Edward Cullen
Edward Cullen | |
---|---|
Cymeriad Twilight | |
Pattinson fel Edward Cullen yn y ffilm The Twilight Saga: Eclipse | |
Ymddangosiad cyntaf | Twilight |
Crëwyd gan | Stephenie Meyer |
Portreadwyd gan | Robert Pattinson |
Gwybodaeth | |
Enw (au) arall | Edward Anthony Masen (enw dynol) |
Rhywogaeth | Fampir |
Rhyw | Gwryw |
Galwedigaeth | Myfyriwr |
Teulu | Edward Masen, Sr. (tad biolegol) Elizabeth Masen (mam fiolegol) |
Priod | Isabella Marie Swan |
Plant | Renesmee Carlie Cullen |
Un o'r prif gymeriadau ffuglennol The Twilight Saga, gan Stephenie Meyer, ydy Edward Cullen (gynt Edward Anthony Masen) a chwaraewyd gan Robert Pattinson. Mae'n ymddangos yn y llyfrau Twilight, New Moon, Eclipse a Breaking Dawn yn ogystal â'r ffilmiau addasiad a'r nofel anorffenedig Midnight Sun sy'n ail fersiwn y stori Twilight o safbwynt Edward. Fampir ydy Edward sy'n cwympo mewn cariad, priodi, a chael plentyn gyda Bella Swan - glaslances sy'n dewis dod yn fampir hefyd.
Cymeriadaeth
[golygu | golygu cod]Yn y llyfrau, mae Bella yn disgrifio Edward fel person swynol, moesgar, penderfynol, a chyndyn iawn. Mae'n amddiffynnol iawn dros Bella. Mae'n gor-ddadansoddi'n aml yn enwedig pan yw e mewn perygl. Mae'n defnyddio iaith wedi dyddio sy'n ei gadw o fywyd Edward yn dechrau'r 20g. Mae Edward yn gweld ei hun fel anghenfil a bu iddo ddymuno i fod yn ddynnol ers iddo gwympo mewn cariad gyda Bella.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Gwefan swyddogol Stephenie Meyer
- Gwefan swyddogol y cyfres Twilight
- Gwefan swyddogol y ffilm Twilight Archifwyd 2011-02-25 yn y Peiriant Wayback
|