Sonia Edwards
Sonia Edwards | |
---|---|
Ganwyd | 1961 Cemaes |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | llenor |
Awdures Gymreig yw Sonia Edwards (ganed Cemaes, Ynys Môn), enillydd Llyfr y Flwyddyn ym 1996, Medal Ryddiaith 1999 a 2017. Bu'n athrawes yn Ysgol Gyfun Llangefni cyn ymddeol yn gynnar i sgwennu'n llawn amser.[1]
Addysg
[golygu | golygu cod]Addysgwyd yn Ysgol Gynradd Cemaes, Ysgol Uwchradd Syr Thomas Jones a Phrifysgol Bangor.[2]
Gwobrau
[golygu | golygu cod]Enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Ynys Môn 1999 gyda Rhwng Noson Wen a Phlygain ac enillodd eto yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Ynys Môn 2017 gyda Rhannu Ambarél. Daeth Y Goeden Wen yn ail yng nghystadleuaeth y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Dinbych 2001.
Enillodd y gyfrol Byd Llawn Hud o farddoniaeth (a oedd yn cynnwys cyfraniadau gan Sonia Edwards, Ceri Wyn, Tudur Dylan, Mererid Hopwood, ac Elinor Wyn Reynolds) Wobr Tir na n-Og yn 2003.[3]
Roedd ei llyfr Merch Noeth ar restr hir Llyfr y Flwyddyn yn 2004. Hyd at 2017 roedd wedi cyhoeddi 27 o nofelau a chasgliadau o straeon byrion i blant, pobl ifanc ac oedolion.[4]
Personol
[golygu | golygu cod]Mae'n fam i Rhys, sy'n athro ac yn brif leisydd y grŵp Fleur de Lys, ac yn byw yn Llangefni.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Glas Ydi'r Nefoedd (Gwasg Gwynedd, 1993)
- Cysgu ar Eithin (Gwasg Gwynedd, 1994)
- Gloynnod (Gwasg Gwynedd, 1995)
- Llen dros yr Haul (Gwasg Gwynedd, 1997)
- Y Llais yn y Llun (Gwasg Gwynedd, 1998)
- Stori'r Dydd: Straeon y Babell Lên, Môn '99, un o'r 7 stori yn y casgliad (Gwasg Carreg Gwalch, 1999)
- Rhwng Noson Wen a Phlygain (Gwasg Gwynedd, 1999)
- Cadwyn o Flodau (Gwasg Gomer, 2000)
- Cywion Uffern (Gwasg Gwynedd, 2000)
- A White Veil for Tomorrow (Parthian Books, Gorffennaf 2001) – cyfieithiad o Rhwng Noson Wen a Phlygain (1999) gan yr awdures ei hunan
- Y Goeden Wen (Gwasg Gwynedd, 2001)
- Help! Mae 'Na Hipo yn y Cwstard! (Gwasg Gwynedd, 2002)
- Elain (Gwasg Gomer, 2003)
- Merch Noeth (Gwasg Gwynedd, 2003)
- Byd Llawn Hud, gyda Ceri Wyn, Tudur Dylan, Mererid Hopwood, Elinor Wyn Reynolds (Gwasg Gomer, 2004)
- Hwrê! Mae 'Na Hipo'n Tynnu'r Sled! (Gwasg Gwynedd, 2004)
- Y Tŷ Ar Lôn Glasgoed (Y Lolfa, 2005)
- Noson y Llygaid Llachar (Gwasg Gomer, 2005)
- Uffar o Gosb (Y Lolfa, Tachwedd 2005)
- White Tree (Parthian Books, 2006) – cyfieithiad o Y Goeden Wen (2001) gan yr awdures ei hunan
- Yr Arwisgo: Dyddiadur Sara Harris (Gwasg Gomer, 2007)
- Angel Pen Ffordd (Gwasg Gomer, 2008)
- Deryn Glân i Ganu (Y Lolfa, 2008)
- 20 Stori Fer - Cyfrol 1, un stori o'r casgliad (Y Lolfa, 2009)
- Mynd Dan Groen (Gwasg Gomer, 2010)
- Brecwast i Gath, Swper i Gi (Gwasg Gomer, 2010)
- Jelygaid (Gwasg Gomer, 2012)
- Byd Gwaith/Profiad Paula (CAA, 2012)
- Siopau Mân, Siopau Mawr / Angel (CAA, 2012)
- Rhywle yn yr Haul (Y Lolfa, 2013)
- Bryn Arth (Gwasg Gomer, 2013)
- Mynd Adra'n Droednoeth (Gwasg y Bwthyn, 2014)
- Rhannu Ambarél (Gwasg y Bwthyn, 2017)
- Glaw Trana (Gwasg y Bwthyn, 2017)
- Gwennol (CAA, 2018)
- Samsara (Y Lolfa, 2018)
- Gavi (Gwasg y Bwthyn, 2020)
- Erchwyn (Gwasg y Bwthyn, 2024)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Sonia Edwards. Y Lolfa. Adalwyd ar 13 Mehefin 2011.
- ↑ Adnabod Awdur: Sonia Edwards. Cyngor Llyfrau Cymru (2009).
- ↑ BYWGRAFFIADAU AWDUR: Sonia Edwards. Gomer. Adalwyd ar 13 Mehefin 2011.
- ↑ Gwefan lleol.cymru; adalwyd 9 Awst 2017.