Siôn Bradford
Siôn Bradford | |
---|---|
Ffugenw | Siôn Bradford |
Ganwyd | 1706 (yn y Calendr Iwliaidd) |
Bu farw | 6 Mehefin 1785 |
Galwedigaeth | bardd |
Bardd o ardal Tir Iarll ym Morgannwg yn y 18g oedd Siôn Bradford, a adnabyddir hefyd fel John Bradford (1706 - 1785). Mae'n adnabyddus yn bennaf heddiw am iddo fod yn athro barddol i Iolo Morganwg.[1]
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]A'i wreiddiau yn Nhir Iarll, ardal sy'n enwog am ei draddodiad llenyddol, roedd Siôn Bradford yn aelod o gylch o feirdd a gwŷr llên ym mlaenau Bro Morgannwg. Bu'n astudio'r traddodiad barddol Cymraeg yn ei ieuenctid a ddaeth yn athro i feirdd eraill yn y cylch. Ymddiddorai yn hanes a thraddodiadau Cymru hefyd ac roedd yn gasglwr llawysgrifau Cymreig er ei mai gwëydd a phannwr digon distadl oedd o ran ei alwedigaeth.[1]
Fe'i cofir yn bennaf am iddo ddod yn athro barddol i'r Iolo Morganwg ifanc. Ar ôl marwolaeth Siôn, honnai Iolo fod ei athro barddol yn perthyn i olyniad o feirdd "derwyddol" a'i fod wedi dysgu rhai o gyfrinachau Gorsedd y Beirdd ganddo, ond gwyddys bellach mai rhan o ffugiadau niferus Iolo ei hun yw hyn. Dyrchafodd Iolo alluoedd barddol ei athro hefyd, ond nid ystyrir fod llawer o werth llenyddol i'w cerddi erbyn heddiw, er eu bod o ddiddordeb hanesyddol.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 G. J. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg (Gwasg Prifysgol Cymru, 1948).