James Lawrence
Gwybodaeth Bersonol | |||
---|---|---|---|
Enw llawn | James Alexander Lawrence | ||
Dyddiad geni | 22 Awst 1992 | ||
Man geni | Henley-on-Thames, Swydd Rydychen, Lloegr | ||
Taldra | Lua error in Modiwl:Convert at line 1851: attempt to index local 'en_value' (a nil value). | ||
Safle | Amddiffyn / canol cefn / canol-cae | ||
Y Clwb | |||
Clwb presennol | St. Pauli | ||
Rhif | 3 | ||
Gyrfa Ieuenctid | |||
2001–2003 | Arsenal | ||
2005–2006 | Queens Park Rangers | ||
2009–2011 | Ajax | ||
2011–2012 | Sparta Rotterdam | ||
2012–2014 | RKC Waalwijk | ||
Gyrfa Lawn* | |||
Blwyddyn | Tîm | Ymdd† | (Gôl)† |
2014–2018 | Trenčín | 86 | (5) |
2018– | Anderlecht | 8 | (0) |
Tîm Cenedlaethol‡ | |||
2018– | Cymru | 1 | (0) |
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd. sy'n gywir ar 2 December 2018. † Ymddangosiadau (Goliau). |
Mae James Lawrence (ganed 22 Awst 1992) yn chwaraewr pêl-droed ryngwladol i Gymru ac wedi chwarae i sawl tîm yn Lloegr ac yn Ewrop.
Mae ar hyn o'r bryd yn chwarae i Anderlecht yng nghyngrair Gyntaf, Adran A Gwlad Belg ond bu'n chwarae cyn hynny i AS Trenčín o Super Liga Slofacia a thimau ieuenctid Arsenal, Queens Park Rangers, Ajax a Sparta Rotterdam.[1]
Gyrfa Clwb
[golygu | golygu cod]Gyrfa Cynnar
[golygu | golygu cod]Dechreuodd ei yrfa ieuenctid gyda chlybiau Enfield 1893 F.C., Arsenal a Queens Park Rangers. Yn 2008 symudodd ei deulu i'r Iseldiroedd lle ymunodd ag HFC Haarlem. Gadawodd Haarlen yn 2009 i ymuno ag Ajax gan ennill pencampwriaeth dan-19 Adran Gyntaf yr Iseldiroedd yn 2010-11. Cafodd wedyn gyfnodau gydag academïau ieuenctid Sparta Rotterdam a RKC Waalwijk tra'n ymaelodi ag Athrofa addysg yr Johan Cruyff Institute yn Amsterdam er mwyn ennill cymwyster academaidd.[1]
FK AS Trenčín
[golygu | golygu cod]Trosglwyddwyd Lawrence i AS Trenčín yn Slofacia ar 13 Awst 2014 pan oedd yn 21 oed. Sgoriodd yn ei gêm gyntaf mewn gêm Cwpan Slofacia yn erbyn ŠK Strážske.[2] Chwareodd ei gêm gynghrair bedair diwrnod yn hwyrach wrth guro MFK Košice 4-2. Ar 1 Mai 2015 helpodd Lawrence ei dîm, AS Trenčín, i'w Cwpan Slofacia gyntaf wrth guro FK Senica yn y ffeinal.[3] Ym Mai 2015 daeth AS Trenčín yn bencampwyr y Fortuna Liga am y tro cyntaf.[4] Dyma oedd tymor llawn gyntaf Lawrence fel chwaraewr hŷn.[5]
Tra yn Trenčín dioddefodd Lawrence o anaf ond daeth nôl i'r tîm gyntaf a bu'n rhan o'r tîm a enillodd ei hail Cwpan Slofacia a'i hail pencampwriaeth Fortuna Lifa o'r bron.[6]
RSC Anderlecht
[golygu | golygu cod]Ar 29 Awst 2018, ymunodd Lawrence ag Anderlecht.[7]
Safle Chwarae
[golygu | golygu cod]Mae Lawrence yn chwarae ar ochr chwith y cae fel canol cefn neu fel chwaraewr canol cae amddiffynnol, neu arweinydd o'r cefn.
Gyrfa Ryngwladol
[golygu | golygu cod]Ar 5 Tachwedd 2018, galwyd Lawrence i chwarae i Gymru am y tro cyntaf.[8] Er iddo'i fagu yn Lloegr, galluogwyd iddo chware i Gymru gan fod mam-gu ganddo a aned yn Hwlffordd, Sir benfro.[9] Dechreuodd ei gêm gyntaf i'r tîm cenedlaethol yn eu gêm yn erbyn Albania ar 20 Tachwedd 2018.[10]
Anrhydeddau
[golygu | golygu cod]- Fortuna Liga (2): (2014–15), (2015-16)
- Cwpan Slofacia (2): (2014–15), (2015-16)
Personol
[golygu | golygu cod]Magwyd yn Henley-on-Thames yn Swydd Rydychen ond symudodd y teulu i'r Iseldiroedd yn 2008 ac yno dechreuodd chwarae i'r timau lleol.[11] Mae'n siarad Iseldireg ond nododd anhawster dysgu Slofaceg. Enillodd radd mewn 'Rheoli Chwaraeon' tra roedd yn yr Iseldiroedd.[12]
Oriel
[golygu | golygu cod]-
yn lliwau Sparta Rotterdam
-
wedi ennill Cwpan Slofacia 2015
Dolenni
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 "Jamie Lawrence, the only English footballer in Slovakia, warns England that their final Euro 2016 group game 'will not be easy'". Daily Mail.co.uk.
- ↑ "www.futbalnet.sk". Cyrchwyd 18 July 2015.
- ↑ "AS Trenčín win maiden Slovak Cup". Cyrchwyd 2 May 2015.
- ↑ "Trenčín seal historic Slovakian double". Cyrchwyd 21 May 2015.
- ↑ "Jamie Lawrence has eyes on Slovakian double after mastering his own destiny". Cyrchwyd 12 July 2015.
- ↑ "Trenčín ... take title". Cyrchwyd 17 May 2016.
- ↑ "WELKOM JAMES ALEXANDER LAWRENCE!". Anderlecht. 29 August 2018. Cyrchwyd 30 August 2018.
- ↑ http://www.s4c.cymru/sgorio/e_/2018/sgorio-rhyngwladol-cymru-v-denmarc/
- ↑ "Wales call up Anderlecht defender James Lawrence and Swansea's Daniel James". BBC Sport. 5 November 2018. Cyrchwyd 5 November 2018.
- ↑ "Mixed feelings for Wales debutant Lawrence". BBC Sport. 21 November 2018. Cyrchwyd 21 November 2018.
- ↑ https://www.walesonline.co.uk/sport/football/football-news/who-exactly-james-lawrence-wales-15373120
- ↑ https://www.theguardian.com/football/2015/apr/30/jamie-lawrence-slovakia-cup-league-double