Plaid y Ddeddf Naturiol
Math o gyfrwng | transnational political party |
---|---|
Idioleg | moderate |
Daeth i ben | 2001 |
Dechrau/Sefydlu | 1992 |
Sylfaenydd | Maharishi Mahesh Yogi |
Ffurf gyfreithiol | association déclarée |
Pencadlys | Plesei |
Gwladwriaeth | Ffrainc, y Deyrnas Unedig, Unol Daleithiau America, Awstria, yr Almaen, Croatia, Israel, Japan, Sbaen, Yr Iseldiroedd, yr Eidal, Awstralia, Norwy, Sweden, Seland Newydd, Tsile, Gwlad Tai, Canada |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Roedd Plaid y Ddeddf Naturiol (Saesneg: The Natural Law Party) yn blaid wleidyddol a safai etholiadau yn y Deyrnas Unedig rhwng 1992 a 2003.
Sefydlwyd Plaid y Ddeddf Naturiol yn y Deyrnas Unedig ym mis Mawrth 1992. Geoffrey Clements oedd Arweinydd cyntaf y Blaid.[1]
Roedd y Blaid yn credu bod pump agwedd allweddol i lywodraeth lwyddiannus, gan gynnwys:
- Datblygu ymwybyddiaeth pob unigolyn drwy raglenni Myfyrdod Trosgynnol (Transcendental Meditation)
- Lleihau costau gofal iechyd drwy hyfforddi dinasyddion mewn asesu iechyd personol trwy hunan-ddarllen curiad y galon ac agweddau'r dull Vedig Maharishi at Iechyd.
- Cynnal iechyd y wlad trwy greu grwpiau o arbenigwyr mewn techneg iogig.
- Dod ag unigolyn a'r wladwriaeth i gytgord â'r Ddeddf Naturiol fel bod dylanwadau planedol anffafriol yn cael eu niwtraleiddio.
- Sicrhau bod amgylcheddau gwaith a chartref y wlad yn cefnogi iechyd a hapusrwydd.
Yn etholiad cyffredinol 1992 safodd y blaid mewn 310 o etholaethau yn y DU gan gasglu 0.19% o'r bleidlais a phob ymgeisydd yn colli ei flaendal etholiadol.
Safodd y blaid ymgeiswyr mewn nifer o etholaethau Ewropeaidd ym 1994.
Safodd tua dwsin o ymgeiswyr yn enw'r blaid yn etholiad San Steffan 1997 a bu ambell ymgeisydd mewn etholiadau ac is etholiadau eraill heb unrhyw fath o lwyddiant etholiadol.
Ers 2003 nid yw Plaid y Ddeddf Naturiol wedi ei gofrestru fel Plaid Gwleidyddol swyddogol yn y DU gyda'r Comisiwn Etholiadol[2].
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ http://news.bbc.co.uk/news/vote2001/hi/english/features/newsid_1370000/1370776.stm adalwyd 11 Rhagfyr 2013
- ↑ http://www.natural-law-party.org.uk/ adalwyd 11 Rhagfyr 2013