation.gov.uk, gallai fod yn bosibl gweld neu gael copi gan un o'r ffynonellau a restrir isod.
Mae Archif Gwe Ymadawiad yr UE yn cynnwys detholiad ehangach o fersiynau deddfwriaethau o EUR-Lex yn Saesneg, Ffrangeg ac Almaeneg, hyd at ymadawiad yr UE ar 31 Hydref 2019. Mae hyn yn cynnnwys Cyfamodau, deddfau deddfwriaethol, Cyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd, cyfraith achosion a deunyddiau ategol eraill, a dyfarniadau Llys Cyfiawnder Ewrop.
Mae'r mwyafrif o lyfrgelloedd prifysgol a llyfrgelloedd cyhoeddus mawr yn cadw cyfrolau rhwymedig blynyddol cyhoeddedig o ddeddfwriaeth sylfaenol a deddfwriaeth eilaidd fel ei gilydd. Fel arfer ceir deddfwriaeth sylfaenol hŷn (cyn y 1900oedd) naill ai yn "Statudau'r Deyrnas" neu'r "Statudau Rhydd". Cyn Deddf Offerynnau Statudol 1946 (c.36), galwyd deddfwriaeth eilaidd yn Rheolau a Gorchmynion Statudol (SROs). O 1894 tan 31 Rhagfyr 1947 roedd SROs yn gyfres flynyddol wedi ei rhifo. Roedd SROs yn bodoli cyn 1894 ond heb eu rhifo. Dechreuwyd ar gyhoeddi cyfrolau blynyddol o SROs yn 1890. Cyn hyn ni chyhoeddwyd y Rheolau, Gorchmynion a Rheoliadau hyn yn systematig. Ar brydiau byddent yn ymddangos mewn Cyhoeddiad Swyddogol fel y London Gazette neu Bapur Seneddol neu Gyhoeddiad gan y Llyfrfa, tra gellir dod o hyd i gyfran ohonynt mewn papurau a argraffwyd gan yr Adran dan sylw neu mewn llyfrau testun yn unig. Gellir canfod gwybodaeth ynghylch SROs yn y cyhoeddiad o'r enw Tabl o Orchmynion y Llywodraeth.
Yng Ngogledd Iwerddon gellir canfod deddfwriaeth sylfaenol a deddfwriaeth isradd nad yw ar gael ar legislation.gov.uk yn y Cyfrolau Blynyddol o ddeddfwriaeth ar gyfer Gogledd Iwerddon. Am ddeddfwriaeth sylfaenol adolygedig Gogledd Iwerddon cyfeiriwch at 2il Argraffiad Statudau Adolygedig (Gogledd Iwerddon) 1981 neu cysylltwch â SPOLegislation@executiveoffice-ni.gov.uk a all helpu defnyddwyr i ddod o hyd i Reolau Statudol Gogledd Iwerddon a deddfwriaeth Gogledd Iwerddon cyn 1921 fel arfer.
Mae gan British History Online destun o Statudau'r Deyrnas o Ddeddfau Cyhoeddus yn dyddio rhwng 1628-1701 (ac eithrio 1629 i 1640 pan nas galwyd y Senedd i eistedd) a thestun Deddfau ac Ordinhadau'r Rhyngdeyrnasiad o 1642-1660.
Mae'r Llyfrgell Ystafell Ymchwil ac Ymholiadau yn Yr Archifau Gwladol yn cadw cyfrolau rhwymedig o ddeddfwriaeth fel y gwneir gan Ystafelloedd Darllen y Gwyddorau Cymdeithasol yn y Llyfrgell Brydeinig. Llyfrgelloedd mawr eraill sy'n cadw Deddfwriaeth y Deyrnas Unedig yw: Llyfrgell Bodleian, Rhydychen; Llyfrgell y Brifysgol, Caergrawnt; Llyfrgell Genedlaethol yr Alban, Caeredin; Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth; Y Brif Lyfrgell – Prifysgol y Frenhines, Belfast a Llyfrgell Coleg y Drindod, Dulyn. Mae Cymdeithas y Cyfreithwyr yn cynnig mynediad i'w Llyfrgell am ddim i Gyfreithwyr yn y DU a Chymru heblaw am gynnig mynediad â thrwydded dydd taledig i bobl nad ydynt yn aelodau o Gymdeithas y Cyfreithwyr (sylwer bod rhaid ymgeisio am drwyddedau dydd o flaen llaw a bod mynediad wedi'i gyfyngu i adnoddau copi caled yn unig).
Cedwir copïau swyddogol o'r holl Ddeddfau yn yr Archifau Seneddol. Hefyd mae gan wefan yr Archifau Seneddol gyfarwyddyd ar Gofnodion Tŷ'r Arglwyddi a Thŷ'r Cyffredin. Mae'r Archifau Seneddol yn agored i'r cyhoedd, fodd bynnag gellir trefnu ymweliadau trwy apwyntiad yn unig ac mae'n rhaid ei wneud o leiaf dau ddiwrnod gwaith o flaen llaw. Cysylltwch â'r Archifau Seneddol trwy e-bost: archives@parliament.uk neu ffoniwch: +44 (0)20 7219 3074) er mwyn trefnu ymweliad.
Mae'r cadwrfeydd yn Yr Archifau Gwladol yn cadw amrywiaeth o ddeddfwriaeth y gellir ei gweld yn yr Ystafelloedd Darllen. Gweler y cyfarwyddyd Chwilio am Gofnodion y Senedd sydd ar gael ar wefan Yr Archifau Gwladol yn ogystal â'r Cyfrin Gyngor ers 1386 sy'n cynnwys gwybodaeth ynghylch sut i ddod o hyd i offerynnau statudol lleol (hefyd gweler gwybodaeth ar offerynnau statudol lleol nes ymlaen yn yr adran hon). I weld dogfennau gwreiddiol, bydd angen ichi gaeltocyn darllenydd trwy ddod â dau ddarn o brawf hunaniaeth gyda chi wrth ichi ymweld. Am ragor o fanylion gweler y tudalennau Cyn i chi Ymweld ar wefan Yr Archifau Gwladol lle gallwch hefyd weld manylion ynghylch Archebu Dogfennau o flaen Llaw.
Gellir gweld rhestr o gasgliadau mawr o ddeddfwriaeth leol yn y Deyrnas Unedig ar y wefan ar http://www.legislation.gov.uk/cy/changes/chron-tables/local/intro (sgroliwch i lawr y dudalen i Adran 6). Hefyd gall llawer o'r rhain ddal deddfwriaeth gyffredinol. Mae ardal hon y wefan hefyd yn darparu mynediad i'r Tabl Cronolegol o Ddeddfau Lleol a'r Tablau Cronolegol o'r Deddfau Preifat a Phersonol. Nid yw Tabl Cronolegol y Statudau ar gyfer deddfwriaeth sylfaenol ar gael eto mewn fformat electronig. Dylai defnyddwyr sy'n dymuno cyfeirio at y cyhoeddiad hwn ymweld â llyfrgell gyhoeddus fawr, llyfrgell brifysgol neu lyfrgell y gyfraith.
Fel arfer nid argraffir Offerynnau Statudol (OSau) lleol a dim ond yn ddiweddar y dechreuon ni lanlwytho ffeiliau PDF o OSau lleol nas argraffir i'r wefan. Does dim bwriad i lanlwytho OSau hŷn nas argraffwyd yn ôl-weithredol gan nad yw'r mwyafrif mewn fformat electronig. Gellir archebu llungopïau o Offerynnau Statudol lleol nas argraffwyd o 1922 i 2006 gan Yr Archifau Gwladol trwy ddefnyddio'r ffurflen gysylltu ar-lein gan ddatgan yr hoffech gael copi o offeryn statudol lleol a gedwir yng nghyfeirnod cadwrfa TS37 ac yn rhoi'r Flwyddyn, Rhif a Theitl OS ble bynnag mae'n bosibl. Dylid e-bostio ceisiadau am Offerynnau Statudol lleol nas argraffwyd nad ydynt eto wedi'i rhoi yn y gadwrfa (h.y. OSau ar ôl 2006) ac nad ydynt ar gael ar y wefan i: siregistrar@nationalarchives.gov.uk. Cedwir Offerynnau Statudol Albanaidd lleol gydag Archifau Cenedlaethol yr Alban (e-bost: enquiries@nas.gov.uk – ffôn: +44(0)131 535 1352 (Ystafell Chwilio Cyfreithiol)). Ar gyfer Rheolau Statudol Gogledd Iwerddon, cysylltwch â'r Swyddfa Cyhoeddiadau Statudol yn Belfast ar +44(0)28 9052 3237 neu e-bostiwch SPOLegislation@executiveoffice-ni.gov.uk.
Gellir prynu copïau print o ddeddfwriaeth a chyhoeddiadau eraill a ddeddfwyd gan Y Llyfrfa Cyfyngedig (TSO) (e-bost: book.orders@tso.co.uk – ffôn: +44 (0) 870 600 5522. Fel arfer mae copïau printiedig o fersiynau diwygiedig o ddeddfwriaeth ar gael trwy gyhoeddwyr cyfreithiol arbenigol yn unig.
C. Pa ddeddfwriaeth sydd ar gael fel diwygiedig?
A. Lle bynnag sy’n bosibl, rydym wedi cyhoeddi deddfwriaethau sy’n deillio o’r UE fel fersiynau diwygiedig ac rydym wedi ymgorffori diwygiadau a wneir gan yr UE hyd at ymadawiad yr UE ar 31 Hydref 2019. Caiff ddiwygiadau a wneir gan ddeddfwriaeth y DU i ddeddfwriaethau’r UE a gedwir eu trin gan legislation.gov.uk yn yr un modd â diwygiadau i ddeddfwriaethau eraill y DU. Caiff y diwygiadau hyn eu cyhoeddi yn Newidiadau i Ddeddfwriaeth cyn gynted â phosibl, a’u gwneud pan ddônt i rym a chaiff fersiynau diwygiedig o’r dogfennau sydd wedi’u newid eu creu. Rydym hefyd yn creu fersiynau amser penodol o ddogfennau i ddangos sut maent wedi newid dros amser.
A. Mae'r rhan fwyaf o fathau o ddeddfwriaeth gynradd (e.e. Deddfau, Mesurau, Gorchmynion Gogledd Iwerddon yn y Cyngor) a deddfwriaeth eilaidd ddethol (e.e. Offerynnau Statudol) ar gael ar ffurf 'ddiwygiedig':
- Deddfau Cyffredinol Cyhoeddus Senedd y Deyrnas Unedig (1801 hyd heddiw)
- Deddfau Senedd Prydain Fawr (1707 – 1800)
- Deddfau Senedd Lloegr (1267 – 1706)
- Deddfau Hen Senedd yr Alban (1424 – 1707)
- Deddfau Senedd yr Alban (1999 hyd heddiw)
- Deddfau Cynulliad Cenedlaethol Cymru (2012 hyd heddiw)
- Mesurau Cynulliad Cenedlaethol Cymru (2008 – 2011)
- Deddfau Senedd Iwerddon (1495 – 1800)
- Deddfau Senedd Gogledd Iwerddon (1921 – 1972)
- Mesurau Cynulliad Gogledd Iwerddon (1974)
- Gorchmynion yn y Cyngor a wnaed dan Ddeddfau Gogledd Iwerddon (1972 hyd heddiw) (deddfwriaeth gynradd Gogledd Iwerddon dan reolaeth uniongyrchol mewn gwirionedd, er eu bod ar ffurf Offerynnau Statudol)
- Deddfau Cynulliad Gogledd Iwerddon (2000 – 2002 a 2007 hyd heddiw)
- Mesurau Eglwys Loegr (1920 hyd heddiw)
- Offerynnau Statudol y Deyrnas Unedig (2018 hyd heddiw)
- Offerynnau Statudol yr Alban (2018 hyd heddiw)
- Offerynnau Statudol Cymru (2018 hyd heddiw)
- Rheolau Statudol Gogledd Iwerddon (2018 hyd heddiw)
- Rheoliadau Ewropeaidd (1958 hyd heddiw)
- Penderfyniadau Ewropeaidd (1953 hyd heddiw)
- Cyfarwyddebau Ewropeaidd (1959 hyd y dyddiad y bydd y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd
Mae deddfwriaeth eilaidd a wnaed yn 2018 ac ymlaen yn cael ei ddiwygio. Cedwir fersiynau diwygiedig o rai deddfwriaethau eilaidd cynharach hefyd ar legislation.gov.uk. Gwnaed y gwaith hwn yn bennaf mewn cydweithrediad â chydweithwyr yn yr Adran Gwaith a Phensiynau ac Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig. Mae’r cynnwys yn awr yn cael ei ymestyn ymhellach i gynnwys deddfwriaeth eilaidd a waned dan a. 2(2) Deddf Cymunedau Ewropeaidd 1972.
Wrth ddweud 'diwygiedig' rydym yn golygu bod gwelliannau a wnaed trwy ddeddfwriaeth ddilynol wedi eu hymgorffori yn y testun.Nid yw'r rhan fwyaf o fathau o ddeddfwriaeth eilaidd wedi eu diwygio ac maent yn cael eu cynnwys yn y ffurf y gwnaed hwy yn wreiddiol yn unig.
Tynnwyd y testun ar gyfer y cynnwys diwygiedig yn bennaf o'r cyhoeddiad Statudau Mewn Grym, rhifyn swyddogol 'dalenni rhydd' o'r llyfr statud wedi ei drefnu yn ôl y testun.Roedd y Statudau Mewn Grym yn cael eu diweddaru'n gyson gydag effeithiau deddfwriaeth newydd a wnaed hyd 1 Chwefror 1991.Daeth dyddiad y diwygiad terfynol hwn yn 'ddyddiad sail' ac ers hynny mae'r cynnwys wedi cael ei symud ymlaen ar y we.Yn gyffredinol nid oedd Statudau Mewn Grym yn cynnwys categorïau penodol o ddeddfwriaeth, fel Deddfau Diwygio Cyfraith Statud, Deddfau Cyfraith Statud (Diddymiadau) a Deddfau'n ymestyn i Ogledd Iwerddon yn unig. (Am ragor o fanylion, gweler Canllaw i Ddeddfwriaeth Ddiwygiedig ar legislation.gov.uk ar dudalen 6). Y brif ffynhonnell arall ar gyfer deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar legislation.gov.uk yw 'The Northern Ireland Statutes Revised', y fersiwn ddiwygiedig swyddogol o ddeddfwriaeth gynradd Gogledd Iwerddon. Mae cynnwys y cyfrolau a rifwyd a'u hatodiadau am y cyfnod o 1921 ymlaen wedi cael eu hymgorffori ar legislation.gov.uk fel yr oedd ar 31 Rhagfyr 2005.
Pan oeddynt ar gael, cyhoeddwyd deddfwriaeth yn deillio o’r UE fel fersiynau diwygiedig yn ymgorffori diwygiadau a wnaed gan yr UE hyd at adael yr UE. Bydd diwygiadau a wneir gan ddeddfwriaeth y DU i ddeddfwriaeth yr UE a gedwir yn cael eu trin gan legislation.gov.uk yn yr un ffordd â diwygiadau i ddeddfwriaeth arall y DU. Cyhoeddir y diwygiadau yn Newidiadau i Ddeddfwriaeth cyn gynted ag sy’n bosibl, a byddant yn cael eu gwneud pan fydd fersiynau diwygiedig o ddogfennau a newidwyd yn cael eu creu. Byddwn hefyd yn creu fersiynau adeg mewn amser o ddogfennau i ddangos sut y maent wedi newid dros amser.
C. Pa mor gyfredol yw'r cynnwys diwygiedig ar y wefan?
A. Mae mwyafrif llethol (dros 98%) y Deddfau ar legislation.gov.uk yn hollol gyfredol. Mae’r neges “newidiadau i ddeddfwriaeth” yn dweud wrthych os oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu.
C. A fydd y ddeddfwriaeth ddiwygiedig yn cael ei diweddaru o gwbl?
A. Bydd. Rydym bellach yn gweithio ar gamau olaf rhaglen i wneud yr holl ddeddfwriaethau diwygiedig yn gyfredol. Ac eithrio rhai achosion penodol sy’n gofyn ychydig mwy o waith (megis Deddf Rheoli Trethi 1970), mae’r ôl-groniad o effeithiau sydd eto i’w gwneud i ddeddfwriaethau Cynradd wedi’i chlirio.
Mae deddfwriaethau eilaidd diwygiedig hefyd yn cael eu cadw’n gyfredol, gyda mwy o ddeddfwriaethau eilaidd i’w diwygio yn y dyfodol. Mae deddfwriaethau’r UE a gedwir yn y broses o gael eu diweddaru gyda nifer sylweddol o ddiwygiadau cywirol a ddaeth i rym ar ymadawiad yr UE, ar 31 Hydref 2019, fodd bynnag oherwydd y nifer o addasiadau nid yw’r broses hon yn debygol o gael ei chwblhau tan 2020.
C. Sut fyddaf i'n gwybod os yw'r ddeddfwriaeth yr wyf yn edrych arni yn gyfredol neu os bydd newidiadau (e.e. effeithiau neu welliant) nad ydynt wedi cael eu cynnwys eto?
A. Pan fyddwch yn agor eitem o ddeddfwriaeth, yn y lle cyntaf bydd neges 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' yn ymddangos ar frig y Rhestr Cynnwys. Bydd hwn naill ai'n datgan nad oes unrhyw newidiadau hysbys heb eu cynnwys yn y Ddeddf yr ydych yn edrych arni neu fod rhai newidiadau heb eu gweithredu gan Dîm Golygyddol legislation.gov.uk. Wrth agor cynnwys unrhyw eitem o ddeddfwriaeth sydd â newidiadau ac effeithiau yn aros i gael eu gweithredu gan y tîm golygyddol bydd yr effeithiau sydd heb eu cynnwys yn cael eu rhestru ar frig y ddarpariaeth.
C. Pa mor gyfredol yw'r rhestrau o newidiadau heb eu gwneud yn y blwch coch Newidiadau i Ddeddfwriaeth ar frig yr eitemau deddfwriaeth?
A. Mae’r newidiadau i ddeddfwriaeth (e.e. effeithiau a gwelliannau) sy’n cael eu harddangos ar frig y dudalen wrth i chi edrych ar ddeddfwriaeth ddiwygiedig yn cael eu hychwanegu cyn gynted ag y bo modd ar ôl i’r ddeddfwriaeth newydd gael ei derbyn. Ond, dim ond ar ôl i gyfres o brosesau golygu paratoadol gael eu cwblhau y mae’r swyddogaeth Newidiadau i Ddeddfwriaeth ar y wefan yn cael ei diweddaru gydag effeithiau deddfwriaeth newydd. Fel arfer mae’r prosesau yma yn cymryd rhwng pedair ac wyth wythnos i’w cwblhau gan ddibynnu ar faint o ddeddfwriaeth newydd sy’n cael ei chreu. Mewn rhai achosion, fel pan fydd Deddf yn fawr iawn neu yn cael effaith fawr, neu fod nifer fawr o Ddeddfau wedi cael y Cydsyniad Brenhinol ar yr un pryd, gall gymryd mwy o amser
Yn achos deddfwriaethau sy’n deillio o’r UE, daeth nifer sylweddol o addasiadau cywirol i ddeddfwriaethau’r DU ar ymadawiad yr UE i rym ar 31 Hydref 2019. Ni fydd yn bosibl cwblhau’r holl ddiweddariadau perthnasol o fewn yr amserlen arferol.
C. Pwy sy'n cynhyrchu'r fersiwn ddiwygiedig ddiweddaraf o'r ddeddfwriaeth?
A. Mae'r cyfrifoldeb am gynnwys diwygiedig legislation.gov.uk gan y Tîm Golygyddol Deddfwriaeth yn yr Archifau Gwladol yn Llundain a staff Swyddfa Gyhoeddiadau Statudol Gogledd Iwerddon yn Belfast. Am ragor o fanylion, ewch i'r tab 'Amdanom Ni' ar frig unrhyw dudalen ar y safle hwn. Yn gynyddol, yn y dyfodol, gwneir gwaith diwygio gan gyfranogwyr arbenigol allanol heblaw am olygyddion mewnol, er y bydd ein golygyddion mewnol yn dal i sicrhau ansawdd uchel yr allbwn a gyhoeddir. (Am ragor o wybodaeth, gweler uchod 'A fydd y ddeddfwriaeth ddiwygiedig yn cael ei diweddaru o gwbl?')
Defnyddio legislation.gov.uk
C. Sut alla i agor Deddf gyfan ar legislation.gov.uk?
A. Ar ôl i chi orffen chwilio am ddeddfwriaeth a dewis eitem o ddeddfwriaeth, byddwch yn cael eich arwain i'r Rhestr Gynnwys ar gyfer yr eitem honno o ddeddfwriaeth. O'r dudalen hon gallwch agor y ddeddfwriaeth ar unrhyw lefel trwy ddewis dewisiadau agor ar y ddewislen ar y chwith.Mae'n bosibl hefyd defnyddio 'dewisiadau argraffu' i greu PDF o'r Ddeddf gyfan.
C. Nid wyf yn deall yr awgrymiadau offer, ble gallaf ddod o hyd i ragor o help i ddefnyddio'r safle?
A. Mae Geirfa lawn o'r termau a ddefnyddir ar y safle yn yr awgrymiadau help ac yn ar waelod y dudalen hon.
Mae'r Canllaw i Ddeddfwriaeth Ddiwygiedig ar legislation.gov.uk yn rhoi golwg gyffredinol o'r dull y mae Tîm Golygyddol legislation.gov.uk yn ei ddefnyddio wrth weithredu newidiadau ac effeithiau i'r fersiynau diweddaraf o ddeddfwriaeth.
Os na allwch ddod o hyd i'r ateb yr ydych yn chwilio amdano ar y dudalen hon yna, os gwelwch yn dda cysylltwch â ni.
C. Beth yw anodiadau?
A. Nodiadau sy'n ymddangos ar waelod darn o destun deddfwriaethol ar legislation.gov.uk yw anodiadau. Fe'u defnyddir yn bennaf i roi'r awdurdod ar gyfer gwelliannau neu effeithiau eraill ar y ddeddfwriaeth, ond gallant gael eu defnyddio hefyd i gyfleu gwybodaeth arall olygyddol.
Mae gan bob anodiad rif cyfeirio ac mae natur yr wybodaeth sydd ynddo yn cael ei gyfleu gan y math o anodiad. Er enghraifft, mae F-notes yn dynodi gwelliannau pan fydd awdurdod dros newid y testun, ac mae I-notes yn cynnwys gwybodaeth am yr amser y daw'r ddarpariaeth i rym. Am ragor o wybodaeth gweler Canllaw i Ddeddfwriaeth Ddiwygiedig ar legislation.gov.uk
C. A allaf chwilio yn ôl pwnc?
A. Nid yw'n bosibl chwilio'r holl ddeddfwriaeth ar y safle hwn yn ôl pwnc ar hyn o bryd. Ond mae'n bosibl pori trwy ddeddfwriaeth eilaidd yn ôl Pennawd Pwnc o'r tab Pori trwy Ddeddfwriaeth. Rhoddir Penawdau Pwnc i Offerynnau Statudol pan fyddant yn cael eu drafftio ac maent yn ymwneud â'r pŵer sydd yn eu galluogi.
C. Sut gallaf i roi adborth ar legislation.gov.uk?
A. Byddem yn croesawu unrhyw adborth neu sylwadau sydd gennych am legislation.gov.uk. Anfonwch eich adborth i ni trwy e-bost.
Help gyda deddfwriaeth
C. Ble gallaf gael help i ddeall eitem benodol o ddeddfwriaeth neu faes o ddeddfwriaeth?
A. I gael rhagor o wybodaeth am eitem benodol o ddeddfwriaeth neu faes o ddeddfwriaeth, dylech gysylltu â’r adran o’r llywodraeth sy’n gyfrifol am y ddeddfwriaeth. Gallwch ganfod pa adran sy’n gyfrifol am ddarn penodol o ddeddfwriaeth trwy edrych ar y bloc llofnod ar yr Offerynnau Statudol sy’n ymwneud â’r ddeddfwriaeth. Ar gyfer Deddfau, os oes Nodyn Esboniadol yn cyd-fynd â nhw (a welir dan y tab “Nodiadau Esboniadol” neu “Rhagor o Adnoddau”) fel arfer mae’r paragraff rhagarweiniol yn nodi pa adran o’r llywodraeth a wnaeth noddi’r Ddeddf trwy’r Senedd. Sylwer mai dim ond yn 1999 y cyflwynwyd Nodiadau Esboniadol i Ddeddfau yn y Deyrnas Unedig. Yn ychwanegol nid oes gan rai Deddfau ariannol penodol Nodiadau Esboniadol fel arfer, gan gynnwys Deddfau Adfeddu a Deddfau Cronfeydd Cyfunol. Yn aml ni fydd gan Ddeddfau a gyflwynwyd i’r Senedd gan Dŷ’r Arglwyddi Nodiadau Esboniadol i gyd-fynd â nhw. Mae rhai Adrannau wedi newid eu henwau dros y blynyddoedd, felly efallai y bydd raid i chi bennu pa adran sydd â’r cylch gorchwyl am y maes penodol o gyfrifoldeb y mae gennych chi ddiddordeb ynddo.
Mae gan rai o Offerynnau Statudol y Deyrnas Unedig Femorandwm Esboniadol i gyd-fynd â nhw (nid y Nodyn Esboniadol ar ddiwedd yr Offeryn Statudol) lle byddwch yn dod o hyd i baragraff sy’n cynnwys manylion cyswllt ar gyfer y darn penodol hwnnw o ddeddfwriaeth. Bydd hyn ym mharagraff 13 yn y rhan fwyaf o Offerynnau Statudol neu Baragraff 9 i Offerynnau Statudol hŷn). Gallwch ddod o hyd i dabiau “Memorandwm Esboniadol” neu “Ragor o Adnoddau” yn y ddeddfwriaeth.
Gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt adrannau’r llywodraeth ar wefan ganolog y llywodraeth – GOV.UK. Mae gan GOV.UK hefyd ddigonedd o wybodaeth am amrywiaeth o bynciau a all fod o gymorth i chi gyda’ch ymholiad.
Mae llawer o ddeddfwriaeth (fel rheoliadau adeiladu, cynllunio, ffyrdd lleol a pharcio, trwyddedu, sŵn ac ati) yn cael eu gweinyddu gan gynghorau lleol mewn gwirionedd ac fel arfer hwy yw’r man cyswllt gorau am gyngor ar y materion hyn. Gallwch hefyd ddod o hyd i fanylion cyswllt cynghorau lleol ar wefan GOV.uk
C. A allwch chi fy helpu i ddod o hyd i'r ddeddf ar bwnc penodol?
A. Mae'n flin gennym na allwn wneud unrhyw waith ymchwil ar eich rhan. Mae legislation.gov.uk yn bodoli fel adnodd ar-lein sy'n galluogi defnyddwyr i wneud eu gwaith ymchwil eu hunain gan ddefnyddio'r cyfleusterau chwilio sydd ar gael. Dylech gadw mewn cof y gall y gyfraith ar unrhyw bwnc penodol fod wedi ei chynnwys mewn nifer o statudau neu offerynnau statudol gwahanol ac efallai bod ffynonellau eraill ar gyfer cyfreithiau perthnasol, fel cyfraith achos, nad ydynt yn cael eu cynnwys ar legislation.gov.uk. Er enghraifft, efallai y byddwch am gael gwybod beth yw'r gyfraith am 'ddebyd uniongyrchol' ac na fydd chwiliadau ar legislation.gov.uk yn dod o hyd i unrhyw ganlyniadau. Mewn gwirionedd, nid yw'r gyfraith yn ymwneud â debyd uniongyrchol yn cael ei rheoli yn uniongyrchol gan statud o gwbl – mae wedi ei seilio mewn cyfraith gyffredin contract ac mae'n cael ei rheoleiddio yn bennaf fel set o reolau anstatudol ynghyd â chyfraith achos. Nid oes gan ein staff y wybodaeth gyfreithiol i ateb y math hwn o gwestiwn ac nid oes gennym yr adnoddau i wneud y gwaith ymchwil angenrheidiol ein hunain ar ran defnyddwyr. Efallai y byddwch yn medru cael cymorth i ymchwilio i bwnc cyfreithiol trwy gysylltu â llyfrgell gyfreithiol.
C. Sut gallaf gael cyngor am broblem gyfreithiol?
A. Ni allwn roi unrhyw gyngor cyfreithiol i chi, dim hyd yn oed cyngor am ddehongli deddfwriaeth yn gywir gan nad oes gennym unrhyw arbenigedd cyfreithiol i’w defnyddio. Ein rôl ni yw cyhoeddi deddfwriaeth a golygyddol yn unig yw’n gwaith yng nghyswllt diwygio deddfwriaeth.
Gallwch gael cyngor am broblemau cyfreithiol gan Gyngor Ar Bopeth, sy’n cynnig Gwasanaeth Cynghori yng Nghymru a Lloegr i helpu pobl i ddatrys eu problemau cyfreithiol, ariannol a phroblemau eraill trwy roi gwybodaeth a chyngor am ddim. Mae Gwasanaethau Cyngor ar Bopeth ar gyfer yr Alban a Gogledd Iwerddon hefyd.
Mae Cyngor ar Bopeth hefyd yn cynnig gwefan i chi eich helpu eich hun hefyd, a elwir yn AdviceGuide, sy’n cynnig cyngor ar gyfer Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon a Chymru.
Yn aml mae’n well cael cyngor ar ymholiadau am bynciau penodol (er enghraifft hawliau defnyddwyr, safonau masnach, hawliau cyflogaeth, dyled, twyll, mabwysiadu, hawliau tenantiaid, ac ati) trwy sefydliadau arbenigol, cyrff rheoleiddiol, neu wasanaethau ombwdsmon sy’n ymdrin â’r pwnc hwn yn unig a sydd â gwybodaeth drylwyr am ba ddeddfwriaeth sy’n berthnasol dan ba amgylchiadau. Fel arfer gellir cael manylion am sefydliadau perthnasol trwy chwilio’r gwefannau AdviceGuide a restrir uchod neu ar wefan GOV.UK.
Mewn rhai achosion mae’n well cael cyngor cyfreithiol proffesiynol. Mae Canolfannau’r Gyfraith yn cynnig cyngor cyfreithiol annibynnol a gwasanaeth cynrychioli ar draws y Deyrnas Unedig. Mae Advicenow yn wefan annibynnol nid er elw sy’n rhoi gwybodaeth gywir, gyfoes ar hawliau a materion cyfreithiol.
Mae Cymdeithas y Gyfraith Cymru a Lloegr yn cynrychioli cyfreithwyr ac yn rhoi gwybodaeth am ddod o hyd i gyfreithiwr ac mae’r Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr, sy’n rheoleiddio cyfreithwyr yng Nghymru a Lloegr, yn rhoi gwybodaeth am beth i’w ddisgwyl wrth ddefnyddio cyfreithiwr. Mae Cymdeithas y Gyfraith yr Alban yn cynrychioli a rheoleiddio cyfreithwyr yn yr Alban a gall eich helpu i ddod o hyd i gyfreithiwr yn yr Alban ac mae Cymdeithas y Gyfraith Gogledd Iwerddon yn cynrychioli a rheoleiddio cyfreithwyr yng Ngogledd Iwerddon a gall eich helpu i ddod o hyd i gyfreithiwr yng Ngogledd Iwerddon. Mae gan yr Ombwdsmon Cyfreithiol bwerau ffurfiol i ddatrys cwynion am gyfreithwyr a thwrneiod.
C. Ble gallaf ganfod rhagor am hanes eitem ddeddfwriaethol a’r broses ddeddfwriaethol?
A. Mae Deddfau yn cychwyn eu hoes fel Mesurau a dim ond ar ôl iddyn nhw fynd trwy’r holl gamau yn y weithdrefn Seneddol a chael Cydsyniad Brenhinol y byddant yn dod yn rhan o’r llyfr statud. Ar ôl cael y Cydsyniad Brenhinol, mae Deddfau yn cael eu cyhoeddi dan awdurdod Argraffydd y Brenin ar y wefan hon. Gellir dod o hyd i wybodaeth am daith Mesur ar wefannau unigol y Senedd a’r Cynulliadau ar gyfer Senedd y Deyrnas Unedig, Senedd yr Alban, Cynulliad Gogledd Iwerddon a Chynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae’r gwefannau yma hefyd yn cynnwys gwybodaeth am eu prosesau a’u gweithdrefnau deddfwriaethol penodol hwy. Gellir dod o hyd i hanes trafodaethau seneddol am Fesurau yn Senedd y Deyrnas Unedig yn Hansard, yr adroddiad air am air a olygwyd o weithdrefnau Tŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi.
Am ddeddfwriaeth yn deillio o’r UE, gweler Deddfwriaeth yr UE a Chyfraith y DU am ragor o wybodaeth.
C. Sut dylwn i gyfeirio at ddeddfwriaeth mewn gwaith academaidd neu gyhoeddiad?
A. Mae’r ffordd y dylid cyfeirio at ddeddfwriaeth mewn gwaith academaidd a chyhoeddiadau yn dibynnu ar yr arddull cyfeirio sy’n cael ei ddefnyddio gan y sefydliad academaidd neu argraffdy dan sylw. Er enghraifft, mae llawer o brifysgolion yn defnyddio canllawiau arddull ar sail Arddull Cyfeirio Harvard. Gall gofynion penodol pob sefydliad neu gyhoeddwyr o ran arddull amrywio, ond fe ddylech chi bob amser wirio gyda’ch adran neu gyhoeddwyr sut y maent yn disgwyl i chi gyfeirio at ddeddfwriaeth yn eich gwaith. Gan gofio hyn, efallai y byddwch yn gweld y canlynol yn ddefnyddiol:
Teitl, blwyddyn a rhif
Mae’r ffurfiau a ddisgrifir yma yn adlewyrchu’r arferion a dderbynnir yn gyffredinol ymhlith llunwyr deddfau ac ymarferwyr cyfreithiol.
Deddfau Cyhoeddus Cyffredinol Senedd y Deyrnas Unedig
Gellir cyfeirio at y rhain trwy ddefnyddio’r teitl byr (sy’n cynnwys y flwyddyn) a rhif y bennod (mewn cromfachau), e.e. Deddf Diwygio Cyfansoddiadol 2005 (p.4).
Gall cyfeiriadau at Ddeddfau cyn 1963 hefyd gynnwys cyfeiriad at y ‘flwyddyn frenhinol’ (hynny yw'r flwyddyn o deyrnasiad y brenin neu frenhines) y sesiwn o’r senedd pan basiwyd y Ddeddf, e.e. Statud San Steffan 1931 (22 a 23 Geo.5 p.4). Mae hyn yn golygu bod y Ddeddf wedi ei phasio yn 1931 yn ystod y sesiwn o’r Senedd oedd yn cynnwys 22fed a 23fed flwyddyn teyrnasiad y Brenin Siôr y Pumed.
Deddfau Lleol Senedd y Deyrnas Unedig
Gallwch gyfeirio at y rhain gan ddefnyddio’r teitl byr (sy’n cynnwys y flwyddyn a rhif pennod mewn rhifolion Rhufeinig (mewn cromfachau), e.e. Deddf Awdurdodau Lleol Llundain 1996 (p.ix)
Deddfau Seneddau Cynharach
Gellir cyfeirio at y rhain yn union yn yr un modd â Deddfau Cyhoeddus Cyffredinol y Deyrnas Unedig ac eithrio, yn achos Deddfau’r hen seneddau yn yr Alban neu Iwerddon, efallai y bydd llythyren ‘A’(S) neu ‘I’ fel bydd yn briodol mewn cromfachau sgwâr ar ddiwedd y cyfeiriad, e.e. Deddf Gwritiau 1672 (p. 16) [A]
Deddfau Senedd yr Alban
Gellir cyfeirio at y rhain trwy’r teitl byr (sy’n cynnwys y flwyddyn) a rhif ‘asp’ (mewn cromfachau), e.e. Deddf Meinwe Dynol (Yr Alban) 2006 (asp 4).
Deddfau Cynulliad Gogledd Iwerddon (a deddfwriaeth gynradd arall ar gyfer Gogledd Iwerddon)
Gellir cyfeirio at y rhain gyda’r teitl byr (sy’n cynnwys y flwyddyn) a rhif y bennod (mewn cromfachau), e.e. Deddf Lles Cymdeithasol (Gogledd Iwerddon) 2002 (p.10).
Mae Deddfau Senedd Gogledd Iwerddon (1921 hyd 1972) a Mesurau Cynulliad Gogledd Iwerddon (1974 yn unig) yn cael eu nodi yn union yr un ffordd â Deddfau Cynulliad Gogledd Iwerddon.
Er mwyn cyfeirio at Orchmynion yn y Cyngor Gogledd Iwerddon, gweler dan ‘Offerynnau Statudol’ isod.
Mesurau Eglwysig
Gellir cyfeirio atynt gan ddefnyddio’r teitl byr (sy’n cynnwys y flwyddyn) a rhif y Mesur (mewn cromfachau) e.e. Mesur Disgyblaeth Clerigwyr 2003 (Rhif 3).
Offerynnau Statudol
Gellir cyfeirio at y rhain yn ôl eu teitl (sy’n cynnwys y flwyddyn) a rhif Offeryn Statudol (O.S.) (mewn cromfachau) e.e. Rheoliadau Diheintyddion 2005 (O.S. 2005/2469).
Bydd Gorchmynion yn y Cyngor Gogledd Iwerddon (sydd ar ffurf Offerynnau Statudol), yn cael eu nodi mewn modd tebyg, ond gan ychwanegu rhif cyfres ‘G.I.’, e.e. Gorchymyn y Gyllideb (Gogledd Iwerddon) 2005 (O.S. 2005/860) (G.I.3.).
Offerynnau Statudol yr Alban
Gellir cyfeirio at y rhain yn ôl eu teitl (sy’n cynnwys y flwyddyn) a rhif Offeryn Statudol yr Alban (O.S.A.) (mewn cromfachau), e.e. Gorchymyn Twbercwlosis (Yr Alban) (O.S.A. 2005/434).
Rheolau Statudol Gogledd Iwerddon
Gellir cyfeirio at y rhain yn ôl teitl (sy’n cynnwys y flwyddyn) a rhif Rheolau Statudol (Rh.S.) (mewn cromfachau), e.e. Rheoliadau Chwareli (Gogledd Iwerddon) 2006 (Rh.S. 2006/205).
Offerynnau Eglwysig
Nid oes gan yr offerynnau yma rifau cyfres, oherwydd bod cyn lleied ohonynt efallai. Yn gyffredinol cyfeirir atynt yn ôl dyddiad yn yr arddull: Offeryn dyddiedig 14.12.2000 a wnaed gan Archesgobion Caergaint a Chaerefrog neu, weithiau: Offeryn yr Archesgobion dyddiedig 14.12.2000.
Awdur
Nid oes ‘awdur’ hawdd ei adnabod ar gyfer Deddf nac Offeryn Statudol yn yr un ffordd ag y mae ar gyfer awdur llyfr neu erthygl. Pe gellid dweud bod ‘awdur’ y Goron fyddai hwnnw. Gwiriwch gyda’ch adran neu gyhoeddwr a oes angen y wybodaeth hon yn y cyfeiriad, ac os oes, sut y maent am ei weld wedi ei fynegi.
Cyhoeddwr
Gellir gweld y wybodaeth hon ar y Ddeddf neu offeryn argraffedig, neu yn y gyfrol rwymedig. Heblaw am ddeddfwriaeth hen iawn (cyn 1889), y cyhoeddwr fydd naill ai Llyfrfa Ei Mawrhydi neu Ei Fawrhydi (HMSO) neu, ers 1996 (1997 i Ddeddfau), ‘Y Llyfrfa Cyfyngedig’ (cwmni preifat sy’n cyhoeddi deddfwriaeth dan awdurdod a goruchwyliaeth HMSO dan gytundeb).
Man Cyhoeddi
Dim ond fel y Deyrnas Unedig y bydd y ‘man cyhoeddi’ yn ymddangos ar gopïau argraffedig o ddeddfwriaeth. Os oes angen lleoliad mwy manwl mewn gwirionedd, yn gyffredinol gellir cymryd bod y man cyhoeddi yn dibynnu ar ba gorff deddfu sydd wedi creu’r ddeddfwriaeth: Llundain (Deddfau senedd y Deyrnas Unedig ac Offerynnau Statudol a wnaed oddi tanynt); Caeredin (Deddfau Senedd yr Alban ac Offerynnau Statudol yr Alban); Belfast (Deddfau Cynulliad Gogledd Iwerddon a Rheolau Statudol Gogledd Iwerddon a wnaed oddi tanynt) neu Gaerdydd (Mesurau Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu Offerynnau Statudol a wnaed gan y Cynulliad).
Sut i gyfeirio at fersiwn ddiwygiedig o Ddeddf
Byddech yn cyfeirio at fersiwn ddiwygiedig o Ddeddf yn union yn yr un modd ag y byddech yn cyfeirio at y Ddeddf fel y’i crëwyd i gychwyn (h.y. y Ddeddf XXX BBBB (p Rhif) ond, yn ôl y confensiwn, fe allech ychwanegu “(fel y’i diwygiwyd)” i ddynodi eich bod yn cyfeirio at y fersiwn ddiwygiedig.
Sut i gyfeirio at Ddeddfwriaeth yn Deillio o’r UE
Er mwyn cynnal sicrwydd cyfreithiol, bydd yr holl ddeddfwriaeth sy’n deillio o’r UE yn cadw’r flwyddyn a’r rhif a roddwyd iddi yn wreiddiol wrth gael eu deddfu yn yr UE. Bydd cyfeiriadau at ddeddfwriaeth yr UE yng nghyfraith y DU, oni bai ei bod yn cael ei nodi’n glir fel arall, i gael eu dehongli fel eu bod yn cyfeirio at y gyfraith UE a gadwyd fel y’i cyhoeddwyd ar legislation.gov.uk neu, pan fydd hynny’n addas, Archif y We Gadael yr UE. Pan fydd bwriad i gyfeirio at fersiwn yr UE o ddeddfwriaeth yr UE, dylid defnyddio’r cyfeiriad Cofnod Swyddogol llawn ac, er mwyn osgoi amheuaeth, dylid cynnwys y datganiad “fel y mae’n weithredol yn yr Undeb Ewropeaidd”.
Mae’r arddull cyfeirio ar gyfer Rheoliadau, Penderfyniadau a Chyfarwyddebau’r UE fel a ganlyn:
- Rheoliad Cyngor (CEE) Rhif 1462/86 o [dyddiad] [pwnc]
- Rheoliad Comisiwn (UE) Rhif 495/2010 o [dyddiad] [pwnc]
- Rheoliad (UE) Rhif 439/2010 Senedd Ewrop a’r Cyngor [dyddiad] [pwnc]
- Penderfyniad y Cyngor [dyddiad] [pwnc]
- Cyfarwyddeb y Cyngor 86/609/CEE o [dyddiad] [pwnc]
- Cyfarwyddeb y Cyngor 2010/24/UE o [dyddiad] [pwnc]
- Cyfarwyddeb 2010/13/UE Senedd Ewrop a’r Cyngor ar [dyddiad] [pwnc]
Geirfa
Pan fydd term sy'n cael ei ddiffinio isod yn cychwyn â phriflythyren, mae hyn yn arwydd bod y term yn cychwyn gyda phriflythyren fel arfer pan fydd yn cael ei ddefnyddio mewn deddfwriaeth neu yn y nodiadau.
Am wybodaeth fwy manwl am y ddeddfwriaeth ddiwygiedig ar y wefan, gan gynnwys arferion golygyddol, gweler Canllaw i Ddeddfwriaeth Ddiwygiedig ar legislation.gov.uk.
- adran
-
Darpariaeth, sydd wedi ei rifo fel arfer, sy'n cyfateb ar legislation.gov.uk i'r lefel isaf o raniad ym mhrif gorff y Ddeddf neu ddeddfwriaeth gynradd arall.
- anodiad
-
Nodyn sy'n ymddangos ar waelod darpariaeth (neu dan y pennawd cysylltiedig os yw'n cyfeirio at raniad ar lefel uwch) ac sy'n rhoi awdurdod i effaith neu wybodaeth ychwanegol am y ddarpariaeth yn gyffredinol neu ran benodol o'r ddarpariaeth.
Mae gan bob anodiad rif cyfeirio ac mae natur yr wybodaeth sydd ynddo yn cael ei gyfleu gan y math o anodiad. Er enghraifft, mae F-notes yn dynodi gwelliannau pan fydd awdurdod dros newid y testun, ac mae I-notes yn cynnwys gwybodaeth am yr amser y daw'r ddarpariaeth i rym.
- arfer pŵer
-
Gall yr ymadrodd hwn gael ei ddefnyddio mewn anodiad mewn darpariaeth sy'n rhoddi pŵer i wneud deddfwriaeth eilaidd (neu isradd) i gofnodi gwneud offerynnau dan y pŵer hwnnw.
- Atodlen
-
Gall eitem o ddeddfwriaeth gael un neu fwy o atodlenni yn dilyn y prif gorff. Pan fydd hyn yn wir, mae'r Atodlenni (ar y cyd) yn cyfateb i raniad strwythurol pwysig yn y ddeddfwriaeth. Yn y rhaniadau lefel uwch yma, efallai bydd un Atodlen neu gyfres o Atodlenni wedi eu rhifo. (Sylwer nad yw'r term 'atodlen' fel arfer yn cael ei sillafu gydag A (neu S fawr) yn Neddfau Senedd yr Alban.)
- atodlen diddymu
-
Atodlen ar ddiwedd eitem o ddeddfwriaeth, ar y diwedd fel arfer, lle rhestrir y darpariaethau deddfwriaethol a ddiddymwyd gan y ddeddfwriaeth.
- Blynyddoedd teyrnasol
-
Mae blynyddoedd teyrnasol yn cyfeirio at y flwyddyn o deyrnasiad brenin neu frenhines ar gyfer y sesiwn o'r senedd pan basiwyd y Ddeddf a gellir cyfeirio atynt wrth gyfeirio at ddeddfwriaeth a wnaed cyn 1963.
- C-notes - Addasiadau ac ati (ddim yn newid testun)
-
Mae 'C' yn cynrychioli 'Cross-notes', a elwid felly oherwydd sut y cawsant eu nodi yn y copïau caled oedd yn rhagflaenu'r cynnwys diwygiedig ar legislation.gov.uk. Defnyddir y math hwn o anodiad i nodi'r effaith pan fydd ystyr, cwmpas neu weithrediad Deddf neu ddarpariaeth ac ati yn cael eu newid mewn rhyw ffordd, ond heb fod unrhyw awdurdod i newid y testun. Y geiriau nodweddiadol a ddefnyddir i fynegi effeithiau o'r math hwn yw 'addaswyd', 'gweithredwyd', 'eithriwyd', 'estynnwyd', 'cyfyngwyd', ac ati.
- croes bennawd
-
Mewn deddfwriaeth gynradd, pennawd mewn llythrennau italig sy'n dynodi pwnc darpariaeth neu grŵp o ddarpariaethau sydd oddi tano. Yn strwythur hierarchaidd deddfwriaeth, mae'n dod dan lefel Rhan neu Bennod ond uwchben lefel y lefel isaf o ddarpariaeth, fel adran mewn Deddf.
Fe'i gelwir yn groes bennawd am ei fod wedi ei ganoli fel arfer, gan redeg ar draws y dudalen. Ond, yn yr arddull newydd o ddrafftio a fabwysiadwyd ar gyfer y rhan fwyaf o ddeddfwriaeth gynradd ers 2001, mae croes benawdau mewn Atodlenni (ond nid yn y prif gorff) yn cael eu gosod i'r chwith.
Sylwer bod elfennau sy'n cael eu galw yn groes benawdau mewn deddfwriaeth eilaidd a all ymddangos yn wahanol i'r rhai mewn deddfwriaeth gynradd ac nid ydynt o angenrheidrwydd ar gyfer yr un diben.
- cychwyn
-
Dyfodiad darpariaeth neu effaith i rym.
Gall cychwyn darn o ddeddfwriaeth gael ei bennu gan ddarpariaeth yn y ddeddfwriaeth ei hun, y cyfeirir ati fel 'darpariaeth cychwyn', neu gall gael ei bennu gan fath arbennig o Offeryn Statudol a elwir yn 'Orchymyn Cychwyn'.
- cyfnewid
-
Yn disgrifio math penodol o welliant pan fydd testun newydd yn cael ei roi yn lle testun sy'n bodoli.
- darpariaeth
-
Defnyddir y term darpariaeth i ddisgrifio elfen y gellir ei diffinio mewn darn o ddeddfwriaeth sy'n cael effaith deddfwriaethol. Fel arfer yn y dogfennau help a'r negeseuon ar y safle hwn bydd yn cael ei ddefnyddio i gyfeirio at adran (neu elfen gyfatebol fel paragraff mewn Atodlen neu erthygl mewn Gorchymyn) ond gall hefyd gyfeirio at raniadau lefel uwch fel Rhannau neu Benodau.
- darpariaeth sy'n effeithio
-
Darpariaeth sy'n achosi un neu fwy o newidiadau neu effeithiau.
- darpariaeth yr effeithir arni
-
Darpariaeth (e.e. adran) sy'n ddarostyngedig i un neu fwy o newidiadau neu effeithiau.
- Deddf
-
Cyfraith sydd wedi ei deddfu gan senedd neu gorff deddfwriaethol tebyg. Yn y Deyrnas Unedig, gall Deddfau fod gan Senedd y Deyrnas Unedig, Senedd yr Alban, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, neu Gynulliad Gogledd Iwerddon. Yn hanesyddol, roedd Deddfau hefyd yn cael eu gwneud gan y seneddau oedd yn cyfarfod cyn i'r Deyrnas Unedig ddod i fodolaeth a gan Senedd Gogledd Iwerddon (1921 hyd 1972).
Mae Deddfau yn ffurf ar ddeddfwriaeth sylfaenol ac.
- deddfwriaeth
-
Y term generig am gyfreithiau o unrhyw fath. Defnyddir y termau 'darn o ddeddfwriaeth' ac 'eitem o ddeddfwriaeth' yn ein gwybodaeth help i olygu dogfen ddeddfwriaeth gyfan o unrhyw fath, er enghraifft Deddf neu Offeryn Statudol.
- deddfwriaeth ddiwygiedig
-
Rydym yn defnyddio'r termau 'diwygio', 'diwygiedig' a 'diwygiad' i gyfeirio at y broses olygyddol o ymgorffori gwelliannau a gweithredu effeithiau eraill mewn deddfwriaeth.
- deddfwriaeth eilaidd
-
Deddfwriaeth ddirprwyedig, fel Offeryn Statudol, a wnaed gan unigolyn neu gorff trwy awdurdod a roddwyd mewn deddfwriaeth sylfaenol. Cyfeirir ato hefyd fel 'deddfwriaeth isradd'.
- deddfwriaeth isradd
-
Gweler deddfwriaeth eilaidd.
- deddfwriaeth sylfaenol
-
Term cyffredinol a ddefnyddir i ddisgrifio'r cyfreithiau a basiwyd gan y cyrff deddfwriaethol yn y Deyrnas Unedig (e.e. Deddf yn Senedd y Deyrnas Unedig).Mae'n wahanol i ddeddfwriaeth eilaidd.
- diddymu
-
Yn disgrifio math arbennig o welliant pan fydd testun sy'n bodoli yn peidio â chael effaith a gall hefyd gael ei dynnu o'r ddeddfwriaeth. Gall diddymiadau hefyd gyfeirio at Ddeddf gyfan. Ar y llaw arall gall y ddeddfwriaeth sy'n cywiro (neu, mewn nifer o achosion, yn ychwanegol) nodi y bydd geiriau neu ddarpariaethau 'yn cael eu gadael allan' neu 'yn peidio â bod ag effaith'.
- disgwyliedig
-
Term yr ydym yn ei ddefnyddio i ddynodi nad yw darpariaeth neu welliant wedi dod i rym eto.
- Diweddaraf sydd ar gael (diwygiedig):
-
Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o'r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau (h.y. gwelliannau ac effeithiau eraill) a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan dîm golygyddol legislation.gov.uk. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i'r testun eto dan 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'.
- dyddiad "dod i rym"
-
Y dyddiad pan fydd darpariaeth ddeddfwriaethol neu effaith yn dod i rym. Gelwir hefyd yn ddyddiad cychwyn.
- dyddiad "gwneud"
-
Y dyddiad pan fydd Offeryn Statudol, neu eitem arall o ddeddfwriaeth eilaidd, yn cael ei ddwyn i fodolaeth yn ffurfiol.Gall ddod i rym ar ddyddiad gwahanol.Fel arfer dywedir bod deddfwriaeth eilaidd wedi ei 'gwneud', yn wahanol i Ddeddfau a deddfwriaeth sylfaenol arall y dywedir fel arfer eu bod wedi eu 'deddfu'. Am y rheswm hwn, gall yr ymadrodd 'gwnaed neu deddfwyd' gael ei defnyddio ar y safle hwn wrth gyfeirio at ddeddfwriaeth yn gyffredinol.
- dyddiad dechrau
-
Dyddiad dechrau fersiwn yw'r dyddiad cynharaf y cafodd effaith i unrhyw raddau neu i unrhyw ddiben.
- Dyddiad Stopio
-
Y dyddiad pan fydd fersiwn newydd yn olynu fersiwn arall neu ei bod yn peidio â chael effaith mewn modd arall.
- dyddiad sylfaenol
-
Y term yr ydym yn ei ddefnyddio ar gyfer y man cychwyn ar gyfer symud diwygio deddfwriaeth ar legislation.gov.uk ymlaen (a chyn hynny ar Gronfa Ddata Cyfraith Statud y Deyrnas Unedig). Hyd y dyddiad hwn y diwygiwyd testun argraffiadau copi caled cynharach pan fyddent yn cael eu defnyddio fel y testun gwreiddiol ar gyfer y fersiwn electronig.
Ar gyfer y rhan fwyaf o fathau o ddeddfwriaeth ddiwygiedig ar legislation.gov.uk, y dyddiad sylfaenol yw 1 Chwefror 1991.
Tynnwyd y testun gwreiddiol ar gyfer y rhan fwyaf o fathau o ddeddfwriaeth yn bennaf o'r cyhoeddiad 'Statudau Mewn Grym', rhifyn swyddogol cynharach o'r llyfr statud diwygiedig. Roedd fersiwn derfynol Statudau Mewn Grym yn cynnwys holl effeithiau deddfwriaeth a wnaed neu a ddeddfwyd hyd at 1 Chwefror 1991, ond fe ymgorfforwyd nifer fechan o Ddeddfau cydgyfnerthu a ddeddfwyd ar ôl y dyddiad sylfaenol, yn 1991 a 1992, hefyd.
Ar gyfer deddfwriaeth ddiwygiedig Gogledd Iwerddon ar legislation.gov.uk, y dyddiad sylfaenol yw 1 Ionawr 2006.
Y testun gwreiddiol ar gyfer y ddeddfwriaeth hon oedd 'The Northern Ireland Statutes Revised', yr argraffiad swyddogol o'r llyfr statud diwygiedig ar gyfer Gogledd Iwerddon.Roedd fersiwn derfynol y testun hwnnw yn ymgorffori holl effeithiau deddfwriaeth a wnaed neu a ddeddfwyd hyd at 31 Rhagfyr 2005.
- E-notes – Gwybodaeth am rychwant daearyddol
-
Mae'r math hwn o anodiad yn cynnwys gwybodaeth am rychwant daearyddol y Ddeddf neu ran berthnasol ohoni.
Prin iawn yw'r defnydd o 'E-notes' ar hyn o bryd, yn bennaf i nodi rhyw gymhlethdod neu newid yn y rhychwant nad oedd wedi ei nodi yn ddigonol yn narpariaeth rhychwant y Ddeddf (er eu bod wedi cael eu defnyddio yn fwy cyffredin yn y gorffennol). Fe'u defnyddir hefyd pan fydd fersiynau niferus o ddarpariaeth a grëwyd ar gyfer gwahanol rychwantau daearyddol.
- effaith
-
Unrhyw effaith y gall un ddarpariaeth ddeddfwriaethol ei chael ar un arall. Yr effaith mwyaf cyffredin yw gwelliant sy'n newid y testun yn y ddeddfwriaeth yr effeithir arni, ond mae hefyd fathau o effeithiau nad ydynt yn newid y testun, fel pan ddywedir bod darpariaeth wedi ei 'haddasu' neu ei 'gweithredu'. Ymdrinnir â digwyddiadau eraill, fel cychwyn darpariaeth, hefyd fel effeithiau ar gyfer dibenion legislation.gov.uk.
Sylwer y gall darn o ddeddfwriaeth, fel Deddf, gynnwys effeithiau mewnol. Er enghraifft, gall darpariaeth mewn Deddf addasu neu weithredu rhyw ddarpariaeth arall yn yr un Ddeddf. Nid oes anodiad wrth yr effeithiau mewnol yma fel arfer. Y prif eithriad yw pan fydd Deddf yn cywiro ei thestun ei hun, a all ddigwydd, er enghraifft, pan fydd Deddf yn ei diddymu ei hun, neu ran ohoni ei hun, ar ryw ddyddiad yn y dyfodol. Hefyd, gall rhai effeithiau mewnol yn ymwneud â chychwyn a graddfa gael eu cofnodi.
- F-notes - Gwelliannau (Testunol)
-
Mae 'F' yn cyfeirio at 'Droednodiadau'.Defnyddir y math hwn o anodiad ar gyfer gwelliannau, gan gynnwys diddymiadau, pan fydd awdurdod i newid y testun.
- fersiwn
-
- Ar y safle hwn gall 'fersiwn' gyfeirio at y fersiwn 'fel y'i deddfwyd' o'r ddeddfwriaeth neu'r fersiwn 'ddiweddaraf sydd ar gael (ddiwygiedig)'. Bydd y wybodaeth hon yn cael ei harddangos yn yr ardal 'Pa Fersiwn' wrth edrych ar y ddeddfwriaeth.
- Defnyddir 'fersiwn' hefyd yng nghyd-destun deddfwriaeth ddiwygiedig i gyfeirio at un neu unrhyw nifer o fersiynau o ddarpariaeth (neu raniad ar lefel uwch o'r ddeddfwriaeth) a all fodoli mewn unrhyw nifer o wahanol fersiynau, a grëwyd fel arfer o ganlyniad i welliannau a wnaed iddi. Gellir gweld y fersiynau hyn trwy ddangos y Llinell Amser Newidiadau.
- fersiwn disgwyliedig
-
Fersiwn o ddarpariaeth (neu raniad ar lefel arall mewn deddfwriaeth) heb ddyddiad dechrau, a grëwyd o ganlyniad i welliant nad yw wedi dod i rym eto.
- fersiynau olynol
-
Fersiwn newydd sy'n cymryd lle fersiwn gynharach o ddarpariaeth (neu raniad ar lefel uwch o ddeddfwriaeth) yw fersiwn olynol.Crëir fersiwn newydd pryd bynnag y bydd y testun yn cael ei ddiwygio.
- geiriau deddfu
-
Geiriau ffurfiol o fwriad deddfwriaethol yn ymddangos yn agos at ddechrau Deddf ar ôl y Teitl Hir.Mae geiriau deddfu yn ymddangos yn y testun rhagarweiniol.
- Gorchymyn y Cyfrin Gyngor
-
Mae'r fath Orchmynion yn wahanol i Orchmynion yn y Cyfrin Cyngor gan iddynt gael eu gwneud gan y Cyfrin Cyngor heb yr angen iddynt gael eu cymeradwyo gan y Brenin. Fel arall, mae ystyriaethau tebyg yn gymwys. Gallant gael eu gwneud dan bwerau statudol (fel Offerynnau Statudol) neu dan yr uchelfraint, ac yn yr achos olaf nis cynhwysir ar legislation.gov.uk.
- Gorchymyn yn y Cyfrin Cyngor
-
Math o ddeddfwriaeth a wneir gan y Brenin yn ôl cyngor y Cyfrin Gyngor (corff sy'n cynnwys Gweinidogion y Goron).Gellir gwneud y Gorchmynion hyn dan bwerau a gynhwysir mewn statud, ac os hynny gallant ymddangos ar ffurf Offerynnau Statudol, yn arbennig y rhai hynny a ddefnyddiwyd i ddeddfu ar gyfer Gogledd Iwerddon yn ystod cyfnodau pan oedd yn cael ei rheoli'n uniongyrchol.(Sylwer, fodd bynnag, y gwneir llawer o Orchmynion yn y Cyngor dan uchelfraint weddilliol y Goron. Gelwir y rhain yn 'Orchmynion Uchelfreiniol' ac nis cynhwysir ar legislation.gov.uk.)
- graddfa
-
Gweler 'graddfa ddaearyddol'.
- graddfa ddaearyddol
-
Yr ardal ddaearyddol yn y Deyrnas Unedig y mae'r ddeddfwriaeth yn berthnasol iddi.
Mae'r term 'graddfa' pan fydd yn cael ei ddefnyddio mewn deddfwriaeth yn cyfeirio at yr awdurdodaeth y mae'n gyfraith ynddi. Felly, gall y raddfa gynnwys y cyfan o'r Deyrnas Unedig neu un neu fwy o'r tair awdurdodaeth yn y Deyrnas Unedig: Cymru a Lloegr; Yr Alban; a Gogledd Iwerddon. Sylwer nad yw 'Lloegr' a 'Chymru' yn ddwy awdurdodaeth ar wahân. Mae'r term 'graddfa' yn cael ei ddefnyddio'n fwy llac ar legislation.co.uk ar gyfer chwilio, i helpu defnyddwyr i ddod o hyd i ddeddfwriaeth sy'n berthnasol i bob un o'r pedair rhan ddaearyddol o'r Deyrnas Unedig. Oherwydd hyn, gall ddynodi gweithrediad tiriogaethol cyfyngedig mewn graddfa dechnegol ehangach. Er enghraifft, gall graddfa'r ddeddfwriaeth fod yn 'Gymru a Lloegr' ond dim ond i Gymru y mae'n berthnasol. Yn ei bryd, fe wneir newidiadau i'r ffordd y mae gwybodaeth 'graddfa' yn cael ei chyflwyno ar legislation.gov.uk fel bod gwybodaeth am raddfa a pherthnasedd tiriogaethol cyfyngedig mewn graddfa ehangach yn cael eu harddangos ar wahân.
Ar hyn o bryd, mae pob 'graddfa' yn cael ei chynrychioli gan un, neu gyfuniad o Loegr (Ll), Cymru (C), Yr Alban (A) a Gogledd Iwerddon (GI). Felly bydd graddfa'r Deyrnas Unedig yn ymddangos fel C+Ll+A+GI a graddfa Prydain Fawr fel C+Ll+A. Gellir arddangos y wybodaeth hon mewn deddfwriaeth ddiwygiedig pan fydd yn cael ei weld trwy ddewis 'dangoswch raddfa ddaearyddol' yn y golofn ar y llaw chwith.
Mae pob fersiwn o bob darpariaeth, a phob rhaniad lefel uwch, mewn darn o ddeddfwriaeth yn cael ei raddfa ei hun. Yn achos rhaniadau lefel uwch bydd y raddfa yn cael ei osod yn ddigon eang i gynnwys y raddfa ar gyfer pob darpariaeth o'i mewn.
Mewn rhai achosion cyfyngedig efallai bod fersiynau lluosog wedi eu creu i gynrychioli gwahanol raddfeydd daearyddol (y cyfeiriwyd atynt yn flaenorol fel 'fersiynau cydamserol' o Gronfa Ddata Cyfraith Statud y DU). Bydd dwy neu fwy o fersiynau o ddarpariaeth (neu raniad ar lefel arall o ddeddfwriaeth) yn cael eu creu pan fydd cyfnewid testun (neu'r ddarpariaeth gyfan ac ati) yn effeithio ar ran yn unig o raddfa ddaearyddol wreiddiol y ddarpariaeth. Mae gan fersiynau o'r fath yr un dyddiad dechrau ac maent yn parhau i redeg ochr yn ochr â'i gilydd.
Er enghraifft, os bydd testun wedi ei gyfnewid mewn darpariaeth sy'n cynnwys y Deyrnas Unedig i gyd, ond mai dim ond ar Gymru y mae'r cyfnewid yn effeithio, bydd dwy fersiwn yn deillio o hyn: un ar gyfer y ddarpariaeth yn ei chyflwr heb ei ddiwygio i gynnwys Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, ac un ar gyfer y ddarpariaeth fel y'i diwygiwyd ar gyfer Cymru.
- gwelliant
-
Effaith sy'n newid testun deddfwriaeth. Mae'r term 'diwygiwyd' hefyd yn cael ei ddefnyddio weithiau ar legislation.gov.uk i nodi effaith sy'n newid ystyr y ddeddfwriaeth er nad yw'r testun ei hun wedi newid.
- gwelliant cynhwysfawr
-
Effaith sydd wedi ei fframio yn y fath fodd fel ei fod yn effeithio ar ddeddfwriaeth yn gyffredinol yn hytrach nag unrhyw ddeddfiad penodol.
- Gwreiddiol (Fel y'i deddfwyd neu y'i gwnaed):
-
Y fersiwn wreiddiol o'r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i'r testun.
- hierarchaeth
-
Mae 'hierarchaeth' a 'strwythur hierarchaidd' yn dermau yr ydym yn eu defnyddio i ddynodi lefelau'r rhaniadau mewn darn o ddeddfwriaeth ar legislation.gov.uk a'r berthynas rhyngddyn nhw. Er enghraifft, mae lefel croes bennawd mewn Deddf yn dod dan lefel y Rhan yn yr hierarchaeth, ond yn uwch na'r lefel adran.
- I-notes - Gwybodaeth cychwyn
-
Mae 'I' yn cynrychioli 'In-force' (mewn grym). Mae'r math hwn o anodiad yn cynnwys gwybodaeth am yr adeg y bydd y ddarpariaeth yn dod i rym ac yn nodweddiadol yn nodi a yw mewn grym yn rhannol neu yn llawn, yn rhoi dyddiad neu ddyddiadau'r cychwyn ac yn dyfynnu'r darpariaethau perthnasol yn y Ddeddf ac unrhyw offerynnau sy'n cychwyn.
Ar hyn o bryd, defnyddir I-notes yn unig os bydd cymhlethdod yn y cychwyn. Os daeth y ddarpariaeth i rym ar un diwrnod i bob pwrpas, ni fydd I-note yn cael ei greu a bydd y dyddiad mewn grym yr un fath â'r dyddiad dechrau ar gyfer y fersiwn gynharaf o'r ddarpariaeth.
- is-ddarpariaeth
-
Unrhyw israniad o ddarpariaeth.
- Llinell Amser Newidiadau
-
Cyfleuster ar legislation.gov.uk sy'n cynnig mynediad at ddeddfwriaeth ddiwygiedig fel yr oedd yn sefyll ar bwyntiau penodol mewn amser.Y dyddiadau a ddangosir ar linell amser unrhyw ddarpariaeth yw dyddiadau dechrau'r fersiynau o'r ddarpariaeth honno a gynhyrchir gan welliannau olynol, neu gallai fod arwydd bod fersiwn yn ddisgwyliedig. Gellir defnyddio'r llinell amser i deithio trwy'r fersiynau i weld sut y mae'r ddarpariaeth yr ydych yn edrych arni wedi newid dros amser neu sut y gall newid yn y dyfodol.
- llyfr statud
-
Term yr ydym yn ei ddefnyddio i ddynodi'r holl gyfraith statud sydd mewn grym ar unrhyw amser penodol.
- M-notes - Cyfeiriadau ymyl y ddalen
-
Gelwir yr anodiad hwn wrth yr enw hwn oherwydd ei fod yn arfer ymddangos ar ymyl y ddalen ar gopi Argraffydd y Brenin o ddeddfwriaeth gynradd.Mae 'M-notes' yn cyfeirio at flwyddyn a rhif y Ddeddf neu offeryn y sonnir amdano yn y testun.
- Memorandwm Esboniadol
-
Mae Memorandwm Esboniadol (EM) yn nodi datganiad byr o ddiben Offeryn Statudol neu Reolau Statudol Gogledd Iwerddon ac yn rhoi gwybodaeth am ei amcan polisi a goblygiadau polisi. Ei nod yw gwneud Offerynnau Statudol neu Reolau yn hygyrch i ddarllenwyr nad oes ganddynt gymhwyster cyfreithiol. Mae Memoranda Esboniadol yn cyd-fynd ag unrhyw Offeryn Statudol neu Offeryn Statudol Drafft a gyflwynir ger bron y Senedd o Fehefin 2004 ymlaen ac unrhyw Reolau Statudol a gyflwynwyd ger bron Cynulliad Gogledd Iwerddon (neu Senedd y Deyrnas Unedig yn ystod y cyfnod pan ohiriwyd Cynulliad Gogledd Iwerddon) ers Mehefin 2004.
- Mesur
-
- Math o ddeddfwriaeth sylfaenol a basiwyd yn Synod Cyffredinol Eglwys Lloegr – gweler 'Mesurau Eglwys Lloegr' yn y Canllaw i Ddeddfwriaeth Ddiwygiedig ar legislation.gov.uk.
- Math o ddeddfwriaeth sylfaenol a basiwyd gan Gynulliad Gogledd Iwerddon fyrhoedlog yn 1974 (mae'r Cynulliad Gogledd Iwerddon presennol yn pasio Deddfau) – gweler 'Deddfau Cynulliad Gogledd Iwerddon (a deddfwriaeth sylfaenol arall ar gyfer Gogledd Iwerddon)' yn y Canllaw i Ddeddfwriaeth Ddiwygiedig ar legislation.gov.uk.
- Math o ddeddfwriaeth sylfaenol a basiwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o 2008 hyd 2011 – gweler 'Mesurau Cynulliad Cenedlaethol Cymru' yn y Canllaw i Ddeddfwriaeth Ddiwygiedig ar legislation.gov.uk. Gall Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn awr basio Deddfau.
- mewnosodiad
-
Yn disgrifio math penodol o welliannau pan fydd testun newydd yn cael ei fewnosod yn y testun sy'n bodoli. Os yw'r testun newydd yn cael ei osod ar ddiwedd y testun sy'n bodoli, gellir defnyddio'r term 'ychwanegwyd' yn lle hynny.
- newidiadau
-
Mae'r termau 'newidiadau' a 'newidiadau i ddeddfwriaeth' yn cael eu defnyddio weithiau ar y safle yn lle'r term 'effeithiau'.
- Nodyn Esboniadol
-
Testun a grëwyd gan yr adran o'r llywodraeth oedd yn gyfrifol am destun y Ddeddf (neu Fesur) i esbonio beth mae'r Ddeddf yn ceisio ei wneud ac i wneud y Ddeddf yn hygyrch i ddarllenwyr nad oes ganddynt gymhwyster cyfreithiol. Cyflwynwyd Nodiadau Esboniadol yn 1999 ac maent yn cyd-fynd â phob Deddf Gyhoeddus ac eithrio Deddfau Adfeddiannu, Cronfa Gyfunol, Cyllid a Chyfnerthiad.
Mae testun o'r enw Nodyn Esboniadol hefyd yn ymddangos yn dilyn testun deddfwriaethol Offerynnau Statudol, Offerynnau Statudol yr Alban neu Reolau Statudol Gogledd Iwerddon. Ar gyfer Offerynnau Statudol Cymru mae'r Nodyn Esboniadol yn rhagflaenu corff yr Offeryn mewn fformat print ond mae'n dilyn y testun deddfwriaethol mewn fformat html. Bwriedir y Nodyn Esboniadol i roi datganiad cryno a chlir o sylwedd yr offeryn. Hefyd mae'n bosibl bod yr offeryn yn dod gyda Memorandwm Esboniadol, Nodyn Gweithredol neu Nodyn Polisi.
- Nodyn Gweithredol
-
Mae Nodyn Gweithredol yn nodi datganiad byr o ddiben Offeryn Statudol yr Alban ac yn rhoi gwybodaeth am ei amcan polisi a goblygiadau polisi. Ei nod yw ceisio gwneud Offeryn Statudol yr Alban yn hygyrch i ddarllenwyr nad oes ganddynt gymhwyster cyfreithiol. Mae Nodiadau Gweithredol yn cyd-fynd ag unrhyw Offeryn Statudol yr Alban neu Offeryn Statudol yr Alban Drafft a gyflwynwyd ger bron Senedd yr Alban o Orffennaf 2005 ymlaen. O Orffennaf 2012 ymlaen, disodlir y rhain gan Nodiadau Polisi.
- Nodyn Polisi
-
Disodlodd Nodiadau Polisi Nodiadau Gweithredol mewn cysylltiad ag Offerynnau Statudol yr Alban yn ystod Gorffennaf 2012, ac maent yn addas i'r un diben.
- Offeryn Eglwysig
-
Math o ddeddfwriaeth eilaidd a wnaed gan Archesgobion Caergaint a Chaerefrog trwy awdurdod sydd yn y Mesurau Eglwysig.
- Offeryn Statudol
-
Math o ddeddfwriaeth eilaidd a wnaed dan yr awdurdod sydd mewn Deddfau Seneddol.
- Offeryn Statudol yr Alban
-
Math o ddeddfwriaeth eilaidd a wnaed dan yr awdurdod sydd yn Neddfau Senedd yr Alban.
- Offerynnau Statudol Cymru
-
Math o Offeryn Statudol sy'n ymwneud yn benodol â Chymru a wnaed dan awdurdod mewn Deddfau Seneddol, ym Mesurau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, neu yn Neddfau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
- P-notes - Deddfwriaeth isradd wedi ei gwneud
-
Mae 'P' yn golygu 'Power exercised' (gweithredwyd y pŵer). Pan fydd darpariaeth deddfwriaeth sylfaenol yn rhoddi pŵer i wneud deddfwriaeth isradd a bod y pŵer hwnnw wedi ei arfer (h.y. bod offeryn wedi ei wneud ar ei sail,) gall yr arfer hwnnw gael ei gofnodi mewn 'P-note'. Bydd yr anodiad yn cyfeirio at unrhyw offerynnau a wnaed dan y pŵer hwnnw.
Ar hyn o bryd, dim ond ar gyfer gwneud gorchmynion cychwyn y defnyddir yr anodiad 'P-note' (sy'n cael eu gwahaniaethau gan rif cyfres 'C' ar ôl rhif yr offeryn) neu arfer pŵer mewn modd arall i benodi diwrnod.
- paragraff
-
Darpariaeth, sydd wedi ei rifo fel arfer, sy'n cyfateb ar legislation.gov.uk i'r lefel isaf o raniad yn yr Atodlen.(Ond sylwch fod y term 'paragraff' hefyd yn cael ei ddefnyddio mewn deddfwriaeth i nodi rhai lefelau o israniadau yn y ddarpariaeth.)
- Pennod
-
- Gelwir rhif cyfresol Deddf (ac eithrio Deddf gan Senedd yr Alban) yn 'Rif pennod'. Er enghraifft, gelwir
Deddf Diwygio'r Heddlu 2002 yn Bennod 30 yn y flwyddyn 2002. Fel arfer bydd pennod (chapter) yn cael ei
dalfyrru:
Deddf Diwygio'r Heddlu 2002 (c. 30) - Lefel rhaniad wedi ei rifo mewn Deddf neu ddeddfwriaeth arall. Fel arfer mae penodau yn dod o dan Rannau ond uwchben croes benawdau yn yr hierarchaeth.
- Gelwir rhif cyfresol Deddf (ac eithrio Deddf gan Senedd yr Alban) yn 'Rif pennod'. Er enghraifft, gelwir
Deddf Diwygio'r Heddlu 2002 yn Bennod 30 yn y flwyddyn 2002. Fel arfer bydd pennod (chapter) yn cael ei
dalfyrru:
- pŵer
-
Defnyddir yn gyffredinol ar legislation.gov.uk i olygu pŵer i wneud deddfwriaeth eilaidd (neu isradd) sydd wedi ei gynnwys mewn darpariaeth sy'n 'rhoddi pŵer'.Cyfeirir at wneud eitem o ddeddfwriaeth eilaidd yn unol â phŵer o'r fath fel 'arfer pŵer'.
- rhaglith
-
Geiriau yn ymddangos yn agos at ddechrau Deddf ar ôl y teitl hir, sy'n nodi'r rhesymau dros basio'r Ddeddf.Mae defnyddio rhaglith yn ddewisol ac maent yn brin erbyn hyn.Byddai unrhyw raglith yn ymddangos yn y testun rhagarweiniol.
- Rhan
-
Rhaniad i brif gorff neu atodlen mewn eitem o ddeddfwriaeth, fel arfer yn rhan o ddilyniant o Rannau wedi eu rhifo.
Gall Rhan gael ei rannu ymhellach yn hierarchaidd yn Benodau, croes benawdau ac adrannau wedi eu rhifo (neu baragraffau, os mewn atodlen).
- rhaniad
-
Term yr ydym yn ei ddefnyddio i ddynodi unrhyw un o'r lefelau hierarchaidd y gellir rhannu darn o ddeddfwriaeth iddynt.
Er enghraifft, y ddau brif raniad o Ddeddf yw'r prif gorff a'r atodlenni, a chyn y rhain mae'r teitl hir, y teitl byr ac unrhyw destun rhagarweiniol arall. Gall y rhaniadau is yn y prif gorff ac atodlenni gynnwys Rhannau, Penodau a chroes benawdau. Y lefel isaf o raniad mewn Deddf yw adrannau (yn y prif gorff) neu baragraffau (yn yr atodlenni).
- Rheolau Statudol Gogledd Iwerddon
-
Math o ddeddfwriaeth eilaidd, sy'n cyfateb i Offerynnau Statudol yng Ngogledd Iwerddon.
- rhoddi pŵer
-
Defnyddir y term pan fydd darpariaeth yn rhoddi pŵer i wneud deddfwriaeth eilaidd.
- statud
-
Eitem o ddeddfwriaeth gynradd, fel Deddf neu Fesur.
- teitl byr
-
Y teitl a ddefnyddir i gyfeirio at Ddeddf neu Fesur fel arfer.Mae'n wahanol i'r teitl hir, sy'n nodi diben y ddeddfwriaeth.
- teitl hir
-
Mae gan Ddeddfau a Mesurau ddau deitl, y 'teitl byr' a'r 'teitl hir'.Mae'r 'teitl hir' yn nodi dibenion y Ddeddf, weithiau yn fanwl iawn, tra bydd y 'teitl byr' yn ffurf fwy cyfleus a byr a ddefnyddir i gyfeirio at y Ddeddf. Er enghraifft, mae gan Ddeddf Petrolewm 1998 (teitl byr) deitl hir sy'n darllen fel hyn:
'An Act to consolidate certain enactments about petroleum, offshore installations and submarine pipelines.'
Ar legislation.gov.uk, mae'r teitl hir yn ffurfio rhan o'r testun rhagarweiniol i'r ddeddfwriaeth.
- testun rhagarweiniol
-
Term yr ydym yn ei ddefnyddio i ddynodi'r elfennau o destun ar frig eitem o ddeddfwriaeth, dan y teitl (neu deitl byr) ond uwchben y prif gorff. Mewn Deddf, bydd hyn yn nodweddiadol yn cynnwys y teitl hir, y dyddiad pan dderbyniodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol, a ffurf gonfensiynol o eiriad i weithredu'r Ddeddf a elwir yn 'eiriau deddfu'.
- X-notes - Gwybodaeth olygyddol
-
Defnyddir yr anodiad 'X-note' ar achlysuron prin i rybuddio defnyddwyr os bydd unrhyw beth y dylent fod yn ymwybodol ohono wrth ddefnyddio'r testun.Maent wedi cael eu defnyddio, er enghraifft, i esbonio anawsterau posibl sy'n deillio o amrywiadau mewn arfer golygyddol cyn SLD dros y blynyddoedd neu i gyfeirio at ansicrwydd yn nhestun Deddfau hen iawn.
Canllaw i Ddeddfwriaeth Ddiwygiedig ar legislation.gov.uk
Mae'r Canllaw i Ddeddfwriaeth Ddiwygiedig ar legislation.gov.uk yn cynnig gwybodaeth gynhwysfawr a manwl am y ddeddfwriaeth ddiwygiedig ar y wefan, gan gynnwys yr arfer golygyddol a ddilynwyd i ddiweddaru'r ddeddfwriaeth ddiwygiedig.
Canllaw i Ddeddfwriaeth Ddiwygiedig ar legislation.gov.uk (1897Kb)
Arferion Offerynnau Statudol
Mae Arferion Offerynnau Statudol yn ddogfen dechnegol i gyfreithwyr a drafftwyr sy'n ymwneud â llunio a gwneud Offerynnau Statudol. Ymhlith pethau eraill mae'n nodi'r gwahanol Ddosbarthau o Offerynnau Statudol ac amrywiol brosesau Seneddol. Nid yw'n werslyfr o'r gyfraith nac yn ganllaw i ddrafftio.
Arferion Offerynnau Statudol (618Kb)