Morlywiwr
Aelod o griw morwrol sydd yn gyfrifol am fordwyo'r cwch neu'r llong yw morlywiwr, morlywydd neu fordwywr.[1] Prif ddyletswydd y morlywiwr yw i wybod lleoliad y llong ar bob amser. Mae ei gyfrifoldebau yn cynnwys cynllunio'r fordaith, rhoi cyngor i gapten y llong ar amseroedd y daith, ac osgoi rhwystrau a pheryglon ar hyd y môr-lwybr. Dan ofal y morlywiwr mae'r siartiau morwrol, llawlyfrau, ac offer llywio, ac yn aml maent yn gyfrifol hefyd am yr offer meteorolegol a chyfathrebu.
Yn hanesyddol, bu'r morlywiwr yn mesur lleoliad y llong gan ddefnyddio offer megis y cwmpawd, y secstant, a'r cronomedr. Ers y 1990au bu newid chwyldroadol yn y maes hwn yn sgil technoleg GPS sydd yn galluogi'r morlywiwr i fesur ei leoliad heb fawr o drafferth.
Gelwir y morlywiwr sydd yn arbenigo mewn llywio'r llong trwy ddyfroedd peryglus neu brysur, fel porthladdoedd neu aberoedd afonydd, yn beilot morwrol.
Gelwir swydd debyg mewn cerbydau ar y tir, er enghraifft mewn chwaraeon modur, yn gyfeiriwr, a mewn awyrennau yn llywiwr neu awyrlywiwr.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Geiriadur yr Academi, "navigator".