Garel Rhys
Garel Rhys | |
---|---|
Ganwyd | 28 Chwefror 1940 Abertawe |
Bu farw | 21 Chwefror 2017 Radur |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor |
Cyflogwr | |
Gwobr/au | CBE, Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru |
Academydd o Gymro oedd David Garel Rhys CBE FIMI SMMT (28 Chwefror 1940 – 21 Chwefror 2017) a sylwebydd ar y diwydiant moduron ym Mhrydain. Roedd yn Athro Economeg y Diwydiant Moduro, ac yn Gyfarwyddwr ar Ymchwil Diwydiant Moduro yn Ysgol Fusnes Caerdydd.[1][2]
Bywyd cynnar
[golygu | golygu cod]Mynychodd David Ysgol Ramadeg Ystalyfera, yng Ngorllewin Morgannwg ar y pryd, nawr yng Nghastell-Nedd Port Talbot. Astudiodd yng Ngholeg y Brifysgol, Abertawe, ac yna yn Mhrifysgol Birmingham.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]O 1984-2005 roedd yn Athro Economeg y Diwydiant Moduro ym Mhrifysgol Caerdydd.
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Priododd Charlotte Mavis Walters yn 1965. Cafodd y cwpl un mab a dwy ferch a phedwar o wyrion. Roedd yn ail gefnder i Rhodri Morgan, cyn Brif Weinidog Cymru.
Fe'i urddwyd yn Swyddog o Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig yn 1989, ac fel Cadlywydd o Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig yn 2007 am wasanaethau i ymchwil economaidd yng Nghymru. Roedd yn lifreiwr o Worshipful Company of Carmen, a rhoddwyd Rhyddid Dinas Llundain iddo yn 2000.[3]
Cyhoeddiadau
[golygu | golygu cod]- The Motor Industry: An Economic Survey (1971)
- The Motor Industry in the European Community (1989)
- Outsourcing and Human Resource Management (cyfrannwr, 2008)[3]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Yr athro Peter Wells, Athro Busnes a Chynaliadwyedd yn Ysgol Fusnes Caerdydd
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Hothi, Nicola R. (2005). Globalisation & manufacturing decline: aspects of British industry. Arena books. t. 51. ISBN 978-0-9543161-4-3.
- ↑ "Fiat faces uphill climb to seal GM deal". The Daily Telegraph. 4 Mai 2009. Cyrchwyd 27 Chwefror 2011.
- ↑ 3.0 3.1 "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-11-09. Cyrchwyd 2017-02-23.