Fflangellaeth
Yr arfer grefyddol o chwipio'r corff i ddangos penyd, disgyblaeth neu ymroddiad duwiol yw fflangellaeth neu ffrewyllaeth. Ceir sawl ymdrech anthropolegol i esbonio'r arfer, er enghraifft fel modd o fwrw cythraul allan neu buro'r enaid, dioddefaint gwaredol, cosb sadistaidd, neu ymgorfforiad o rym yr anifail sydd yn y chwip.
Defnyddir fflangellaeth ers yr oesoedd cynhanesyddol, mewn defodau urddo, puro, a ffrwythlondeb. Weithiau bu fflangellaeth, a ffurfiau eraill ar ddioddefaint corfforol megis llurguniad, yn hunanachosedig. Arferid fflangellaeth ddefodol yn Sparta, a chafodd anghredinwyr Rhufeinig eu chwipio gyda chynffon ych neu strapen ledr.
Bu'r arfer Cristnogol o hunan-fflangellaeth ar ei anterth yn yr Oesoedd Canol Diweddar. Cychwynnwyd gan Raniero Fasani, Meudwy Umbria, yn sgil y pla yn yr Eidal ym 1259. Trefnodd Fasani orymdeithiau o hunan-fflangellwyr yn chwipio'u hunain, ac ymledodd yr arfer ar draws canolbarth a gogledd yr Eidal. Blodeuai'r fath ffanaticiaeth grefyddol yn oes milenariaeth, ac anogwyd yr hunan-fflangellwyr gan broffwydoliaethau Gioacchino da Fiore a diwethafwyr eraill. Erbyn canol y 13g, bu brawdoliaethau o Fflangellwyr, lleygwyr a chlerigwyr yn eu plith, yn chwipio'u hunain a'i gilydd mewn gorymdeithiau trwy drefi ar draws yr Eidal, yr Almaen, a'r Gwledydd Isel, ac yn galw ar y bobl leol i edifarhau. Cryfhawyd eu hymdrechion i liniaru barn Duw gan y Pla Du (1347–53), a thyfodd eu niferoedd yn sylweddol. Er gwaethaf sêl y Fflangellwyr, condemniwyd yr arfer gan y Pab Clement VI ym 1349, a chadarnhawyd y gollfarn honno gan Gyngor Konstanz (1414–18). O ganlyniad, cafodd Fflangellwyr Almaenig eu herlid gan y Chwilys a gostegai'r arfer.
Bu fflangellaeth yn ymddangos mewn defodau'r Americanwyr Brodorol, a pharhaodd yr arfer ymhlith rhai o lwyth yr Hopi hyd at ddiwedd y 19g. Arferir hunan-fflangellaeth o hyd gan y Mwslimiaid Shia sydd yn ymfflangellu ar ŵyl Ashura i gofio merthyrdod Husayn ym Mrwydr Karbala.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Flagellation (religious practice). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 11 Gorffennaf 2020.