Dyfed Edwards
Dyfed Edwards | |
---|---|
Ganwyd | 1966 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | dramodydd |
Awdur a dramodydd o Ynys Môn yw Dyfed Edwards (ganwyd Tachwedd 1966).[1]
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Ganwyd Edwards ym Mangor a'i fagu yn Rhosmeirch, Ynys Môn, ond mae bellach yn byw yn Whistable, Caint. Dechreuodd ei yrfa gyda phapurau'r Herald yng Ngogledd Cymru, cyn mynd ymlaen i weithio i'r Daily Post, y Journal yn Newcastle a'r Daily Mail.[2]
Mae wedi ennill Y Fedal Ddrama yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddwy waith, y tro cyntaf yn 2008 yng Nghaerdydd am y ddrama Cors Oer,[3] ac yna flwyddyn yn ddiweddarach yn Y Bala am Tân Mewn Drain.[4] Bu'n newyddiadurwr am dros 20 mlynedd, ac mae wedi cyhoeddi nofelau a llyfrau ffeithiol yn y Gymraeg a'r Saesneg. Cyhoeddwyd ei nofel Iddew, a disgrifwyd gan feirniad Gwobr Goffa Daniel Owen Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau 2015[5] fel "gwaith o athrylith", yn Mawrth 2016.
Mae ei lyfrau Saesneg wedi cyhoeddi dan y ffugenw Thomas Emson.[6]
Gwaith
[golygu | golygu cod]Ffuglen
[golygu | golygu cod]- Dant at Waed (Y Lolfa, 1996)
- Cnawd a Storïau Eraill (Y Lolfa, 1997)
- Y Syrcas (Y Lolfa, 1998)
- Llwybrau Tywyll (Y Lolfa, 1990)
- Hen Friwiau (Gwasg Carreg Gwalch, 2002)
- Y Moch a Straeon Eraill (Gwasg Carreg Gwalch, 2007)
- Iddew (Gwasg y Bwthyn, 2016)
- Apostol (Gwasg y Bwthyn, 2019)
- Bedydd Tân (Gwasg y Bwthyn, 2021)
Ffeithiol
[golygu | golygu cod]- Dynion Dieflig (Y Lolfa, 2008)
- Peter Moore: Y Gwaethaf o'r Gwaethaf, Stori Sydyn (Y Lolfa, 2009)
Llwyfan
[golygu | golygu cod]- Tân Mewn Drain (Sherman Cymru, Mehefin 2011)
- Llwch O'r Pileri (Trwy'r Ddinas Hon, Sherman Cymru, Mehefin 2013)
Radio
[golygu | golygu cod]- Cors Oer (BBC Radio Cymru, 2010)
- Anfonwch Fil (BBC Radio Cymru, 2011)
- Goleuni yn yr Hwyr (BBC Radio Cymru, Medi 2012)
- Aderyn y Ddrycin (BBC Radio Cymru, Mawrth 2015)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Dyfed Edwards"; Y Lolfa
- ↑ Gwales - Bywgraffiad Awdur. Cyngor Llyfrau Cymru. Adalwyd ar 14 Ebrill 2016.
- ↑ "Medal ddrama i Dyfed"; BBC Newyddion
- ↑ "Winning drama medal ‘feels just as good the second time’"; Wales Online
- ↑ http://golwg360.cymru/celfyddydau/eisteddfodau/195419-mari-lisa-yn-ennill-gwobr-goffa-daniel-owen
- ↑ Edwards, Dyfed (2020-05-21). "Fi sy'n cadw i hynny, cofia. Awduron yn gweithio mewn ffyrdd gwahanol. Nesh i ddyfeisio'r "Grid" pan o'n i'n gorfod sgwennu dwy nofel y flwyddyn yn Saesneg o dan fy ffugenw, Thomas Emson. Faswn i byth wedi llwyddo oni bai 'mod i'n creu targedi i fi fy hun". @dyfededwards. Cyrchwyd 2020-05-21.