Neidio i'r cynnwys

Y Tywysog William

Oddi ar Wicipedia
William
Tywysog Cymru
William yn 2024
GanwydY Tywysog William o Gymru
(1982-06-21) 21 Mehefin 1982 (42 oed)
Ysbyty Sant Mair, Llundain, Lloegr
PriodCatherine Middleton (pr. 2011)
Plant
Enw llawn
William Arthur Philip Louis
TeuluWindsor
TadSiarl III
MamDiana Spencer
CrefyddProtestannaidd

Y Tywysog William (neu'n llawn: William Arthur Philip Louis; enw seremonïol gan ei Dad: William, Tywysog Cymru ganwyd 21 Mehefin 1982) yw etifedd Gorsedd Prydain (cynt: Gorsedd Lloegr). Ef yw mab hynaf Siarl III, Brenin Lloegr a Diana, Tywysoges Cymru. Ei frawd ieuengaf yw'r Tywysog Harri, Dug Sussex a'i ewyrth yw'r Tywysog Andrew.

Cafodd ei eni yn Ysbyty Sant Mair, Llundain. Ei famaeth oedd Tiggy Legge-Bourke o Grughywel.[angen ffynhonnell] Tom Pettifer, mab Tiggy, oedd y macwy ym mhriodas William.

Priododd William Catherine Middleton yn Abaty Westminster ar 29 Ebrill 2011. Mae ganddynt dri o blant: Y Tywysog Siôr (ganwyd 22 Gorffennaf 2013), Y Dywysoges Siarlot (ganwyd 2 Mai 2015) a'r Dywysog Lewys (ganwyd 23 Ebrill 2018).

Chwaraeon

[golygu | golygu cod]

Mae'r tywysog yn chwarae polo'n rheolaidd, ers ei ddyddiau ysgol e.e. yn Sandringham. Mae'n Arlywydd Cymdeithas Pêl-droed Lloegr ers Mai 2006. Cyn hynny roedd yn adnabyddus am ei gefnogaeth gyhoeddus a brwd i dîm pêl-droed cenedlaethol Lloegr a thîm rygbi cenedlaethol Lloegr. Yn Awst 2006 cyhoeddwyd y byddai'n Is-noddwr Brenhinol Undeb Rygbi Cymru o Chwefror 2007, er ei fod yn cefnogi Lloegr, a chyhoeddodd yr URC eu bod am weld cwpan i enillwyr y gemau prawf rhwng timau rygbi Cymru a De Affrica yn cael ei alw'n "Cwpan y Tywysog William". Mae hyn wedi ennyn ymateb beirniadol iawn yng Nghymru gan fod nifer o bobl yn gweld William fel cefnogwr Lloegr.

Rhoddodd gefnogaeth frwd ac amlwg i dîm rygbi Lloegr yng Nghwpan Rygbi'r Undeb y Byd 2007. Eisoes mae nifer o Gymry'n galw ar swyddogion Undeb Rygbi Cymru i ailystyried eu penderfyniad dadleuol ac i ailenwi'r tlws yn "Gwpan Ray Gravell" er coffadwriaeth i'r diweddar Ray Gravell. Dadleuant fod enwi'r cwpan ar ôl y Tywysog William, Sais sy'n adnabyddus am ei gefnogaeth bersonol i dimau pêl-droed a rygbi Lloegr, yn gwbl anaddas ac mai rheitiach fyddai ei enwi ar ôl Cymro.[1] Lansiwyd deiseb ar-lein yn galw am newid yr enw i "Gwpan Ray Gravell" ar 6 Hydref 2007; deuddydd yn ddiweddarach roedd dros 2,000 o bobl wedi ei harwyddo.

Fel Tywysog Cymru

[golygu | golygu cod]

Wedi i'w dad ddod yn frenin, cadarnhawyd y byddai William yn cael ei wneud yn Dywysog Cymru.[angen ffynhonnell] Yn fuan ar ôl y cyhoeddiad dywedodd Mark Drakeford ei fod eisoes wedi trafod rôl newydd y tywysog gydag ef.[2]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Ymgyrch 'Cwpan Grav' yn tyfu ar wefan y BBC
  2. "'Dim hast i arwisgo tywysog newydd Cymru, ac angen iddo ddysgu mwy am flaenoriaethau'r bobol'". Golwg360. Cyrchwyd 13 Medi 2022.