Tredegar
Math | tref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 15,103, 14,740 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Blaenau Gwent |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 3,167.56 ha |
Cyfesurynnau | 51.7776°N 3.2407°W |
Cod SYG | W04000758 |
Cod OS | SO145095 |
Cod post | NP22 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Alun Davies (Llafur Cymru) |
AS/au y DU | Nick Smith (Llafur) |
- Am leoedd eraill yn dwyn yr enw, gweler Tredegar (gwahaniaethu)
Tref a chymuned ym mwrdeistref sirol Blaenau Gwent, Cymru, yw Tredegar.[1][2] Saif yn Nyffryn Sirhywi. Mae Caerdydd 33.2 km i ffwrdd o Tredegar ac mae Llundain yn 218.7 km. Y ddinas agosaf ydy Casnewydd sy'n 27 km i ffwrdd.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Alun Davies (Llafur Cymru) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan Nick Smith (Llafur).[3][4]
Hanes
[golygu | golygu cod]Wedi'i leoli o fewn ffiniau hanesyddol yr hen Sir Fynwy, fe ddaeth yn ganolfan gynnar y Chwyldro Diwydiannol yn Ne Cymru. Ym 1778, adeiladwyd ffwrnais haearn yn Sirhywi gan Thomas Atkinson a William Barrow a ddaeth i'r ardal o Lundain.[5] Roedd angen tanwydd ar gyfer y ffwrnais, felly cyflogwyd dynion i gloddio glo ym Mryn Bach a Nant-y-bwch. Dyma'r mwyngloddio cyntaf, ar raddfa fach, yn yr ardal.
Methodd y ffwrnais yn 1794. Yn 1797, adeiladodd Samuel Homfray, gyda'i bartneriaid Richard Fothergill a Monkhouse Matthew, ffwrnais newydd, gan brydlesu'r tir o Stâd Tredegar yng Nghasnewydd.[6] Creodd hyn Waith Haearn Sirhywi a oedd yn y pendraw i ddod yn Waith Haearn Tredegar, a enwyd er anrhydedd Ystâd Tŷ Tredegar yn Nhredegar a Pharc Tredegar yng Nghasnewydd yn ne'r sir. Mae Adrian Vaughn, yn ei lyfr Grub, Dŵr a Relief (1985) yn crybwyll mai yn 1832 y cymerodd John Gooch swydd reolwr yng ngweithfeydd haearn Tredegar.
Bu sawl o epidemig colera yn y dref yn ystod y 19g a chrëwyd mynwent benodedig ar gyfer y rhai a fu farw o golera yng Nghefn Golau.[7]
Pensaernïaeth
[golygu | golygu cod]Tŷ Bedwellty
[golygu | golygu cod]Mae Tŷ Bedwellty a'i ardd yn adeilad rhestredig Gradd 2. Yn wreiddiol, roedd yr adeilad yn "fwthyn to gwellt isel", ac fe gafodd yr hen dŷ ei adnewyddu ym 1809. Fe adeiladwyd yr adeilad presennol ym 1818 fel tŷ i Samuel Homfray, a oedd yn brif gyflogwr yr ardal am y rhan fwyaf o'r 19g, trwy ei weithiau glo a haearn.
Cyfrifiad 2011
[golygu | golygu cod]Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[8][9][10][11]
Cloc y Dref
[golygu | golygu cod]Un o brif nodweddion Tredegar yw Cloc y Dref, sydd yn dominyddu ochr ddeheuol canol y dref. Syniad Mrs. R P Davies, gwraig rheolwr Gwaith Haearn Tredegar, oedd cyflwyno "cloc oleuedig aruchel". Ei phenderfyniad hi oedd i adeiladu'r cloc yng nghylch canol y dref.
Enwogion
[golygu | golygu cod]- Aneurin Bevan - gwleidydd
- Ray Reardon - chwaraewr snwcer enwog
- Cliff White - chwaraewr snwcer
- Phil Williams - gwyddonydd a gwleidydd a aned yn y dref
- Christopher Meredith - bardd a nofelydd
Gwybodaeth eraill
[golygu | golygu cod]Yn ôl Cyfrifiad y Deyrnas Unedig 2011, mae 8% o'r boblogaeth yn medru'r Gymraeg. Mae 468 o bobl yn gallu siarad Cymraeg, mae 441 yn gallu darllen Cymraeg, ac mae 392 yn gallu ysgrifennu Cymraeg. Yn 2001, roedd 8.8% o'r boblogaeth yn medru'r Gymraeg.[12]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
- ↑ British Place Names; adalwyd 9 Rhagfyr 2021
- ↑ Gwefan y Cynulliad;[dolen farw] adalwyd 24 Chwefror 2014
- ↑ Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
- ↑ "A look at Old Tredegar in photographs" Volume 1 Philip Prosser Old Bakehouse Publications 1990
- ↑ "B. Gardner's History of Tredegar and other information". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2005-02-19. Cyrchwyd 2010-12-14.
- ↑ Blaenau Gwent County Borough Council: Cefn Golau Cholera Cemetery.
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen farw]
- ↑ "The Changing Face of Wales - Welsh Speakers". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-03-01. Cyrchwyd 2013-03-24.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Gwefan leol Archifwyd 2021-01-17 yn y Peiriant Wayback
- Camera gwefan Archifwyd 2004-03-30 yn y Peiriant Wayback
- Clwb rygbi Archifwyd 2008-06-24 yn y Peiriant Wayback
Trefi
Abertyleri · Blaenau · Bryn-mawr · Glynebwy · Tredegar
Pentrefi
Aber-bîg · Brynithel · Cendl · Cwm · Cwmtyleri · Chwe Chloch · Llanhiledd · Nant-y-glo · Rasa · St Illtyd ·
-->Swffryd · Tafarnau-bach · Trefil · Y Twyn · Waun-lwyd