Rhyfel Rwsia ac Wcráin
Mae'r erthygl hon yn cofnodi mater cyfoes. Gall y wybodaeth sydd ynddi newid o ddydd i ddydd. |
Math o gyfrwng | rhyfel |
---|---|
Dyddiad | 21 g |
Gwlad | Wcráin Rwsia |
Rhan o | rhyfeloedd yng nghyn-weriniaethau'r Undeb Sofietaidd, yr Ail Ryfel Oer |
Dechreuwyd | 20 Chwefror 2014 |
Rhagflaenwyd gan | cefndir hanesyddol Wcrain cyn 2014, Euromaidan |
Lleoliad | Môr Azov, Oblast Rostov, Wcráin, Crimea |
Gwladwriaeth | Wcráin, Rwsia, Belarws, Gweriniaeth Pobl Donetsk, Gweriniaeth Pobl Luhansk |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Rhyfel cyfredol rhwng Ffederasiwn Rwsia ac Wcráin yw Rhyfel Rwsia ac Wcráin.[1] Dechreuodd y gwrthdaro yn Chwefror 2014 yn sgil y Chwyldro Urddas yn Wcráin, a chanolbwyntiodd i ddechrau ar statws Penrhyn y Crimea a rhanbarth y Donbas, tiriogaethau a gydnabyddir yn rhyngwladol fel rhan o Wcráin.
Hanes
[golygu | golygu cod]Ym Mawrth 2014 cyfeddiannwyd y Crimea gan Rwsia, ac yn Ebrill cychwynwyd rhyfel yn y Donbas rhwng lluoedd Wcráin a'r ymwahanwyr a sefydlodd weriniaethau gyda chefnogaeth Rwsia yn Donetsk a Luhansk. Yn wyth mlynedd gyntaf y rhyfel bu hefyd gwrthdrawiadau rhwng llongau Wcráin a Rwsia yn y Môr Du, seiber-ryfela, a thensiynau gwleidyddol rhwng y ddwy wlad. Yn niwedd 2021 dechreuodd Rwsia gronni ei lluoedd milwrol ar hyd y ffin ag Wcráin, ac ehangodd y rhyfel yn sylweddol pan lansiodd Rwsia oresgyniad llawn yn nhiriogaeth Wcráin ar 24 Chwefror 2022.
Yn y chwyldro a sbardunwyd gan brotestiadau'r Euromaidan, cafwyd gwared â Viktor Yanukovich, Arlywydd Wcráin a oedd yn ffafriol i Rwsia, yn Chwefror 2014, ac o'r herwydd ffrwydrodd aflonyddwch o blaid Rwsia yn nwyrain a de Wcráin—rhanbarthau oedd yn gartref i nifer o Rwsiaid ethnig ac Wcreiniaid Rwseg eu hiaith. Yn y Crimea, a oedd ar y pryd yn weriniaeth ymreolaethol dan sofraniaeth Wcráin, cipiwyd safleoedd ac isadeiledd strategol, gan gynnwys y senedd, gan filwyr Rwsiaidd (heb wisgo'u harwyddluniau). Trefnodd Rwsia refferendwm dadleuol, a phleidleisiodd y mwyafrif o etholwyr dros ymuno â Ffederasiwn Rwsia dan statws deiliad ffederal; arweiniodd hyn at gyfeddiannu'r Crimea yn rhan o diriogaeth Rwsia. Yn Ebrill 2014, gwaethygodd protestiadau a therfysgoedd o blaid Rwsia yn y Donbas mewn rhyfel rhwng Lluoedd Arfog Wcráin ac ymwahanwyr yng ngweriniaethau hunanddatganedig Donetsk a Luhansk.
Yn Awst 2014, croesodd cerbydau milwrol, heb eu marcio, y ffin rhwng Rwsia a Gweriniaeth Donetsk.[2] Dechreuodd rhyfel heb ei ddatgan rhwng Wcráin ar y naill law, a'r ymwahanwyr gyda chymorth milwrol Rwsia ar y llaw arall, er i Rwsia geisio cuddio ei rhan yn y gwrthdaro. Tawelodd yr ymladd wrth i'r ddwy ochr adeiladu ffosydd a daeardai, gan droi'n rhyfel sefydlog neu wrthdaro clo, gyda sawl ymdrech aflwyddiannus i sicrhau cadoediad. Yn 2015, llofnodwyd cytundebau Minsk II gan Rwsia ac Wcráin, ond byddai sawl anghydfod yn atal y cytundebau rhag cael eu gweithredu'n llawn. Erbyn 2019, diffiniwyd 7% o diriogaeth Wcráin gan y llywodraeth fel tiriogaethau a feddiannwyd dros dro".
Yn 2021 a dechrau 2022, bu Rwsia yn cronni ei lluoedd ac adnoddau milwrol ar raddfa eang ar hyd y ffin ag Wcráin. Cyhuddwyd Rwsia gan NATO o baratoi am oresgyniad. Gwadwyd hynny gan Vladimir Putin, Arlywydd Rwsia, a ddisgrifiodd ehangu aelodaeth NATO fel bygythiad i'w wlad, a mynnodd wahardd Wcráin rhag ymuno â'r cynghrair milwrol byth. Mynegodd Putin hefyd farn iredentaidd, gan gwestiynau am hawl Wcráin i fodoli gan honni ar gam i'r wlad honno gael ei sefydlu gan Vladimir Lenin. Ar 21 Chwefror 2022, cydnabu Rwsia yn swyddogol y ddwy wladwriaeth hunanddatganedig yn y Donbas, ac anfonodd filwyr yn agored i'r tiriogaethau hynny. Dridiau yn ddiweddarach, lansiodd Rwsia oresgyniad Wcráin. Condemniwyd ymgyrchoedd milwrol Rwsia yn Wcráin gan nifer o wledydd eraill a sawl sefydliad rhyngwladol, a chyhuddwyd Rwsia o droseddu yn erbyn y gyfraith ryngwladol a threisio sofraniaeth Wcráin. Mewn ymateb i'r rhyfel, mae nifer o wledydd wedi datgan sancsiynau economaidd yn erbyn llywodraeth Rwsia ac unigolion a chwmnïau o'r wlad,[3] yn enwedig wedi'r goresgyniad yn 2022.
Cyfeddiannaeth y Crimea (2014)
[golygu | golygu cod]Rhyfel y Donbas (2014—15)
[golygu | golygu cod]Goresgyniad Rwseg o'r Wcráin yn 2022
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Snyder, Timothy (2018). The Road to Unfreedom: Russia, Europe, America. New York: Tim Duggan Books. t. 197. ISBN 978-0-525-57447-7.
Almost everyone lost the Russo-Ukrainian war: Russia, Ukraine, the EU, the United States. The only winner was China.
- ↑ Aid convoy stops short of border as Russian military vehicles enter Ukraine: Armoured personnel carriers and support vehicles cross the border, while the 280-truck convoy comes to a halt separately, Shaun Walker, The Guardian, 15 Awst 2014
- ↑ Overland, Indra; Fjaertoft, Daniel (2015). "Financial Sanctions Impact Russian Oil, Equipment Export Ban's Effects Limited". Oil and Gas Journal 113 (8): 66–72. https://www.researchgate.net/publication/281776234.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Gwrthdaro arfog rhyngwladol yn yr Wcrain ym Mhrosiect Rheolaeth y Gyfraith mewn Gwrthdaro Arfog
- Gwrthdaro yn yr Wcrain yn y Cyngor ar Gysylltiadau Tramor
- Rhyfel yn yr Wcrain yn BBC News Online
- Rhyfel Rwsia-Wcreineg yn Google News
- Map rhyngweithiol Wcráin ar y Map Ymwybyddiaeth Fyw Universal