Neidio i'r cynnwys

Miklós Horthy

Oddi ar Wicipedia
Miklós Horthy
Ganwyd18 Mehefin 1868 Edit this on Wikidata
Kenderes Edit this on Wikidata
Bu farw9 Chwefror 1957 Edit this on Wikidata
Estoril Edit this on Wikidata
DinasyddiaethHwngari Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Coleg Diwygiedig Debrecen Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, swyddog milwrol Edit this on Wikidata
SwyddRegent of Hungary, Minister of Defence of Hungary Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolAnnibynnwr Edit this on Wikidata
TadIstván Horthy Edit this on Wikidata
MamPaula Halassy Edit this on Wikidata
PriodMagdolna Purgly Edit this on Wikidata
PlantIstván Horthy, Miklós Horthy, Paulette Horthy, Magdolna Horthy Edit this on Wikidata
LlinachQ1055277 Edit this on Wikidata
Gwobr/auUrdd yr Eryr Gwyn, Urdd y Tair Seren, Dosbarth 1af, Order of the White Star, Collar Class, Estonian Red Cross Order First Class, 1st Class of the Order of the Cross of the Eagle, Croes Rhyddid, Knight's Cross of the Iron Cross, Iron Cross 1st Class, Iron Cross 2nd Class, Order of the German Eagle, Urdd yr Eryr Du, Urdd yr Eryr Coch 2ail radd, Marchog Uwch Groes Urdd Maria Theresa, Military Merit Cross III. Class, Order of Vitéz, Grand Cross with Chain of the Order of Merit of the Republic of Hungary (civil), Order of the Iron Crown, Knight Grand Cross of the Order of Saint Stephen of Hungary, Urdd yr Eliffant, Urdd Brenhinol y Seraffim, Urdd Seren Karađorđe, Uwch Groes Urdd y Gwaredwr, Marchog Croes Uwch Urdd Sant Olav, Coler Urdd Siarl III, Order of Saints Cyril and Methodius, Urdd Sant Mihangel, Order of Prince Danilo I, 1st class, Nishan Mohamed Ali, Urdd Teilyngdod (Chili), Gallipoli Star, Urdd y Sbardyn Aur, Knight of the Order of the Most Holy Annunciation, Marchog Uwch Groes Urdd y Seintiau Maurice a Lasarus, Knight grand cross of the order of the crown of Italy, Uwch Cordon Prif Urdd yr Eurflodyn, Memorial cross 1912/13, Urdd y Gwaredwr, Karl Troop Cross, Urdd y Goron Haearn (Awstria), Urdd Sant Steffan o Hwngari, Order of Maria Theresa I, Uwch Groes Rhosyn Gwyn y Ffindir gyda Choler, Medal goffa Rhyfel y Gaeaf, Hungarian Order of Merit, Urdd yr Eryr Coch, Military Merit Cross, Urdd Rhosyn Wen y Ffindir, Order of the Chrysanthemum, Order of the Crown of King Zvonimir, Urdd y Tair Seren, Urdd y Seren Wen, Order of the Cross of the Eagle, Order of the Estonian Red Cross, Urdd Sant Olav, Urdd Siarl III, Urdd Tywysog Danilo I, Urdd yr Eliffant Gwyn Edit this on Wikidata
llofnod

Gwladweinydd o Hwngari oedd Miklós Horthy de Nagybánya (Hwngareg: Vitéz[1] nagybányai Horthy Miklós; ynganiad: [ˈviteːz ˈnɒɟbaːɲɒi ˈhorti ˈmikloːʃ]; geni Kenderes, Hwngari, 18 Mehefin 1868 - marw Estoril, Portiwgal, 9 Chwefror 1957). Roedd yn Ddug Szeged ac Otranto, yn Llyngesydd o lynges Ymerodraeth Awstria-Hwngari, yna'n Rhaglaw Teyrnas Hwngari (1920-1944). Yn ôl yr arferiad Hwngared, rhoir y cyfenw gyntaf, ac enwir ef yn Horthy Miklós.

Mae ei fywyd a'i etifeddiaeth yn dal i fod yn destun balchder neu drafod ac angydfod ymlyth pobl Hwngari a thu hwnt.[2][3][4][5]

Magwraeth a blynyddoedd cynnar

[golygu | golygu cod]
Hungari yn 1941, wedi iddi ad-feddiannu tiroedd oddi ar Tsiecoslofacia, Rwmania ac Iwgoslafia

Ganed Horthy yn Kenderes i deulu ffyrnig Calfinaidd o bendefigaeth wledig Hwngari. Roedd ei dad, Istvan, yn aelod o Siambr y Pendefigion, oedd yn rhan o ddemocratiaeth rhannol Hwngari ar y pryd. Ymunodd Horthy ag Academi Forwrol Awstria-Hwngari (k.u.k. Marine-Akademie) yn Fiume (bellach Rijeka, Croatia) yn 14 oed.[6] Gan mai Almaeneg oedd iaith swyddogol yr Academi, siaradai Horthy ag acen ysgafn, ond adnabyddiedig Awstriaidd Almaeneg am weddill ei fywyd. Siaradai hefyd Eidaleg, Croatieg, Saesneg a Ffrangeg. Bu iddo ddatblygu gyrfa wych yn y Llynges.

Ar ôl dal swydd ddiplomyddol isel yn llysgenhadaeth Austro-Hwngari yn Nhwrci, rhwng 1896 a 1912 cododd o raglaw i fod yn gapten. Yn 1910 penodwyd ef yn aide-de-camp i'r Franz Joseph I, Ymerawdwr Awstria-Hwngari, yr oedd yn teimlo defosiwn mawr iddo. Pan ddechreuodd y Rhyfel Byd Cyntaf, fe orchmynnodd y frwydr "Novara", ar fwrdd y cafodd ei glwyfo'n ddifrifol ym Mrwydr Otranto .blockade y Môr Adriatig gan y Cynghreiriaid. Yn 1918 dychwelodd i'r gwasanaeth ac yna cafodd ei ddyrchafu'n lyngesydd a'i benodi'n brif-bennaeth y fflyd gan yr Ymerawdwr Karl I newydd o Awstria.

Wedi'r Rhyfel Mawr

[golygu | golygu cod]
Horthy yn dod i mewn i Budapest, 16 Tachwedd 1919

Ar ôl i'r Rhyfel ddod i ben a chwalwyd llynges Awstria (dan Cytundeb Saint-Germain) a Hwngari (Cytundeb Trianon), oherwydd diffyg mynediad i'r môr gan y ddwy wlad, tynnodd Horthy yn ôl i'w ystâd. Fodd bynnag, pan gyhoeddodd clymblaid gymdeithasol-gomiwnyddol Béla Kun Weriniaeth Sofietaidd Hwngari (1919), gofynnodd lluoedd gwrth-chwyldroadol ar i Horthy - y dyn milwrol mwyaf mawreddog - eu harwain, tra bod byddin Rwmania wedi goresgyn y wlad. a bu yno hyd 1920. Yn y cyfamser roedd Horthy a charfan gyfreithlon ei fyddin wedi swyno'r cyn Karl I, Ymerawdwr Awstria-Hwngari (Karl IV yn Hwngari) i ystyried adfer y frenhiniaeth (mewn gwirionedd, nid oedd erioed wedi ymwrthod â gorsedd Hwngari).

Ar 1 Mawrth 1 1920, ailsefydlodd y Cynulliad Cenedlaethol Teyrnas Hwngari, ond yn rhannol oherwydd pwysau gan Bwerau'r Cynghreiriaid, yn rhannol oherwydd gwrthdroad mwyafrif i'r Habsburgiaid a hefyd oherwydd pwysau seicolegol gan y fyddin a oedd yn amgylchu adeilad y senedd yn Budapest, cyhoeddwyd Miklós Horhty yn Rhaglaw am fywyd dros y deyrnas ac fe’i cynysgaeddodd â digon o bwerau. Yn llythrennol, cafodd "yr un rhagorfraint â'r brenin, heblaw am roi teitlau bonheddig a nawdd uchel dros Eglwys Gatholig Hwngari." Roedd paradocs dwbl Horthy i fod yn lyngesydd o ddim llynges ac yn rhaglaw heb frenin.

Er bod ganddo bwerau brenhiniaeth gyfansoddiadol yn ffurfiol (cynnull a diddymu senedd, penodi a dirymu’r prif weinidog a’r llywodraeth yn seiliedig ar benderfyniadau cynulliad, a bod yn brif oruchwyliwr y lluoedd arfog), y gwir yw, mewn Hwngari a ymrysonodd i oresgyn cywilydd y cyfnod ôl-rhyfel, rhoddodd anian genedlaetholgar, geidwadol a thadol Horthy allu mawr iddo i ddartelage dros holl organau'r wladwriaeth.

Yn ôl ceryntau Canol Ewrop ar y pryd, o’r tridegau dechreuodd benodi gweinidogion y Blaid y Croes Saethau (Hwngareg: Nyilaskeresztes Párt – Hungarista Mozgalom, lyth. "Croes Saethau-Mudiad Hwngaraidd", talfyried NYKP) - plaid Natsïaidd Hwngari. Caniataodd yr agosrwydd ideolegol i drefn yr Almaen, a fynegwyd mewn mesurau cyfyngol ar gyfer y gymuned Iddewig, Hwngari ym 1938. Yn dilyn Anschluss yr Almaen ag Awstria ac yn sgil "llwyddiant" yr Almaen gyda Cytundeb München ail-lunio ffiniau Tsiecoslofacia yn ôl ffiniau ethnig, pwysodd Horthy am i Hwngari hefyd allu ail-lunio ffiniau yn ôl poblogaeth ethnig Hwngareg, a gydag hynny, adfer peth o'r tiroedd a gollodd Hwngari yng Nghytundeb Trianon. Yn dilyn Cyflafareddiadau Fienna cafwyd Dyfarniad Gyntaf Fienna lle trosglwyddwyd tiroedd yn Slofacia (Hwngareg: Felvidék - "ucheldir") ac yn Rwthenia yn 1938 ac 1939 ychydig cyn i'r Ail Ryfel Byd gychwyn.

Dyfarniadau Fienna a'r Ail Ryfel Byd

[golygu | golygu cod]

Pan oresgynnodd yr Almaen Wlad Pwyl (1939), gwrthododd Horthy nid yn unig ganiatáu i filwyr yr Almaen fynd trwy Hwngari, ond cynhaliodd hefyd nifer fawr o ffoaduriaid o Wlad Pwyl, llawer ohonynt yn Iddewon. Pan ddechreuodd yr Ail Ryfel Byd, datganodd y wlad ei hun yn ffurfiol niwtral, er iddi fanteisio ar y Rhyfel i adfer tiriogaethau a oedd yn perthyn iddi, megis Transylfania oddi ar Rwmania yn Ail Ddyfarniad Fienna (1940) a Vojvodina oddi ar Iwgoslafia (1941). Daeth Horthy yn agos iawn at gyflawni'r freuddwyd o Hwngari Fawr, hynny yw, y tiroedd a reolau Hwngari rhwng 1867-1918.

Fodd bynnag, ychydig wythnosau ar ôl i’r Almaen ymosod ar yr Undeb Sofietaidd (1941), achosodd digwyddiad ar y ffin i Hwngari ymuno â’r Echel, ond fe wnaeth trechu ei fyddin yn gyflym argyhoeddi Horthy i geisio heddwch unochrog gyda’r Rwsiaid. Rhwng 1942 a 1944 roedd ganddo lawer o gysylltiadau â'r Cynghreiriaid a Cadlywydd Tito, wrth agor y wlad i bron i filiwn o Iddewon a llawer o garcharorion rhyfel a lwyddodd i ddianc o'r Almaen. Yn 1942 penododd ei fab Isztván yn is-raglaw, ond buan y bu farw mewn damwain awyren o ganlyniad i sabotaj y Natsïaid.

Ym mis Mawrth 1944 aeth byddin yr Almaen i mewn i Hwngari a gorfodi Horthy i benodi llywodraeth byped dan arweiniad y Döme Sztójay o blaid y Natsïaid. Gyda chydweithrediad agos yr SS a'r "Arrow Crosses", ymhen ychydig wythnosau bu alltudiaeth dorfol o Iddewon - mwy na hanner miliwn - i wersylloedd difodi, ar wahân i'r bennod enwog o deuluoedd cyfan y cawsant eu saethu ar y glannau’r Donaw yn Budapest i’r dŵr gario’r cyrff i ffwrdd. Ymatebodd Horthy trwy ddiswyddo Sztójay a thrafod ildio gyda’r Rwsiaid a oedd eisoes yn meddiannu llawer o’r wlad. Yna gorfodwyd ef i ymddiswyddo fel Rhaglaw y deyrnas (15 Hydref 1944)) - i roi pwysau arno, aeth comando dan arweiniad Otto Skorzeny cyn belled ag i herwgipio ei ail fab, a elwir hefyd yn Miklós, cafodd ei arestio a wedi ei garcharu yn Bafaria, nes iddo syrthio i ddwylo milwyr Americanaidd.[7]

Wedi'r Ail Ryfel Byd

[golygu | golygu cod]

Ar ddiwedd y Rhyfel, er gwaethaf ei weithredoedd parthed Rwmania ac Iwgoslafia, fe'i At the end of the war, despite what was intended of Romania and Yugoslavia , he was ryddhawyd o unrhyw fai fel "Troseddwr Rhyfel". Fe'i ryddhawyd yn syth ac aeth yn alltud i Bortiwgal lle bu farw. Yn 1993,yn dilyn cwymp yr Undeb Sofietaidd a llywodraeth gomiwnyddol Hwngari, fe ddychwelwyd ei weddillion i Hwngari a'i gladdu yn pantheon y teulu Kenderes.[8]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Vitéz" cyfeirir at urdd marchogion sefydlwyd gan Miklós Horthy ("Vitézi Rend"); lyth. "vitéz" yw "marchog" "gwrol".
  2. Romsics, Ignác. "Horthy-képeink". Mozgó Világ Online. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 Gorffennaf 2014. Cyrchwyd 14 Gorffennaf 2014.
  3. Simon, Zoltán (13 Mehefin 2012). "Hungary Lauds Hitler Ally Horthy as Orban Fails to Stop Hatred". Bloomberg. Cyrchwyd 15 Gorffennaf 2014.
  4. Verseck, Keno (6 Mehefin 2012). "'Creeping Cult': Hungary Rehabilitates Far-Right Figures". Spiegel Online International. Cyrchwyd 15 Gorffennaf 2014.
  5. "His contentious legacy". The Economist (9 Tachwedd 2013). 9 Tachwedd 2013. Cyrchwyd 14 Gorffennaf 2014.
  6. "Miklos Horthy (Hungarian statesman)". Encyclopædia Britannica. 9 Chwefror 1957. Cyrchwyd 21 Awst 2014.
  7. Franz von Papen, Memoirs (Llundain, 1952), tt.541-23, 546
  8. https://www.nytimes.com/1993/09/05/world/reburial-is-both-a-ceremony-and-a-test-for-today-s-hungary.html

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: