Rwmania Fawr
Mae Rwmania Fawr (Rwmaneg: România Mare hefyd România Întregită - "Rwmania Integreiddiedig") yn cysyniad gwleidyddol iredentaidd sy'n cyfeirio at diriogaeth Rwmania rhwng yr Rhyfel Byd Cyntaf a'r Ail Ryfel Byd pan gyrhaeddodd gwlad y Balcanau ei estyniad daearyddol mwyaf.
Nid oes gan y term Rwmania Fawr yr un adlais gwladychol, gall gyfeirio a Frenhiniaeth Rwmania rhwng y Rhyfel Byd Cyntaf a'r Ail Ryfel Byd - gwladwriaeth a gydnebyd yn ryngwladol [1] heddiw, i gyfeirio at freuddwyd i aduno'r tiriogaeth hynny [2][3].
Rhyfel Mawr
[golygu | golygu cod]Arwyddwyd Cytundeb Bucharest (1916) rhwng Brenhiniaeth Rwmania a Chynghreiriaid (Prydain, Ffrainc) ar 17 Awst 1916 yn ninas Bucharest.[4] Roedd y cytundeb yn nodi'r amodau y cytunodd Rwmania i ymuno â'r rhyfel ar ochr yr Entente (Prydain a Ffrainc), yn enwedig addewidion tiriogaethol yn Awstria-Hwngari. Rhwymodd y llofnodwyr eu hunain i gadw cynnwys y cytundeb yn gyfrinachol nes bod heddwch cyffredinol yn dod i ben.
Nododd rhan o'r Proclamasiwn gan y Ferdinand I, Brenin Rwmania, "Mae'n ddiwrnod undeb holl ganghennau ein cenedl. Heddiw, gallwn gwblhau tasg ein cyndadau a sefydlu am byth yr hyn na lwyddodd Michael Fawr i'w sefydlu am eiliad, sef, undeb Rwmania ar ddwy lethr y Carpathiaid." ar 28 Awst 1916[5]
Bathwyd yr enw ychydig ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, pan dderbyniodd Rwmania fel iawndal am diriogaethau hanesyddol rhyfel Transylfania a Bucofina gan Ymerodraeth Awstria-Hwngari a Bessarabia o Rwsia gan Cytundeb Paris 1920.[6] Roedd yr enw'n arwydd o gyflawniad cenedl-wladwriaeth Rwmania ac dadeni diwylliannol a chenedlaethol pwysig. Adlewyrchwyd y newidiadau tiriogaethol yn ddiweddarach yng nghytuniadau maestrefol Paris, Neuilly-sur-Seine (1919), Trianon a Sèvres (y ddau yn 1920). Ar ei fwyaf roedd y wladwriaeth Rwmania Fawr/Brenhiniaeth Rwmania rhwng y ddau ryfel byd yn 295,049 km² o'i chymharu â 238,397 km² gwladwriaeth Rwmania gyfoes.
Rhwng y Ddau Ryfel Byd
[golygu | golygu cod]Yn 1918, ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, unwyd Transylvania, Bucovina a Bessarabia yn nheyrnas hynafol Rwmania.
- Transylfania oedd yr olaf i gael ei huno a gwnaeth hynny trwy 'Gyhoeddiad Undeb Alba Iulia'. Cefnogwyd y datganiad gan ASau Rwmania a’r Almaen yn Transylfania ond nid gan Hwngariaid (24%) a bleidleisiodd yn ei erbyn.
- Bucofina, pleidleisiodd cyngor cenedlaethol sy'n cynrychioli'r bobl i ymgorffori'r rhanbarth yn y wlad. Pleidleisiodd dirprwyon Rwmania, Almaeneg, Pwyleg ac Iddewig yn y gadarnhaol, ond pleidleisiodd Wcraniaid (37%) yn negyddol.
- Besarabia, ar ôl nodi bod gan y Cyngor Gwlad sofraniaeth dros y rhanbarth mor gynnar â 1917, ac er mwyn osgoi anhrefn yn sgil Chwyldro Rwseg, galwyd milwyr Rwmania i mewn i'w hamddiffyn rhag cyrch Bolsieficaidd. Ar 9 Ebril 1918, pleidleisiodd 86 o’r 148 o ASau etholedig dros ymuno â Rwmania. Bessarabia bellach, yw gwladwriaeth Moldofa.
Gweinyddiaeth a Demograffi
[golygu | golygu cod]Coronwyd Ferdinand I a Marie yn Frenin a Brenhines Rwmania Fawr ar 15 Hydref 1922 yn yr Eglwys Gadeiriol Uniongred a adeiladwyd yn arbennig yn ninas Alba Iulia. Ar 29 Mawrth 1923, daeth cyfansoddiad newydd i rym. Sefydlodd hyn system weinyddu unffurf, ganolog ar gyfer y wlad gyfan. Rhannwyd hyn yn 71 județ (sir), pob un ohonynt yn ddarostyngedig i raglaw a benodwyd gan y llywodraeth ganolog yn Bucharest - yn debyg i Départements Ffrainc. Ni ddarparwyd ar gyfer ymreolaeth ranbarthol - er enghraifft ar gyfer y rhanbarthau oedd â phoblogaeth fawr o Hwngariaid, Wcrainiaid, Bwlgariaid neu Almaenwyr - yn y cyfansoddiad yn ôl y "genedl-wladwriaeth unedig ac anwahanadwy".[7] Ni chyhoeddwyd Eglwys Uniongred Rwmania yn eglwys wladol, ond nodwyd ei phwysigrwydd pennaf i'r wlad yn y cyfansoddiad. Mae llawer o'r dinasoedd a arferai fod yn Hwngariaid ac Almaenwyr yn rhan ogledd-orllewinol Ymerodraeth Awstria-Hwngari gynt. Roedd yna lawer o weithgaredd adeiladu, yn enwedig adeiladau'r llywodraeth (prefectures) ac eglwysi Uniongred, a ddyluniwyd yn aml yn yr arddull neo-Bysantaidd neu Neo-Brâncoveanu, a ystyrir yn nodweddiadol o Rwmania.
Yn ôl cyfrifiad 1930, roedd gan Rwmania Fawr boblogaeth o 18 miliwn, ac roedd y Rwmaniaid fel y genedl titiwlar ("titular nation") sef, pen-genedl, prif-genedl, yn cynrychioli 71.9%.[8] Ymhlith y lleiafrifoedd cenedlaethol roedd tua 1.4 miliwn o Magyars (Hwngariaid), 750,000 o Almaenwyr, 730,000 o Iddewon a 580,000 o Iwcraniaid. Mewn rhai ardaloedd, roedd grwpiau ethnig nad ydynt yn Rwmania hyd yn oed yn y mwyafrif. Roedd y Rwmaniaid yn aml yn y lleiafrif, yn enwedig yn ninasoedd yr ardaloedd sydd newydd eu cysylltu.[9] Roedd y lleiafrifoedd ethnig wedi'u hintegreiddio'n wael i wladwriaeth Rwmania: nid oedd dros hanner ohonynt yn siarad Rwmaneg,[9] sef yr unig iaith swyddogol.[10]
Ar ôl Ail Ddosbarthiad Fienna ar 30 Awst 1940 cymerodd yr enw ystyr anorchfygol, oherwydd gyda chaniatâd Cytundeb Molotov–Ribbentrop ym mis Awst 1939, collodd Rwmania diriogaethau Transylvania, Bessarabia a gogledd Bucovina.
Wedi'r Ail Ryfel Byd
[golygu | golygu cod]Ar ôl yr Ail Ryfel Byd, ad-enillodd Rwmania diriogaethau yr oedd wedi'u colli yn nwylo Hwngari yn ystod y Rhyfel, ond nid y rhai yr oedd wedi'u colli trwy fyddinoedd Sofietaidd. Felly, roedd yn rhaid iddo roi'r Bessarabia a phedwar ynysig heb drigolion i'r Undeb Sofietaidd a'r cyfran oedd o'r Afon Donaw oedd yn llifo i'r Môr Du.
Cyfoes
[golygu | golygu cod]Gydag arwynebedd o 238,391 km², mae Rwmania heddiw yn cyfateb i oddeutu 80% o diriogaeth Rwmania Fawr.
Heddiw, defnyddir y term yn bennaf wrth gyfeirio at hawliadau cenedlaetholgar am diriogaethau a gollwyd ar ôl yr Ail Ryfel Byd ac sydd bellach yn diriogaethau'r Wcráin a Moldofa. Yn Rwmania, mae Partidul România Mare ("Plaid Rwmania Fawr") yn cynnwys pobl sy'n gysylltiedig â diogelwch blaenorol y wladwriaeth gomiwnyddol. Mae ei hideoleg yn wrth-Orllewinol, gwrth-Hwngari, gwrth-Ewropeaidd ac yn gymharol wrth-Slafaidd. Bu'r blaid yn lled llwyddiannus ar ddechrau'r 21g gan ennill 19.5% o'r bleidlais yn 2000, ond bellach mae wedi syrthio yn ei phoblogrwydd.
Ceir sôn o bryd i'w gilydd y gall Moldofa ymuno â Rwmania. Rhan o'r apêl dros uno byddai er mwyn bod yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd a'r ffaith bod hyd at filiwn o Foldofiaid yn byw yn Rwmania.[11][12] Ond ceir tueddiadau cryf o fewn Moldofa i feithrin ymdeimlad fod yr iaith yn wahanol i Rwmaneg a chadw perthynas agos â Rwsia a theimladau trigolion Rwsieg eu hiaith yn erbyn hyn.[13]
Dyheuadau Iredentaidd Eraill
[golygu | golygu cod]Ceir mudiad neu teimladau Iredentaidd eraill megis Albania Fawr a Somalia Fawr - dau genedl a enillodd tiriogaeth gan uno'r rhelyw o'i siaradwyr yn ystod yr Ail Ryfel Byd, tra i Rwmania golli tirogaethau yn ystod y Rhyfel. Mae dyheuadau Rwmania, a bodolaeth cenedl-wladwriaeth Rwmania gyfoes, yn gwrthdaro gyda dyheuadau Hwngari Fawr oherwydd yr ymgyprys dros Transylfania.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Cas Mudde. Racist Extremism in Central and Eastern Europe
- ↑ Peter Truscott, Russia First: Breaking with the West, I.B.Tauris, 1997, p. 72
- ↑ "Moldova's Political self and the energy Conundrum in the Context of the European neighbourhood Policy" (PDF). ISN ETH Zurich. 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2016-03-04. Cyrchwyd 2014-05-23.
- ↑ Constantin Kirițescu, "Istoria războiului pentru întregirea României: 1916-1919", 1922, p. 179
- ↑ "Primary Documents - King Ferdinand's Proclamation to the Romanian People, 28 August 1916". firstworldwar.com. Cyrchwyd 22 March 2018.
- ↑ Nodyn:Ref-publicació
- ↑ Hans-Heinrich Rieser: Das rumänische Banat – eine multikulturelle Region im Umbruch. Jan Thorbecke Verlag, Stuttgart 2001, S. 87.
- ↑ Lucian Boia: Wie Rumänien rumänisch wurde. Frank & Timme, Berlin 2016, S. 46.
- ↑ 9.0 9.1 Lucian Boia: Wie Rumänien rumänisch wurde. Frank & Timme, Berlin 2016, S. 48.
- ↑ Günther H. Tontsch: Der Minderheitenschutz in Rumänien. In: Georg Brunner, Günther H. Tontsch: Der Minderheitenschutz in Ungarn und Rumänien. Kulturstiftung der deutschen Vertriebenen, Bonn 1995, S. 135–136.
- ↑ https://icds.ee/moldovas-long-road-to-joining-romania/
- ↑ https://www.youtube.com/watch?v=cAXHXyJvgX8
- ↑ https://www.theguardian.com/world/2018/may/11/moldova-pm-pavel-filip-rules-out-reunification-romania