Steve Rixon
Steve Rixon | |
---|---|
Ganwyd | 25 Chwefror 1954 Albury, De Cymru Newydd |
Dinasyddiaeth | Awstralia |
Galwedigaeth | cricedwr |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Tîm criced cenedlaethol Awstralia |
Cyn-chwaraewr criced o Awstralia yw Stephen John Rixon (ganwyd 25 Chwefror 1954).
Ganwyd Rixon yn Albury, De Cymru Newydd. Chwaraeodd mewn 13 Test a 6 gêm Un Dydd Rhyngwladol rhwng 1977 ac 1985. Dechreuodd chwarae ar dîm Awstralia fel ceidwad wiced ym 1977–1978 ar ôl i Rodney Marsh ymuno â Criced Cyfres y Byd, a collodd ei le pan ddychwelodd Marsh i'r tîm. Dychwelodd Rixon i'r tîm yn 1984–1985 wedi ymddeoliad Marsh ac roedd Wayne Phillips wedi ei anafu.
Ymunodd Rixon â taith gwrthryfela De Affrica ym 1985–1986, ond nid oedd yn gallu ail-ymuno â'r tîm cenedlaethol pan ddychwelodd.
Ers ymddeol, mae Rixon wedi bod yn hyfforddwr ar gyfer Tîm criced Seland Newydd, De Cymru Newydd, Surrey, ac yn bresennol, The Scots College, Sydney. Mae hefyd yn hyfforddi'r Hyderabad Heroes yng Nghyngrhair Criced India.
Bu adroddiadau fod ganddo ddiddordeb mewn cymryd drosodd fel hyfforddwr Tîm criced Awstralia pan fyddai'r hyfforddwr, John Buchanan yn gadael ar ôl cyfres Lludw 2006–2007, ond ni apwyntiwyd ef, a cymerodd Tim Nielsen y swydd.