Neidio i'r cynnwys

Tessa Khan

Oddi ar Wicipedia
Tessa Khan
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Galwedigaethcyfreithiwr, amgylcheddwr Edit this on Wikidata

Mae Tessa Khan yn gyfreithwraig amgylcheddol sy'n byw yn y Deyrnas Unedig. Sefydlodd, ac mae'n gyd-gyfarwyddwraig y Rhwydwaith Ymgyfreitha Hinsawdd (Climate Litigation Network), sy'n cefnogi achosion cyfreithiol sy'n ymwneud â lliniaru newid hinsawdd a chyfiawnder newid hinsawdd. Bu'n ymwneud â chyfraith hawliau dynol, ymgyrchu ac eiriolaeth.[1]

Dros y blynyddoedd, dadleuodd fod gwladwriaethau sofran wedi elwa’n fwriadol o godi lefelau carbon deuocsid ac wedi achosi difrod i'r amgylchedd; ymhlith yr achosion y bu'n rhan ohonyn nhw mae Achos Hinsawdd Iwerddon.[2] Yn ogystal â bod yn gyd-gyfarwyddwr y Rhwydwaith Ymgyfreitha Hinsawdd mae hi hefyd yn aelod o dîm cyfreithiol Urgenda.

Derbyniodd Tessa Khan y wobr Climate Breakthrough yn 2018,[3] ac yn 2019 gosododd y cylchgrawn Time hi ar ei restr o 15 o ferched sy'n arwain y frwydr yn erbyn newid hinsawdd.

Ei gwaith

[golygu | golygu cod]

Yng Ngwlad Thai bu’n gweithio i sefydliad dielw hawliau dynol menywod.[4] Yna, yn 2015 dysgodd am ddyfarniad llys yn Den Haag yn gorchymyn i Lywodraeth yr Iseldiroedd leihau ei hallyriadau nwyon tŷ gwydr. Wedi'i ysbrydoli gan yr achos, symudodd Khan i Lundain i ymuno â thîm cyfreithiol Urgenda Foundation yn 2016.[5][5][6]

Cyd-sefydlodd Khan y Rhwydwaith Ymgyfreitha Hinsawdd gyda Sefydliad Urgenda i gefnogi achosion hinsawdd ledled y byd. Trwy'r sefydliad, mae hi wedi helpu grwpiau o ymgyrchwyr i siwio eu llywodraethau eu hunain yn llwyddiannus.[7] Mae'n delio ag achosion ledled y byd, gan gynnwys Canada, yr Iseldiroedd, Seland Newydd, Norwy, Pacistan a De Korea.[7]

Cefnogodd achosion llys yn yr Iseldiroedd ac Iwerddon, achosion a lwyddodd i herio digonolrwydd cynlluniau'r llywodraeth i leihau allyriadau.[7][8] Yn Rhagfyr 2019, yn achos yr Iseldiroedd v. Urgenda, gorchmynnodd Goruchaf Lys yr Iseldiroedd i’r llywodraeth leihau capasiti gorsafoedd pwerdai glo a goruchwylio oddeutu EUR3 biliwn o fuddsoddiad ar gyfer torri allyriadau carbon.[7]

Disgrifiwyd y fuddugoliaeth gan y Guardian fel "yr achos cyfreithiol mwyaf llwyddiannus ar newid hinsawdd a chyfreitha newid hinsawdd hyd yma."[9]

Yn Awst 2020, yn Cyfeillion Amgylchedd Iwerddon yn erbyn Llywodraeth Iwerddon (neu'r hyn a elwir yn aml yn "Achos Hinsawdd Iwerddon", dyfarnodd Goruchaf Lys Iwerddon fod yn rhaid i'w lywodraeth wneud cynllun newydd a mwy uchelgeisiol i leihau carbon.[7]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Tessa Khan". Climate Breakthrough Project (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-07-20. Cyrchwyd 2021-03-14.
  2. Harvey, Fiona (2020-06-12). "Climate crisis to blame for $67bn of Hurricane Harvey damage – study". the Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-03-14.
  3. "Climate Breakthrough Awardees". Climate Breakthrough Project (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-04-01. Cyrchwyd 2021-03-14.
  4. "Tessa Khan". Climate Breakthrough Project (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-07-20. Cyrchwyd 2021-03-14.
  5. 5.0 5.1 "Meet 15 Women Leading the Fight Against Climate Change". Time. Cyrchwyd 2021-03-14.
  6. Timperley, Jocelyn (July 8, 2020). "The law that could make climate change illegal". BBC (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-03-14.
  7. 7.0 7.1 7.2 7.3 7.4 Kusmer, Anna (August 13, 2020). "Activists took the Irish govt to court over its national climate plan — and won". The World from PRX (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-03-14.
  8. Khan, Tessa (2020-08-16). "Tessa Khan: 'Litigation is a powerful tool in the environmental crisis'". The Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-03-14.
  9. Watts, Jonathan (2020-04-24). "Dutch officials reveal measures to cut emissions after court ruling". The Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-03-14.