Is Aeron
Math | cantref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.04114°N 4.30949°W |
- Gweler hefyd Aeron (gwahaniaethu).
Is Aeron oedd un o dri chantref Ceredigion yn yr Oesoedd Canol. Yn ddiweddarach daeth yn rhan o Deheubarth ac erbyn heddiw mae'n rhan o sir Ceredigion.
Roedd yn gorwedd yn ne teyrnas Ceredigion rhwng cantref Uwch Aeron i'r gogledd i afon Aeron ac Emlyn (Dyfed) a'r Cantref Mawr i'r de. Gorweddai Uwch Aeron i'r gogledd i Afon Aeron tra gorweddai Is Aeron i'r de ohoni. Yn y gorllewin roedd ganddo arfordir hir ar lan Bae Ceredigion (o safle Aberteifi heddiw i fyny i Aberaeron i'r gogledd).
Rhennid y cantref yn dri chwmwd:
- Mabwnion (neu 'Mebwynion')
- Caerwedros
- Gwynionydd (neu 'Gwinionydd')
- Is Coed (neu 'Iscoed')
Gwynionydd a'i dir ffrwythlon a'i coedydd oedd y cwmwd mwyaf dewisol nid yn unig yn Is Aeron ond yng Ngheredigion gyfan.
Roedd canolfannau pwysicaf y cantref yn cynnwys cestyll fel Crug Mawr (Is Coed) a'r hen ganolfan eglwysig ym Mangor Teifi. Ger Ystrad Aeron roedd lleiandy Llanllŷr, a sefydlwyd gan Yr Arglwydd Rhys tua'r flwyddyn 1180. Yn ddiweddarach yn yr Oesoedd Canol dominyddwyd yr ardal gan tref newydd Aberteifi, oedd yn ganolfan bwysig i'r Normaniaid.