Guto Harri
Guto Harri | |
---|---|
Ganwyd | 8 Gorffennaf 1966 Caerdydd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | newyddiadurwr |
Cyflogwr |
|
Plaid Wleidyddol | y Blaid Geidwadol |
Tad | Harri Pritchard Jones |
Newyddiadurwr, ysgrifennydd ac ymgynghorydd cyfathrebu strategol o Gymro yw Guto Harri (ganwyd 8 Gorffennaf 1966). Yn Gymro Cymraeg cafodd ei fagu yng Nghaerdydd, yn fab i'r meddyg a llenor Harri Pritchard Jones a'i wraig Lenna (née Harries), a oedd yn gynhyrchydd rhaglenni Cymraeg gyda'r BBC.
Addysg
[golygu | golygu cod]Aeth i'r ysgol gynradd yn Nhonyrefail ac yna Ysgol Uwchradd Llanhari cyn mynd ymlaen i Goleg y Breninesau, Caergrawnt i astudio Athroniaeth, Gwleidyddiaeth ac Economeg.[1] Yna gwnaeth gwrs ôl-radd mewn newyddiaduraeth yng Ysgol Newyddiaduriaeth, Prifysgol Caerdydd.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Cychwynnodd ei yrfa ddarlledu ar BBC Radio Cymru cyn symud i deledu, gan weithio fel gohebydd ar raglen Newyddion S4C. Roedd yn gyflwynydd ar raglenni etholiadol BBC Cymru ac ymddangosodd yn rheolaidd ar draws rhaglenni teledu a radio'r BBC megis The World at One, Westminster Live, Straight Talk, Despatch Box a The World This Weekend. Bu'n ohebydd yn ystod newidiadau gwleidyddol mawr gyda chwymp Comiwnyddiaeth yn Rwmania, Tsiecoslofacia a Dwyrain yr Almaen cyn gohebu ar Ryfel o Gwlff o Saudi Arabia, Jordan a gogledd Irac. Daeth yn Brif Ohebydd Gwleidyddol y BBC yn Nhachwedd 2002 ac roedd hefyd yn cyflwyno'r rhaglen gyfweld wythnosol, One To One.
Symudodd am gyfnod byr i Rufain rhwng Gorffennaf 2004 ac Ionawr 2006 ac yna daeth yn ohebydd busnes Gogledd America wedi ei leoli yn Efrog Newydd hyd at Fehefin 2007. Wedi gadael y BBC ar ddiwedd 2007, cafodd gynnig i weithio i arweinydd y Blaid Geidwadol, David Cameron ond penderfynodd ymuno ag asiantaeth cysylltiadau cyhoeddus Fleishman-Hillard fel Uwch-ymgynghorwr Polisi, gan dreulio pedair wythnos fel ymgynghorwr i arweinydd yr wrthblaid yn Simbabwe, Morgan Tsvangirai.[1]
Cafodd ei benodi'n Gyfarwyddwr Cyfathrebu Boris Johnson, Maer Llundain yn Mai 2008.[2] ac ym Mai 2012 cafodd ei benodi'n Gyfarwyddwr Cyfathrebu News International.[3] Fe adawodd y swydd honno ar ddiwedd 2015 ac fe ymunodd â Liberty Global, cwmni sy'n berchen ar fusnes Virgin Media yn Chwefror 2015 fel rheolwr-gyfarwyddwr eu cysylltiadau cyhoeddus.[4][5]
Yn Rhagfyr 2017 cyhoeddodd y bydd yn gadael ei swydd gyda Liberty Global i ddod yn ohebydd gwleidyddol newydd y cylchgrawn GQ.[6]
Roedd yn gyflwynydd GB News am ddau fis yn 2021, ond cafodd ei ymddiswyddo gan y darlledwr o ganlyniad ei fod wedi cymryd y pen-glin (take the knee) mewn cefnogaeth i'r tîm pêl droed Lloegr. Ar ôl i'r gwylwyr y rhaglen cwyno fe wnaeth GB News ei ymddiswyddo, gyda Harri yn dweud ei fod wedi dioddef o'r 'diwylliant canslo' (cancel culture) or ochor dde eithafol.[7][8]
Rhwng Mehefin 2018 a Chwefror 2022 roedd Harri yn brif gyflwynydd rhaglen S4C Y Byd Yn Ei Le, gyda S4C yn dweud na fydd hawl gyflwyno ar ôl ymuno â thîm Boris Johnson yn Stryd Downing. Yn Chwefror 2022 ar ôl i Jack Doyle, Cyfarwyddwr Cyfathrebu Boris Johnson, ymddiswyddo cafodd Harri ei ddewis fel ei Gyfarwyddwr Cyfathrebu newydd.[9] Cafodd ei benodiad ei farnu yn hallt gan rhai Cymry ar wefannau cymdeithasol wrth iddo fynd i weithio i Brif Weinidog dadleuol, gyda cyhuddiadau fod Johnson wedi torri rheolau COVID ac wedi dweud celwydd wrth y Senedd.[10] Yn ogystal cafodd ei feirniadu gan y cyn prif ymgynghorydd i Boris Johnson, Dominic Cummings, a ddywedodd fod Harri wedi bod yn feirnadiol o Johnson ar sawl achlysur.[11] Yn dilyn ymddiswyddiad Boris Johnson fel Prif Weinidog, gadawodd Harri yntau ei swydd ar 6 Medi 2022.[12]
Er gwaethaf ei feirniadaeth o Boris Johnson, cafodd Harri y CBE yn rhestr anrhydeddau ymddiswyddo Johnson ym Mehefin 2023.[13]
Bywyd Personol
[golygu | golygu cod]Mae'n briod ac mae ganddo dri o blant.[14] Tu allan i'r gwaith, mae'n mwynhau rhwyfo, hwylio, pysgota a choginio.[15] Roedd yn aelod o awdurdod S4C rhwng 2014 a 2018 ac mae'n aelod anweithredol o fwrdd Gŵyl y Gelli.[16]
Mae ei chwaer Nia hefyd yn ohebydd a golygydd newyddion gyda'r BBC.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 "Boris Johnson signs BBC journalist Guto Harri as his chief spin doctor". Daily Mail. 9 Mai 2008. Cyrchwyd 9 Mai 2008.
- ↑ Guto i gydweithio â Boris. BBC (9 Mai, 2008). Adalwyd ar 10 Mai, 2008.
- ↑ Boris Johnson's former aide takes PR job with News International. The Guardian (20 Mai, 2012). Adalwyd ar 17 Medi, 2012.
- ↑ Mulholl, Hélène. "Boris Johnson's former aide takes PR job with News International". the Guardian. Cyrchwyd 5 Ionawr 2016.
- ↑ Sweney, Mark. "News UK PR chief Guto Harri to join Virgin Media owner Liberty Global". the Guardian. Cyrchwyd 5 Ionawr 2016.
- ↑ Guto Harri yw golygydd gwleidyddol newydd cylchgrawn GQ , Golwg360, 14 Rhagfyr 2017.
- ↑ "Guto Harri am roi'r byd yn ei le yn Downing Street?". Golwg360. 2022-02-05. Cyrchwyd 2022-02-06.
- ↑ Harri, Guto. "They claim to believe in free speech, but not when I took the knee" (yn Saesneg). ISSN 0140-0460. Cyrchwyd 2022-02-06.
- ↑ "Guto Harri yw rheolwr cyfathrebu newydd Boris Johnson". BBC Cymru Fyw. 2022-02-05. Cyrchwyd 2022-02-06.
- ↑ "Post Trydar Nation.cymru". Twitter (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-02-06.
- ↑ "Dominic Cummings attacks Guto Harri appointment as No 10 PR chief". Nation.Cymru (yn Saesneg). 2022-02-06. Cyrchwyd 2022-02-06.
- ↑ Guto Harri says Boris Johnson was 'an exceptional Prime Minister' as he leaves Number 10 post (en) , WalesOnline, 7 Medi 2022. Cyrchwyd ar 3 Ionawr 2022.
- ↑ "Resignation Honours 2023" (PDF). gov.uk (yn Saesneg). 9 Mehefin 2023. Cyrchwyd 9 Mehefin 2023.
- ↑ "BBC Press Office biography". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-12-24. Cyrchwyd 2016-08-26.
- ↑ Neil Prior (21 Mai 2012). "Profile: Guto Harri goes from Boris Johnson to News International PR chief". BBC News.
- ↑ Proffil LinkedIn