Fflêr Bengal
Mae Fflêr [1] (a elwir fel rheol yn y lluosog, fflêrs ond gellid drysu â'r steil trowsus) neu, gellid bathu'r term Fflêr Bengal,neu Bengala fel y gwneir mewn sawl iaith Ewropeaidd arall, (megis Almaeneg (Bengalisches Feuer), a Sbaeneg (Bengala) am mai oddi yno, (Bangladesh bresenol a thalaith Bengal yn yr India, y canfuwyd solpitar, un o brif gynhwysion y teclyn, ar un adeg.[2] yn eitem pyrotechnegol Gellid bathu'r term Fflêr Argyfwng fel a ddefnyddir yn Daneg (Nødblus). Mee'r Fflêr yn cynhyrchu golau llachar neu ddwys iawn. Fe'i defnyddir i signal, goleuo, signal am help, fel elfen amddiffynnol (gwrthfesurau), ac fel arfer fel elfen i gynnau tanau. Nid yw'n anodd dod o hyd iddynt mewn arddangosiadau torfol, terfysgoedd neu arddangosiadau tiffo a gan grwpiau Ultras gemau pêl-droed mawr.
Cyfansoddiad
[golygu | golygu cod]Mae'r fflerau'n cynhyrchu eu golau trwy losgi deunydd pyrotechnegol, wedi'i seilio'n bennaf ar fagnesiwm, sylffwr, y solpitar nitrad a'r realgar mwynol i gynhyrchu'r golau. Weithiau fe'u lliwir trwy gynnwys colorants pyrotechnegol. Defnyddir fflerau calsiwm ar gyfer goleuadau tanddwr.
Diwylliant Pêl-droed
[golygu | golygu cod]Mae fflêr Bengal yn rhan hanfodo o ddathliadau ac arddangosiadau Tiffo gan gefnogwyr pêl-droed, yn enwedig adeg gemau mawr neu gemau darbi. Defnyddir y term mwy generig pyro (talfyriad ar gyfer pyrotechnegol, i ddisgrifio ffleêr).
Defnyddir yr ymadrodd No Pyro, No Party[3]
Timau Achub
[golygu | golygu cod]Defnyddir y fflêr Bengal wedi ei danio i'r awyr hefyd i gynorthwyo timau achub mynydd neu achub ar y môr i ganfod personal neu anifeiliaid coll fin nos. Bydd y fflêr yn goleuo'r ffurfafen gan am gyfnod byr gan roi cyfle i'r timau gael gwell golwg o'r ardal.[4]
Mae'r fflêr hefyd yn cael ei ddefnyddio gan bobl sydd ar goll ei hunain i roi gwybod i dimau achub neu'r cyhoedd o'i lleoliad.
Oriel
[golygu | golygu cod]-
Ultras Yellow Dragons, clwb Ismaily SC
-
Ultras El-Ahly (Yr Aifft) yn dathlu wedi ennill Pencampwriaeth Affrica yn 2005
-
Ultras Fatal tigers 2006
-
Gweithiwr rheilffordd yn Indiana yn defnyddio fflêr Bengal i nodi "stopio"
-
Fflêr Bengal llaw a ddefnyddir mewn argyfwng gan y llynges
Dolenni
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ http://termau.cymru/#flare
- ↑ https://www.britannica.com/technology/Bengal-light
- ↑ https://www.youtube.com/watch?v=JXivp7ZhDOM
- ↑ https://comet-marine.com/illuminating-flares-aid-mountain-search-for-hiker/