Neidio i'r cynnwys

John Hughes, Pontrobert

Oddi ar Wicipedia
John Hughes, Pontrobert
Ganwyd22 Chwefror 1775 Edit this on Wikidata
Llanfihangel-yng-Ngwynfa Edit this on Wikidata
Bu farw3 Awst 1854 Edit this on Wikidata
Pontrobert Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgweinidog yr Efengyl, awdur, emynydd Edit this on Wikidata

Roedd John Hughes (22 Chwefror 1775 - 3 Awst 1854) yn awdur, gweinidog yr efengyl ac emynydd Cymraeg.[1]

Cefndir

[golygu | golygu cod]

Cafodd John Hughes ei eni yn Llanfihangel-yng-Ngwynfa ym 1775 yn fab i David Hughes, Penyfigin, a Jane ei wraig. Cafodd ei fedyddio yn Eglwys Blwyf Llanfihangel ar 26 Chwefror 1775.[2] Roedd ei frawd iau, Morris Hughes (1779 - 1846), yn weinidog gyda'r Annibynwyr yn Llanwddyn.[3].

Roedd anghyfartaledd mawr rhwng oed ei rieni. Roedd ei dad yn 70 oed a'i fam yn 30 ar adeg eu priodi.[4] Does dim syndod felly y bu farw ei dad pan oedd John yn 7 a Morris yn 3. Wedi marwolaeth y tad cafodd y bechgyn fagwraeth dlawd iawn. Ni chafodd lawer o addysg yn ôl ei dystiolaeth ei hun: "Cefais beth ysgol hynod o wael. Dysgais ddarllen Saesneg heb ddeall dim ohono, a phan ddysgais ddarllen Cymraeg, ni wnes sylw o'r Saesneg am lawer blwyddyn".[5]

Doedd Hughes ddim yn dod o gefndir crefyddol iawn ac roedd ei ieuenctid yn un bydol iawn. Roedd ganddo enw am fod yn actor dawnus ac yn awdur anterliwtiau [4]. Bu'n barddoni ar bynciau seciwlar gan ddefnyddio'r enw barddol Ioan ap Huw.[5] Yn y cyfnod yma dechreuodd gymryd snisin (snuff, tybaco wedi ei falu'n powdr i'w anadlu trwy'r trwyn), arferiad bu'n gaeth iddo am weddill ei ddyddiau, gan greu difyrrwch i'w braidd gan ei fod yn cadw'r llwch yn rhydd yn llogell ei wasgod, ac yr oedd ganddo, medd traddodiad, lwy o faint llwy fwstard i'w lwybreiddio oddi yno i'r ffroenau [6]. Dechreuodd ymddiddori yn yr achos Methodistaidd wedi clywed Thomas Jones, Llanwnnog yn pregethu yn ystod Haf 1796 ac ymunodd â seiat y Methodistiaid Calfinaidd ym Mhen-llys. Symudodd y seiat honno maes o law i Bontrobert, lle y codwyd capel ar ei chyfer yn 1800. Ymhlith aelodau eraill o'r seiat roedd y brawd a chwaer John ac Ann Thomas (Ann Griffiths, wedyn), Dolwar Fach a John Davies, Pendugwm (John Davies, Tahiti wedyn). Daeth John Hughes yn ffrindiau mawr â'r tri.[7]

Oherwydd sefyllfa ariannol druenus ei deulu dechreuodd Hughes weithio fel gwas llafur ar nifer o ffermydd ei gymdogaeth o oedran bur ifanc. Pan oedd tua 11 oed aeth i hyfforddi fel prentis gwehydd i dad John Davies, Pendugwm.[4]

Ar ôl ei dröedigaeth ym 1796, clywodd Thomas Charles fod John Hughes a John Davies yn aelodau diwyd a defnyddiol o seiat y Methodistiaid Calfinaidd yn Llanfihangel-yng-Ngwynfa. Gwahoddwyd y ddau i ddod yn athrawon yn ei ysgolion cylchynol.[8] Bu Hughes yn athro yn Llanfihangel, Pontrobert, Llanwrin, Berth-las, a Llanidloes.[9]

Dechreuodd Hughes bregethu ym 1802 a chafodd ei ordeinio yn Sasiwn y Bala ym 1814. Y bwthyn oedd ynghlwm wrth hen gapel y Methodistiaid ym Mhontrobert fu ei gartref ar hyd weddill ei oes, ond er hynny bu'n teithio ar hyd Cymru[10] ac yn cael gwahoddiad i bregethu ym mhrif gyfarfodydd ei enwad. Yn fuan iawn daeth yn un o bregethwyr mwyaf poblogaidd yr enwad. Gymaint oedd ei boblogrwydd a'i dylanwad fel y cyfeiriwyd ato erbyn diwedd ei oes fel "Hybarch Esgob Methodistiaid Cymru" [11]. Roedd ei bregethau yn egnïol, yn gryno, ac yn eglur. Roedd ei ymddangosiad yn flêr ac roedd ei hylendid personol a'i arferion bwyta yn hynod ddiffygiol.[4] Nid oedd ei lais yn soniarus, roedd braidd yn llym ei sain; ond, er gwaethaf yr anfanteision hyn, roedd yn aml yn arddangos llawer o rym yn y pulpud, ac yn ddi-os roedd ganddo ddylanwad mawr ar grefydd anghydffurfiol ei gyfnod.[12]

Ar 7 Mai 1805, yn Eglwys Llanfihangel-yng-Ngwynfa priododd Hughes â Ruth Evans, merch Morris Evans, Melin y Mardy, Llandrinio, Sir Drefaldwyn. Roedd ei thad a'i mam ymysg Methodistiaid cyntaf y sir.[13] Roedd Ann Griffiths a'i gŵr Thomas yn dystion i'r briodas. Bu saith plentyn o'r briodas. Roedd eu merch Jane (neu Siân) Hughes (Deborah Maldwyn) yn crwydro Cymru i geisio efengylu, yn ei ffordd ei hun, ac yn cynnal ei hun trwy werthu taflenni baledi oedd yn cynnwys rhai o'i gweithiau barddonol.[14]

Llenor

[golygu | golygu cod]

Bu Ruth Evans yn gwasanaethu yn Nolwar Fach am rai blynyddoedd. Roedd hi wedi clywed Ann Griffiths yn adrodd rhai o'i emynau ac yn eu cofio. Bu Ann Griffiths marw heb gyhoeddi dim o'i gwaith. Adroddodd Ruth rai o'r emynau wrth Thomas Charles o'r Bala. Gan fod Ruth yn anllythrennog ar y pryd anogodd Charles iddi adrodd y cyfan roedd yn ei gofio i John ei gŵr, ac iddo ef eu paratoi ar gyfer eu cyhoeddi. Ym 1806 cyhoeddwyd y cerddi roedd Ruth wedi cofio, ynghyd â rhai roedd tad Ann wedi eu cofnodi, mewn cyfrol o dan olygyddiaeth Thomas Charles o'r enw Casgliad o Hymnau, a daeth emynau Ann yn boblogaidd iawn yn sgil hynny.

Yn ogystal â chadw emynau Ann Griffiths, bu John Hughes yn ysgrifennu emynau ei hun. Cyhoeddwyd rhai ohonynt yn un o gyfrolau 'Cyfres y Fil' (Gwaith John Hughes, atodiad i Gwaith Ann Griffiths), ym 1905 (gan Syr O. M. Edwards.[15]. Roedd naw o'i emynau yn Llyfr Emynau'r Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd a gyhoeddwyd ym 1927.[16] Pan ddisodlwyd llyfr Emynau'r Methodistiaid gan Caneuon Ffydd, y gyfrol gydenwadol o emynau a gyhoeddwyd yn 2001, dim ond un o emynau Hughes a gadwyd:

O anfon di yr Ysbryd Glan
yn enw Iesu mawr
a'i weithrediadau megis tân –
o deued ef i lawr [17]

Bu John Hughes yn gyfrannwr cyson i gylchgronau Cymraeg ei ddydd, yn arbennig Y Drysorfa a Y Traethodydd. Cyhoeddodd hefyd nifer o gofiannau, casgliadau o emynau a chasgliadau o bregethau gan gynnwys:

  • Hymnau i'w canu yn yr Ysgolion Sabbothol (1821)
  • Trefn eglwysig Ynysoedd Môr y Dehau: yn gynnwysedig mewn llythyr a anfonwyd gan y Parchedig John Davies, cenhadwr yn yr ynysoedd hynny, at John Hughes, Pont Robert, Sir Drefaldwyn (1821)
  • Cyfansoddiad Prydyddawl ar Lyfr Caniad Solomon (1822)
  • Hanes mordaith y Parch. John Davies (cenhadwr yn ynys Tahiti) i ynysoedd Rapa, Raivavae a Tupual, yn Môr y Deau, o Ionawr y 14eg hyd Mawrth y 5ed, 1826 (1827)
  • Cofiant Owen Jones o'r Gelli (1830)
  • Dwy bregeth ar farwolaeth Crist a'i dybenion : a bregethwyd yn Nghymdeithasfa y Trefnyddion Calvinaidd yn Manchester, Mehefin 10 a 11, 1835 (1836)
  • Cofiant E. Griffiths, Meifod (1841)
  • Cofiant Abraham Jones, Aber-rhaiadr (1841)
  • Cofiant William Jones, Dol-y-fonddu (1841)
  • Cofiant John Price, Trefeglwys (1841)
  • Cofiant Ann Griffiths (Cyhoeddwyd gyntaf yn Y Traethodydd ym 1846, ac yna fel llyfryn ym 1854)

Marwolaeth

[golygu | golygu cod]

Bu'n rhaid i Hughes roi gorau i deithio ac i bregethu ym mis Mawrth 1854 wedi iddo gael math o barlys (strôc mae'n debyg). Ar ôl ei gaethiwo i'w gartref am rai misoedd bu farw yn 79 mlwydd oed a chladdwyd ef ym mynwent y Methodistiaid ym Mhontrobert.[4]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. John Hughes - Y Bywgraffiadur Cymreig Gweler hefyd E. Wyn James, ‘John Hughes, Pontrobert a’i Gefndir’, Cylchgrawn Hanes (Cymdeithas Hanes y Methodistiaid Calfinaidd), 37 (2013).
  2. Cofrestr y Plwyf
  3. GenUKI Sardis, Llanwddyn adalwyd 25 Gorffennaf 2020
  4. 4.0 4.1 4.2 4.3 4.4 Y Methodist Cyf. I Rhif. 3 Medi 1854 Y DIWEDDAR BARCH. JOHN HUGHES, PONTROBERT. adalwyd 26 Gorffennaf 2020
  5. 5.0 5.1 Y Traethodydd, Medi 1890; Y PARCH. JOHN HUGHES, PONTROBERT gan Edward Griffiths, Meifod adalwyd 25 Gorffennaf 2020
  6. "Cymeryd Snishyn - Y Cymro". Isaac Foulkes. 1900-12-13. Cyrchwyd 2020-07-25.
  7. James, E. Wyn (2004). "'Eneiniad Ann a John': Ann Griffiths, John Hughes a Seiat Pontrobert". Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion 10: 111-132.
  8. Owen, Robert (1898). "Y Parch John Davies, Tahiti a John Hughes, Pontrobert" . Ysgolfeistriaid Mr Charles o'r Bala. Dolgellau: E. W Evans.
  9. Cymru, Cyf 30, 1906 Pregethwyr Sir Drefaldwyn – John Hughes adalwyd 25 Gorffennaf 2020
  10. James, E. Wyn (2018). "'Y Mae Fy Llafur yn Fawr': Hunangofiant John Hughes, Pontrobert, hyd 1816, a’i Ddyddiadur am y Flwyddyn Honno". Cylchgrawn Hanes (Cymdeithas Hanes y Methodistiaid Calfinaidd) 42: 92-133.
  11. "PONTROBERT - Y Gwyliedydd". Amos Brothers. 1878-09-12. Cyrchwyd 2020-07-26.
  12. Williams, Richard (1894) Montgomeryshire worthies – erthygl "Hughes, Rev John" tud 126 adalwyd 25 Gorffennaf 2020
  13. John Hughes, Methodistiaeth Cymru: sef hanes blaenorol a gwedd bresennol y Methodistiaid Calfinaidd yn Nghymru, o ddechread y cyfundeb hyd y flwyddyn 1850, cyf. II, pennod VI, tud.d 410 (Morris Evans, Melin y Mardy); adalwyd 25 Gorffennaf 2020
  14. Cymru Cyf 46, 1914 Marwnad Fawr Henry Rees, ysgrif gan Garneddog am un o gerddi Siân Hughes adalwyd 25 Gorffennaf 2020
  15. Morgans, Delyth G (2006). Cydymaith caneuon ffydd. [Caernarfon]: Pwyllgor y Llyfr Emynau Cydenwadol. t. 532. ISBN 9781862250529. OCLC 123536494.
  16. Bwletin Cymdeithas Emynau Cymru Cyf. 3, rh. 4/5, 1995/6 tud 166-169 John Hughes a Phontrobert gan R. Geraint Gruffydd adalwyd 26 Gorffennaf 2020. Fe'i hailgyhoeddwyd yn y casgliad o ysgrifau R. Geraint Gruffydd, Y Ffordd Gadarn (Gwasg Bryntirion, 2008).
  17. Pwyllgor y Llyfr Emynau Cydenwadol Caernarfon (2001) Caneuon Ffydd, Emyn Rhif 568: ISBN 1903754003