Dyfnallt Morgan
Dyfnallt Morgan | |
---|---|
Ganwyd | 24 Mai 1917 Merthyr Tudful |
Bu farw | 6 Hydref 1994 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd |
Llenor, beirniad llenyddol, bardd a chyfieithydd oedd Dyfnallt Morgan (4 Mai 1917 – 6 Hydref 1994), a aned yn Nowlais, Merthyr Tudful, Morgannwg.
Ffrae Steddfod '53
[golygu | golygu cod]Dyfnallt Morgan oedd awdur y bryddest eisteddfodol Y Llen, ond nid hi oedd y bryddest fuddugol yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Rhyl 1953. Er i un o'r beirniaid, Saunders Lewis, fod eisiau coroni Dyfnallt Morgan, yr oedd y ddau feirniad arall, J. M. Edwards a T. H. Parry-Williams, yn unfryd yn ei herbyn. Yn ôl Saunders Lewis, mae'r gerdd yn disgrifo "terfyn gwareiddiad Cymraeg mewn cwm diwydiannol a'r llen haearn rhwng yr hen fywyd Cymreig a'r bywyd di-Gymraeg sy'n ei ddisodli." (Cyfansoddiadau 1953, t. 73). Ceir pwyslais ar yr elfen lafar a cheir enghraifft o dafodiaith Morgannwg. Ceir testun Y Llen yn unig gyfrol barddoniaeth Dyfnallt Morgan, Y Llen a Myfyrdodau Eraill.
Llyfryddiaeth ddethol
[golygu | golygu cod]- Gwŷr Llên y Ddeunawfed Ganrif (1966)
- Y Llen a Myfyrdodau Eraill (1967)
- Gwŷr Llên y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg (1968)
- Rhyw Hanner Ieuenctid: Astudiaeth o Gerddi ac Ysgrifau T.H. Parry-Williams rhwng 1907 a 1928 (1971)
- Y Ferch o Ddolwar Fach (1977). Astudiaeth o waith a bywyd yr emynes Ann Griffiths
- Y Wlad sy' Well (1984). Hunangofiant.