Thomas Phillips (awdur)
Thomas Phillips | |
---|---|
Ganwyd | 1801 Llanelli |
Bu farw | 26 Mai 1867 Llundain |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bargyfreithiwr, llenor, gwleidydd |
Roedd Syr Thomas Phillips (1801- 26 Mai 1867) yn gyfreithiwr, gwleidydd a dyn busnes a wasanaethodd fel Maer Casnewydd ar adeg Terfysg Casnewydd ym 1839. Roedd hefyd yn amddiffynnwr o'r iaith Gymraeg ac addysg Gymreig.[1]
Cefndir
[golygu | golygu cod]Ganwyd Phillips yn Llanelli, Sir Frycheiniog yn fab hynaf i Thomas Phillips a'i wraig, Ann, (née James) [2]
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Aeth Phillips i bractis cyfreithiol Thomas Prothero fel clerc erthyglau. Wedi cyflawni ei erthyglau a dod yn gyfreithiwr hyfforddedig daeth yn bartner yn y busnes ym 1824. Yn ystod etholiad cyffredinol 1820 bu'n gweithio fel ymgynghorydd cyfreithiol i Syr Charles Gould Morgan, yr ymgeisydd Ceidwadol.[3] Bu Philips yn amlwg ym mywyd cyhoeddus Casnewydd ac ym mis Tachwedd 1838 daeth yn Faer y dref. Roedd yn tynnu i derfyn ei flwyddyn o wasanaeth fel Maer pan dechreuodd Terfysg y Siartwyr a'r ymosodiad ar Westy'r Watergate ar 4 Tachwedd 1839. Cafodd Phillips ei anafu yn y cythrwfl ac fe'i wahoddwyd gan y Frenhines Victoria i aros yng Nghastell Windsor i ymadfer o'i glwyfau. Ar 9fed Rhagfyr cafodd ei urddo'n farchog gan y Frenhines.[4] Ym 1840 fe'i gwnaed yn rhyddfreiniwr Dinas Llundain.[5]
Gan nad oedd bod yn gyfreithiwr bach trefol yn swydd addas i farchog y goron, rhoddodd Phillips heibio i'w bractis ym 1840 gan fynd i'r Deml Ganol i ddyfod yn fargyfreithiwr. Cafodd ei alw i'r bar ym 1842 gan arbenigo fel bargyfreithiwr achosion y Llys Siawnsri (achosion yn ymwneud â busnes, eiddo tir, ewyllysiau ac ati).[6] Fe'i dyrchafwyd yn Gwnsler y Frenhines [7] ac yn Feinciwr y Deml Ganol ym 1865. Cafodd gryn gyfoeth o'i waith cyfreithiol a phrynodd fwyngloddiau yn Ne Cymru.[2]
Cefnogaeth i faes addysg
[golygu | golygu cod]Chwaraeodd Phillips ran fawr yn llwyddiant Coleg Crist, Aberhonddu; Coleg y Drindod, Caerfyrddin ac Ysgol Howells, Llandaf. Roedd yn aelod gweithgar o gyrff llywodraethu Coleg y Brenin, Llundain, a Sefydliad yr Eglwys. Gwasanaethodd fel llywydd cyngor Cymdeithas y Celfyddydau. Ym 1848 daeth yn aelod o'r Gymdeithas Genedlaethol, y corff oedd yn gyfrifol am sefydlu'r Ysgolion Cenedlaethol (Ysgolion i blant Eglwys Loegr). Sefydlodd ysgol yng Nghasnewydd ar gyfer addysgu glowyr oedd wedi methu derbyn addysg yn eu plentyndod.[8]
Teimlai Phillips bod y llyfrau gleision, (adroddiadau'r comisiynwyr ar addysg yng Nghymru, a gyhoeddwyd ym 1847) yn gwneud cam difrifol ar amodau cymdeithasol yng Nghymru, ac ym 1849, ar ôl teithio ledled Cymru i gasglu deunydd, cynhyrchodd ymateb manwl iddynt:Wales: the language, social condition, moral character, and religious opinions of the people, considered in their relation to education: with some account of the provision made for education in other parts of the kingdom. [9] Y flwyddyn ganlynol cyhoeddodd llyfr o'r enw The Life of James Davies, a Village Schoolmaster [10] bywgraffiad i athro gwledig yn Sir Fynwy a oedd hefyd yn rhoi enghraifft o ba mor ymroddedig oedd athrawon Cymru i'r gwaith o addysgu plant o gefndiroedd difreintiedig.
Marwolaeth
[golygu | golygu cod]Ar ôl annerch pwyllgor o Dŷ’r Cyffredin ym 1867, cafodd Phillips ei daro â pharlys a bu farw bum niwrnod yn ddiweddarach yn ei gartref yn Llundain.[11] Claddwyd ei weddillion ym mynwent eglwys St Helen, Llanelen, Sir Fynwy.[12] Roedd yn ddibriod, ac etifeddwyd ei ffortiwn gan fab ei chwaer, Thomas Phillips Price, a wasanaethodd fel AS Gogledd Sir Fynwy rhwng 1885 a 1895.[13]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Thomas Phillips - Y Bywgraffiadur Cymreig
- ↑ 2.0 2.1 Thomas Phillips - Bywgraffiadur Rhydychen
- ↑ "Monmouthshire | History of Parliament Online". www.historyofparliamentonline.org. Cyrchwyd 2020-03-29.
- ↑ "SIR THOMAS PHILLIPS - The Glamorgan Monmouth and Brecon Gazette and Merthyr Guardian". William Mallalieu. 1839-12-14. Cyrchwyd 2020-03-29.
- ↑ "Notitle - Monmouthshire Merlin". Charles Hough. 1840-03-07. Cyrchwyd 2020-03-29.
- ↑ "Chancery Division of the High Court". GOV.UK. Cyrchwyd 2020-03-29.
- ↑ "Notitle - Monmouthshire Merlin". Charles Hough. 1865-02-11. Cyrchwyd 2020-03-29.
- ↑ "Visit to the Examination at Court y Bella SchooI - Monmouthshire Merlin". Charles Hough. 1844-08-24. Cyrchwyd 2020-03-29.
- ↑ Wales: The Language, Social Condition, Moral Character, and Religious Opinions of the People, Considered in Their Relation to Education: Withsome Account of the Provsion Made for Education in Other Parts of the Kingdom ar Google Books adalwyd 29 Mawrth 2020
- ↑ Phillips, Thomas (1850). The life of James Davies, a village schoolmaster. Internet Archive: Saville & Edwards, Covent Garden.
- ↑ "THE LATE SIR THOMAS PHILLIPS - The Cardiff and Merthyr Guardian Glamorgan Monmouth and Brecon Gazette". Henry Webber. 1867-05-31. Cyrchwyd 2020-03-29.
- ↑ "FUNERALOFTHELATESIRTHOMASPHILLIPS - County Observer and Monmouthshire Central Advertiser Abergavenny and Raglan Herald Usk and Pontypool Messenger and Chepstow Argus". James Henry Clark. 1867-06-08. Cyrchwyd 2020-03-29.
- ↑ "The Welsh Members - The Cardiff Times". David Duncan and William Ward. 1892-08-06. Cyrchwyd 2020-03-29.