Ffynnon Gybi
Mae Ffynnon Gybi yn ffynnon sydd wedi'i lleoli yng Nghaergybi, Ynys Môn. Mae’n chwarter milltir i’r gogledd o Eglwys Cybi Sant.
Hanes
[golygu | golygu cod]Yn ôl yr hanes roedd Sant Seiriol o Benmon a Sant Cybi o Gaergybi yn gyfoedion. Roedd y ddau yn teithio i gyfarfod ei gilydd a chyfarfod wrth ymyl y ffynnon am hanner dydd. Roedd Cybi yn gwynebu haul y bore wrth gerdded i Glorach. Erbyn prynhawn ar ei ffordd yn ôl gartref tywyllwyd ei groen gan yr haul. Dyna pam y gelwid yn Cybi Felyn. Roedd Sant Seiriol a'i gefn at yr haul wrth fynd a dod a'i groen yn olau drwy'r amser. Gelwid ef yn Seiriol Wyn. Disgrifiodd Syr John Morris-Jones y ddau sant fel hyn:
Seiriol Wyn a Chybi Felyn,
Cyfarfyddant, fel mae’r sôn,
Beunydd wrth ffynhonnau Clorach
Yng nghanolbarth Môn.[1]
Safle
[golygu | golygu cod]Heddiw mae’r ffynnon ar y fan lle mae llawer o strydoedd fel Well Street a Pump Street. Mae’r strydoedd yn cyfarfod ei gilydd yn y canol. Yn 1908 adeiladwyd pwmp dros y ffynnon. Roedd y ffynnon yn llifo’n gryf a bydd yn cyflenwi dŵr i drigolion Caergybi am flynyddoedd. Yn ôl y sôn roedd pobl yn dweud mai ffynnon arbennig oedd hi am wella scyrfi, scroffiwla a chricmala.
Roedd y ffynnon yn cael ei ddefnyddio i wella afiechydon ond hefyd i weld os oedd cariadion yn ffyddlon i'w gilydd. Yn yr ardal mae traddodiad ger y ffynnon hon y byddai Cybi a Seiriol yn cyfarfod, ac nid ger ffynnon Clorach.
Ffynhonnau eraill cysegredig i Cybi
[golygu | golygu cod]Canfyddir y ffynnon fach hon gyferbyn â Chapel Maes y Fynnon ar y ffordd o Lambedr Pont Steffan i Langybi.
- Ffyñon weñ is a spring in ye parish to ye West tradic'only said to be very medicinal & effectual to cure distempers. Ye times of repairing to it is Ascension Eve: they wash in ye spring: & yn [then] repaire to a stone hard by called Llech gybi: wch is supported by other stones: & by ye stone ye sick person lyes all yt [that] night after his washing in ye spring. On Ascension Eve they resort to Fynnon wen after they have washed ym selves at ye well. They go to Lhech Gibi yt is an arrows flight from ye well. There they put ye sick under ye Lhech where if ye sick sleeps it is an infallible sign of recovery, if not of death.[2][3]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Ffynhonnau Cymru - Cyfrol 2 - Ffynhonnau Caernarfon, Dinbych, Y Fflint a Môn (Llyfrau Llafar Gwlad 43)
- ↑ Bwletin Llên Natur rhifyn 31
- ↑ Parochialia Edward Llwyd