John Wilkes
John Wilkes | |
---|---|
John Wilkes yn y paentiad John Glynn, John Wilkes and John Horne Tooke, gan arlunydd anhysbys, ar sail paentiad gan Richard Houston (tua 1769) | |
Ganwyd | 17 Hydref 1725 (yn y Calendr Iwliaidd) Llundain |
Bu farw | 26 Rhagfyr 1797 |
Alma mater | |
Swydd | Arglwydd Faer Llundain, High Sheriff of Buckinghamshire |
Plaid Wleidyddol | Radicals |
Tad | Israel Wilkes |
Mam | Sarah Heaton |
Priod | Mary Mead |
Plant | Mary Wilkes |
Newyddiadurwr a gwleidydd o Loegr oedd John Wilkes FRS (17 Hydref 1725 – 26 Rhagfyr 1797).
Bywyd cynnar
[golygu | golygu cod]Ganed John Wilkes yn Clerkenwell, Llundain, ar 17 Hydref 1725. Distyllwr brag oedd ei dad, Israel Wilkes, a roddodd iddo addysg dda. Ar ôl bod rai blynyddoedd mewn ysgolion yn Hertford a Swydd Buckingham, anfonwyd ef i Brifysgol Leiden. Ar ei ddychweliad yn ôl i Loegr, priododd ar 23 Mai 1747 â boneddiges o'r enw Mary Meade, yr hon oedd yn meddu eiddo, ond yn 10 mlynedd hynach nag ef. Fel etifeddes i faenor Aylesbury, daeth Mary â ffortiwn i'w gŵr yn ogystal â safle ymhlith bonedd Swydd Buckingham.
Darfu i'w ddysg, ei ffraethineb, a'i garedigrwydd, yn ei dŷ ac wrth ei fwrdd, ddwyn iddo lawer o gyfeillion, ond oherwydd ei afradlonedd a'i wastraff, arweiniwyd ef yn fuan i gyfyngder. Ymwahanodd ei briod ac yntau ym 1756. Enillodd Wilkes enw fel oferwr a libertiniad, a chydag aelodau eraill y "Medmenham Monks", neu'r "Hellfire Club", a gyfarfu yn adfeilion Abaty y Santes Fair ym Medmenham, yn ne Swydd Buckingham, i feddwi a chynnal yr Offeren Ddu.[1] Ar gyngaws cyfreithiol a ddygwyd ymlaen, daeth ffeithiau i'r golwg oedd yn hynod ddiraddiol i'w gymeriad.
Ymgeisiodd am sedd seneddol am y tro cyntaf ym 1754, ar awgrym yr Iarll Temple, yng Nghaerferwig. Er gwaethaf iddo lwgrwobrwyo capten llong i gludo llond bwrdd o etholwyr ei wrthwynebydd o Lundain i Norwy yn hytrach nag i Gaerferwig, collodd Wilkes yr etholiad.[1]
Newyddiaduraeth radicalaidd
[golygu | golygu cod]Llên Lloegr yn y 18fed ganrif |
---|
Rhyddieithwyr yr oes Awgwstaidd |
Beirdd a dramodwyr yr oes Awgwstaidd |
Beirdd natur a beirdd y fynwent |
Oes Johnson |
Athroniaeth a'r gwyddorau |
|
Er hyn oll, enwyd ef yn Uchel Siryf Swydd Buckingham ym 1757, a chafodd ei ddychwelyd i'r senedd yn aelod dros Aylesbury. Dywed iddo wario £7000 yn ei ymgyrch, y rhan fwyaf ar ffurf llwgrwobrwyon i'w etholwyr.[1] Fel aelod o Dŷ'r Cyffredin, ymunodd gyda'r lliaws yn eu hymosodiad ar weinyddiaeth yr Arglwydd Bute, ac ym Mehefin 1762 dygodd allan newyddiadur a elwid North Briton. Yn y cyhoeddiad hwnnw y gwnaed y fath ymosodiadau ar lywodraeth Bute fel yr ymddiswyddodd yn fuan oherwydd ei amhoblogrwydd mawr yn y wlad. Ymosodwyd yr un mor chwerw ar y weinyddiaeth ddilynol, ac awgrymid, er fod George Grenville yn brif weinidog mewn enw, fod yr Arglwydd Bute yn meddu dylanwad mawr ar y brenin. Yn rhifyn 45 o'i newyddiadur, cyhuddodd y brenin o fod wedi dweud yr hyn nad oedd wir yn ei araith o'r orsedd, ac o ganlyniad i hynny, rhoddwyd gwŷs gyffredinol allan i ddal awduron, argraffwyr, a chyhoeddwyr y North Briton. Yn rhinwedd y wŷs hon, aed i dŷ Wikes, a chymerwyd ei bapurau oddi arno. Cymerwyd ef i Dŵr Llundain ar wŷs gyffredinol, ond rhyddhawyd ef gan y prif farnwr Charles Pratt, ar y sail o'i fod yn aelod seneddol. Llosgwyd y North Briton yn gyhoeddus, drwy orchymyn Tŷ'r Cyffredin, ond cymerodd terfysg le o ganlyniad, a ddengys fod cydymdeimlad y cyhoedd i raddau pell gyda Wilkes. Ar hyn, dygodd y diweddaf gyngaws cyfreithiol yn erbyn is-ysgrifennydd cartrefol y wladwriaeth am gymryd ei bapurau oddi arno. Pan y daeth y prawf ymlaen, cafodd ddedfryd y rheithwyr yn ei ffafr, a derbyniodd £1000 o iawn gan y llywodraeth. Ar yr achlysur hwn, datganodd y prif farnwr Pratt, a elwid wedi hynny Arglwydd Camden, fod gwysiadau cyffredinol, o nodwedd yr hon a weinyddwyd arno ef yn yr amgylchiad hwn, yn anghyfansoddiadol ac yn anghyfreithlon.
Yn y cyfamser, galwyd Wilkes gan Dŷ'r Cyffredin i ateb y cyhuddiad o fod yn awdur y cabldraeth, ond ymesgusododd, oherwydd y boen a ddioddefai oddi wrth archoll a gawsai wrth ymladd gornest. Yn fuan ar ôl hyn aeth i Ffrainc, ac anfonodd at lefarydd Tŷ'r Cyffredin dystysgrif feddygol yn hysbysu fod ei iechyd yn wan, ac felly ei fod yn analluog i ymddangos o flaen y Tŷ. Ni dderbyniwyd ei esgusawd, ond cariwyd ymlaen yr ymchwiliad i awduraeth yr erthygl yn y North Briton. Wedi cael prawf digonol mai Wilkes oedd yr awdur, torrwyd ef o fod yn aelod seneddol ar 19 Ionawr 1764. Ar 21 Chwefror, condemniwyd ef yn Llys y Brenin, am ailgyhoeddi rhifyn 45 o'r North Briton, ac argraffu a chyhoeddi pryddest, neu gân, a elwid Essay on Woman. Cân aflan oedd y ddiweddaf, nad oedd efe wedi argraffu ond 12 copi ohoni, ond gallodd argraffydd fu yn gweithio iddo cael un ohonynt yn lladradaidd. Trwy ei gosbi am anfoesoldeb, disgwyliai gweinidogion y llywodraeth y gallasent hwy oeri brwdfrydedd y bobl. Darfu i'r modd a ddefnyddiwyd i gael gafael yn y llyfr, beri i ddigllonrwydd y bobl yn erbyn y llywodraeth gynyddu, yn ogystal ag ychwanegu eu cydymdeimlad o blaid yr hwn a gosbid.
Etholiad Middlesex a therfysg St George's Fields
[golygu | golygu cod]Arhosodd Wilkes ar y Cyfandir am rai blynyddoedd. Yn nechrau 1768 efe a ddychwelodd i Loegr, ac ym Mawrth ymddangosodd yn ymgeisydd am aelodaeth seneddol dros Ddinas Llundain. Ond er fod y bobl gyffredin yn selog drosto, nis gallodd gael mwyafrif o'i du. Yna datganodd ei hun yn ymgeisydd am Swydd Middlesex, ac ar 28 Mawrth, dychwelwyd ef gyda mwyafrif mawr. Cymerodd terfysg mawr le ar y ddau etholiad, a dywed plaid y llys fod y ddinas, ac hyd yn oed palas y brenin, mewn perygl. Ar ôl yr etholiad, daliwyd ef, gan ei fod allan o nawdd y gyfraith, ac ar ei ffordd i'r carchar, rhyddhawyd ef trwy drais gan y lliaws. Wedi i'r bobl chwalu, pa fodd bynnag, efe a aeth yn dawel i'r carchar, ac a roddodd ei hun i fyny i'r awdurdodau. Pan ymgynullodd y senedd, ymgasglodd tyrfa fawr er ymffurfio yn osgordd iddo i Dŷ'r Cyffredin. Cymerodd terfysg le. Gorchmynnwyd i'r milwyr danio ar y bobl yn St George's Fields, Southwark, a chlwyfwyd llawer o bobl, a lladdwyd un. Dychwelodd y rheithwyr a eisteddasant ar y trengholiad y rheithfarn o lofruddiaeth wirfoddol yn erbyn yr ustus a orchmynnodd i'r milwyr danio, a phrofwyd ef ar y cyhuddiad, ond rhyddhawyd ef. Galwyd yn ôl y dedfryd o ddinoddiad gan yr Arglwydd Mansfield, ond traddodwyd barn arno am y ddau gabldraeth, a dedfrydwyd ef i dalu dwy ddirwy o £500 yr un, ac i gael ei garcharu am 10 mis am un, a 12 am y llall.
Cafodd Wilkes afael mewn copi o lythyr a ysgrifennwyd gan yr Arglwydd Weymouth at gadeirydd brawdlys chwarterol Lambeth, cyn adeg terfysg St George's Fields. Yn yr hwn yr oedd y pendefig hwnnw yn cymeradwyo y gwaith o ddefnyddio y milwyr i roddi i lawr derfysgoedd yn Llundain. Cyhoeddwyd y llythyr gan Wilkes gyda rhagymadrodd, yn yr hwn y cyhuddodd ysgrifennydd y wladwriaeth o "gynllunio a phenderfynu dwyn oddi amgylch y gyflafan ofnadwy yn St George's Fields", dair wythnos o amser cyn i hynny gymryd lle. Cwynai yr Arglwydd Weymouth oherwydd y cyhoeddiad ohono yn Nhŷ'r Arglwyddi. Anfonwyd cwyn hefyd i Dŷ'r Cyffredin, a chynhaliwyd cynhadledd ar y mater. Pan y dygwyd Wilkes o flaen bar y tŷ, cydnabu mai efe oedd cyhoeddwr llythyr Weymouth, ac awdur y sylwadau rhagarweiniol. Ar hynny, barnodd y tŷ fod ei sylwadau yn cynnwys enllib, ac felly am yr ail waith trowyd ef allan o Dŷ'r Cyffredin. Etholwyd ef drachefn amryw weithiau yn aelod seneddol dros Middlesex, ond datgenid fod yr etholiadau yn ddi-rym. Ni chafodd ei wrthwynebydd Henry Luttrell ond tri chant o bleidleisiau, ond er hynny, datganwyd ei fod wedi ei ethol yn gyfreithlon, er fod y wlad yn gyffredin yn gwrthdystio yn erbyn hynny.
Ystyrid Wilkes, er ei fod yn y carchar, yn bencampwr rhyddid cyhoeddus, ac efe yn ddiamau ar y pryd oedd y dyn mwyaf poblogaidd ym Mhrydain. Ym 1769, cafodd reithfarn yn erbyn yr Arglwydd Halifax yn llys y dadleuon cyffredinol, gyda £4000 o iawn. Yn fuan ar ôl hynny, rhyddhawyd ef o'r carchar, ar ei waith yn rhoi meichiafon am iawn ymddygiad. Ym 1774, cafodd ei ddewis yn Arglwydd Faer Llundain, a dychwelwyd ef yn aelod seneddol dros Middlesex, a pharhaodd i gynrychioli y sir honno am lawer o flynyddoedd. Ym 1782, symudwyd oddi ar gofnodion Tŷ'r Cyffredin y penderfyniad ym mherthynas i etholiadau Middlesex. Diddymwyd hefyd amryw benderfyniadau eraill yn dal cysylltiad â Wilkes. Dwy flynedd wedi hynny, ymneilltuodd o Dŷ'r Cyffredin.
Diwedd ei oes
[golygu | golygu cod]Bu farw John Wilkes ar 26 Rhagfyr 1797 yn 72 oed. Claddwyd ef yng Nghapel Grosvenor, heol South Audley, lle y cyfodwyd coflech iddo, â'r cerfiad canlynol arni: "The Remains of John Wilkes, a friend to liberty, born at London, October 17th, 1727, O.S., died in this Parish." [sic]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) John Wilkes. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 10 Ebrill 2021.