Pwdin Nadolig
Gwedd
Pwdin sy'n cael ei fwyta ar ddydd Nadolig ydy pwdin Nadolig neu bwdin plwm. Caiff ei wneud, fel arfer, gyda'r cynhwysion drud hynny er mwyn ei wneud yn arbennig: cwraints, sbeisys melys, triog, ffrwythau a siwet. Caiff ei goginio'n araf ac felly mae ei liw'n eitha tywyll.
Y dyddiau hyn gellir ychwanegu cwrw gyda'r cynhwysion, a brandi drosto. Fel arfer ychwanegir menyn toddi gwyn efo fo.