Humphrey Owen Jones
Humphrey Owen Jones | |
---|---|
Ganwyd | 20 Chwefror 1878 Goginan |
Bu farw | 12 Awst 1912 Mont Blanc |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | dringwr mynyddoedd, cemegydd |
Cysylltir gyda | Y Lliwedd |
Gwobr/au | Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol |
Chwaraeon | |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Cemegydd a mynyddwr o Gymru oedd Humphrey Owen Jones (20 Chwefror 1878 - 15 Awst 1912). Yng Ngoginan, Ceredigion, y cafodd ei eni cyn symud gyda'r teulu i Lynebwy. O Brifysgol Aberystwyth aeth ymlaen i Goleg Clare, Prifysgol Caergrawnt. Ei faes arloesol oedd y modd mae atomau'n gweithio mewn moleciwl. Roedd yn awdurdod ar stereocemeg nitrogen.
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Priododd Muriel (nee Edwards) o Fangor, Gwynedd a oedd hithau'n gemegydd. Ar ganol gwyliau mynydda yn yr Alpau, disgynodd y ddau i'w marwolaeth.
Mynyddwr
[golygu | golygu cod]Roedd yn ddringwr creigiau a mynyddwr brwd. Yng Nghymru arloesodd ar sawl clogwyn yn Eryri, yn enwedig ar Y Lliwedd. Roedd ei chwaer, Bronwen Ceridwen Jones (Mawson yn ddiweddarach), yn ddringwraig hefyd. Roedd yn aelod o bwyllgor y Climbers' Club.
Dringai yn yr Alpau hefyd. Gyda Karl Blodig, Geoffrey Winthrop Young a'r tywysydd Joseph Knubel ef oedd y cyntaf i ddringo crib Brouillard i gopa Mont Blanc ar 9 Awst 1911. Fforiodd ardal Mont Blanc yn drwyadl a bu'n gyfrifol am sefydlu sawl llwybr dringo newydd yno. Yn 1909 cafodd ei ethol yn aelod o'r Alpine Club dethol a chyfranodd sawl erthygl i gylchgronau'r clwb hwnnw a'r Climbers' Club hefyd.
Lladdwyd Jones a'i wraig wrth ddringo copa'r Aiguille Noire de Peuterey yn ardal Mont Blanc ar 15 Awst 1912. Syrthiodd y tywysydd ar Jones a syrthiodd y tri ohonynt 1,000 troedfedd i Rewlif Fresnay. Cawsant eu claddu yn Courmayeur. Enwyd copa gogleddol yr Aiguille Blanche de Peuterey yn La Pointe Jones er cof amdano.