Neidio i'r cynnwys

Romain Rolland

Oddi ar Wicipedia
Romain Rolland
Ffotograff o Romain Rolland ar ei falconi yn 162 Boulevard de Montparnasse, Paris, ym 1914
Ganwyd29 Ionawr 1866 Edit this on Wikidata
Clamecy Edit this on Wikidata
Bu farw30 Rhagfyr 1944 Edit this on Wikidata
Vézelay Edit this on Wikidata
Man preswylVézelay Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFfrainc Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethllenor, dramodydd, awdur ysgrifau, hanesydd, nofelydd, cerddolegydd, rhyddieithwr, cofiannydd, cerddor, athro Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Adnabyddus amJean-Christophe, Q2870231, Péguy, The life of Toistoi, Q52418853 Edit this on Wikidata
Mudiadrhyddfeddyliaeth Edit this on Wikidata
TadÉmile Rolland Edit this on Wikidata
PriodMarie Romain Rolland, Clothilde Bréal Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Lenyddol Nobel, Prix Femina, Prif Wobr Llenyddol Academi Ffrainc Edit this on Wikidata
llofnod

Nofelydd, dramodydd, ac ysgrifwr o Ffrainc oedd Romain Rolland (29 Ionawr 186630 Rhagfyr 1944) a enillodd Wobr Lenyddol Nobel ym 1915.

Ganed yn Clamecy, Nièvre, yng nghyfnod Ail Ymerodraeth Ffrainc. Aeth i Baris yn 14 oed a chafodd ei dderbyn i'r École Normale Supérieure. Mewn awyrgylch o anhrefn ysbrydol, collodd ei ffydd Gristnogol a throdd at ysgrifeniadau Benedict de Spinoza a Lev Tolstoy. Ymddiddorai hefyd mewn cerddoriaeth, ac aeth ati i astudio hanes yn y brifysgol ym 1889 cyn derbyn ei ddoethuriaeth mewn celf ym 1895. Aeth i'r École Française yn Rhufain am ddwy flynedd. Ysgrifennodd ei ddramâu cynharaf yn y 1890au a'r 1900au, mewn dau gylch: Les Tragédies de la foi (1913), sydd yn cynnwys Aërt (1898), a Le Théâtre de la révolution (1904), sydd yn cynnwys Les Loups (1898; am achos Dreyfus) a Danton (1900). Ysgrifennodd Rolland hefyd ar bynciau athrylith ac arwriaeth, ac archwiliodd fywydau rhai o wŷr mawr hanes yn y cofiannau Vie de Beethoven (1903), Vie de Michel-Ange (1905), a Vie de Tolstoi (1911).[1]

Cyfrannodd Rolland at y cylchgrawn llenyddol Cahiers de la Quinzaine, a sefydlwyd gan y bardd a golygydd Charles Péguy, ac yn yr hwnnw cyhoeddwyd ei gampwaith, y nofel hir, neu roman fleuve ("cylch nofelaidd"), Jean-Christophe, mewn deg cyfrol (1904–12). Gweithiodd am gyfnod fel athro celf a cherddoleg cyn penderfynu ym 1912 i ganolbwyntio ar lenydda yn unig, ac ym 1914 symudodd i'r Swistir.[1] Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, ysgrifennodd bamffled o'r enw Au-dessus de la mêlée (1915) i annog heddwch rhwng Ffrainc a'r Almaen. Ymhlith ei weithiau eraill mae'r ffantasi bwrlésg Colas Breugnon (1919) a'i ail roman fleuve, L’Âme-enchantée (saith cyfrol; 1922–33).

Ymddiddorai Rolland mewn athroniaeth a chyfriniaeth y Dwyrain, yn enwedig India, ac ysgrifennodd lyfr am Gandhi (1924). Bu'n gohebu â nifer o feddylwyr amlycaf ei oes, gan gynnwys Albert Schweitzer, Albert Einstein, Bertrand Russell, a Rabindranath Tagore, a chesglir ei lythyrau wedi ei farwolaeth yn y gyfrol Cahiers Romain Rolland (1948). Dychwelodd Rolland i Ffrainc ym 1937. Bu farw yn Vézelay, Yonne, yn 78 oed. Wedi ei farwolaeth, cyhoeddwyd ei ysgrifeniadau o'r Rhyfel Byd Cyntaf, Journal des années de guerre, 1914–1919 (1952), a'i hunangofiant Mémoires (1956).[1]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Romain Rolland. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 16 Mawrth 2021.