Steroid
Enghraifft o'r canlynol | dosbarth strwythurol cyfansoddion cemegol |
---|---|
Math | organic polycyclic compound, Terpenoid, biogenic lipid |
Rhan o | steroid binding, steroid catabolic process, steroid metabolic process, steroid biosynthetic process, steroid 11-beta-monooxygenase activity |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cyfansoddyn organig yw steroid ac mae iddo bedwar cylch sydd wedi eu trefnu mewn cyfluniad moleciwlaidd penodol. Ymhlith yr enghreifftiau amlwg y mae colesterol lipid dietegol, yr hormonau rhyw estradiol a thestosteron:10-19 a'r cyffur gwrthlidiol decsamethason.[1][2] Ceir dwy brif swyddogaeth fiolegol i steroidau: mae rhai steroidau (megis colesterol) yn chwarae rhan allweddol mewn cellbilennau ac yn newid hylifedd pilenni, gweithreda llawer o steroidau hefyd fel moleciwlau signalau sy'n actifadu derbynyddion hormonau steroid.
Mae strwythur craidd steroid yn cynnwys dau ar bymtheg o atomau carbon sydd wedi'u bondio mewn pedwar cylch "ymdoddedig": tri chylch yn cynnwys chwe aelod seiclohecsan (cylchoedd A, B a C yn y darlun) ac un cylch o bum aelod cyclopentane (cylch D). Mae steroidau'n amrywio yn ôl grŵp swyddogaethol, nodwedd sydd ynghlwm a'r strwythur craidd uchod, ynghyd â chyflwr ocsidiad y cylchoedd. Math o steroid yw sterolau, ac maent yn cynnwys hydrocsyl yn safle tri'r darlun a deillia eu sgerbwd o cholestane.:1785f [3] Gallant hefyd amrywio'n sylweddol wedi newidiadau i strwythur y cylch (er enghraifft, holltau yn y cylchoedd sy'n cynhyrchu secosteroidau, fel fitamin D3).
Gellir canfod cannoedd o steroidau mewn planhigion, anifeiliaid a ffyngau. Mae'r holl steroidau yn cael eu cynhyrchu mewn celloedd o'r sterols lanosterol (anifeiliaid a ffyngau) neu cycloartenol (planhigion). Deillia lanosterol a cycloartenol o cylcheiddiad y sgwâr triterpene.[4][5]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Lednicer D (2011). Steroid Chemistry at a Glance. Hoboken: Wiley. ISBN 978-0-470-66084-3.
- ↑ "Antiinflammatory action of glucocorticoids--new mechanisms for old drugs". The New England Journal of Medicine 353 (16): 1711–23. Oct 2005. doi:10.1056/NEJMra050541. PMID 16236742. https://pedclerk.uchicago.edu/sites/pedclerk.uchicago.edu/files/uploads/Addison%27sGCTx.NEJM_.2005.pdf. Adalwyd 2018-03-06.
- ↑ "Nomenclature of steroids, recommendations 1989". Pure Appl. Chem. 61 (10): 1783–1822. 1989. doi:10.1351/pac198961101783. http://iupac.org/publications/pac/pdf/1989/pdf/6110x1783.pdf. Also available with the same authors at "IUPAC-IUB Joint Commission on Biochemical Nomenclature (JCBN). The nomenclature of steroids. Recommendations 1989". European Journal of Biochemistry / FEBS 186 (3): 429–58. Dec 1989. doi:10.1111/j.1432-1033.1989.tb15228.x. PMID 2606099. http://onlinelibrary.wiley.com/doi/10.1111/j.1432-1033.1989.tb15228.x/epdf.; Also available online at "The Nomenclature of Steroids". London, GBR: Queen Mary University of London. t. 3S–1.4. Cyrchwyd 10 May 2014.
- ↑ "Lanosterol biosynthesis". Recommendations on Biochemical & Organic Nomenclature, Symbols & Terminology. International Union Of Biochemistry And Molecular Biology.
- ↑ CarbDM: Anabolic steroids and Performance enhancing substance
"The nuclear pregnane X receptor: a key regulator of xenobiotic metabolism". Endocrine Reviews 23 (5): 687–702. Oct 2002. doi:10.1210/er.2001-0038. PMID 12372848.