Melin Llynnon
Math | melin wynt |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Tref Alaw |
Sir | Tref Alaw |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 42 metr |
Cyfesurynnau | 53.3379°N 4.49388°W |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II* |
Manylion | |
Melin wynt ger pentref Llanddeusant, Ynys Môn yw Melin Llynnon. Ar un adeg roedd dros 30 o felinau gwynt ar Ynys Môn[1] ond bellach, Melin Llynnon yw'r unig felin wynt weithredol sydd ar ôl yng Nghymru.[2]
Hanes
[golygu | golygu cod]Adeiladwyd y felin dros gyfnod o saith mis rhwng 1775 a 1776 ar gôst o £529 11s ar dir oedd yn berchen i'r llawfeddyg, Herbert Jones.[3]. Thomas David oedd y melinwr cyntaf ond cafodd ei ddiswyddo ar ôl chwe mlynedd am iddo beidio gwneud gwaith cynnal a chadw[3]. Thomas Jones oedd yr ail felinwr a bu'n gweithio Melin Llynnon am 64 mlynedd hyd nes ei farwolaeth yn 90 mlwydd oed ym 1846. Bu'r felin yn nheulu Thomas Jones hyd nes i storm fawr chwalu'r cap ym 1918.[1]
Adeiladwaith
[golygu | golygu cod]Mae peirianwaith y felin tu fewn i dŵr carreg sydd 9.3m (30tr 6mod) o uchder. Mae'r tŵr yn lletach tua'r gwaelod gyda'r llawr isaf yn 6m (19tr 6mod) o ddiamedr tra bod y cwch sydd ar ben y tŵr yn 5.2m (17tr) o ddiamedr. Mae siafft haearn yn rhedeg trwy'r cwch gyda croes haearn yn cysylltu'r siafft â'r hwyliau sydd 21m (69tr 6 mod) o hyd. Mae modd troi'r cwch gyda chadwyn hir er mwyn galluogi'r hwyliau i wynebu'r gwynt.[1]
Mae pedwar llawr i'r felin, y llawr uchaf o dan y cap yw'r Llawr llwch sydd yn amddiffyn y felin rhag glaw. Yr ail lawr yw Llawr y bin ŷd lle mae'r ŷd yn cael ei gadw cyn ei falu. Llawr y garreg ydi'r llawr cyntaf ac yma mae'r melinfaen yn cael ei gadw. Y Llawr isaf ydi'r llawr lle mae'r blawd yn cyrraedd ar ôl cael ei falu gan y cerrig.[4]
Atgyweirio
[golygu | golygu cod]Ym 1954 collwyd y cwch mewn storm a disgynodd y felin yn adfail ond ym 1978 cafodd y felin ei phrynu gan Cyngor Sir Ynys Môn am £10,000. Ar ôl gwario £120,000 ar ei hatgyweirio cafodd y felin ei hail agor ym 1984.[3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 "Melin Llynnon Mill". Donald Perkins.
- ↑ "Croeso Môn: Melin Llynnon". Croeso Môn. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-05-21. Cyrchwyd 2017-12-28.
- ↑ 3.0 3.1 3.2 "Melin Llynnon". anglesey-history.co.uk.
- ↑ "The Windmill: how the mill works". Brixton Windmill.