Neidio i'r cynnwys

Swig

Oddi ar Wicipedia
Swig
Math o gyfrwngcyfres deledu Edit this on Wikidata
Dechreuwyd1987 Edit this on Wikidata
Iaith wreiddiolCymraeg Edit this on Wikidata


Cyfres o raglenni teledu adloniant oedd Swig a ddarlledwyd ar S4C yn y 1980au a'r 1990au. Roedd y cyfresi wedi ei anelu at bobl ifanc ac yn cynnig golwg 'amgen' ar wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol. Roedd y rhaglenni yn gymysgedd o sgetshis dychanol, eitemau am bynciau llosg a phrotestiadau, adolygiadau, cyfweliadau a pherfformiadau gan grwpiau. Cynhyrchwyd y cyfresi gan HTV Cymru.

Darlledwyd y gyfres gyntaf - Swig o Port - yn ystod wythnos Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bro Madog 1987 a gynhaliwyd ym Mhorthmadog. Dangoswyd rhaglen hanner awr bob nos rhwng dydd Llun a dydd Gwener gyda'r rhaglen wedi ei ffilmio ar y diwrnod. Cyflwynwyd y gyfres gyntaf gan Nia Roberts a Kevin Davies gyda'r actorion Dyfan Roberts a Dewi Rhys yn perfformio sgetshis yn dynwared enwogion a chwarae cymeriadau.

Parhaodd y cyfresi hyd 1993, drwy addasu'r enw 'Swig' ar gyfer lleoliadau'r Eisteddfod, gydag amryw o gyflwynwyr. Yn y 1990au perfformiwyd sgetshis gan yr actorion Rhys Ifans, Meirion Davies a Lisa Palfrey a chyflwynwyd y cymeriadau 'Hywel Pop', 'Horni', 'Dazzer Dean "The Epileptic Sex Machine"' ac 'Y Ddau Ffranc'. Aeth cymeriadau y ddau Ffranc i ymlaen i gael sioe eu hunain Pobl y Chyff.

Cyfresi

[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]