Imam
Gwedd
Enghraifft o'r canlynol | offeiriad, teitl anrhydeddus |
---|---|
Math | arweinydd crefyddol, Islamic cleric |
Rhan o | Muslim clergy |
Enw brodorol | إِمَام |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Arweinydd crefyddol Islamaidd ydy Imam (Arabeg: إمام, Perseg: امام). Yn aml, arweinydd mosg ydyw sydd i ryw raddau yn debyg i offeiriad Cristnogol (ond ni cheir offeiriaid fel y cyfryw yn Islam).
Fodd bynnag, gall rheolwr gwlad gael ei alw'n Imam yn ogystal, am ei fod yn arwain y gymuned Fwslemaidd yn ei wlad fel pennaeth y wladwriaeth. Ond yn ogystal mae'r teitl 'Yr Imam' (Arabeg: الإمام) yn chwarae rhan bwysig yn nhraddodiad Islam, yn arbennig yn achos Mwslemiaid Shia. Yn ystod canrifoedd cyntaf Islam cafodd ei ddefnyddio i gyfeirio at y Caliph yn nhestunau Sunni a Shia fel ei gilydd. Mae'n gallu bod yn deitl er anrhydedd yn ogystal.