Neidio i'r cynnwys

William Dean

Oddi ar Wicipedia
William Dean
Ganwyd8 Ionawr 1840 Edit this on Wikidata
Bu farw4 Medi 1905 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Galwedigaethpeiriannydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr

Peiriannydd o Loegr oedd William Dean (8 Ionawr 18404 Medi 1905). Daeth yn Brif Beiriannydd Locomotifau i Reilffordd y Great Western ym 1877, ac ymddeolodd ym 1902.[1]

Cafodd Dean ei addysg yn Ysgol Cwmni Haberdashers, a daeth o'n brentis dros gyfnod o 8 mlynedd yng Ngwaith Heol Stafford, Wolverhampton, gweithdy gogleddol y Great Western. Daeth o'n brif gynorthwyydd i Joseph Armstrong yn Ngwaith Swindon ym 1868. Daeth o'n brif beiriannydd wedi marwolaeth Armstrong. Cynlluniodd sawl dosbarth enwog o locomotifau, megis y dosbarthiadau 'Duke', 'Bulldog' a 'Dean Goods'.[2] Roedd o'n hoff o arbrofi, efo mathau arbrofol o locomotifau a hefyd efo defnydd o fetalau. Yn ystod ei gyfnod, roedd y rheilffordd ynghanol newid o draciau lled llydan i led safonol, felly adeiladodd o nifer o locomotifau a cherbydau newidiadwy.[1] Cynlluniodd y cerbydau coridor cyntaf.[3]

Bu farw yn Folkestone.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 Gwefan Archif y Great Western
  2. Gwefan Grace's Guide
  3. "Gwefan Swindonweb". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-23. Cyrchwyd 2016-07-27.