Neidio i'r cynnwys

Minerva

Oddi ar Wicipedia
Minerva
Duwies barddoniaeth, meddyginiaeth, masnach, gwehyddu, y crefftau, a doethineb
Aelod o 'r Triawd Capitolaidd a'r Dii Consentes
Ffresgo o Minerva o Herculaneum (Canrif 1af AD)
Enwau eraillMôn yn Gymraeg
SymbolauTylluan Minerva, yr olewydden, sarff Iau, y Parthenon, y waywffon, y werthyd, a Crafanc-yr-arth y grawys
RhywBenyw
RhieniIau
Metis
Cywerthyddion
EtrwsgaiddMenrva
GroegaiddAthena

Duwies Rufeinig a gysylltir â gwybodaeth, y deall a'r celfyddydau yn gyffredinol yw Minerva. Mae hi'n dduwies deallusrwydd, synfyfyrdod a dyfeisgarwch, Brenhines y Celfyddydau i gyd ond yn enwedig y grefft o wau gan ferched. Yn ogystal, roedd hi'n nawdd-dduwies lliwyr, cryddion (cobleriaid), seiri pren, cerddorion, cerflunwyr, actorion, beirdd, athrawon a disgyblion ysgol (minerval oedd enw'r Rhufeiniaid am y ffioedd ysgol).

Roedd ei phrif gysegrfeydd i'w cael yn ninas Rhufain ei hun, ar fryn y Capitol, lle eisteddai cerflun ysblennydd ohoni rhwng y duw Iau a'i gymar Juno. Roedd temlau hynafol eraill iddi hefyd.

Gyda threigliad amser, cysylltwyd hi â'r dduwies Roegaidd Pallas Athene, yn enwedig yn ei hagwedd fel duwies buddugoliaeth ac ysbail; dan yr agwedd honno y codwyd Pompey deml iddi i ddathlu ei fuddugoliaethau yn y Dwyrain.

Ymledodd ei chwlt i bob cwr o'r Ymerodraeth Rufeinig, yn cynnwys y Brydain Rufeinig. Yng Ngâl, uniaethir y dduwies Geltaidd Belisama â Minerva.

Pen efydd Minerva, o faddondai Rhufeinig Caerfaddon

Ffynhonnell

[golygu | golygu cod]
  • Oskar Seyffert, A Dictionary of Classical Antiquities (Llundain, 1902; sawl argraffiad ar ôl hynny).